Saturday, January 18, 2014

Rant Karen Owen yn y Cymro - sylw neu ddau

Rhyw ymateb ydi'r isod i rant hirfaith Karen Owen yn Y Cymro oddi tan y teitl Ai snobyddiaeth sy'n lladd yr iaith.

Er gwaetha'r teitl mae'r erthygl yn crwydro i bob man gan gyfeirio at gyfarfod a gynhalwyd heddiw yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai, ac yn beio dwyieithrwydd, ysgolion Cymraeg, cyflogau swyddogion Cyngor Gwynedd, mentrau iaith, ymgyrchwyr iaith ac ati.  Mae hefyd wrth gwrs yn beio'r dosbarth canol Cymraeg.  Ym mydysawd cyfochrog Karen mae 'ton ar ol ton' o ffrindiau Coleg Cymraeg eu hiaith yn cyrraedd trefi fel Caernarfon, Aberystwyth a Chaerfyrddin ac yn gorthrymu'u Cymry Cymraeg cynhenid dosbarth gweithiol.  Mae'r canfyddiad yma - gadewch i ni ei alw yn y thesis Gwilym Owen - yn gyfangwbl wallus.  Gadewch i ni edrych ar ffeithiau:


Mae'r hyn sy'n bygwth yr iaith ar lefel demograffaidd yn sylfaenol syml:

1). Mewnfudo o lefydd lle nad ydi pobl yn siarad y Gymraeg.
2). Cymry Cymraeg yn symud i fyw i Loegr.
3)  Pobl yn gwrthod trosglwyddo'r Gymraeg i'w plant.

Mae'r ffigyrau gennym ar gyfer llawer o hyn - diolch i'r cyfrifiad:

  • Mae 27% o bobl Cymru wedi eu geni y tu allan i'r wlad gydag 20% yn ndod o Loegr.
  • Mae 500,000 obobl Lloegr efo hunaniaeth Gymreig, ac mae'n bosibl bod 150,000 o Gymry Cymraeg yn byw yno.
  • Er bod trosglwyddiad iaith yn gymharol dda at ei gilydd mae'r drosglwyddiad honno yn peri gofid mewn rhai llefydd - yn arbennig felly yn Nwyrain Sir Gaerfyrddin a Gorllewin yr hen Sir Forgannwg - ardaloedd dosbarth gweithiol.  Ond mae trosglwyddiad iaith yng Ngwynedd yn rhyfeddol effeithiol - mae tua 69% o'r cohort 25 - 39 oed yn siarad yr iaith tra bod 73% o'r cohort 3 - 4 oed yn ei siarad.  Hynny yw mae'r cohort 3 - 4 yn fwy Cymraeg o ran iaith na chohort eu rhieni - a hynny'n annibynnol o ddylanwad y sector addysg.


O safbwynt cymdeithasegol gallwn ychwanegu thema ganolog sesiwn y bore 'ma yng Nghanolfan Uwchgwyrfai - ideoleg dwyieithrwydd a'r anghyfartaledd sydd ynghlwm a hynny.

Dydi'r ffaith bod yna ddosbarthiadau cymdeithasol gwahanol yn y Gymru Gymraeg (fel ym mron i pob man arall) ddim yn fygythiad i'r iaith - i'r gwrthwyneb.  Fel rydym wedi gweld mae'r bygythiadau i'r Gymraeg yn hawdd iawn i'w harenwi a dydyn nhw ddim oll i'w wneud efo dosbarth cymdeithasol. 

 Cyn bod Karen yn arenwi Caernarfon, Caerfyrddin ac Aberystwydd fel mannau lle mae'r hen bobl dosbarth canol drwg 'na yn gwneud cam a'r dosbarth gweithiol waeth i ni gyfeirio at y lleoedd hynny ddim. Dwi yn gyfarwydd iawn a Chaernarfon ond dydw i ddim mor gyfarwydd ag Aberystwyth a dydw i ddim yn gyfarwydd o gwbl a Chaerfyrddin.  Mae'n wir bod yna ddosbarth canol Cymraeg ei iaith sylweddol yng Nghaernarfon a'r pentrefi cyfagos, mae'r un peth yn wir ond i raddau llai o lawer yn ardal Aberystwyth - ond gyda'r gwahaniaeth bod y dosbarth canol Saesneg ei iaith yn fwy na'r un Cymraeg ei iaith yn yr ardal honno.  Dwi'n cymryd bod dosbarth canol Cymraeg ei iaith yng Nghaerfyrddin - ond eto byddwn yn betio bod yna ddosbarth canol Saesneg ei iaith llawer mwy yno.

Gadewch i ni edrych ar batrwm ieithyddol Caernarfon.  Mae mwyafrif  pobl dosbarth canol Caernarfon yn byw yng Ngogledd y dref - ward Menai.  Ychydig o dai cyngor sydd yn yr ward - ceir ardal o hen dai preifat canol tref yn Nhwthill ac mae'r rhan fwyaf o'r gweddill yn cynnwys tai preifat drud.  Mae'r boblogaeth hefyd yn llawer hyn nag ydyw yng ngweddill y dref.  Mae'r ganran sy'n siarad y Gymraeg yno yn uchel - 83.4%.


Ond uchel neu beidio, dyma'r ward lle mae'r Gymraeg wanaf yn y dref.  Mae'r iaith ar ei chryfaf yn ardal Peblig - 87.4%.  Mae mwyafrif llethol trigolion yr ward yma yn byw mewn tai cymunedol ar stad dai sylweddol Sgubor Goch - ward mwyaf difreintiedig y Gogledd Orllewin.  Wedyn daw Cadnant - 86.2%.  Mae'r rhan fwyaf o dai Cadnant ar stad dai cymunedol Maesincla.  Wedyn daw Seiont - 85.3%.  Seiont ydi'r ward mwyaf poblog yng Nghaernarfon ac mae'n fwy cymysg na'r lleill - ceir ardaloedd canol tref, ardaloedd gwledig, ardaloedd tlawd iawn a datblygiadau newydd ar gyrion y dref.  Mae rhai o strydoedd dosbarth gweithiol yr ward yma yn Gymreiciach o ran iaith nag unrhyw le arall yng Nghymru.

Mae yna ddosbarth canol mawr Cymraeg ei iaith yng Nghaernarfon - ac mae yna ddosbarth gweithiol Cymraeg ei iaith sylweddol hefyd.  Mae'r ddau yn cyd redeg.

Yn y cyfamser mae'r Gymraeg yn cyflym gilio yng nghymoedd Dwyrain Caerfyrddin a Gorllewin yr hen Sir Forgannwg.  Does yna ddim dosbarth canol mawr yn y llefydd yna mwy nag oes  yn y cymoedd sy'n bellach i'r Dwyrain - ardaloedd sydd wedi colli'r iaith un ar ol y llall - gan weithio o'r Dwyrain i'r Gorllewin - tros y ganrif ddiwethaf.

Ym mydysawd cyfochrog Karen mae yna lawer iawn o Gymry Cymraeg anllythrenog ac unieithog ym Methesda, Ffestiniog (dwi'n cymryd mai cyfeirio at y Blaenau mae hi), Dyffryn Nantlle, Dyffryn Aman a Chaergybi sydd yn bobl bwysig iawn, ond sydd ddim yn cael dweud eu dweud.  Mae'r canrannau sy'n siarad yr iaith yn uchel yn yr ardaloedd llechi, ond mae'n isel yng Nghaergybi ac mae'n syrthio fel carreg yn Nyffryn Aman.  Does yna ddim dosbarth canol gwerth son amdano yn nhref Caergybi - mae'r Gymraeg wedi cilio yno oherwydd na throsglwyddwyd yr iaith gan drigolion ardaloedd dosbarth gweithiol fel Morawelon ddwy genhedlaeth yn ol.  Dim oll i'w wneud efo dylanwad pobl dosbarth canol Cymraeg eu hiaith.

Ond fel y gwelsom ynghynt -  lle ceir dosbarth canol Cymraeg ei iaith yn y rhan fwyaf o Wynedd mae'r trosglwyddiad iaith yn  effeithiol.  Mae'r rheswm am hynny i'w ganfod yn y rhesymau am y dirywiad sylweddol yn y Gymraeg yng Nghymoedd y De ac mewn ardaloedd fel Caergybi.  Ni throsglwyddwyd yr iaith oherwydd ei bod yn cael ei chysylltu efo tlodi, ac yn cael ei gweld fel rhywbeth oedd yn 'dal pobl yn ol' yn economaidd.  Lle roedd statws cymdeithasol yr iaith yn uwch, a lle nad oedd gwrthdaro rhwng siarad y Gymraeg a bod eisiau gwella statws economaidd personol nid oedd yna gymhelliad i beidio a throsglwyddo'r iaith.  Canfyddiad bod siarad y Gymraeg yn gysylltiedig a chynyddu cyfleoedd yn y farchnad waith ydi un o'r ffactorau sy'n gyrru'r adfywiad yn hanes y Gymraeg yn rhannau o'r De Ddwyrain ar hyn o bryd.

Mae ceisio trosglwyddo tynged yr iaith i fframwaith deallusol y Chwith hen ffasiwn - gweld pob problem gymdeithasol yn rhywbeth sydd wedi ei wreiddio mewn gwleidyddiaeth dosbarth cymdeithasol - yn ffordd gyfangwbl gyfeiliornus o ddeall yr hyn sy'n bygwth y Gymraeg. Mae hefyd yn ganfyddiad a fyddai - petai pobl yn ei chymryd o ddifri - yn gryn fygythiad ynddi ei hun i ddyfodol yr iaith.





19 comments:

William Dolben said...

Hylo Cai,
Wrth gwrs mae Karen wedi mynd ar gyfeiliorn wrth ladd ar Gymry dosbarth canol llefydd fel Caernarfon. Prin iawn ydynt a pheth iachusol dros ben ydi bodolaeth dosbarth uchel yn parablu'n Gymraeg. Caerdydd fel arfer sy'n ei chael hi pan mae rhywun o'r Fro Gymraeg yn teimlo'n ddigalon. Ti'n iawn fod mwyafrif helaeth y werin mewn llefydd fel Caergybi, Bangor, Dinbych wedi gollwng y Gymraeg er cenhedlaeth neu ddwy.
Deallaf y bydd dadleuon bregus Karen yn fêl ar fysedd Gwilym Owen ac yn esgus i'r Blaid Lafur i dynnu'r Blaid i lawr OND oni ddylem fyd ati i ddeall yn well dirywiad yr iaith mewn llefydd fel Caergybi a Bangor rhag ofn fod yr un peth yn digwydd yn Nyffryn Nantlle a bellu.

Er yr holl refru gan rai cenedlaetholwyr am yr hen Gymru ddiddosbarth roedd yna wahaniaethau mawr rhwng y dosbarth canol a'r dosbarh gweithiol fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl. Mae'r Saeson (fath a phob cenedl mae'n debyg) dosbarth canol yn chwerthin am ben pobl ddistadl, y Chavs ond ni all Sais sy'n teimlo'n israddol ddim newid ei iaith. Wrth gwrs fedr o gadw neu ehangu ei acen neu dafodiaith ond Sais bydd o am byth.
Yng Nghymru, y dosbarth canol a phroffesiynol drôth at y Saesneg gyntaf. Bri (prestige) sydd tu ôl i newid iaith yn ôl ieithydd ac wrth frïo'r Saesneg a dôd yn ddwyieithog roedd twrne neu athro neu ddoctor yn dangos i werin lawr gwlad ei fod yn well. Doedd gan y werin mo'r dewis i droi at y Saesneg ond pan ddaeth y radio a'r teledu altrodd pethau'n arw. Ymateb y dosbarth canol Cymraeg oedd arddel neu ail-arddel yr iaith. Ymateb y werin heblaw am lefydd fel Blaenau, Caernarfon ac ati oedd gollwng yr iaith. Chwaraeodd israddoldeb ran yn y broses hon rwy'n credu: rhyw deimlad nad oedd eu Cymraeg nhw ar yr un tir â Cymraeg y gwenidog neu'r athro. Byddai ambell ei werinwr yn cegrythu wrth weld y bobl fawr yn brïo iaith oedd yn destun gwawd ganddynt rai blynyddoedd yn gynt.

Pan aeth fy mam i astudio ym Mangor ar ôl yr ail ryfel byd bu'n lletya yn nhy GO Willliams Esgob Bangor. Fiw iddi ddeud gair o Gymraeg ar yr aelwyd honno. Roedd y Cymro Cymraeg mawr yma'n difrïo'r iaith bob cyfle gai. Ond wedyn mi drôth o'n un o garedigion mawr yr iaith......

Hwyrach fod sylwadau Karen Owen yn fwy perthnasol i'r oes honno pan oedd y Gymraeg yn adennill tir ond mae cof pobl yn hir yn enwedig wrth gofio rhagrith

Fy mhwynt yw pan ennillodd Saesneg ei blwyf ymhlith y dosbarth canol, doedd yna ddim troi'n ôl. Ond dydi dosbarth canol Cymraeg ei iaith a chyfundrefn addysg Gymraeg ei iaith ddim yn gwarantu dyfodol i'r iaith.

William Dolben said...

Peth arall. Nid wyf yn ffyddiog y bydd y Cymry ar wasgar (fel fi fy hun) o fudd i'r Gymraeg yng Nghymru. Mae yna filoedd o Gymry yn Lloegr (ond rwy'n meddwl dy fod yn misio hefo'r 5%. Buasai hyne dros ddwy filiwn o bobl.
Gyda llaw nododd rhyw wyth fil mai Cymraeg oedd iaith eu haelwyd (yn Lloegr) yng nghyfrifiad 2011. Pitw iawn.

Cai Larsen said...

Diolch William - diddorol iawn.

Statws isel laddodd y Gymraeg mewn rhannau eang o Gymru, statws uchel sy'n ei hadfer yn rhai o'r un llefydd heddiw. Mae pobl yn anfon eu plant i ysgolion Cymraeg heddiw am union yr un rheswm pam na throsglwyddwyd y Gymraeg i'w rhieni gan eu neiniau a'u teidiau.

Cai Larsen said...

Ia, sori 500,000 efo hunaniaeth Gymreig - nid 5%.

Anonymous said...

Tybed sut mae Karen Owen yn bwriadu i'r 'Cymro' apelio at y werin y mae'n eu hamddiffyn rhag ergydion y dosbarth canol. Mae hi mewn sefyllfa gwell na llawer arall i arwain y gad yma.
Efallai yr hoffai petai athrawon yn peidio cywiro Cymraeg plant o gefndiroedd dosbarth gweithiol, rhag eu gormesu, a gwneud yr un peth gyda'u mathemateg a'u Saesneg hefyd.
Y tu ol i'r erthygl - un o'r rhai mwyaf trwsgwl, sarhaus a pheryglus i mi gofio darllen yn y Cymro erioed, mae yna bryder didwyll. Fel plentyn y 60au, a fagwyd o fewn lleiafrif ieithyddol,
fe wnaf ofyn cwestiwn i Karen. Pwy, ar yr iard, a oedd yn gwatwar pwy ar iard yr ysgol ? . Y 'Welsh Nash' dosbarth canol neu'r plant dosbarth gweithiol a oedd a rhieni'n Gymry Cymraeg ond na allai'r iaith eu hunain ?. Dwi'n siwr y gallai plant Bangor, Caergybi a Chaerfyrddin ateb yn sydyn iawn.
Pwys sydd yn ei chael hi o hyd ar iardiau ein hysgolion uwchradd (honedig) Cymraeg ? Y plant sy'n fodlon arddel y Gymraeg, neu'r disgyblion hynny sydd heb afael gwirioneddol ar yr iaith?
Dwi'n cytuno fod y mudiad cenedlaethol yn gallu bod yn hynod ysgaredig o lawr gwlad - yn fy nhyb i, dim ond mudiad Adfer oedd ddigon call is sylweddoli sut oedd pobl ar lawr gwlad yn arddel eu Cymreictod. Serch hynny, mae Karen Owen wedi ysgrifennu erthygl sydd wedi ei godi o gyd-destun 1914, nid 2014. ( Dyna newyddiaduraeth cyfoes Cymraeg, yn ei hanfod)


William Dolben said...

Un peth sy'n cadarnhau dy bwynt Cai ydi'r ffaith fod Ysgol Aberteifi'n troi yn ysgol Gymraeg. Mae Aberteifi'n lle dirwasgedig iawn lle mae'r werin wedi ei seisnigo ond maent yn dewis Addysg Gymraeg i'w plant er gwaeths rhefru ambell ei fewnfudwr. Pe tasai'r un peth yn digwydd ym Mangor a Chaergybi buasai'r iaith ar ei hennill. Ond ar ôl darllen y sylwadau dienw uchod rwy'n ofni fod cymreictod canol Môn a Chaernarfon yn faen tramgwydd i adferiad yr iaith ym Mangor a Holihed....unwaith mae ardal gyfan wedi'i seisnigo fel yn y rhan fwya o gymunedau De Cymru mae'n haws adfer yn anffodus

Rwy'n meddwl ar adegau mai Adfer oedd y mudiad angenrheidiol a bod eu pwyslais ar y Fro Gymraeg a'r werin yn llygad ei le. Ond..methu fu hanes Adfer a mae'r werin yn wanach o lawer ar lawr gwlad nag yn y 70au

Anonymous said...

A, Y Cymro - geriatrics yn sgwennu ar gyfer geriatrics am Gymru sydd wedi marw ers degawdau. Mae o'n fwy o therapi ar gyfer pobl mewn oed mawr na dim erbyn hyn. Hollol, hollol allan o gysylltiad efo'r byd go iawn.

T Miles said...

Un o pa bentref oedd yr Archesgob Gwilym O Williams , tybed ?. Mae'n rhaid mai rhyw snobyddiaeth cynhenid oedd yna, nodweddiadol o draddodiad eglwysig.

Cai Larsen said...

Fe'i ganed ym Mhenisarwaun - lle cefais i fy magu.

A Robertson said...

Perthyn ? . Ai cadw siop oedd ei deulu ?

Cai Larsen said...

Nag ydw'n sicr dwi ddim yn perthyn. Roedd yna siop fach yn y Waun ger Penisarwaun ac roedd ei fam yn byw yn agos at y fan honno - ond dwi ddim yn meddwl mai nhw oedd yn ei chadw - er nad ydw i'n hollol siwr. Mi ofynaf i mam.

Reynolds said...

Mae traddodiad eglwsig yn gallu cwmpasu Pabyddiaeth ac Anglicaniaeth, wrth gwrs.

Cai Larsen said...

Dau draddodiad a holltodd yn Oes y Tuduriaid gyda'r naill yn esblygu i fod yn rhywbeth sefydliadol yng nghyd destun y DU a'r llall yn esblygu i fod yn wrth sefydliadol.

Anonymous said...

Nifer darllenwyr Y Cymro yn disgyn eto, ma raid.

Ymdrech i gorddi, denu darllenwyr, denu 'hits' i'w gwefan a llythyrau i'r papur - oll er mwyn cynyddu niferoedd er mwyn cyfiawnhau grant y Cyngor Llyfrau.

Angus Bereiddrech said...

Criw o bobl ddiffuant ond diffaith oedd Adfer efo lefain o unigolion sur a chwerw yn eu plith, cymysgedd debyg iawn i'r hyn a geir yng Nghanolfan Uwch Gwyrfai heddiw. Mae'r un hen ysbryd cas a'r ysfa i lambastio pobl wahanol yn dal i dorri i'r brig yno hefyd.

Cai Larsen said...

Mae'n anodd iawn deall y sylw uchod - cartref cymdeithas hanes ydi Uwchgwyrfai. Roedd yna amrediad eang o bobl yno, gan gynnwys gwleidyddion, pobl leol, pobl o rannau eraill o Wynedd - a fi. Ychydig o surni ac ychydig o dystiolaeth o Fudiad Adfer oedd i'w weld - mae hwnnw wedi hen farw.

William Dolben said...

Hwyrach fod pobl dosbarth canol yn rhai garw am guddied eu hysbryd cas! Yn yr oes Flairaidd hon mae'n well gennyf bobl sy'n siarad heb flewyn ar dafod.....

Cai, bydd trafodaeth Uwchgwyrfai'n cael ei chyhoeddi rhywle?

Cai Larsen said...

Ddim hyd y gwn i William.

Anonymous said...

Diolch am ymateb call i erthygl a oedd dros y lle i gyd. Dwi'n dal i fethu deallt pwynt KO yn glir er ei ail a thrydydd ddarllen ac yn methu'n glir a deallt perthnasedd dod a Saith Seren Wrecsam yn rhan o'r "erthygl".