Wednesday, September 23, 2009

Yr ymatebion rhyfedd i siom carchar Caernarfon

Mae'n amlwg bod tro trwstan diweddaraf saga carchar Caernarfon wneud niwed ymenyddol rhyfeddol i bobl sy'n arfer bod yn gallach. Mae rhai o'r ymatebion wedi bod yn wirioneddol bisar. Gobeithio y bydd pawb yn well mewn diwrnod neu ddau.

I ddechrau dyma i ni eglurhad / gyfiawnhad Guto Bebb. Mae Guto o dan yr argraff nad oes yna lawer o seddi Llafur yng nghyffuniau'r carchar. Yr unig sedd nad ydi Llafur yn ei dal ar lefel San Steffan yn rhanbarth y Gogledd ydi Gorllewin Clwyd. Mae'r dair sedd agosaf - Arfon (yn dechnegol o leiaf), Ynys Mon a'r sedd mae Guto ei hun yn ei hymladd ar ran y Ceidwadwyr yn nwylo Llafur ar hyn o bryd. Tybed os mai sioc peidio cael y carchar 'ta llwyddiant rhyfeddol Plaid Cymru yn y Gogledd Orllewin tros yr ychydig flynyddoedd diwethaf sydd wedi effeithio mor ddybryd ar gof Guto?

Ac wedyn dyna i ni Gwilym Euros Roberts. Yn rhyfeddol, ni chafwyd yr ymateb Pavlofaidd* arferol o feio Plaid Cymru ar y cychwyn - er iddo ddod at ei goed ychydig oriau'n ddiweddarach a dychwelyd i'r comfort zone - wedi derbyn anogaeth o le anisgwyl. Ta waeth, fel un sydd wedi bod yn gefnogol i'r cynllun o'r cychwyn, hoffwn ddiolch i Gwilym am ei holl help, yn arbennig pan ddaeth y cynllun o flaen Bwrdd Cyngor Gwynedd yn Nhachwedd 2008.

Ond yr ymateb rhyfeddaf i mi oedd un Dyfrig Jones. 'Rwan mae Dyfrig yn ddyn deallus - ac mae teitl ei ddarn - Torri Cytundeb Cymru'n Un yn amwys. 'Dwi'n cymryd na'r hyn sydd ganddo mewn golwg ydi y dylai'r Blaid dorri Cymru'n Un - ac nad yw'n dadlau bod peidio a mynd ymlaen a'r cynllun i godi carchar yn torri'r cytundeb. Mi fyddai dadlau hynny yn chwerthinllyd fel mae Hogyn o Rachub - blogiwr sydd yn aml yn synhwyrol a chytbwys - yn dangos yn glir.

'Dydi clymbleidio ddim yn gyffredin eto yng Nghymru - ond mae'n gyffredin mewn gwledydd eraill. Mi fydd clymbleidiau weithiau yn syrthio'n ddarnau - ond 'dydi hi ddim yn ddoeth i blaid dorri cytundeb am resymau sydd ddim oll i'w wneud efo'r cytundeb hwnnw. Os ydi plaid yn gwneud hynny, mae'n gadael ei hun yn agored i gyhuddiad o oportiwnistiaeth - ac os ydi'r hollt tros fater sy'n ymwneud a lles economaidd un rhan arbennig o'r wlad (neu un grwp penodol) mae'n agored hefyd i gyhuddiad o gleiantiaeth gwleidyddol a gwleidyddiaeth casgen borc. Ar ben hynny mae plaid sy'n torri cytundebau clymbleidio am resymau fel hyn yn ei chael yn anodd dod o hyd i bartneriaid clymblaid yn y dyfodol. 'Does yna'r un plaid eisiau mentro cael ei gwthio i mewn i'r afon ddwy neu dair blynedd i mewn i dymor llywodraethu.

Mae Dyfrig a minnau wedi anghytuno ynglyn a hyn o'r blaen. Bryd hynny 'roedd Dyfrig yn cymryd agwedd mwy aruchel na fi - llywodraethu'n 'deg' oedd yn bwysig. 'Rwan 'dwi'n llai sniffy na Dyfrig ynglyn a'r math yma o beth - ond mi fyddwn yn tagu ar y syniad o ddod a llywodraeth i lawr oherwydd nad ydi datblygiad yn mynd rhagddo mewn lleoliad arbennig - a hynny oherwydd ffactorau oedd i raddau helaeth y tu allan i reolaeth y llywodraeth hwnnw.

Mae Alwyn yn cytuno efo Dyfrig - ond mae'n haws ei gymryd ganddo fo rhywsut - mae'n dod o gyfeiriad arbennig mae pawb sy'n dilyn ei flog yn ei adnabod yn dda- ac mae oddi allan i'r Blaid beth bynnag. Yr unig bwynt y byddwn yn ei godi yma yw nad yw'r awgrym na fydd carchar yng Nghymru o anghenrhaid yn gywir. Chwilio am le arall fydd y llywodraeth 'rwan.

Ymddengys nad oedd ">Rhydian yn rhyw awyddus iawn i gael carchar yn y lle cyntaf. Mae'n rhaid i ni gytuno i anghytuno ar honna mae gen i ofn.

Does yna neb mor siomedig a fi ynglyn a'r hyn sydd wedi digwydd - ond mae llawer o'r ymateb wedi bod yn - wel - rhyfedd.

* Bydd y sawl sy'n ymddiddori mewn seicoleg yn gwybod am gwn Pavlov. Llwyddodd Pavlov i berswadio cwn i lafeirio pob tro roeddynt yn clywed cloch trwy ganu'r gloch pob tro roeddynt yn bwyta. Ar ol dipyn roedd y cwn yn glafeirio pob tro roeddynt yn clywed y gloch - os oedd bwyd o gwmpas neu beidio. Y dyddiau yma defnyddir y term i ddisgrifio rhywun sy'n ymateb mewn ffordd cwbl ragweladwy i sefyllfa heb geisio rhesymu na dadansoddi. Mae nifer o aelodau Llais Gwynedd yn gwn Pavlov yn yr ystyr eu bod yn ymateb i pob newyddion drwg trwy feio Plaid Cymru am y newyddion hwnnw - ta waeth pa mor chwerthinllyd o wan ydi'r cysylltiad.

10 comments:

Anonymous said...

Ges i gyngor blynyddoedd maith yn ol "os nad oes gen ti ddim byd call i'w ddeud, dweud dim di'r callaf"

Bechod na chafodd Dyfrig run cyngor.

rhydian fôn said...

anhysbys 12:26: O ran sylwadau Dyfrig, rwyf yn deall ei siom ar y mater. Er hynny, credaf mae parhau gyda Cymru'n Un yw'r dewis gorau i sicrhau refferendwm.

blogMenai: Nid yw'n gywir nad oeddwn yn awyddus am garchar yn y synnwyr fy mod yn wrthwynebus ar sail ieithyddol neu'r effaith ar fusne. Mae fy mlogiad ar y mater yn adlewyrchu'r ffaith bod cyfleoedd gwell - nad diwedd y byd yw'r dro bedol yma.

Dyfrig said...

Be am ddarn o gyngor arall? Os nad wyt ti'n ddigon o ddyn i adael dy enw wrth ymyl sylw, deud dim ydi'r callaf.


Dim cweit mor fachog, ond ti'n dallt y neges, dwi'n siwr.

Alwyn ap Huw said...

nad yw'r awgrym na fydd carchar yng Nghymru o anghenrhaid yn gywir. Chwilio am le arall fydd y llywodraeth 'rwan.

O'i hymateb i'r cyhoeddiad roedd yn amlwg nad oedd y gweinidog yn deall pam bod galw am garchar yng Ngogledd neu ganolbarth Cymru. Roedd ei hymateb yn un a oedd yn ymwneud a chaethiwo mwy o bobl yn hytrach na'r anghyfiawnder o alltudio Cymry sydd yn torri'r gyfraith. I'r perwyl hwn fe ddywedodd bydd ei hadran yn parhau i chwilio trwy Loegr a de Cymru a hwyrach Gogledd Cymru hefyd i gael hyd i lefydd i garcharu 8,000 yn rhagor o ddynion. Mae'n amlwg imi nad yw'r pwysigrwydd o gael carchar yn y gogledd yn flaenoriaeth iddi

Guto Bebb said...

A bod yn deg Cai ti'n fwriadol sarhaus yn y darn hwn. Fel ti wedi nodi sawl gwaith pa obaith sydd gan Lafur yn achos Arfon? A beth o ddifrif ydi gobeithion Llafur i'r gorllewin o afon Conwy?

Deallaf gan gyfaill yn y Blaid Lafur fod strategaeth y blaid honno yn y gogledd yn un o amddiffyn nifer fechan iawn o seddi gydag arian a gwirfoddolwyr. Does yna ddim un sedd o fewn deugain milltir i safle Ferodo yn rhan o'r strategaeth.

O ran dy gyhuddiad fy mod yn egluro / cyfiawnhau y penderfyniad - wel dwi'n dweud dim sy'n wahanol i'r hyn a ddywedwyd gan Hywel Williams AS. Yn bwysicach dwi'n dweud dim sy'n wahanol i'r hyn sydd wedi ei ddweud gan unigolion sy'n ymwneud a'r adran berthnasol o fewn llywodraeth y DU dros y misoedd diwethaf.

Dwi ddim o'r farn fod yna ronyn o ymosodiad ar dy annwyl Blaid yn fy sylwadau gwreiddiol ac mae'r modd ti'n dirmygu fy sylw yn dangos unwaith eto dy baranoia wrth amddiffyn dy Blaid rhag ymosodiad o fath yn y byd (hyd yn oed pan nad oedd ymosodiad yn rhan o'r sylw yn y man cyntaf).

Oes modd, rhywbyrd, cael trafodaeth gall heb i ti weld yr angen i amddiffyn rhyw gamwedd ddychmygol yn erbyn Plaid Cymru? Ta di hynny'n gofyn gormod?

menaiblog said...

GB - A bod yn deg Cai ti'n fwriadol sarhaus yn y darn hwn.

Twt twt Mr Bebb - peidiwch a chymryd eich hun cymaint o ddifri - tynnu coes oedwn i.

GB - Dwi ddim o'r farn fod yna ronyn o ymosodiad ar dy annwyl Blaid yn fy sylwadau gwreiddiol ac mae'r modd ti'n dirmygu fy sylw yn dangos unwaith eto dy baranoia wrth amddiffyn dy Blaid rhag ymosodiad o fath yn y byd (hyd yn oed pan nad oedd ymosodiad yn rhan o'r sylw yn y man cyntaf).

'Dwi ddim yn meddwl bod yna awgrym fy mod wedi cymryd dy sylwadau fel ymysodiad a bod yn onest.

GB - Oes modd, rhywbyrd, cael trafodaeth gall heb i ti weld yr angen i amddiffyn rhyw gamwedd ddychmygol yn erbyn Plaid Cymru? Ta di hynny'n gofyn gormod?

Mae'r amddiffyniad rhag camwedd yn dy ddychymyg y tro hwn mae gen i ofn.

Guto Bebb said...

Na Cai, tydi hyn ddim digon da. Ti'n awgrymu fod fy nghyfraniad gwreiddiol yn eglurhad / cyfiawnhad. Dwi'n credu fod eglurhad yn OK ond cyfiawnhad? Dwi'n ddim mwy euog o gyfiawnhau y penderfyniad na Hywel ar raglen Taro'r Post.

Mae dy ddisgrifiad o'r drafodaeth fel ymateb 'rhyfedd' hefyd yn od. Fel dwi wedi nodi does na ddim byd yn fy sylwadau oedd yn wahanol i sylwadau Hywel. Ai 'rhyfedd' oedd ei gyfraniad ef ar Radio Cymru?

menaiblog said...

GB - Na Cai, tydi hyn ddim digon da.

Pwy ydi'r athro - chdi ta fi?

GB - Ti'n awgrymu fod fy nghyfraniad gwreiddiol yn eglurhad / cyfiawnhad.

A hon sydd wedi troi'r drol? Mae cynnwys y cymal yma - Ai bwriad cyllideb Adran Cyfiawnder y Llywodraeth ydi gwaredu tir 'ta codi carchar? - yn rhoi chwystrelliad o amwyster gwirioneddol i dy sylwadau.

GB - Mae dy ddisgrifiad o'r drafodaeth fel ymateb 'rhyfedd' hefyd yn od.

'Roedd rhywbeth yn rhyfedd am ymateb bron i bawb yn y drafodaeth. Y sylw (anfwriadol ddigri) ynglyn a diffyg seddi Llafur yn yr ardal oedd dy gyfraniad di i'r cymysgedd hwnnw o ryfeddod.

Mae'n gwbl amlwg i unrhyw un sy'n gwybod unrhyw beth amdanat dy fod yn ymwybodol o pwy sy'n dal pob sedd yng Nghymru, ac mai llithriad oedd y sylw. Dyna pam roeddwn yn ei gael yn ogleisiol.

Guto Bebb said...

Dwi'n credu i mi ateb dy sylw am ddiffyg 'seddi' Llafur yn weddol glir.

O ran cyfrifoldeb Adran Gyfiawnder y DU dwi'n ategu eto fod hyn yn cyd-fynd yn llwyr gyda sylwadau Hywel ar Taro'r Post.

Dwi'n dal o'r farn i ti ddilorni cyfraniad oedd yn gwneud dim ymdrech i sgorio unrhyw bwynt gwleidyddol.

menaiblog said...

GB - Dwi'n dal o'r farn i ti ddilorni cyfraniad oedd yn gwneud dim ymdrech i sgorio unrhyw bwynt gwleidyddol.

Wel - techneg dadlau o blaid safbwynt arbennig ydi gofyn cwestiwn rhethregol gan amlaf (Ai bwriad cyllideb Adran Cyfiawnder y Llywodraeth ydi gwaredu tir 'ta codi carchar? - yn yr achos yma)

Mae'n bosibl dy fod yn gwneud defnydd amgen o'r dechneg - ond wnest ti ddim ceisio egluro hynny.

1:16 AM