Friday, February 19, 2010

Pleidleisiwch i Blaid Cymru er mwyn amddiffyn gwasanaethau yng Nghymru


Mae'r blog yma wedi dadlau ers tro mai'r strategaeth fwyaf addas i'r Blaid ei dilyn yn etholiadau San Steffan ydi ei gwneud yn gwbl glir mai'r pris y byddai'n rhaid i'r prif bleidiau unoliaethol ei dalu am ei chefnogaeth os oes senedd grog ydi diwigio'r ffordd mae Cymru'n cael ei hariannu. Dylid gwneud hynny mewn modd fydd yn caniatau i ni osgoi'r toriadau enbyd mewn gwariant cyhoeddus sydd ar y ffordd. Gweler yma er enghraifft. Mae'n dda gen i weld bod arweinyddiaeth y Blaid yn cytuno.

Felly dyna ni - mae llinellau'r frwydr yng Nghymru yn gwbl glir bellach, ac maent yn gwbl syml. Mae gan bobl ddewis i bleidleisio i Blaid Cymru er mwyn amddiffyn gwariant cyhoeddus yng Nghymru, neu bleidleisio i un o'r pleidiau unoliaethol a chael savage cuts (a defnyddio term Nick Clegg). Amddffyn gwariant cyhoeddus neu fentro toriadau a allai arwain at doriadau mewn addysg a iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a gofal. Yn wir gallai toriadau'r pleidiau unoliaethol yn y pen draw arwain at ddiweddu cynlluniau fel clwbiau brecwast, presgripins am ddim, teithio am ddim i'r henoed a mynediad i amgueddfeydd am ddim.

Mae'r dewis yn un cwbl syml y tro hwn - torri ar wasanaethau efo'r pleidiau unoliaethol neu eu hamddiffyn trwy bleidleisio i Blaid Cymru

6 comments:

Anonymous said...

hmm. sut ti'n amddiffyn rhywbeth heb arian. Dwi jyst yn teimlo rhyw groundhog day o'r 1980au yn dod ymlaen.

Mae pobl yn gwybod fod rhaid torri'r brethyn rhyw faint a dydy pawb ddim yn credu fod pobl gweithiwr yn y sector gyhoeddus yn 'hard working people in the public sector'

Angen i'r Blaid fod yn ofalus o'i neges. Dydy pobl ddim eisiau torriadau ond dydy nhw ddim yn dwp a ddim eisiau cael eu nawddogi chwaith.

menaiblog said...

Mae Holtham wedi dangos yn ddigon clir bod Cymru yn caelei than ariannu.

'Dwi ddim yn gweld unrhyw beth yn nawddoglyd mewn mynnu bod llywodraeth Llndain yn gweithredu ar hynny.

Anonymous said...

Amddiffyn gwariant cyhoeddus?! Mae cynghorwyr y Blaid yn cefnogi'r Awdurdod Addysg yng Ngwynedd i gau ysgolion bach a chau unedau ol-gynnydd sydd yn hanfodol i blant anghenus. OND ar yr un pryd yn pasio bod rhai swyddogion addysg yn cael codiad cyflog o ryw £7000! PC wedi colli llond llaw o bleidleiswyr ffyddlon yn ty i!

menaiblog said...

Anyhysbys 2

Tros y flwyddyn nesaf bydd hyd at 4,000 o swyddi yn cael eu torri mewn llywodraeth leol yng Nghymru - a bydd pob un o'r toriadau hyn yn cael effaith ar wasanaethau cyhoeddus.

Rwan nid cynllwyn gan Blaid Cymru ydi hyn - mae'n effeithio ar pob un cyngor - a dim ond mewn llond dwrn mae'r Blaid yn rheoli neu'n rhannu rheolaeth - pleidiau unoliaethol neu annibynwyr y'n rheoli'r gweddill.

Adlewyrchiad ydyw o ddyled Brydeinig o £700bn sy'n tyfu £90bn pob blwyddyn. Mi fydd yna fwy o doriadau, a mwy, a mwy - oni bai bod Cymru yn cal ei hariannu yn deg - yn unol ag argymhellion Holtham.

Mae lle ti a dy deulu yn bwrw eich pleidlais yn yr etholiad yma yn fater i chi, ac i chi yn unig - ond os ydych yn pleidleisio i'r pleidiu unoliaethol rydych yn pleidleisio tros fwy a mwy a mwy o doriadau mewn gwariant yng Nghymru ac yng Ngwynedd.

Os ti'n gwneud hynny, a phan mae'r toriadau yn ffeindio eu ffordd i gyllideb Gwynedd paid a chwyno efo'r sawl sy'n gorfod eu gweinyddu a'u gweithredu - chdi sydd wedi fotio amdanynt .

Anonymous said...

Mae na llond ty o bleidleisiau yn mynd yn fama hefyd er ein bod yn hoffi Hywel fel person--methu dallt beth sy'n bod ar gynghorwyr y Blaid yn ddiweddar!!

menaiblog said...

Eisiau ehangu?