Monday, February 01, 2010

Senedd grog yn edrych yn fwyfwy posibl

ComRes sy'n awgrymu hynny y tro hwn:

Toris 38% (38)
Llaf 31% (29)
Lib Dems 19% (19)


'Dydi 7% o fwyafrif ddim yn ddigon i sicrhau mwyafrif llwyr i'r Toriaid. Mae rhai polau eraill wedi rhoi neges debyg tros yr wythnosau diwethaf.

Rho'r sefyllfa gyfle prin iawn i bleidiau megis Plaid Cymru i adeiladu naratif o'r hyn y byddant yn gofyn amdano cyn y byddant yn fodlon cefnogi'r naill blaid fawr Brydeinig neu'r llall. Mae'r blog yma wedi dadlau yn y gorffennol y dylai naratif y Blaid fod wedi ei ganoli ar ddiwigio'r ffordd mae Cymru'n cael ei hariannu. Dyma sut y gellid macsimeiddio cefnogaeth y Blaid - mae'n gyfle bron yn unigryw i'r Blaid fynd i etholiad gyda naratif bod pleidlais i'r Blaid yn bleidlais tros hunan les ariannol byr dymor.

Byddai colli'r cyfle yn drasedi.

2 comments:

Dyfed said...

Cytuno efo'r dadansoddiad. Credaf fod y Balid yn gweld hyn - ond bydd cael y neges allan drwy'r cyfryngau traddodiadol yn gymaint o her ag erioed. Wrth i'r polau wasgu, onid rhoi mwy o sylw i'r ddwy blaid fawr a wnaiff y cyfryngau ac o bosibl y Dem Rhydd?
Wrth gwrs, os bydd y polau yn agosau fymryf mwy (fel y gwelir cyn pob etholiad) bydd Llafur yn ddiogel am bedair blynedd arall. Trasiedi mwy, o bosibl!

Cai Larsen said...

Mae'r cwestiwn os ydi'r bwlch yn cau fel mae etholiad yn dynesu yn un diddorol - thema i flogiad efallai.

Mi fydd yn haws cael y neges allan os ydi senedd grog yn ymddangos yn debygol.