Friday, August 09, 2013

Aelodaeth y pleidiau Cymreig

Mae'r manylion am aelodaeth y Blaid Doriaidd wrth gwrs yn cael ei gadw'n gyfrinachol, a'r rheswm am hynny yn ol pob tebyg ydi bod 'na cyn lleied ohonyn nhw.  Yn ol Independent heddiw tua 100,000 ydi'r ffigwr tros Brydain.  Mae hyn yn cymharu a thua 3m ym mhump degau'r ganrif ddiwethaf, a 258,000 pan ddaeth David Cameron yn arweinydd.  Ffigyrau'r pleidiau unoliaethol eraill ydi tua 200,000 o aelodau Llafur a 42,500 o aelodau Lib Dem.  Mae aelodaeth y Blaid tua 7,800, tra bod 25,000 aelod gan yr SNP a 30,000 gan UKIP.

O gyfieithu hyn oll i aelodau yr etholaeth mae ffigwr y Toriaid yn 157, Llafur yn 304, y Lib Dems yn 67, UKIP yn 47, Plaid Cymru yn 195 a'r SNP yn 424.

Ond beth am y sefyllfa yma yng Nghymru?  Yn ol Paul Flynn mae yna tua 12,000 o aelodau gan ei blaid yng Nghymru - mae hyn yn 300 yr etholaeth.  Mae hyn ychydig yn anisgwyl - gan bod cefnogaeth y Blaid Lafur yn gryfach yng Nghymru nag yng ngweddill y DU, byddai dyn yn disgwyl i'r aelodaeth fod yn uwch - ond dydi o ddim.  Awgryma hyn y gallai aelodaeth pleidiol yn gyffredinol fod yn is yng Nghymru nag yng ngweddill y DU.

Ond a diystyru hyn am ennyd, pe byddai cryfder cymharol etholiadol (etholiad cyffredinol 2010) yn cael ei ddefnyddio fel arwydd o gryfder cymharol o ran aelodau byddai hynny yn dod a nifer aelodau'r Lib Dems ar gyfer pob etholaeth i lawr i 58 a'r Toriaid i 113.  Neu i edrych arno mewn ffordd arall byddai aelodaeth Gymreig y Lib Dems  yn tua 2,300 ac un y Toriaid yn 4,520.

Fel y dywedais gallai'r ffigyrau yma yn  hawdd fod yn is o lawer os ydi'r gymhareb Llafur yn arwyddocaol (byddai honno'n awgrymu y dylai bod 15,000 o aelodau gan Lafur yng Nghymru).   Os ydi'r lefel o dan aelodaeth Gymreig yma yn wir i'r pleidiau eraill byddai aelodaeth Cymreig y Toriaid yn 3,600 (90 yr etholaeth) a'r Lib Dems yn 1,840 (46 yr etholaeth).

Byddwn yn edrych ar oblygiadau posibl hyn mewn blogiad arall.  

8 comments:

Anonymous said...

Meddwl am MH wrth ddarllen hwn:
http://blogs.telegraph.co.uk/news/timwigmore/100230473/if-parties-want-students-to-support-them-they-need-to-ditch-their-young-weirdos/

Dai said...

Mae maint etholaethau Cymru o ran poblogaeth yn llai na rhai Lloegr a'r Alban felly fe all hynny esbonio pam fod aelodaeth y pleidiau Prydeinig yng Nghymru i weld yn is ar gyfartaledd.

Rhyw 2,400 o aelodau oedd gan y Dems Rhydd pan etholwyd Kirsty Williams yn arweinydd. Anodd credu fod hi fawr uwch heddiw.

Mewn cyfweliad ar ol is-etholiad Mon roedd Nathan Gill yn son, os cofiaf yn iawn, fod gan UKIP 450 o aelodau (ym Mon, rwy'n cymryd). Siwr o fod yn uwch yn etholaethau lle mae mewnfudo o Loegr na, dyweder, yn y cymoedd

Cai Larsen said...

Mi feddyis i am y busnes etholaethau ar gae'r Steddfod Dai. Os ti jyst yn rhannu nifer yr aelodau efo 20. - mae poblogaeth Cymru yn 5% o un y DU, wedyn mae gan y Toriaid tua 5,000 o aelodau Cymreig a'r Lib Dems a'r tua Lib Dems 2.000. Fodd bynnag mae eu haelodaeth yn debyg o fod yn is yng Nghymru oherwydd nad oes ganddynt lawer o gefnogaeth yma - felly mae'n bosibl nad ydi'r ffigyrau ymhell ohoni.

twm said...

O "statements of accounts" ar safle yr electoral commission mae'n bosib cael rhifau ar gyfer aelodaeth rhai o'r etholaethau fawr.

Lib Dems
Maldwyn 2011 - 138
Brecon and Radnor 2012 - 228. 2009 - 268.
Cardiff Central, South and Penarth 2011 - 229. 2010 - 297.

Ceidwadwyr
Clwyd West 2010 - 297
Carmarthen W & SP 2011 - 133. 2010 - 182. (Dyma full membership, mae da nhw grwpiau rhyfedd eraill hefyd).
Aberconwy 2010 - 195.

Labour
Rhondda 2012 - 383


Byddwn i'n synnu yn fawr os oes agos i 2000 Lib dem ar ol yng Nghymru.

Cai Larsen said...

Diddorol iawn Twm - felly mae gan y Blaid fwy o aelodau yn nhref Caernarfon na sydd gan y Toriaid yn Aberconwy efo'i gilydd, ac mae yna ddwy waith cymaint o aelodau Plaid Cymru yn Arfon na sydd yna o Lib Dems yng Nghanol Caerdydd, Maldwyn a Brycheiniog a Maesyfed efo'i gilydd.

twm said...

Byddwn i'n disgwyl i rhifau y Libs fynd lawr lot fwy ers 2012. Y broblem yw dydy nhw heb wedi ennill/gwario fwy na £25,000 felly dim yn gorfod cyhoeddi ffigyrau.

Mae'r Plaid yn Arfon gyda 1,170 o aelodau yn ol ei cyhoeddiad yn 2012.

Ynys Mon 2012 - 420

Dwyrain Caerfyrddin 2012 - 514

Cai Larsen said...

Mae gen i berthnasau sy'n byw yn Lloegr oedd yn aelodau digon gweithgar o'r Lib Dems tan y blynyddoedd diweddar? Maen nhw'n cael galwadau mynych yn gofyn iddynt ail ymaelodi - gan gynnwys rhai gan Nick Clegg ei hun. Mae'n rhaid bod pethau'n ddrwg.

twm said...

I neud pethe'n waeth yng nghymru i'r Libs mae'r "Welsh State Party" mewn £24,000 o dyled. Probably loan gan y Blaid canolig.

Dwi'n siwr bydd yna arian ar gael i amddifyn Canol Caerdydd, Brecon a Cheredigion yn 2015 ond dwi'n amau yn fawr fydd yna lot o arian ar gael yn 2016.

Mae'n anodd iawn ail llenwi y "coffers" rhwng etholiadau pan ti'n colli gymaint o aelodau.

Un pwynt diddorol bydd weld os ydynt yn cymryd mantais o'r election address yn ewrop flwyddyn nesaf. Dim yn weld fod yr arian gyda nhw i talu am y brintio.