Tuesday, January 14, 2014

Ydi Carwyn Jones yn credu ei stori ei hun ynglyn a doctoriaid cyflenwi?


Mae'r defnydd o ddoctoriaid cyflenwi mewn adrannau damweiniau yn fater cynhenus yng Nghymru a Lloegr oherwydd ei fod yn ddull costus o gynnig gofal brys.  Mae'n debyg hefyd bod mwy o risg i'r claf ynghlwm efo'r arder.  Pan ofynwyd i Carwyn Jones yn ddiweddar am y defnydd o ddoctoriaid llanw mewn adrannau damweiniau, dyma oedd ei ateb.  

When it comes to locums, the NHS in Wales has relied on locums probably for many, many, many years. Many of those locums are very effective. Many of them are people who don’t want permanent positions. For various reasons they don’t want to work full time, but they are still exceptionally effective as A&E specialists. So to suggest somehow that locums in some way are second-class doctors is certainly not the case. That’s not the way that A&E specialists have presented this to me.

Pan ofynwyd yr un cwestiwn y bore 'ma i Andy Burnham  ar Today - gweinidog iechyd cysgodol y Blaid Lafur yn San Steffan dyma beth oedd ei ymateb.

My diagnosis is that the full consequences of the government's reorganisation of the NHS are now being felt.  Three years ago, the government was explicitly warned about this problem by the College of Emergency Medicine, but they have described feeling like John the Baptist in the wilderness. The government simply was not listening because it was completely focused – obsessed, in fact – on its reorganisation.

Rwan does yna ddim byd o'i le mewn sefyllfa lle mae'r Blaid Lafur yng Nghymru yn anghytuno efo'r Blaid Lafur yn Llundain wrth reswm.  Ond cyn bod y mater yn un hynod bwysig byddai'n ddiddorol gwybod os ydi Carwyn Jones wedi gwneud ymdrech i argyhoeddi   Burnham ei fod ar gyfeiliorn.  Os nad yw wedi gwneud hynny gallwn gymryd nad ydi Carwyn Jones yn credu'r hyn mae o ei hun yn ei ddweud ynglyn a'r mater.

2 comments:

Iestyn said...

Yn anffodus, does dim lot o amser gyda Ein Hannwyl Arweinydd ar hyn o bryd, gan ei fod newydd ddod nôl o Uganda, lle mae wedi bod yn sôn am beryglon annibyniaeth, neu rywbeth...

R Ingrams said...

A gaiff gyfle i drafod materion Ugandaidd yn ei swyddfa ar ol dychwelyd ?