Tuesday, October 06, 2009
A beth wnawn i o hynt a helynt yr LCO iaith?
'Dwi ddim yn siwr ble i ddechrau efo hon a dweud y gwir.
Dyna ni Peter Hain yn gwneud datganiad i'r wasg ynglyn a'r mater cyn i'r cyhoeddiad gael ei wneud yn y Cynulliad - ac felly'n dangos ei ddirmyg a'i wawd tuag at y corff hwnnw.
Wedyn, fel mae Vaughan yn nodi, mae bellach yn amlwg bod Ty'r Cyffredin yn ail siambar i'r Cynulliad.
Wedyn ymddengys bod cwmniau sy'n cynnig hyfforddiant - fel un Peter Hain a'i wraig bellach ddim yn dod o dan ofynion y ddeddf, oherwydd nad ydynt yn derbyn arian cyhoeddus. Gobeithio ei fod wedi datgan diddordeb os oedd angen iddo wneud hynny - rydym eisoes wedi gweld bod y boi'n gallu bod yn rhyfeddol o anghofus.
Ond y pwynt mwyaf arwyddocaol ydi hwn - pam goblyn bod y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig eisiau trafod y mater eto, a chabinet San Steffan eisoes wedi rhoi sel bendith i'r newidiadau?
Yr ateb mwyaf tebygol ydi nad oes gan Aelodau Seneddol Cymreig bellach fawr o ddim byd i wneud efo'u hamser, a dyna pam maen nhw'n torri glo man yn glapiau yn ystod y broses craffu ar argymhellion Caerdydd, a dyna pam maen nhw'n cyfarfod i drafod penderfyniadau sydd eisoes wedi eu gwneud.
Wir Dduw, mae pedwar deg Aelod Seneddol yn San Steffan yn ormod o beth coblyn. Byddai hanner hynny'n gwneud yr un joban yn llawer mwy cost effeithiol na'r criw presenol o holltwyr blew proffesiynol.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
7 comments:
Dwi ddim yn hapus efo'r holl fater yma, mae'n ymddangos fel cawlach llwyr sydd yn gadael blas digon od ar y ceg.
Ynglyn a chwmniau hyfforddi, mae llawer iawn ohonynt efo cytundebau gyda sefydliadau cyhoeddus a gwirfoddol yma yng Nghymru sydd yn derbyn arian cyhoeddus ac yn gwario peth o'r arian hwnnw ar hyfforddiant felly mae'n anodd gweld cyfiawnhad o'i eithrio, yn enwedig os ydynt yn derbyn cytundebau fel dwi wedi nodi.
Mae'n reswm da arall i gael gwared ar y chinless wonders o ASau (arse efallai?) sydd yn San Steffan.
Refferdwm plis. Ac os nad ydy olynydd RhM am wneud hwnnw, mae'n amser i Blaid Cymru gerdded allan a ffurfio'r Enfys. Mae 'na'r fath beth ag hunan barch.
Macsen
os ydy Alun Ffred a Phlaid Cymru ag unrhyw asgwrn cefn mae'n rhaid iddyn nhw dynnu blewyn o drwyn Hain. A gwneud hynny'n cyhoeddus hefyd. Mae angen dysgu gwers arno.
Bydd y boi allan o'i swydd mewn 12 mis felly pa ots.
Nawr yw'r amser i gael refferendwm - mae angen i'r Blaid a Dafydd El ddod off y ffens.
Cynddeiriog
Yn bersonol, dwi'n credu bod y newidiadau y gwnaed i'r LCO yn ddigon di-nod, a petai hyn wedi digwydd fel rhan o broses ddeddfu gall, fe fyddwn wedi gallu eu llyncu fel rhan o wleidyddiaeth cyfaddawd. Ond mae'r faith fod y newidiadau hyn yn cael eu gwneud yn Llundain yn da^n ar fy nghroen.
Mae'n amlwg i unrhyw berson call bod y broses ddeddfu bresenol yn un wallgof. Ond yr hyn sydd yn warthus yw bod Llafur yn defnyddio'r broses honno i danseilio cytundeb sydd wedi ei arwyddo gan y Blaid Lafur ei hun. Dwi'n credu eu bod wedi gosod cynsail hynod o berygl ar gyfer llywodraethu yng Nghaerdydd - sef bod unrhyw gytundeb clymblaid yn amodol ar sel-bendith y fam blaid yn San Steffan. Os mai dyma'r ffordd y mae'r pleidiau Prydeinig yn bwriadu gweithredu'r system, yna mae'n rhaid symyd i refferendwm cyn gynted a sy'n ymarferol.
Yn y cyfamser, dwi'n ategu fy sylwadau diweddar ynglyn a'r glymblaid rhwng Plaid Cymru a Llafur. Dyw hi ddim yn synhwyrol trin Llafur Cymru a Llafur Prydain fel dwy blaid arwahan. Yr un yw'r ci a'i gynffon, ac os yw ASau Llafur yn ymyryd yn y drefn LCO, dylid trin hynny fel engrhaifft o'r Blaid Lafur yn torri Cytundeb Cymru'n Un.
'Dwi'n cytuno efo'r rhan fwyaf o'r hyn rwyt yn ei ddweud Dyfrig - nid y newidiadau ydi'r pwynt (fel ti'n dweud dydyn nhw ddim yn ysgytwol) ond y dull aethwyd ati.
O ran torri'r cytundeb, fedra i ddim cweit gweld sut - ti wedi cael LCO - ond un wedi ei addasu.
Serch hynny - mae rhywbeth digon anghofforddus am ymyraeth Llundain - David Davies a'i debyg fydd wrthi erbyn mis Mehefin.
Dwi'n meddwl bod ymyrraeth yr Aelodau Seneddol Cymreig a'r gynsail y maen nhw wedi'i osod wrth newid yr LCO hwn yn newid y tirwedd gwleidyddol yn llwyr.Mae'n rhaid i Plaid Cymru ysgaru ei hun o'r giwed hon, ac mae modd gwneud hynny heb "adael" y glymblaid yn ffurfiol. Sut? Cychwyn ymgyrch rwan hyn am refferendwm am bwerau deddfu llawn. Mi faswn i'n dadlau bod yr amseru yn berffaith- yr LCO Iaith( er wedi ei gwanhau yn y bag), Llafur Cymru ar fin cychwyn ymgyrch i ddewis arweinydd newydd fydd yn siwr o fod yn ymgyrch fudr a rhaniadol, a'r tebygrwydd cynyddol y gwelan ni lywodraeth geidwadol yn San Steffan yn 2010. Carpe Diem!
Mae'r peth yn ffars ac yn profi'n ddiamheuaeth wendidau'r system gyfredol.
Y tric sydd gan y Cynulliad i'w chwarae ydi mynd am refferendwm - gydag adroddiad y Confensiwn yn hwb yn hynny o beth (cewch weld) - ac wedyn fe gawn bwerau llawn dros yr iaith yng Nghymru.
Mae'r refferendwm yn dyfod: mae'n biti mai dyna'r gobaith olaf am ddeddf iaith gynhwysfawr, ond rhaid mynd tuag ato rwan ffwl sbîd.
Post a Comment