Mae yna ddigon ohonyn nhw yng Ngwlad y Basg - mae'r bar yma yn Vitoria - prif ddinas Gwlad y Basg, ond un o'r llefydd lleiaf Basgaidd yn y wlad o ran iaith a diwylliant. Mae yna tua deg o dafarnau tebyg ar yr un stryd. Mae bariau tebyg yn gyffredin ar hyd Gwlad y Basg - gan gynnwys y rhannau 'Ffrengig'. Mae'r un peth yn wir am Catalonia.
Mae Iwerddon - De a Gogledd efo llwythi o dafarnau sy'n dangos ochr yn wleidyddol - rhai yn Unoliaethol, eraill yn Genedlaetholgar a rhai yn rhywbeth arall. Fy ffefryn i ydi tafarn y Kingdom yn Killorglin, Swydd Kerry sydd efo rhywbeth tebyg i allor sydd wedi addurno efo paraffinelia sy'n ymwneud a'r teulu Healy Ray.
Er bod llawer iawn o dafarnau yng Nghymru sy'n mynegi cydymdeimlad a'r diwylliant Cymreig yn y ffordd maent wedi eu haddurno, ychydig iawn sy'n dangos ochr yn wleidyddol - Y Diwc yn Nhreganna amser 'lecsiwn (cyn i'r hwch fynd trwy siop Eric a Linda), y Goat yn Llanwnda ers talwm, ond fawr ddim arall yn fy mhrofiad i.
Unrhyw un efo esiamplau eraill?
5 comments:
Roedd tafarn Owain Glyndwr yng Nhaerdydd yn ddigon clir am eu gwyrthwynebiad i'r fonarchiaeth adeg y jiwbili. Roedd hynny'n radicalaidd iawn o ystyried hinsawdd cyffredinol y DU ynglŷn a'r fonarchiaeth.
Huh...digon prin yw tafarn yn y de orllewin fydd a Cymro neu Cymraes wrth y llyw.
@BoiCymraeg Yn anffodus ddim felly oedd hi yn yr Owain Glyndŵr: golwg360.com/newyddion/arian-a-busnes/73374-tafarn-glyndwr-ddim-am-ddathlu-r-jiwbili
O ran Cymru, alla i ond meddwl am rai Unoliaethol neu genedlaetholgar Brydeinig fel The Patriot yn Crumlin, ar gyfer bikers sy'n gynaelodau o'r lluoedd arfog. Roedd arfer bod 'tafarn' ar gyfer cenedlaetholwyr Cymreig yng Nghwmbran yn y 1960au: http://gwenudanfysiau.blogspot.co.uk/2005/11/anthony-lewis-1937-2005.html?m=1
Tra yng Ngwlad y Basg yn gwylio gêm bêldroed, mi wnaeth Bar Zulo, hen dref Bilbo yn reit da allan ohonom. http://m.flickr.com/#/photos/ianjamesjohnson/154405925/
Dw i'n meddwl bod y perchennog yn dipyn o foi o fewn y mudiad cenedlaethol yno:
http://m.flickr.com/#/photos/ianjamesjohnson/154405927/
Roedd Tafarn Ty Elise yn Llydaw, cyn llosgi, yn amlygu cenedlaetholdeb Cymraeg (yn y wlad anghywir, yn anffodus)
Musus edrach yn sarug yn fana
Post a Comment