Thursday, December 08, 2011

Helynt yr arholwyr a bandio ysgolion

Mae'n debyg bod yna rhywbeth addas yn y ffaith i fandiau perfformiad y Cynulliad gael eu rhyddhau ar yr un diwrnod ag ymddangosodd stori yn y Telegraph am dwyllo honedig gan arholwyr - gan gynnwys rhai sy'n gweithio i CBAC.  Os ydi'r stori honno'n wir, yna mae'n un gwbl syfrdanol.

Y berthynas rhwng y ddwy stori ydi bod adeiladu pwysau a chystadleuaeth chwyrn i mewn i unrhyw gyfundrefn - fel mae cyhoeddi bandiau ysgolion yn ei wneud - yn siwr o arwain at rhywfaint o ymdrechion eithafol, ac o bryd i'w gilydd  cwbl amhriodol gan ambell un  i achub y blaen ar eraill.

Os ydi llywodraeth Cymru yn benderfynol o greu cyfundrefn mwy cystadleuol yn y byd addysg Cymreig, yna mae'n bwysig eu bod yn sicrhau bod eu dulliau o fesur a chymharu yn wrthrychol ac yn effeithiol, a bod y strwythurau sy'n mesur ac yn cymharu yn hollol dryloyw a gwrthrychol.

Os ydi honiadau'r Telegraph yn wir, 'dydi pethau ddim wedi cychwyn yn arbennig o dda.

Gellir dod o hyd i fandiau'r Cynulliad yma.  

3 comments:

Anonymous said...

Ysgol Friars yn Band 4!

O Gaergybi i Gricieth bydd y dosbarth canol gwrth-Gymreig sydd yn gwario ffortiwn ar dacsis i gludo'u epil i Fangor yn cael cathod!

Dylan said...

Dw i'n gynnyrch un o ysgolion gwaethaf Cymru felly? Chwarae teg i mi am feddu'r gallu i gyfansoddi'r brawddegau yma!

Ioan said...

Syr Huw,
GCSEs WJEC,
a gradd Prifysgol Cymru.

Da de!