Mae llechi ar y toeau yn gyffredin iawn yng Ngalicia. Y rheswm am hyn ydi bod diwydiant llechi sylweddol yn dal yn fyw ac yn iach. Cymru wrth gwrs oedd yn arwain y diwydiant yn y bedwerydd ganrif ar bymtheg.
Erbyn heddiw mae Sbaen (gyda'r rhan fwyaf o ddigon o'r diwydiant yng Ngalicia) yn cynhyrchu tua 580,000 tunnell o lechi yn flynyddol, tra bod Prydain (gyda'r diwydiant yng Nghymru yn bennaf) yn cynhyrchu tua 10,000 tunnell.
Prydain gyda llaw ydi un o brif ddefnyddwyr llechi'r Byd - mae'n defnyddio tua 190,000 tunnell yn flynyddol - ail agos i Ffrainc.
No comments:
Post a Comment