Wednesday, August 21, 2013

Grym adeiladau

Fel dwi'n sgwennu hwn dwi'n eistedd y tu allan i far yn Leon, Gogledd Orllewin Sbaen yn edrych ar eglwys gadeiriol y dref sydd bellach wedi ei goleuo.  Mae'r adeilad Gothig yn syfrdanol o ran maint ac o ran uchelgais esthetig y sawl a'i cododd.  Mae'n anferthol a cheir 1,800 metr sgwar o ffenestri lliw ynddo - llawer yn dyddio'n ol i'r cyfnod pan godwyd y strwythur - y drydydd ganrif ar ddeg,  Tua phum mil o bobl oedd yn byw yn Leon bryd hynny - tua'r un faint a sy'n byw ym Mlaenau Ffestiniog heddiw.  Gellid bod wedi rhoi pob copa walldog yn y ddinas yn yr eglwys yn ddi drafferth.  Mae'r adeilad yn llawer mwy nag oedd rhaid iddo fod - fel llawer iawn o eglwysi cyfandirol - a chapeli Cymreig.

A dweud yn gwir mae capeli sy'n rhy fawr yn fwy cyffredin yng Nghymru - dydi hi ddim yn anghyffredin dod ar draws pentrefi efo tri chapel fyddai'n gallu cynnig lle i bawb yn y pentref bron pe bai angen.  Go brin bod y rhan fwyaf o gapeli Cymru erioed wedi bod yn llawn - ag eithrio yn ystod ambell i gymanfa ganu o bosibl.  

Rwan ar un olwg mae'n ymddangos yn weddol boncyrs i wastraffu adnoddau sylweddol yn codi adeiladau sy'n llawer rhy fawr.  Ond mae rhesymau wrth gwrs.  Yn achos yr eglwysi cadeiriol cyfandirol roedd mawredd yr adeiladau yn cwrdd a'r un pwrpas a'u coethder - gwneud i'r sawl oedd yn eu defnyddio ryfeddu at fawredd Duw.  Byddai eglwys Babyddol sylweddol yn gyferbyniad llwyr a'r tai bychan, tywyll, un neu ddwy ystafell y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn byw ynddynt.  Mae'n debyg y byddai pobl yn teimlo eu bod hanner ffordd i'r nefoedd dim ond wrth fynd i mewn i'r eglwysi.

Roedd rheswm arall am a maint a'r coethder hefyd - cystadleuaeth.  Roedd trefi yn cystadlu yn erbyn eu gilydd am yr eglwysi mwyaf a harddaf bosibl.  Gallai 'ennill' cystadleuaeth felly ddod a budd ariannol sylweddol ar ffurf twristiaid yr Oesoedd Canol - pererinion.  A chystadleuaeth mae'n debyg gen i oedd y tu ol i'r capeli gor fawr Cymreig - nid cystadleuaeth am bererinion wrth gwrs, ond cystadleuaeth rhwng enwadau Protestanaidd - roedd pob enwad eisiau cael y blaen ar y lleill, a pha ffordd well o wneud hynny na thrwy gael capel gwell - a mwy nag oedd yn eiddo i neb arall?  Efallai bod yna rhyw ychydig o optimistiaeth hefyd - y byddai pawb yn y cylch rhyw ddiwrnod yn gweld y 'goleuni' ac yn ymuno efo'r enwad 'cywir'.

Mae hyn oll yn tystio i rym adeiladau wrth gwrs - maent wedi cydio yn nychymyg pobl ac wedi llywio'r ffordd maent yn meddwl ers iddynt ddechrau gael eu codi.  Dyna pam bod adeiladau eiconig fel Stadiwm y Mileniwm, Canolfan y Mileniwm ac adeilad y Cynulliad Cenedlaethol yn bwysig i ddyfodol Cymru fel gwlad.  A dyna pam mai brwydr fawr gyntaf y Toriaid Cymreig yn y cyfnod ol ddatganoli oedd gwrthwynebiad i fuddsoddi mewn adeilad pwrpasol i'r Cynulliad Cenedlaethol - er nad oedd ganddyn nhw unrhyw wrthwynebiad i wario mwy o lawer ar uwchraddio swyddfeydd i ASau yn Portcullis House yn Llundain.  

Ni fyddai dim yn cynrychioli pwysigrwydd cymharol y Cynulliad Cenedlaethol a San Steffan i'r Toriaid Cymreig  yn well na'r gwrthgyferbyniad rhwng adeilad brics coch oedd wedi ei adeiladu ar gyfer swyddfeydd ym Mae Caerdydd a phalas ysblennydd yng nghanol Llundain.  






21 comments:

Anonymous said...

Sgin ti ddim byd gwell i neud ar dy holides na sgwennu ryw blydi crap fel hyn. Get a life a cer allan am beint wir dduw.

Anonymous said...

Cytuno efo anonymous. Gwna wbath gwell ar dy wylia na malu cachu am ryw betha gwirion .

Anonymous said...

Well said anonymouses !

Anonymous said...

Os nad oeddech am gymryd seibiant llwyr byddai'n well petaech wedi aros adref. O leiaf wedyn mi fyddech wedi medru rhoi amser i gymoni dipyn ar du allan eich ty, mae yr ardd angen sylw ac mae 'r ffenestri wedi gweld dyddiau gwell, maent angen windowlene o leiaf.........

Anonymous said...

Ond son ma nhw am weddillion y parti....

Cai Larsen said...

Twtio fyddan ni'n ei wneud yn G/narfon, nid cymoni, a beth bynnag mi dorais i'r gwair cyn gadael .

Cai Larsen said...

Wnaeth y parti ddim digwydd - dwi wedi cael fy sicrhau o hynny - o leiaf ddwsin o weithiau trwy neges destun.

Dylan said...

Y cwestiwn mawr ydi: onid oes gan y tri anon unrhyw bethau gwell i'w gwneud na gadael sylwadau ar gofnodion blog nad oes ganddyn nhw'r mymryn lleiaf o ddiddordeb ynddyn nhw? Pwy sy'n gwneud y defnydd gorau o'u hamser hamdden mewn gwirionedd?

Fe wnes i fwynhau darllen o leiaf. Roedd y parti'n wych, gyda llaw.

Cai Larsen said...

Parti, parti, pa barti?

Anonymous said...

He, he - dau foi yn treulio eu hamser yn darllen blogiau dydyn nhw ddim yn licio a Hwntw yn cerdded o gwmpas Dre yn checkio i fyny ar ffenestri a gerddi pobl. Mae'n rhaid bod ganddyn nhw fywyd ffwcin diddorol.

Cytuno efo Dyl bod y parti yn dda, ond piti am yr holl ddifrod.

Anonymous said...

Sgwn i os oes yna swydd Arolygwr Gerddi a Ffenestri yn mynd efo Cyngor Gwynedd. Byddai Anon 7.17 yn gallu trio a chyfuno ei waith a'i ddiddordebau. Perffaith.

Anonymous said...

He, he - dwi di sylwi bod na glomenods yn byw ar ffrynt ty chi fyd. Nhw sy'n gneud llanast ar y ffnestri ynde. Seuthwch yr adar a safio prynu windolene ia !!!!!

Cai Larsen said...

Difrod? Dduw mawr, ydi'r llun o Elizabeth Windsor a Dug Caeredin ar achlysur eu priodas sydd uwchben y silff ben yn iawn.

Mae'r colomenod yn aros mae gen i ofn, mae boi ty nesaf yn swyddog efo'r RSPB - ac mae o'n un mawr am fwydo adar yn anffodus.

Anonymous said...

Anon 7:10, 7:11 a 7:13 get a life.

Anonymous said...

Dwi'n cytuno, get a life.

Anonymous said...

A dwi'n berson hollol wahanol, wir yr...

Anonymous said...

etc

Anonymous said...

Ah, yr Hwntws. Roedd Enoch yn iawn reit o'r dechrau - ddylan ni erioed wedi eu gadael nhw i mewn o'r dechrau'n deg.

Dim ond rhan bach o'r broblem ydi'r bysnesu di ddiwedd. Mae eu jocs nhw i gyd am gachu, tri gair Saesneg ym mhob brawddeg a dweud y peth eto beth bynnag yn Saesneg i neud yn siwr bod pawb yn dallt, eu plant nhw i gyd yn siarad Saesneg mawr crand efo'i gilydd, gweiddi yn lle siarad, ac ar ben hynna i gyd maen nhw eisiau dwyn ein merched ni i gyd a cau ein gorsafoedd pwer.

Amser i'w hel nhw i gyd adra dwi'n meddwl.

Ioan said...

Dylan,

'Ron i'n meddwl bod pawb wedi cytuno i ddweud bod na ddim parti wedi bod?

Cai Larsen said...

Hei bois mae dipyn o hwyl yn iawn, ond mae ambell i sylw yn mynd ychydig yn rhy bell (yn benodol yr ymysodiad ar bobl y De).

Dydi'r rhan fwyaf o flogiau ddim yn caniatau sylwadau anhysbys erbyn hyn (wel ddim heb gyfeiriad ebost beth bynnag). Mi fyddai'n well gen i beidio mynd i lawr y lon yna - dwi'n licio ei gwneud yn hawdd i bobl ddweud eu dweud. Felly ychydig o synnwyr cyffredin plis.

Anonymous said...

Wel sed Cai ! Mae isho cal trefn ar yr anonymous pobol ma. Sboilio petha i bawb.