Lluniau o Dre'r Ceiri ar ben yr Eifl ydi'r ddau lun cyntaf, pentrefi caerog yng Ngalithia ydi'r ddau arall. Mae'n rhyw hawdd meddwl mewn oes o globaleiddio cynyddol bod dylanwadau tramor yn nodweddion o'r byd modern - ond mae dylanwadau felly yn mynd yn ol ymhell, bell.
Mae'r pentrefi caerog Celtaidd yn dyddio o'r Oes Efydd - ond roedd croes beillio diwylliannol yn digwydd ymhell cyn hynny rhwng gwahanol rannau o Ewrop. Roedd hyn yn arbennig o wir am lefydd arfordirol fel Cymru a Galithia oherwydd bod mynd o'r naill le i'r llall efo cwch neu long yn beth gweddol hawdd.
No comments:
Post a Comment