Mae'r Toriaid wedi gweithio'n galed i gael gwared o'r tag nasty party. Un o'r pethau oedd y tu cefn i'r ddelwedd honno oedd y ffaith bod canfyddiad bod y Blaid Doriaidd yn 'rhagfarnllyd' - hynny ydi eu bod yn barnu pobl ar sail yr hyn ydynt yn hytrach na phwy ydynt. Dyna pam bod cymaint o ymdrech wedi ei wneud gan y blaid i gael ymgeiswyr benywaidd, Asiaidd ac ati. 'Dwi'n digwydd credu bod y feirniadaeth o'r blaid Geidwadol fel un sydd ei hanfod yn rhagfarnllyd yn or simplistaidd - mae'r blaid wedi bod yn babell gweddol eang erioed - ac mae yna ffrwd ryddfrydig gref wedi bodoli o gychwyn ei hanes bron. Ta waeth, stori arall ydi honno - roedd y canfyddiad hwnnw'n gryf erbyn 97 - ac roedd yn un o'r rhesymau am y chwalfa yn y bleidlais geidwadol bryd hynny.
Un o'r pethau anisgwyl sydd wedi codi o'r holl fusnes Dennis Tew ydi'r sylw sydd wedi ei roi mewn cylchoedd Toriaidd i'r ffaith ei fod yn ddyn mewn oed - 'dydi rhagfarn yn erbyn yr henoed ddim yn rhywbeth sy'n cael ei gysylltu efo' Toriaid gan amlaf. Er enghraifft, dyma rai o'r sylwadau sydd wedi ymddangos ar flogiau Ceidwadwyr Aberconwy a The Thoughts of Oscar.
A thoughtful and reasoned response to the dissapointing behaviour by this elderly man. Well worded.
I understand that there are many young and bright contenders for his candidacy (a friend of mine being one of them)
80 years old.The old Fart shouldnt be a councillor. He shouldnt be allowed out after dark. In case you think I am nasty to the man I must point out that I am in my 79th year so cant be accuse of ageism.
Which octogenarian said the above in a widely distributed letter written by his newmasters?
Mae yna nifer o sylwadau eraill hefyd, mi gewch chi chwilio amdanynt eich hunain
Wrth ymateb i'r erthygl yn Golwg mae Guto ei hun gwneud y sylw rhyfedd braidd - 'Dwi'n credu bod Plaid Cymru wedi defnyddio dyn yn ei oed a'i amser'. Rwan mi fyddwn (yn y rhan yma o Gymru o leiaf) yn defnyddio'r term yn ei oed a'i amser i olygu rhywun sydd wedi tyfu i fyny - hynny yw rhywun nad yw'n laslanc (neu lances). 'Dydi sylwadau Guto ddim yn gwneud llawer o synnwyr yn y cyd destun hwnnw - felly mae'n debyg gen i mai cyfeiriad at y ffaith bod Mr Tew wedi hen gyrraedd a gadel oed yr addewid ydi'r sylw.
'Rwan mae'n amlwg at beth mae'r sylwadau yn cyfeirio - mae lleiafrif o bobl mewn oed yn dioddef gyda phroblemau meddygol sy'n effeithio mewn ffordd negyddol ar eu iechyd meddwl a'u deallusrwydd. 'Dydi hyn ddim yn wir am Mr Tew, a 'dydi o ddim yn wir am fwyafrif llethol pobl mewn oed. Mi fyddai'n llawer gwell gen i yn bersonol gymryd cyngor ar y rhan fwyaf o faterion gan rhywun mewn oed a phrofiad bywyd ganddo i dynnu arno na chan rhywun ieuengach o lawer.
Mae rhywbeth digon hyll am ddefnyddio'r ffaith bod rhai pobl mewn oed yn dioddef o broblemau efo'u deallusrwydd er mwyn bwrw amheuaeth ar ddilysrwydd penderfyniad gwleidyddol gan Mr Tew i adael y Blaid Doriaidd. Nasty fyddai'r ansoddair Saesneg o bosibl. Ach a fi.
1 comment:
Ffurfiodd William Gladstone lywodraeth tra'n 83!
Post a Comment