Thursday, February 25, 2010

Mwy o feddwl clir o gyfeiriad Llais Gwynedd

Mae'n weddol amlwg i unrhyw un sy'n darllen y blog yma fy mod yn ystyried Llais Gwynedd a rhesymeg yn elynion chwyrn. Un o'r pethau da am flog Gwilym Euros ydi bod y canfyddiad hwn yn cael ei atgyfnerthu bron yn ddyddiol.

Cymerer y blogiad hwn a ymddangosodd ddoe er enghraifft. Dadlau mae Gwilym bod Plaid Cymru yn 'rhagrithiol' oherwydd i'r Blaid yn Sir Gaerfyrddin bleidleisio yn erbyn codi am gludiant i golegau chweched dosbarth, tra bod llawer o aelodau'r Blaid yng Ngwynedd wedi pleidleisio i godi £5 yr wythnos y myfyriwr y llynedd. Ceir yr un cyfeiriad at ragrith os digwydd i rhyw grwp Plaid Cymru yn rhywle neu'i gilydd wrthwynebu rhyw gynllun ail strwythuro addysg sirol neu'i gilydd.

'Dydi o ddim yn cymryd llawer o waith meddwl i ddeall bod y ddadl yma'n sbwriel o'r radd eithaf. Ystyrier y ffeithiau hyn - mae yna 22 cyngor unedol yng Nghymru ac mae yna ganoedd o gynghorau plwyf a thref. Tros Brydain mae yna ganoedd lawer o gynghorau unedol, sir, bwrdeisdrefol, trefol a dinesig a miloedd o rai plwyf. Ymddengys bod llais Gwynedd o'r farn y dylai Toriaid Nofolk bleidleisio i gau eu toiledau cyhoeddus i gyd os ydi Toriaid Dorset wedi gwneud hynny, y dylai Lib Dems Cernyw ddiffodd eu goleuadau stryd o 12:00 tan 5:00 os ydi Lib Dems Rhydychen wedi gwneud hynny, y dylai Llafur Bryste bleidleisio i gynyddu'r tal am ginio ysgol os ydi Llafur Darlington wedi gwneud hynny ac y dylai'r Blaid Werdd yn Efrog gefnogi cynllun ail strwythuro addysg y ddinas honno oherwydd i'r Blaid Werdd yn Brighton & Hove gefnogi cynllun ail strwythuro addysg yn eu hardal nhw.

Yn y cyfamser mae pethau ychydig yn fwy cymhleth yn y byd gwleidyddol arall hwnnw - yr un mae pawb ond am Lais Gwynedd yn byw ynddo. Mae llywodraeth leol yn gyfrifol am ganoedd o elfennau ar wasanaethau cyhoeddus, a 'dydi polisiau cenedlaethol pleidiau ddim yn ymwneud yn uniongyrchol a'r mwyafrif llethol ohonynt. O ganlyniad mae'r gyfrifoldeb o benderfynu sut y dylid mynd ati i lywodaethu yn fater lleol. Mae llywodraeth leol hefyd yn ei hanfod (yn amlwg ddigon) yn lleol ac mae penderfyniadau yn cael eu cymryd yn lleol gan gymryd ffactorau lleol i ystyriaeth yn bennaf os nad yn llwyr. Mae'r mater bach os ydi plaid yn rheoli cyngor ac yn gorfod cyd bwyso'r llyfrau ariannol neu yn wrthblaid yn un ystyriaeth ymysg llawer.

Fyddai hi ddim yn bosibl i Blaid Gomiwnyddol Stalin yn y pumdegau feicroreoli pob penderfyniad gan pob gweinyddiaeth leol - doedden nhw ddim yn trafferthu ceisio gwneud hynny - byddai cwrs o'r fath yn arwain at anhrefn llywodraethol. Duw yn unig a wyr pam bod Llais Gwynedd o'r farn y dylid gwneud hyn mewn cyfundrefn llywodraeth leol ddemocrataidd. Efallai ei fod yn rhywbeth i'w wneud efo'r ffaith bod Llais Gwynedd yn unigryw bron i'r graddau mai ar un cyngor yn unig mae ganddynt gynrychiolaeth.

14 comments:

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Cai- Er mwyn i mi fod yn "glir" felly, ti'n fy meirniadu i a Llais Gwynedd am gymryd yr union safbwynt mae cynghorwyr dy Blaid yn ei gymryd yn Sir Gar ac ti'n barod i bobol ifanc Gwynedd dalu am gludiant i dderbyn eu haddysg tra mae'n debyg y bydd pobol ifanc Sir Gar yn ei gael am ddim (diolch i ymdrechion Plaid Cymru).
Ok...dwi'n deallt rwan...dwi'n meddwl? ;-{

menaiblog said...

O ddarllen yr hyn rwyt newydd ei 'sgwennu mae'n weddol amlwg nad wyt yn deall.

Dyfrig said...

Tra bo' 'na lot o wirionedd yn yr hyn yr wyt ti'n ei ddweud, dwi yn credu bod yn rhaid i ni gymeryd sylw o feirniadaeth Gwilym. Dwi ddim am feirniadau neb o fy nghyd-aelodau, ond mae gan Blaid Cymru y tueddiad i neidio yn reddfol am y safbwynt gwrthwynebol. Mae hyn yn ganlyniad naturiol o fod yn blaid leiafrifol am gyhyd.
Erbyn heddiw, rydym ni'n aelodau o lywodraeth genedlaethol, ac yn dod yn rym cynyddol ar lefel llywodraeth leol. A dwi'n credu ei bod hi'n gwneud bywyd yn anodd i'r aelodau hynny sydd mewn llywodraeth pan fo ein cyd-aelodau yn cymeryd safbwyntiau sydd mor uniongyrchol groes.
Nid galw am unffuriaeth barn ydw i, ond dwi yn poeni bod perygl i ni fynd yn rhy debyg i'r Lib-Dems. Hynny yw, ein bod ni'n seilio ein strategaeth etholiadol ar ymgyrchu yn erbyn beth bynnag sydd yn amhoblogaidd yn lleol. Oherwydd fel y mae'r Lib-Dems eu hunain yn ei ddangos, mae honno yn strategaeth sydd yn llwyddiannus iawn ar lefel leol, ond sydd yn gallu tanseilio ymgyrchoedd cenedlaethol.

menaiblog said...

Mae'r gyfundrefn yn Sir Gaerfyrddin (dim grym o gwbl yn cael ei rannu efo'r Blaid - y cwbl gan y glymblaid Annibynnol / Llafur)yn gwneud gwleidydda sydd yn ei hanfod yn wythwnebus yn llawer mwy tebygol.

Y broblem yng Ngwynedd ydi hyn - rhennir grym, ond mae un o'r grwpiau sy'n rhannu'r grym yn gwleidydda fel na phe baent yn gwneud hynny. Mae'r grwpiau eraill yn llawer mwy adeiladol wrth gwrs.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Cai - Oh no!..."Not that old chestnut"..."da chi yn rhan o'r Bwrdd, ysgwydwch eich pennau a byddwch yn hogia da a cytunwch efo bopeth...na ni".
Paid a bod mor wirion nei di! Os oes rhywbeth ddim yn iawn, ddim yn deg ac yn fater o bryder gan y cyhoedd yna mae'n ddyletswydd onid ydi i rhywun sefyll a dweud hynny?

menaiblog said...

Ydi a nac ydi Gwilym.

Mae'n briodol i bawb gael ei safbwynt a mynegi hwnnw. Ond 'dydi hi ddim yn briodol i grwp sy'n llywodraethu wahaniaethu rhyngddo ei hun a'r cyngor fel corfforaeth.

Mae rheoli yn golygu cymryd cyfrifoldeb, ac weithiau mae'n rhaid gwneud pethau amhoblogaidd er mwyn rheoli'n effeithiol. 'Dydi ceisio cysylltu dy hun efo pob dim poblogaidd mae'r cyngor yn ei wneud a phellhau dy hun oddi wrth pob dim amhoblogaidd ddim yn reoli cyfrifol, nag yn wir yn reoli o gwbl.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Cai - Cytuno, dyna pam dwi wedi dwued mae'n debyg y byddai'n rhaid i'r Cyngor cael gwared o tua 600 o swyddi maes o law oherwydd diffyg arian (er nad yw hynny yn fy ngwneud yn hapus o gwbwl). Bod yn realistig ac yn onest oeddwn i, ond eto roedd yr "Arweinydd" a rhai aelodau amlwg o dy Blaid yn ymosod arnaf am dweud fath beth.
Mi gynigiodd aelod o Blaid Cymru codiad yn y dreth o 3.6% yn groes i be ddaru "Arweinydd" y Cyngor sef 3.9%. Ddaru mi ac aelodau eraill Llais Gwynedd heblaw un gefnogi 3.9% gan y byddai cynydd llai wedi golygu toriadau pellach i wasanaethau...Gobeithio bod y ddau engraifft bach yma yn cyfri fel rheoli effeithiol gen ti ac yn dangos mod innau weithau yn barod i gynnig/cefnogi pethau amhoblogaidd.

Dyfrig said...

Gwilym,
Mi oeddwn i'n eistedd mewn cyfarfod fythefnos yn ol, ac fe wnaed sylw sydd yn berthnasol iawn i chi yn Llais Gwynedd - "Tydi pobl yng Nghymru ddim yn deallt y gwahaniaeth rhwng pwyllgor a bwrdd". Pan ti'n eistedd ar Fwrdd - boed hwnnw'n gorff cyhoeddus neu'n gwmni preifat - mae 'na ddyletswydd arna ti i ymarfer yr hyn mae'r Sais yn ei alw yn Collective Responsibility. Hynny yw, mae gen ti rwydd hynt i gynnig safbwyntiau croes mewn trafodaethau mewnol, ond unwaith y mae'r Bwrdd wedi dod i benderfyniad, mae'n rhaid i bob aelod gefnogi'r penderfyniad hwnw. Os nad oes modd i chdi wneud hynny, yna maw cyfrifoldeb arna chdi i ymddiswyddo dy sedd. Mae hi'n amhosib rhedeg corff gweithredol, megis Bwrdd, pan mae Aelodau unigol yn methu a pharchu barn y mwyafrif.

Dyfrig said...

A rhag ofn dy fod yn credu mod i'n dyfeisio'r sdwff 'ma, edrych ar dy swydd ddisgrifiad. Mae disgwyl i Arweinydd Portffolio

"Weithredu fel aelod o Fwrdd y Cyngor i gymryd penderfyniadau torfol i sicrhau gweithrediad effeithiol ac effeithlon busnes y Cyngor."

Os nad wyt ti'n gallu cymeryd penderfynidau torfol a glynnu wrth y penderfyniadau hynny, yna dwyt ti ddim yn cyflawni gofynion dy swydd.

menaiblog said...

Chafodd y 600 erioed eu harenwi - felly doedden nhw erioed yn amhoblogaidd.

Mae torri'n fwy amhoblogaidd na threthu ar hyn o bryd, felly'r 3.9% oedd y mwyaf poblogaidd.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Dyfrig - Diolch am dy Gyngor, ond fe ffeindi di petaet yn siarad efo pennaeth yr adran dwi'n gyfrifol amdano a'r staff, fy mod yn gwneud y swydd i safon uchel iawn.
Mae dy awgymiad y dyliwn i ymddiswyddo am beidio cytuno a phob penedrfyniad y Bwrdd yn hyrt!
I fynd a fo i'r eithaf, onid felly ddylai Ieuan Wyn Jones ymddiswyddo fel Arweinydd Plaid Cymru am ei fod 100% o blaid Wylfa B ond mae polisi y Blaid y erbyn? Yntau ydi hynny'n iawn?

Anonymous said...

Gwilym bach, be nawn i efo chdi da. Ti dal heb ddeall naddo. Plaid di Plaid Cymru nid Bwrdd rheoli felly ma dy ddadl bach di yn hyrt....fel arfer.

Sa ddim rhyfedd dy fod yn fotio i'r torries go iawn nag oes....ti yn union fel david cameron yn trio bod yn bob dim poblogaidd i bawb.

Dim bols sgen ti Gwilym a dyna pam fyddi di, na dy blaid bach wirion, fyth mewn pwer.

Gobeithio dy fod ti yn un o'r 600 na neith golli ei gwaith achos mae o yn hyrt bost fy mod i talu treth i gadw rwdlyn fatha chdi mewn sedd.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Anon - "Dim bols sgen ti Gwilym"...Hahaha, doniol iawn a chysidro dy fod TI yn gadael y neges yna yn ddi-enw yntau di-asgwrn cefn ddylai hynny fod? ;-)

Anonymous said...

y peth ddyla pawb nodi yma ydi na wnaeth Gwilym bach (er dwnim pam dwi alw fo yn fach) wadu ma torri ydio go iawn!! Diddorol. sgen ti 'duck house' Gwilym? ;-)