Tuesday, February 23, 2010

'Twyll etholiadol' Glasgow North East - rhan o batrwm cyfarwydd

Pam nad ydi'r stori bod Llafur yn cael ei hamau gan rai o dwyll etholiadol yn Glasgow North East y llynedd yn syndod mawr? Efallai mai'r ateb ydi bod stori fel hon yn ddigon cyffredin mewn perthynas a'r Blaid Lafur. Meddylier er enghraifft am:

  • honiadau yn erbyn llysfam Cherie Blair, Steph Booth pan gafodd ei dewis i sefyll yn Calder Valley tros Lafur y llynedd.

  • Maqpul Hussein yn cael ei hun wedi ei ethol ar gyngor PeterboroughPeterborough trwy ffugio canoedd o bleidleisiau post.





Gellir cymryd mai lleiafrif bach o achosion fel hyn sy'n dod i sylw'r wasg neu'r heddlu.

Mae gwrthwynebwyr Llafur mewn aml i ardal yn y DU tros y blynyddoedd wedi eu rhyfeddu gan gymaint o bleidleisiau post maent yn llwyddo i'w hennill - hyd yn oed mewn ardaloedd lle roedd eu hymgyrch yn ddigon tila. Llywodraeth Lafur cyntaf Tony Blair oedd yn gyfrifol am wneud y broses o hawlio pleidleisiau post yn llawer, llawer haws nag oedd cyn hynny. Mae'n sicr bod Llafur wedi elwa mwy na neb arall o'r penderfyniad hwnnw.

Mae'n debyg mai gor ddweud fyddai honni bod diwylliant o dwyllo mewn etholiadau yn perthyn i Lafur - ond mae'n rhyfeddol mor aml mae'r storiau hyn yn ymwneud a nhw.

No comments: