Mi wnawn ni gychwyn trwy gael golwg ar yr ods bwcis sydd ar gael ar hyn o bryd. Mae pob dim oddi ar wefan Ladbrokes ag eithrio ail set o brisiau Gorllewin Casnewydd (Raymond Chandler) a'r trydydd am yr etholaeth honno (Paddy Power). Ymddiheuriadau am y blerwch.
Aberconwy:
Toris 2/7
Plaid Cymru 7/2
Llafur 8/1
Lib Dems 25/1
Arfon:
Plaid Cymru 1/10
Llafur 6/1
Toris 14/1
Lib Dems 100/1
Ceredigion:
Plaid Cymru 8/11
Lib Dems evens
Toris 25/1
Llafur 100/1
Llanelli:
Llafur 1/2
Plaid Cymru 6/4
Toris 50/1
Lib Dems 100/1
Trefaldwyn:
Lib Dems | |
Toris | |
Llafur | |
Plaid Cymru |
Dwyrain Casnewydd:
| |
Llafur | |
Lib Dems | |
Toris | |
Plaid Cymru |
Gorllewin Casnewydd: | | ||
Llafur | |||
Toris | |||
Lib Dems | |||
Plaid Cymru | |||
Llafur 10/11 Toris 4/5 Lib Dems33/1 Plaid Cymru100/1 |
| ||
|
|
|
|
Llafur 8/11 |
Toris 10/11 |
|
Lib Dems 40/1 |
Plaid Cymru100/1 |
Gorllewin Abertawe:
Selection | Odds |
Lib Dems | |
Llafur | |
Toris | |
Plaid Cymru | |
Ynys Mon:
Plaid Cymru - 1/3 Llafur - 9/4 Toriaid - 16/1 Lib Dems - 100/1
|
7 comments:
Ar y cyfan mae prisiau'r bwci yn adlewyrchu'r hyn sydd yn debygol o ddigwydd mewn etholiad. Gydag un eithriad pe bawn i yn un am fetio byddwn yn rhoi fy arian ar y ffefrynnau. Yr eithriad yw Ynys Môn, o ystyried bod yr ynyswyr yn draddodiadol driw i'r deiliad mae 9/4 ar Albert i gadw ei sedd i weld yn bris werth swllt neu ddau.
Mae'r prisiau yn deg at ei gilydd - ond 'dwi'n anghytuno ynglyn ag Ynys Mon - er bod Albert yn aelod lleol gweddol effeithiol.
Bydd pleidlais Llafur yn cwympo tua 12% yn gyffredinol os ydi'r polau i'w credu - bach ydi mwyafrif Albert a fydd hi ddim yn bosibl sefyll yn erbyn llif mor gryf. Mi fyddwn yn awgrymu y bydd hi'n agos am yr ail safle rhwng Llafur a'r Toriaid ar Ynys Mon.
Mae'r 2/1 ar y Toriaid ym Maldwyn yn ddiddorol ac mae Llafur wedi colli'n drwm tair gwaith o'r bron yn Llanelli (Cynulliad, Lleol, Ewrop).
Glyn2Win yn Maldwyn...werth rhoi pres arno...cytuno a]efo Alwyn am Ynys Mon...be di'r farn am Aberconwy a Cheredigion?
50/50 ydi Maldwyn yn fy marn i - sy'n golygu bod 2/1 werth bet.
'Dwi'n fwy sicr y bydd y Blaid yn ennill Ynys Mon na Cheredigion (er dylem fod yn iawn yno). Stori fawr etholiad 2010 fydd cwymp sylweddol a hanesyddol ym mhleidlais Llafur - fedar un etholaeth ddim sefyll yn erbyn grymoedd gwleidyddol mawr.
Guto ydi'r ceffyl blaen yn Aberconwy - ond gall Phil ennill. Y gamp i Phil fydd argyhoeddi pobl mai dim ond fo fedar guro Guto. Mae hanes hir yn y rhan yma o'r byd o bleidleisio'n dactegol a thua 40% o'r bleidlais yno ar y gorau sy'n un Geidwadol. All to play for.
Er gwaethaf tueddiadau rhyfedd Môn dwi hefyd yn meddwl mai Plaid fydd yn mynd â hi - mae'r newyddion bod Peter Rogers yn sefyll wedi difethaf cyfle'r Torïaid, er y dylem gofio iddo gymryd pleidleisiau o ardaloedd Plaid Cymru hefyd y tro diwethaf. Bydd amhoblogrwydd Llafur hefyd yn amlwg yma, 'does amheuaeth - cawn weld sut effaith a gaiff cau Anglesey Aluminium ar y bleidlais.
O be dwi'n ddallt fodd bynnag mae gan Blaid Cymru ymgeisydd gwan yma, felly tybed?
Fyse pris y Toriaid yn Mon yn werth cwpwl o bunnoedd pe na bai am Peter Rogers yn stico'i drwyn mewn. Credu bod 1/3 yn optimistaidd i Blaid Cymru wedi dweud hynny
Mae Ladrokes hefyd yn cynnig prisoedd ar arweinydd newydd Llafur yn y Cynulliad hefyd
Carwyn Jones 11/10
Huey Lewis 11/4
Edwina Hart 5/1
Jane Hutt 10/1
Mae'r prisiau arweinydd Llafur yn ddiddorol.
Bai Carwyn ydi ei fod yn ddiog 9er yn alluog).
Mi fydd gan Huw gefnogaeth yn y cymoedd, ond does ganddo ddim apel yn y rhan fwyaf o Gymru.
Mae Edwina y effeithiol ond yn anobeithiol o flaen camera.
Sy'n ein gadael efo Edwina - galluog, dim carisma o gwbl, wedi dysgu Cymraeg, derbyniol i amrediad gweddol eang o bobl.
Gwerth buddsoddi £5 ar 10/1 'dwi'n meddwl.
Post a Comment