'Dydi blogmenai ddim yn gwneud sylwadau ar faterion sy'n ymwneud yn benodol a Lloegr yn aml, a 'dydw i ddim chwaith yn cynhyrchu blogiadau sydd wedi eu seilio ar newyddion o'r cyfryngau prif lif Seisnig rhag i rhywun fy nghamgymeryd am David Jones AS. Serch hynny, 'fedra i ddim ymatal rhag gwneud sylw ar brif stori'r (na allaf ddod o hyd iddi ar y We) Sunday Times heddiw.
Ymddengys bod Ed Balls - y gweinidog sy'n gyfrifol am ysgolion - yn fodlon torri 5% neu £2 biliwn ar gyllideb addysg Lloegr er mwyn helpu ein cael ni allan o'r twll mae ei lywodraeth wedi ein cael ni i mewn iddo. Mae Ed yn ddyn ffeind iawn.
Cyn mynd ymlaen mae'n debyg y dyliwn nodi nad ydi'r stori yn ymwneud yn uniongyrchol efo Cymru wrth gwrs - awdurdodau lleol sy'n cyllido ysgolion yng Nghymru - mae'r llywodraeth yn gwneud hynny'n uniongyrchol yn Lloegr.
'Rwan mae £2 biliwn yn swnio'n swm sylweddol iawn o bres, ond mae'r llywodraeth gyda rhaglen gynhwysfawr o wariant arfaethiedig ar pob math o bethau eraill:
- Trident - system filwrol gynhyrfus gyda defnydd niwclear iddi os oes angen. Mae'n caniatau i ni ladd pobl mewn unrhyw ran o'r Byd, pryd bynnag rydym eisiau gwneud hynny. Pan mae gwledydd eraill yn ceisio cael eu bachau ar rhywbeth gyda chanfed o botensial marwol y system yma, rydym yn cael ein hunain mewn stad, yn eu cyhuddo o fod eisiau WMDs ac yn defnyddio Trident arnynt. Mae'r system bresennol yn heneiddio, felly mae Llafur am ei hadnewyddu. Mae'n anodd dirnad y gost yn union, ond mae'n debyg y bydd prynu'r system a'i chynnal o flwyddyn i flwyddyn yn costio tua £26 biliwn. O drosi WMDs i healthandeducation mi fyddai hyn yn gyfystyr a £1,000 ychwanegol i pob ystafell ddosbarth yn y DU am 26 blynedd ac yn rhoi £1,000 ychwanegol ym mhoced pob nyrs am 26 blynedd.
- Cardiau adnabod - system yr un mor gynhyrfus fydd yn caniatau i'r llywodraeth gadw data o fanylion personol pob dinesydd yn y DU a thracio'r cyhoedd. Mae Llafur yn edrych ymlaen yn arw at gael gwneud hyn. Cymharol fach fyddai'r arbedion o beidio a mynd ymlaen efo hyn - tua £6 biliwn - wrth ymyl y system WMD. Ond mae'n edrych yn gymharol swmpus wrth ymyl y £2 biliwn blynyddol sydd gan Mr Balls druan i'w gyfraunu at yr achos.
- Rhyfel llwyddiannus a phoblogaidd Afganistan - fedar yna neb wadu bod amcanion y rhyfel yma'n gwbl glir, a'n bod yn gwneud coblyn o joban dda ar amddiffyn llywodraeth boblogaidd a gonest. Yr unig fan broblem ydi bod yr ymarferiad ychydig bach yn ddrud - o ran bywydau sy'n cael eu colli a phres. Roedd y gost yn £4.5 biliwn y llynedd ac ers 2001 mae'r trysorlys wedi gorfod dod o hyd i £12 biliwn i ariannu'r ymarferiad. I wneud trosiad healthandeducation arall mae hyn yn cyfateb i 23 ysbyty newydd, 60,000 o athrawon newydd neu 77,000 o nyrsus newydd. Cynyddu, nid lleihau fydd y gwariant tros y blynyddoedd nesaf.
Ydi cael gwell WMDs na neb arall, sbeio ar y boblogaeth a chynnal rhyfel boncyrs i gefnogi llywodraeth dramor llwgr ymysg gwerthoedd creiddiol y DU? Ac os felly, pwy yn ei lawn bwyll fyddai eisiau bod yn rhan o'r DU?
No comments:
Post a Comment