Wednesday, February 24, 2010

Nia Post


Mi fydd darllenwyr rheolaidd blog yma'n gwybod fy mod yn un o edmygwyr Nia Griffith, aelod seneddol Llafur Llanelli.

Un o nodweddion llythyru etholiadol diweddar Nia ydi'r cyfeirio mynych at swyddfeydd post. Yn wir mae wedi dosbarthu papur yn ddiweddar yn ymwneud yn benodol a'i hymdrechion arwrol i gadw cyfrif cerdyn y Swyddfa Bost, ac ymdrechion llawn mor arwrol ei llywodraeth i ariannu y 'rhwydwaith presennol' o 1,500 swyddfa.



Mi fydd Nia yn hoff iawn o ddilyn yr un trywydd yn ei cholofn yn y Llanelli Star. Yn yr isod (Chwef 3) mae'n gwneud mor a mynydd o record y llywodraeth tra'n gwadu iddi bleidleisio o blaid y cau. Mae ail bwynt yn dechnegol gywir (fel mae'n dweud 'doedd yna ddim pleidlais) , ond fel y cawn weld mae'n hynod gamarweniol.



Am rhyw reswm 'dydi'r pamffled na'r erthygl ddim yn trafferthu nodi bod ei llywodraeth wedi cau 2,500 swyddfa o fis Hydref 2007 ymlaen (yn ogystal a llawer cyn hynny). Roedd 157 o'r rhain yng Nghymru, gan gynnwys swyddfeydd Swiss Valley, Stryd Thomas a Phorth Tywyn yn ardal tref Llanelli yn ogystal a nifer o rai eraill yn y cyffuniau.

Mae Nia ymysg yr aelodau seneddol mwyaf ffyddlon i'r arweinyddiaeth o ran ei phatrymau pleidleisio. 'Dydi ei phleidleisio ynglyn a dyfodol swyddfeydd post ddim gwahanol i'w phleidleisio cyffredinol - mae wedi pleidleisio gyda'r llywodraeth ar pob achlysur. Mae hyn yn cynnwys pleidleisio yn erbyn cynnig gan yr wrthblaid yn beirniadu'r cynlluniau i ddiddymu'r cyfrif credyd (mi newidiodd James Parnell ei feddwl yn ddiweddarach a chaniatau i'r drefn barhau), o blaid cynnig yn canmol cynlluniau cau swyddfeydd post y llywodraeth, yn erbyn cynnig i ohirio'r cau tra bod ail asesiad yn cael ei gynnal ac o blaid cynnig yn canmol record erchyll y llywodraeth.

A dyna ydi'r brobem efo Nia, pan mae yn Llanelli mae eisiau cael ei gweld fel aelod sydd yn edrych ar ol ei hetholaeth ddi freintiedig, a phan mae yn Llundain mae'n rhoi ei bryd ar gefnogi buddiannau llywodraethol New Labour. Mae ceisio gwneud y ddau beth ychydig fel ceisio creu cylch ar ffurf sgwar - felly mae'n dewis cefnogi'r llywodraeth yn ddi eithriad yn Llundain, a chymryd arni ei bod yn gefnogol i fuddiannau ei hetholaeth yn y Star ac yn ei gohebiaeth gwleidyddol.

Neis iawn.

1 comment:

Anonymous said...

Tair gwaith pleidleisiodd Nia Griffiths i gau'r swyddfeydd post! Tydan ni ddim eisiau llais San Steffan yn Llanelli ond llais Llanelli yn San Steffan! Cloman...