Thursday, February 18, 2010

Byd Nia ac un Kerry Keith

Papur lleol diddorol ydi'r Llanelli Star - 'dwi ddim yn tynnu coes. Mae'r Byd - neu o leiaf fersiwn Llanelli o'r Byd yno yn ei gyfanrwydd, ac mae'n rhoi sylw teilwng iawn i wleidyddiaeth yr ardal, ac mae ganddo hefyd dudalen Gymraeg.

Er enghraifft mae'r storiau isod o'r argraffiad cyfredol yn ddigon diddorol. Mae yna stori ofnadwy o drist am yr Aelod Seneddol lleol, Nia Griffith (New Labour) yn gorfod talu £4,100 yn ol i awdurdodau San Steffan ar ol hawlio gormod o bres am forgais am ei thy yn Llundain tros gyfnod o dair blynedd. Nid mai bai Nia oedd hynny wrth gwrs - o na, mae'n egluro mai'r hen gwmni morgais gwirion 'na oedd y bai yn anghofio dweud faint yn union roedd yn ei dalu yn yr adroddiadau misol, yn ogystal a bod yr hen swyddfa ffioedd wirion yna yn mynnu gor dalu iddi hi - er iddi grefu arnynt i wirio pethau ar ddiwedd pob blwyddyn.




Ag ystyried mor gwbl ddi niwed oedd Nia, mae llawn cystal ei bod yn byw ac yn gweithio yn swigan San Steffan - swigan fach lle nad ydi'r math o reolau mae'r rhan fwyaf ohonom yn gorfod ildio iddynt yn bodoli. Wedi'r cwbl mae'r rhan fwyaf ohonom yn gwbl gyfrifol am unrhyw bres yr ydym yn ei hawlio yn ein gwaith, ac os ydym yn gwneud camgymeriad rydym yn cael ein hunain yn atebol i drefn ddisgyblu, ac o bosibl i lys barn.

Nid pawb o'i etholwyr Nia sydd mor lwcus fodd bynnag - er enghraifft ystyriwch y stori fach isod - hefyd o argraffiad cyfredol y Star.


Fel y gwelwch, cafodd Kerry Keith Jenkins, 27 bethefnos o garchar am ddwyn gwerth £12.85 o fwyd o Tesco Caerfyrddin. Fedar neb ddweud bod New Labour yn feddal pan mae'n dod i gyfraith a threfn (efo pobl nad ydynt yn aelodau seneddol neu'n fancwyr o leiaf). Byddai rhai yn dweud y dylai Kerry Keith fod wedi ceisio lled efelychu amddiffyniad ei Aelod Seneddol a dweud bod Tesco wedi anghofio dweud wrtho bod disgwyl iddo dalu am y bwyd.

Gwastraff amser fyddai hynny yn fy marn i - 'dydi Nia a Kerry Keith ddim yn byw yn yr un Byd a dydyn nhw ddim yn ddarostynedig i'r un math o reolau.

Cliciwch ar y lluniau os nad ydynt yn eglur i chi.

No comments: