Saturday, September 12, 2009

Cynhadledd Plaid Cymru


Dydw i ddim yn rhyw gynadleddwr mawr mae gen i ofn - ond mi fyddaf yn mynychu cynhadledd flynyddol y Blaid ar y dydd Sadwrn, a 'doedd y tro hwn ddim yn eithriad.

'Rwan mae yna berygl mewn ceisio darllen gormod i mewn i unrhyw gynhadledd wleidyddol - mae nhw'n ddigwyddiadau digon artiffisial ar sawl gwedd. Serch hynny mae'n rhaid i mi ddweud i mi fwynhau'r diwrnod - roedd y lle'n llawn - roedd yr areithiau yn rhai digon caboledig. ac roedd ymdeimlad pendant y gallai'r Blaid - yn wir y dylai'r Blaid - dorri pob record o ran cynrychiolaeth yn San Steffan y flwyddyn nesaf. Byddai ennill chwech neu saith sedd, a bod yn ail cryf mewn efallai ddwsin o rai eraill yn ein rhoi mewn safle lle y gallwn edrych ymlaen at gyfle gwirioneddol i arwain y llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd.

Roedd un neu ddau o bwyntiau yn fy nharo fodd bynnag.

Yn gyntaf roedd cryn dipyn o'r ymosod gwleidyddol yn cael ei gyfeirio at y Toriaid. Ar un wedd mae hyn yn anarferol - fel rheol y blaid sydd mewn llywodraeth sydd yn derbyn beirniadaeth mewn digwyddiad fel hyn. Fodd bynnag mae'r ffordd yma o fynd ati yn synhwyrol - mae pawb yn gwybod bod Llafur yn wynebu cweir anferthol yn yr etholiad nesaf - ac mae strategaeth o hawlio'r tir o amddiffyn y wlad oddiwrth y Toriaid yn allweddol os yw'r Blaid i ddod yn brif rym gwleidyddol Cymru - fel rydym wedi ei drafod yma.

Yn ail roedd yn amlwg o araith feistrolgar Adam Price ei fod yn awyddus i ysgwyd llwch San Steffan oddi ar ei draed. Mae Vaughan yn cyffwrdd a hyn yma. Dweud mae Vaughan y bydd tri gwleidydd o sylwedd arbennig yn sefyll yn enw'r Blaid yn 2011 - ac mae'n enwi dau - Dafydd Wigley ac Adam. 'Dwi'n cymryd mai'r trydydd sydd ganddo mewn golwg ydi Ron Davies. Mae ansawdd rhai o'r aelodau sydd gan y Blaid yn y Cynulliad eisoes yn uwch o lawer na'r hyn sydd gan y pleidiau eraill i'w gynnig. Byddai etholiad Cynulliad gydag Adam yn sefyll yn (dyweder) Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro, Dafydd yn sefyll yng Ngorllewin Clwyd a Ron yng Nghaerffili (neu o bosibl Islwyn) yn un lle byddai proffeil y Blaid yn uchel - yn llawer uwch nag un unrhyw blaid arall.

Y trydydd pwynt ydi'r refferendwm. Y son oedd y byddai refferendwm i gael pwersau pellach i'r Cynulliad yn cael ei gynnal yn hydref 2010 - ychydig fisoedd cyn etholiadau'r Cynulliad. Byddai hwn yn amser da ar sawl cyfrif. Yn gyntaf byddai'r awyrgylch o greisis sy'n sicr o ddilyn toriadau'r Toriaid mewn gwariant cyhoeddus yn gwneud y tebygrwydd o ganlyniad cadarnhaol. Mae hefyd yn bosibl y byddai canlyniad da yn y refferendwm yn rhoi hwb etholiadol i'r Blaid yn genedlaethol - fel a ddigwyddodd yn sgil refferendwm 1997.

Felly, ar ddiwedd cynhadledd - am y tro cyntaf erioed, gallaf ddweud fy mod yn teimlo ein bod mewn sefyllfa i hyderu y bydd y ddwy flynedd nesaf yn rhai trawsnewidiol o ran hynt etholiadol y Blaid ac o ran statws cyfansoddiadol Cymru. Yr her i ni fel Pleidwyr ydi gafael yn y cyfle a'i goleddu. Efallai na ddaw cyfle tebyg am genhedlaeth arall.

2 comments:

Anonymous said...

Byddai'n braf hefyd gweld y gwleidydd arall yna, anghofiedig i raddau ond o safon arbennig, Simon Thomas, yn cael cyfle yn y cynulliad.

menaiblog said...

Yn wir.