Saturday, September 19, 2009

Beth wnawn ni efo Mr Price dywedwch?


Mae yna dipyn go lew o ddamcaniaethu wedi bod ar y We (a thu hwnt) ynglyn a dyfodol Adam Price - gormod i mi ddechrau mynd i ddarparu lincs. Mi fydd rhaid i minnau gyfranu fy mewath mae'n debyg. Efallai y dyliwn gychwyn trwy nodi ei bod ymhlyg ym mhopeth rwyf yn ei ysgrifennu yma bod Adam yn wleidydd o sylwedd anarferol, a'i bod yn hanfodol i'r Blaid ei bod yn dod o hyd i ffordd i'w gael ym Mae Caerdydd cyn gynted a phosibl.

Cyn mynd ymlaen mi hoffwn ychwanegu un pwynt bach gweddol amlwg nad oes yna neb arall wedi tynnu sylw ato hyd y gwn i. Nid New Labour ydi Plaid Cymru - 'dydi hi ddim yn bosibl (mewn amgylchiadau cyffredin o leiaf) i'r Blaid yn ganolog orfodi'r Blaid yn lleol i wneud pethau nad ydynt eisiau eu gwneud. Ar un olwg, byddai dyn yn meddwl y byddai unrhyw blaid leol wrth ei bodd yn cael rhywun o statws a gallu Adam i sefyll trostynt. Ond - 'dydi pleidiau lleol ddim pob amser yn meddwl yn strategol genedlaethol - mae ystyriaethau lleol yn aml yn bwysicach iddynt na rhai amgenach. Nid dweud ydw i na allai Adam sefyll yng Nghastell Nedd (er enghraifft) ond nodi na fyddai pethau o anghenrhaid mor syml a di drafferth ag mae aml i un yn meddwl.

Wedi dweud hynny, hyd y gwelaf i dyma'r opsiynau - a'r tebygrwydd iddynt arwain at wireddu dymuniad Adam i fynd i Fae Caerdydd. 'Dwi'n rhoi dau sgor DIY ar ddiwedd pob opsiwn. Mae'r cyntaf yn dynodi pa mor debygol ydi Adam (yn fy marn bach i) o ddilyn y trywydd, ac mae'r nesaf yn dynodi pa mor debygol y byddai o fynd i Fae Caerdydd petai'n gwneud hynny.

(1) Sefyll yn erbyn Rhodri Glyn am enwebiaeth y Blaid yn Nwyrain Caerfyrddin. Byddai'n debygol iawn o guro Rhodri Glyn ac ennill yn yr etholiad Cynulliad, ond byddai pethau'n fler iawn a 'does yna ddim un plaid leol yn hoffi rhyfel cartref. 'Dwi ddim yn gweld Adam yn cymryd y cwrs hwn 1/10 ac 8.5/10.

(2) Bod y Blaid yn ganolog yn dwyn perswad ar Rhodri Glyn i sefyll ar gyfer San Steffan yn 2010, a bod Rhodri yn ei dro yn amseru ymddiswyddiad mewn modd fyddai'n sicrhau is etholiad Cynulliad ar yr un diwrnod ag etholiad San Steffan. Bu ymgais eisoes i wneud rhywbeth fel hyn, ond 'doedd gan Rhodri ddim diddordeb. Efallai y byddai ganddo fwy o ddiddordeb petai'n credu y gallai opsiwn (1) gael ei gwireddu, ond 'dydi o ddim yn credu hynny. 2/10 a 9.5/10.

(3) Cael ei ethol oddi ar un o'r rhestrau rhanbarthol. Mae'n ddigon posibl na fydd y Blaid yn cadw eu seddau rhanbarthol yn y Gogledd na'r Gorllewin y tro nesaf - byddai ennill Gorllewin Clwyd yn arwain at golli sedd Janet Ryder er enghraifft a byddai ennill Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn golygu y byddai Nerys yn colli ei sedd. Gallai cwymp mawr yn y nifer o seddi uniongyrchol sydd gan Lafur yn y Gogledd fod yn broblem i'r Blaid hefyd. Petai'n rhoi ei enw ymlaen ar gyfer y tair rhanbarth arall, byddai'n dra thebygol o ddod yn gyntaf (neu'n ail) yn o leiaf un ohonynt. Byddai hyn hefyd yn osgoi'r broblem o orfod dod adref o America i ymgyrchu (gweler isod). 7/10 a 8/10.

(4) Sefyll mewn sedd gyfagos - Castell Nedd neu Orllewin Caerfyrddin De Penfro. Mae llawer yn anghofio i'r Blaid ddod yn llawer nes at ennill yn 07 yn y sedd Orllewinol nag y daethant yng Nghastell Nedd. Yn wir roedd yr ymgeiswyr wedi ysgwyd llaw gan gredu bod John Dixon wedi ennill nes i rhywun sylwi nad oedd y pleidleisiau post wedi eu cyfri. Mae yna ddwy broblem - yr un a soniais amdani ar y cychwyn, a'r ffaith na fyddai'n bosibl iddo ymgyrchu llawer yn y naill etholaeth na'r llall - mae America'n bell ac mae angen paratoi'r tir yn ofalus os ydi rhywun yn sefyll mewn etholaeth sy'n newydd iddo. 'Dwi ddim yn gwybod am gyflwr peirianwaith y naill etholaeth na'r llall ond byddwn wedi meddwl y byddai'n rhaid mynd ar ofyn peirianwaith sylweddol etholaethau cyfagos megis Dwyrain Caerfyrddin a Llanelli i ymgyrchu tros gyfnod estynedig os na fyddai'r dyn ei hun ar gael llawer. Wedi dweud hynny gallai ennill y naill etholaeth neu'r llall. 7/10 a 7/10.

(5) Cyfuniad o (3) a (4). Yn ol y son mae'r Toriaid yn bwriadu newid y rheolau er mwyn caniatau i ymgeiswyr sefyll ar y rhestr rhanbarthol ac mewn etholaethau y tro nesaf. Byddai hyn yn caniatau i Adam sefyll ar restr y Gorllewin a'r Canolbarth ac yng Ngorllewin Caerfyrddin / De Penfro ar yr un pryd. Pe na byddai'n llwyddo i ennill yng Ngorllewin Caerfyrddin / De Penfro yna byddai'n debygol o gael ei ethol oddi ar y rhestr oni bai bod rhywbeth anisgwyl yn digwydd yn Nhrefaldwyn neu Benfro Preseli. Mae'n anodd gweld y Blaid yn ennill yn Nhrefaldwyn - a thra ei bod yn ddigon posibl gweld y Blaid yn ennill yng Ngogledd Penfro / Preseli, mae'n anodd dychmygu y gallai ddigwydd mewn etholiad lle byddai Adam yn colli yn y sedd ddeheol, mwy Pleidiol. Un broblem fyddai Nerys Evans - byddai'n sicr o golli ei sedd - a byddai hynny'n anffodus. Mae'n eneth dda. Ond mae hi'n ifanc ac efallai bod goleuadau Llundain yn atyniadol iddi. Mae yna swydd wag yn Nwyrain Caerfyrddin. 5/10 ac 8/10.

Fy hoff opsiwn i yn bersonol fyddai (2), ond gan nad yw'n debygol o gwbl o ddigwydd, fy ail hoff opsiwn fyddai (5).

11 comments:

Anonymous said...

Un broblem efo'r damcaniaethu ydi fod na ymgeiswyr abl iawn yn Nghastellnedd, Gorllewin Caerfyrddin ac ar frig rhestr y Gorllewin/Canolbarth. Mi fydd y tri yn cyfrannu at wella safon y Cynulliad yn ogystal ag Adam.
Rhodri i syrthio ar ei gleddyf (neu'i sigar)...

menaiblog said...

Un broblem efo'r damcaniaethu ydi fod na ymgeiswyr abl iawn yn Nghastellnedd, Gorllewin Caerfyrddin ac ar frig rhestr y Gorllewin/Canolbarth

Does yna ddim ymgeiswyr Cynulliad eto wrth gwrs - ond 'dwi'n gweld yn iawn beth sydd gen ti - mae Alun a John yn ymgeiswyr cryf.

Dwi'n meddwl fy mod yn rhyw gyfeirio at y peth ar y cychwyn.

Alwyn ap Huw said...

Mae yna bosibilrwydd, wrth gwrs, na fydd Adam yn sefyll yn 2011.

Mae amserlen ei flwyddyn sabothol yn awgrymu hynny.

Hwyrach bydd ei bosibiliadau am ddychwelyd i'r ffau wleidyddol yn gliriach parthed etholiad 2015!

aled gj said...

Un elfen bwysig yn y pair ydi amseriad yr etholiad cyffredinol. Os gall Gordon Brown lwyddo i ddal ati tan fis Mai 2010( ac mae pob argoel mae dyna'i unig nod ar hyn o bryd), mae hynny'n golygu na all Adam Price gychwyn ar ei flwyddyn yn America tan ganol 2010. Gyda'r etholiad Cynulliad ym Mai 2011, bydd ganddo ddim amser o gwbl i feithrin etholaeth newydd, ac fe fyddai parasiwtio i mewn i rywle fel Castell-nedd, neu Gorllewin Caerfyrddin o dan amgylchiadau felly yn andros o sen ar yr etholwyr yn yr etholaethau hynny. Os digwydd y senario uchod, mae'r tebygrwydd y bydd Rhodri Glyn yn disgyn o dan y bws trosiadol cyn 2011 yn cynyddu'n ddirfawr.

menaiblog said...

Alwyn ac Aled - 'dwi'n credu bod pwynt 3 yn delio efo'ch pwynt.

Mi fyddai'n bosibl rhoi mwnci o Sw Fae Colwyn ar ben rhestr Gorllewin De Cymru, peidio a'i adael allan o'i gaets ym Mae Colwyn - a byddai'n dal efo cyfle da o gael ei ethol.

Dewi Harries said...

Rhywun yn cynnig Y Rhondda au UK Polling Report. Mae'r syniad yn werth ystyried - ac os yn bosib sefyll ar y rhestr hefyd.

menaiblog said...

Neu Islwyn - neu Gwm Cynon

Dewi Harries said...

Neu...Gorllewin Caerdydd?

menaiblog said...

Mi fyddai Neil wrth ei fodd efo honna.

aled g j said...

Dwi ddim yn meddwl bod dibynnu ar sedd ranbarth yn briodol iawn i rywun sy'n cael ei weld fel arweinydd nesaf Plaid Cymru. Wedi'r cwbl, rhan o broblem sylfaenol Nick Bourne ydi mai trwy'r rhanbarth mae o ei hun yn y Cynulliad, ac ni ar gownt ei "bleidleiswyr ei hun" fel tae. Siawns bod Plaid Cymru am weld mwy o hygrededd na hynny yn perthyn i'r mab darogan?!

menaiblog said...

Aled - ti'n well efo fo i mewn nag allan.

Y gyfundrefn etholiadol yng Nghymru sy'n ddiffygiol - nid yr unigolion sy'n cael eu hethol trwy'r gyfundrefn honno.