Rhyw ddilyn sgwrs ar
Trydar oeddwn i neithiwr am y ffaith i Wyn Roberts – dyn sy’n cael ei glodfori
fel rhywun a wnaeth lawer i hyrwyddo’r Gymraeg – fethu a throsglwyddo’r iaith
i’w blant ei hun, a hynny er gwaethaf y ffaith ei fod ef a’i wraig yn siaradwyr
rhugl.
Dydi’r math yma o beth ddim mor
anghyffredin a hynny – dwi ddim yn gwybod os y dylid poeni nad ydi’r gweinidog
sy’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg yn gallu dwyn perswad ar ei blant ei hun i
ddefnyddio’r Gymraeg – er a bod yn deg a Charwyn Jones mae’n eu hanfon i ysgol
Gymraeg. Wnaeth ei gyn fos – Rhodri
Morgan – ddim trosglwyddo’r iaith i’w epil ei hun, pan oeddynt yn blant o leiaf
er ei fod yn fab i’r Athro T J Morgan.
Mae rhywun yn cymryd nad y Gymraeg ydi mamiaith ei arch elyn o fewn y Blaid
Lafur – Alun Michael - ond aeth hwnnw
ati i sicrhau bod ei blant yn siarad y Gymraeg.
Mark Drakeford oedd olynydd Rhodri Morgan fel AC Gorllewin Caerdydd –
mae Mark yn siarad y Gymraeg ac yn ymddiddori mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ond
fyddech chi byth yn credu hynny o siarad a’i ferch. Penderfynodd y Bib ddilyn pedwar ymgeisydd
Aberconwy yn ystod Etholiad Cyffredinol 2005 ond roedd un yn llawer llai rhugl
ei Gymraeg na’r disgwyl – Gareth Roberts, mab yr Arglwydd Roberts. Doedd yna fawr neb mwy di flewyn ar dafod yn
ei gefnogaeth o’r Gymraeg na’r bardd Saesneg RS Thomas, ond doedd y gefnogaeth
ddim yn ymestyn i drosglwyddo’r Gymraeg i’w fab. Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen.
Felly beth ydi'r eglurhad am yr ymddygiad anghyson yma? Mae'n debyg y byddech yn cael ateb gwahanol gan pob un ohonynt petaech yn holi - ond efallai bod yr ateb yr un peth ar eu cyfer nhw i gyd mewn gwirionedd. Pan rydym yn gweld rhywbeth fel cysyniad haniaethol ond ddim yn ei fyw gall y cysyniad fod yn bwysig i ni ond mewn ffordd sydd ddim yn treiddio'n bywydau mewn gwirionedd. Nid cysyniad haniaethol ydi iaith - mae'n rhywbeth sy'n rhan o'n byw a'n bod. Os nad ydym yn ei defnyddio yn ein bywydau pob dydd gall droi'n gysyniad - yn rhywbeth i'w chefnogi - ond ddim i'w chefnogi yn y ffordd bwysicaf un. Dydi o ddim ots pa mor gefnogol ydym i'r iaith rydym yn negyddu'r gefnogaeth honno os nad ydym yn ei defnyddio a'i byw.
10 comments:
Ellai enw nifer o fobol sy'n gneud bywoliaeth dda o'r sector Gymraeg sydd ddim yn trosglwyddo yr iaith i'w plant nac yn gyrru nhw i ysgolion Cymraeg.
Ddaru Nain ddim siarad Cymraeg â Mam. I fod yn deg, priododd â Sais a symud i Loegr i fyw, a dychwelyd i Gymru a wnaeth hi gyda 'nhaid a mam a mam erbyn hynny'n 16 oed.
Ond dwi ddim yn meddwl 'na symud i Loegr oedd pam na siaradodd Nain Gymraeg â Mam ond yn hytrach dwi'n amau ei bod hi'n un o'r bobl a feddyliodd erioed bod y Gymraeg yn gyfrifoldeb i rywun arall.
Y mae'r Gymraeg yn annwyl i Nain ond dwi ddim yn siwr a ydi hi erioed wedi meddwl bod ei chynnal yn gyfrifoldeb, ac yn sicr ddim yn ddyletswydd, arni. Dwi ddim yn meddwl na chynnyrch ei hoes ydi hi ychwaith o ran hynny - jyst fel'na mae rhai unigolion yn teimlo. Hyd yn oed, efallai, rhai fel Wyn Roberts oedd actiwli efo cyfrifoldeb dros yr iaith.
Mae'r 'o bosibl' ar ol enwau Alun Michael a Carwyn yn ddiangen. O ran yr ail, mae 'na ymrymiad go iawn ar yr aelwyd gyda Lisa (ei wraig o Wyddeles) wedi dysgu'n rhugl.
Ond mae dy bwynt cyffredinol yn dal ac yn gwbl ddilys.
Rhywbeth arall fyddai'n ddiddorol ei ystyried yw'r nifer uchel iawn o uwchreolwyr mewn cyrff llywodraethol ac iechyd yng Nghymru sy'n byw dros y ffin ag felly ddim yn defnyddio/dioddef y gwasanaethau y maent yn gyfrifol amdanynt...
Cyfeirio at CJ ac nid AM oedd yr 'o bosibl' - a'r rheswm am ei gynnwys oedd diffyg gwybodaeth ar fy rhan i - doedd 'na ddim bwriad i fod yn gas yn ddi angen.
Pwy ydi'r 'Arglwydd Rogers' ? . Ai yr Arglwydd (Roger) Roberts ti'n meddwl ?
Ia sori - slip.
Mae wyrion Wyn Roberts yn siarad cymraeg a dwi'n nabod nifer fawr o'r genehedlaeth a gollwyd sydd wedi gyrru eu plant I ysgolion cymraeg
Dwi'nne'n hun yn gynhyrch teulu a a ailddarganfyddodd y gymraeg ar ol ei cholli dechrau'r ugeinfed ganrif. Weithia dach chi ddim yn gwybod besgynnoch chi nes fod chi wedi ei golli fo - I gyfeithu'n wael can rhyw fodan o America
Ond paid a son am Huw Edwards a'i blant di gymraeg y math gwaethaf o gymro sentimental yn rhefru am gapeli rownd y ril
Ie Huw Edwards....a'i dad a ddywedodd fod cas ganddo'r 'Prydeindod 'ma!'
Be am 75% ish o gast pobl y cwm, criw rhaglen Jonathan i enwi 2 esiampl sydd yn ennill bywoliaeth o'r gymraeg ond yr eiliad ma y golau coch ar y camera i ffwrdd yn trydar a sgwrsio yn yr iaith fain.
Gwir bob gair, Cai
Dim byd newydd dan haul…
Dyma farn F. Wynn Jones yn ei lyfr: Godre'r Berwyn (1955 t. 158):
"Yr wyf ar brydiau wedi llefaru dameg mai cyffelyb i'r llwynog (chwedl Aesop am y llwynog a'r gath) yw llawer o bobl yng Nghymru gyda'u lliaws dyfeisiau i achub yr iaith rhag dinistr-cynadledda a llunio penderfyniadau , protestio ac areithio-pryd y buasai un "tric" sydd yn rhy syml i lawer ohonsynt weld, sef i bob un ddysgu Cymraeg i'w blant ei hun, yn ddigon i ennill y frwydr."
Wrth gwrs rwy'n syrthio ar fy mai am fethu fi fy hun yn hyn o beth. Yr esgus ydi fy mod yn byw ym Madrid er 23 mlynedd.
Hawdd deall y rhai a methodd traddodi'r iaith yn y pumdegau a chwedegau pan oedd pryderon dôd ymlaen yn y byd (Saeseg) a diboblogi'n pwyso ar bawb. Dylid cofio fod dirywiad llawer ei iaith leiafrifol wedi bod yn gynt na'r Gymraeg gyda dyfodiad radio, teledu a ffyrdd gwell: Gaeleg yr Alban, Llydaweg, Gwyddeleg. Er mor anghysbell Ynys Hir mae'r Aeleg ar ddarfod a nid ar y mewnlifiad mae'r bai er yr holl sôn a White Settlers
Hanner can mlynedd yn ôl, roedd gadael y Fro Gymraeg a symud i le fel Abergele neu Landudno neu Fangor gyfystyr â cholli'r iaith o achos ffasiwn a diffyg ysgolion Cymraeg a mae ystadegau arolygon iaith yn Sir Ddinbych (1948) a Sir Gaernarfon ym 1952 yn dangos fod y rhan fwya o blant un neu ddau riant Cymraeg yn siarad Saesneg ar yr aelwyd yr adeg honno yn y trefydd Seisnigaidd pan oedd Cymreictod Hiraethog ac Eryri yn llethol
Ond heddiw y cwestiwn ydi pam, er gwaetha ac yn nanedd yr holl gyfundrefn o addysg Gymraeg a´r hybu ydi rhai plant Cymry Cymraeg yn tyfu'n uniaith Saesneg?
Rydym yn orddibynnol ar yr ysgolion. Rwy'n nabod digon o blant oedd eu tad neu fam yn hanu o'r fro Gymraeg, wedi cael addysg cyfrwng Cymraeg ond wedi ei "hangofio" hi!
Post a Comment