Wednesday, February 03, 2010

Mr Tew a Mr Ashkar - sylw neu ddau

Mae hi'n ddigri gweld yr holl wylofain ac ysgyrnygu dannedd yn sgil ymadawiad Mr Tew a'r Blaid Geidwadol. Gweler yma, er enghraifft. Tra'i bod bellach yn drosedd yn erbyn dynoliaeth i unigolyn newid plaid, roedd yn weddol ddigri pan wnaeth Mohammad Ashgar yr un peth rai misoedd yn ol.

Deallaf y bydd y stori yn ymddangos yn y cyfryngau prif lif yfory. Cyn hynny hoffwn son am un neu ddau o bethau yn fy nharo ynglyn a'r holl fusnes .

(1) 'Dydi o ddim yn rhywbeth arbennig o anarferol i wleidydd newid plaid, mae llawer wedi gwneud hynny ar pob lefel - Churchill, David Owen, Roy Jenkins, Sean Woodward, Seimon Glyn, Guto Bebb wrth gwrs, Elystan Morgan, Arlene Foster _ _ . Mae'r rhestr yn ddi ddiwedd, a fel yna mae hi wedi bod erioed. Mae'r rhesymau pam bod pobl yn newid plaid hefyd yn amrywio'n fawr - weithiau er mwyn hyrwyddo gyrfa, weithiau oherwydd newidiadau ym mholisiau'r naill blaid neu'r llall, ac weithiau am resymau personol neu deuluol.

(2) Mae'n wirion braidd ceisio dod i rhyw gasgliadau mawr pan mae rhywun neu'i gilydd yn gadael. Mae rhai wedi casglu o'r busnes Oscar bod perygl mewn caniatau i bobl sydd o gefndir ideolegol amheus i gynrychioli plaid - ond mae Mr Tew ar aml i wedd yn ymddangos yn Dori o gefndir gweddol nodweddiadol o ddilynwyr y blaid honno - ond gadael wnaeth yntau. Mae Seimon Glyn sy'n genedlaetholwr o argyhoeddiad wedi gadael Plaid Cymru am grwp sydd a phedigri ideolegol mwy anelwig o lawer.

(3) Mae goblygiadau ehangach i ymadawiad o'r math yma weithiau, ond dro arall mae'n ddigwyddiad ynysig . Weithiau mae'n arwydd o ddiflastod cyffredinol, ac weithiau'n benderfyniad unigol. Tybed pa un sydd nesaf ati y tro hwn?

9 comments:

Aeron said...

Cai, dim yn aml fyddwn yn dod i dy flog, ond mi wnaeth hwn ddal sylw o flog un arall dwi yn ei ddilyn. Roedd yr holl hw ha am Ashgar yn gadael Plaid i'r Tories gan aelodau y Blaid yn anhygoel ac am iddo ymddiswyddo ei sedd a phopeth. Lle mae'r aelodau hynny yn gweiddi efo sefyllfa Mr Tew yn ymuno a Plaid Cymru ?
Cofier hefyd cynghorwyr wnaeth ymuno a Plaid yma yng Ngwynedd Glyn ac Eddie o Llafur ymysg eraill.
Fy hunan wel, dwi ddim yn meddwl dylai Mr Tew ymddiswyddo fel mae rhai yn galw iddo wneud, yn hytrach, fe fydd gan ei etholwyr ddewis pendant i wneud yn etholiad nesaf sef y Ceidwadwyr neu'r Ceidwadwyr Cymraeg sy'n mynd o dan ambarel Plaid Cymru.

Unknown said...

Helo Cai - da oedd dy gyfarfod di neithiwr, a chael rhoi wyneb i Blog Menai ar ol sawl blwyddyn o ddarllen.

O ran rhywun etholedig yn newid plaid, mae gwahaniaeth syflaenol rhwng rhywun a etholwyd ar system y Cyntaf i'r Felin, a rhywun a etholwyd ar system gyfrannol megis seddi rhestr y Cynulliad. A dyna'r gwahaniaeth rhwng sefyllfa Oscar a'r Cynghorydd Tew.

Ar restrau'r y Cynulliad, dyw hi ddim yn bosib dweud i ba unigolyn y rhoddwyd pleidlais, felly'r blaid sydd a'r fandad, nid yr unigolyn.

gwion said...

Efallai ei bod yn bosib gwahaniaethu rhwng y ddau ddigwyddiad ar y sail bod pobol wedi pleidleisio drost PC fel parti yn y Cynulliad a'u bod hwythau yna wedi rhoi y sedd i Asghar. Cafodd Mr Tew ei bleidleisio fewn fel unigolyn oedd yn digwydd cynrychioli y Blaid Geidwadol ac felly mae ganddo fandad ei hun, er dwi'm yn gwadu bod y ffaith ei fod yn Geidwadwr wedi ennill pleidleisiau iddo.

Cai Larsen said...

Roedd hi'n braf cyfarfod efo tithau Iwan 'Dwi'n meddwl fy mod wedi cyfarfod a Gwion eisoes!

Dwi'n derbyn pwynt y ddau ohonoch ynglyn a'r rhestr. Mae'r drefn rhesr ei hun yn y bon y ddiffygiol a dylid ael trefn gyfrannol well.


Aeron - fe fydd gan ei etholwyr ddewis pendant i wneud yn etholiad nesaf sef y Ceidwadwyr neu'r Ceidwadwyr Cymraeg sy'n mynd o dan ambarel Plaid Cymru.

Ti'n camddaeall y drefn wledyddol yng Nghymru mewn ffordd eithaf difrifol yma Aeron.

Mae'n wir bod yna endid o'r enw y Ceidwadwyr Cymreig - ac mae yna Geidwadwyr Prydeinig. David Cameron sy'n arwain y ddau, er bod Nick Bourne yn arwain y fersiwn Gymreig yn y Cynulliad. Mae yna gysylltiad cyfansoddiadol clos rhwng y ddau endid. Yn y diwedd mae'r blaid Gymreig yn gydadran o'r un Brydeinig.

'Dydi hi felly ddim yn bosibl i'r Blaid Geidwadol Gymreig sefyll yn erbyn y Blaid Geidwadol Brydeinig mewn etholiadau - byddai hynny'n groes i gyfansoddiad y ddwy blaid. 'Does yna ddim cysylltiad rhwng Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig (na'r rhai Prydeinig yn ammlwg ddigon). O 'dan ymbarel' y Blaid Geidwadol Brydeinig mae'r Blaid Geidwadol Gymreig.

Dydi Mr Tew ddim bellach yn aelod o'r nall blaid Geidwadol na'r llall wrth gwrs.

Aeron said...

CAI, na dim wedi camddeallt, bon yn sarcastig oeddwn efo Ceidwadwyr Cymreig dyna beth dwi yn galw Plaid Cymru yma yng Nghymru sef y Ceidwadwyr Cymreig dosbarth canol.

Tydi Plaid Cymru ddim yn blaid sosialaidd bellach felly dwi ymysg eraill yn eu cysylltu efo'r Ceidwadwyr Cymreig yng Nghymru.

Cai Larsen said...

Diddorol Aeron.

Y feirniadaeth sy'n cael ei chyfeirio gan amlaf at y Blaid yw'r un groes - ei bod yn rhy adain Chwith.

Efallai y byddet cystal a nodi pa feysydd polisi o eiddo'r Blaid rwyt yn eu hystyried yn rhai adain Dde?

Aeron said...

Mae dweud a gwneud yn ddau beth gwahannol.

Anonymous said...

Difyr hefyd i gofio nad oes unrhyw fodd a ellir ystyried plaid Aeron, y Gynghrair Gwrth Blaid Cymru yn Sosialwyr chwaith. Ydy Aeron wedi ymuno a'r blaid anghywir felly?

Cai Larsen said...

Aeron - Mae dweud a gwneud yn ddau beth gwahannol.

Mi gymran ni o hynny nad wyt y gallu meddwl am unrhyw feysydd plisi sy'n gosod y Blaid ar y Dde yn wleidyddol.

Pa esiaplau sydd gennyt o'r Baid yn ymarfer grym mewn modd y gellid ei ddisgrifio fel un adain Dde?