Thursday, February 18, 2010

Y Toriaid - mewn cysylltiad efo pobl gyffredin?


Mae'n hawdd deall cynddaredd aelodau seneddol Toriaidd eu bod am orfod teithio ail ddosbarth o hyn allan - neu a bod yn fwy manwl oherwydd nad ydi'r trethdalwr am dalu iddynt deithio dosbarth cyntaf o hyn allan. Wedi'r cwbl, fel mae Sir Nicholas Winterton yn dweud, mae yna totally different type of people yn y cerbydau ail ddosbarth - hynny yw rhai mwy fel chi a fi na fel Sir Nicholas.

Efallai petai Toriaid yn cymysgu ychydig mwy efo pobl go iawn na fyddant yn gwneud camgymeriad mor ryfeddol a'r un y gwnaethant yn ddiweddar pan oeddynt yn honni bod 54% o enethod yn eu harddegau yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y DU yn beichiogi cyn eu bod yn 18 (5.4% ydi'r gwir ganran).

Fyddai hi ond yn bosibl gwneud camgymeriad fel hwn petai rhywun yn ystyried pobl sy'n byw mewn ardaloedd di freintiedig yn aelodau o rhyw rywiogaeth wahanol. Byddai angen gwyrth ystadegol i dros hanner o unrhyw gohort dwy neu dair blynedd fod yn feichiog ar yr un pryd. Byddai'n anhebygol iawn o ddigwydd petai pawb o fewn y cohort yn gwneud ei gorau glas i feichiogi.

Ond wedyn os nad ydym hyd yn oed eisiau rhannu cerbyd tren efo pobl o gefndiroedd gwahanol i ni'n hunain, mae'n debygol ein bod yn dod i edrych arnynt fel aelodau o rywiogaeth arall - rhywbeth rhwng cwningod ag aelodau o'r ddynol ryw yn yr achos yma.

2 comments:

Anonymous said...

hmmmm, mae hwn yn swnio gormod fel sbin Llafur.

Petai wedi defnyddio'r geiriau 'customer' yn lle 'people' fydde ddim problem. A fyddai'n well gen ti fod dy AS ddim yn gweithio o gwbl ar y tren. Petai ti'n etholwr iddo ac wedi sgwennu llythyr yn cwyno am gymydog treisgar neu safon athrawon ysgol dy blant, a fydde ti am i dy AS fod mewn caraje lle mae mwy tebygol fod pobl eraill yn gallu gweld dy lythyr a fod yr AS yn cael ei ddisbtyrbio gan bobl eraill?

RR said...

Fel ddydodd ffrind i mi sydd yn gweithio yn y wasg yn lloegr,
"Ddim y ffaith bod tim y wasg geidwadol mor anhrefnus i peidio sylwi ar y gwall sydd yn fy mhoeni, ond fod nhw'n meddwl fod hon yn ffigwr credadwy am y ddifreintiedig!"

Duw a helpa ni ar ol mis Mai 'ma.