Oni bai bod rhywbeth anisgwyl yn digwydd, fydda i ddim yn dod yn ol efo blogiad pendodol am Ynys Mon am y tro - ond dyma un olaf i roi'r canlyniad mewn perspectif.
- Y 42.5% o bleidleisiodd oedd y ganran isaf erioed mewn etholiad Cynulliad neu San Steffan yn Ynys Mon.
- 16,469 ydi'r bleidlais uchaf erioed mewn etholiad Cynulliad yn yr etholaeth. IWJ gafodd hwnnw yn 1999 - etholiad mwyaf llwyddiannus y Blaid erioed ym mron i pob etholaeth. Ail i hynny oedd 12,601 RhaI.
- Serch hynny roedd 58.2% a gafodd RhaI yn uwch na'r 52.6% a gafodd IWJ bryd hynny. Yn wir rhaid i ni fynd yn ol i 1931 i ddod o hyd i ganran uwch mewn etholiad San Steffan - mi gafodd Megan Lloyd George ganran oedd y mymryn lleiaf yn uwch - a dim ond dau enw oedd ar y papur pleidleisio.
- Mae yr 12,609 o bleidleisiau a gafodd RhaI yn uwch nag unrhyw bleidlais gafodd Albert Owen erioed - a hynny er bod 68.8% wedi pleidleisio yn etholiad 2010.
- Does yna neb erioed ar lefel San Steffan na Chynulliad wedi dod yn agos y 9,166 o fwyafrif gafodd RhaI. Serch hynny cafodd Ellis Griffith fwyafrif canranol ychydig yn uwch nag un Rhun yn 1910 - 41.4% i 41.3% - ond 3,452 yn unig oedd mwyafrif Ellis Griffith.
- Perfformiad Tal Michael oedd yr un salaf i Lafur o ran pleidlais a chanran ers i'r blaid sefyll gyntaf yn 1918.
- Perfformiad Neil Fairlamb oedd yr un salaf i'r Toriaid o ran pleidlais a chanran ers o leiaf 1885.
- Perfformiad Steve Churchman oedd yr un salaf i Lib Dems \ Rhyddfrydwyr o ran pleidlais a chanran erioed. Mae'n debyg ei fod ymysg y perfformiadau salaf yn unrhyw le yn hanes y blaid ar unrhyw lefel. Os oes rhywun yn dod ar draws perfformiad gwaeth, gadewch i mi wybod - mawr yw fy niddordeb.
- Perfformiad Nathan Gill oedd y gorau erioed i Ukip yn Ynys Mon - a ledled Cymru dwi'n credu.
- Fedra i ddim profi hyn - ond yn ol pob son enillodd RhaI ym mhob bocs ar draws Ynys Mon - er iddo beidio ag ennill yn rhai ar Ynys Cybi. Byddwn yn cymryd cryn fet mai dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd.
- Mae'n debyg i Rhun ddod ar y blaen ym mocs London Road - cadarnle tybiedig Llafur yng Nghaergybi. Byddwn hefyd yn cymryd cryn fet mai dyma'r tro cyntaf i Lafur beidio a dod ar y brig yno mewn etholiad San Steffan neu Gynulliad.
- UKIP ddaeth ar y brig ym mocs Trearddur. Byddwn yn tybio mai dyma'r unig focs i UKIP ei ennill yng Nghymru erioed.
7 comments:
Diddorol. Pwy fath o le yw Trearddur? Nid wyf i'n byw ym Mon.
Amlwg for effaith personoliaeth Rhun wedi chwarae rhan yn ogystal a threfniadaeth a gwaith caled y Blaid wrth ganfasio. Wyt ti'n meddwl fod yna rywbeth arall i gyfrif am y fath fuddugolieath? Rhwybeth ar lefel genedlaethol?
Lle llawn white settlers
Ie-diddorol ynde. Pobl sydd wedi mewfudo i wlad arall yn poeni am bobl yn mewnfudo i wlad arall!
Un pwynt bach newydd fy nharo.
Canran pleidlais y dair Blaid Brydeinig 'fawr' oedd :
15.8% + 8.5% + 1.4%.
Cyfanswm 25.7 % Tua chwarter felly.
Ond - A oes yna ganran is wedi ei chofnodi erioed ar gyfer y dair blaid yma, mewn unrhyw etholiad arall ar dir mawr Prydain, (o gofio fod Gogledd Iwerddon yn wahanol wrth gwrs)?
Byddai'n ddiddorol cael ateb i'r cwestiwn hwn.
Yr ateb bron yn sicr ydi na.
Dros hanner etholwyr Mon dim diddordeb yn y Cynulliad.
Oce - ychydig o bwyntiau am is-etholiad Mon a'r dyfodol.
Dim hon oedd yr etholiad orau erioed ym Mon, yr amser pan etholwyd IWJ i San Steffan oedd hynny. Gall neb ddadlau fod ymgyrch 2013 yn hynod trefnus, effeithiol, brwdfrydig a llwyddianus, ond roedd gweld ceir a tai (hyd yn oed yng Nhargybi) yn for o wyrdd-felyn gyda posteri IWJ, pobl Mon o bob oed a chefndir yn canfasio iddo a gweld y cannoedd lawer (oddeutu mil yn nol bob son) yn sgwar LLangefni y noson etholwyd IWJ yn dim llai na gwefreiddiol (ys dywed Max..."I was there!").
Dylid diolch i IWJ felly am osod sylfaen gref i'r Blaid ac i Rhun - dw i ddim yn credu ei fod erioed wedi cael y clod mae'n haeddu am ei waith - ac roedd o'n sicr tu cefn i'r stroc strategol o alw is-etholiad gan sicrhau fod hynny o dan yr amgylchiadau gorau posib i'r Blaid (os yw Tal yn sal dwi'n credu fod y Derwydd, Paul Williams, Yn poeri Plu draw yn Siapan). "Master stroke" tactegydd gwleidyddol oedd hynny.
Post a Comment