Saturday, February 27, 2010

Cadw pethau yn y teulu

Beth sydd gan y DUP - plaid unoliaethol secteraidd yng Ngogledd Iwerddon a'r Blaid Lafur yn gyffredin? Dyma gliw i chi:

Ian Paisley mawr / Ian Paisley bach / Rhonda Paisley
Iris Robinson / Peter Robinson
Nigel Dodds / Diane Dodds
Willie McCrea / Ian McCrea

Ia dyna chi tueddiad at losgach gwleidyddol - y Morgans o Gaerdydd, Wendy a Douglas Alexander, y brodyr Milliband, Hattie Harman a Jack Dromie, Kinnock & Kinnock Cyf, Mandelson a'r diweddar Herbert Morrison, Alan ac Ann Keen, Huw Lewis a Lyn Neagle _ _ _. Byddai rhestr gyflawn yn un faith.

Mae rhywyn yn gallu rhyw ddeall pam bod hyn yn digwydd mor aml efo'r DUP - does yna ddim cymaint a hynny o Brotestaniaid yn byw yng Ngogledd Iwerddon - gellir eu rhifo yn y canoedd o filoedd. Ond mae yna 60 miliwn o bobl yn byw ym Mhrydain. Byddai dyn yn dychmygu y byddai plaid sy'n honni bod cynhwysiad yn un o'i gwerthoedd yn osgoi mynd i'r un pwll genynnol mor aml i chwilio am wleidyddion etholedig - a chyflogedig wrth gwrs.

3 comments:

Anonymous said...

Hmm. Os da ni'n edrych yn agosach i adref -enwedig cyn etholiad lleol Cyngor Gwynedd 2008- mae'r patrwm yr un fath.
Elwyn Edwards /Dylan Edwards
Dyfrig Siencyn / Peredur Jenkins
E.M.P.Jones / Cyn cynghorwr Nefyn
Dafydd Iwan /Alun Ffred
ac rhwan wrth gwrs Dyfrig Jones / John Wynn Jones i gyd Plaid Cymru, ac hefyd wrth gwrs paid ac anghofio'r Marshalls o Bangor

Cai Larsen said...

Ffug gymhariaeth.

Mae yna tua can mil yn byw yng Ngwynedd a 60m ym Mhrydain - tua 600:1.

Hefyd wrth gwrs dwi heb drafferthu edrych ar gynghorwyr - dim ond gwleidyddion rheng flaen (blaw am Rhonda).

Cai Larsen said...

PS ti wedi anghofio Evie Hall ac Ali G (LlG).