Sunday, January 04, 2009

Cleiantiaeth gwleidyddol - derbyniol?

Mae'r ddadl isod ynglyn a chynllunio yn codi cwestiynau ynglyn a pha mor dderbyniol ydi hi i bleidiau gwleidyddol weithredu'n wleidyddol mewn ffordd sy'n rhoi cymorth i rai grwpiau arbennig o bobl - eu cefnogwyr eu hunain, neu o leiaf i bobl sydd a'r potensial i fod yn gefnogwyr. Cleiantiaeth ydi'r term am hyn. Mae'n fater llawer ehangach na chynllunio wrth gwrs - ond mae'r ddadl ac addasu polisiau cynllunio yn gor gyffwrdd - waeth i mi fod yn onest am hynny.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod hyn yn digwydd trwy'r amser. Esiampl o gleiantiaeth gwleidyddol mewn gwirionedd ydi'r ffaith bod Llywodraeth y Cynulliad yn gwario'n sylweddol uwch mewn rhannau di freintiedig o Gymru. Yn amlwg mae dadl tros wneud hynny - delio gyda thlodi ac ati - ond mae dadl o rhyw fath yn ddi eithriad tros gleiantiaeth gwleidyddol. Mae polisi newydd y Toriaid o dorri treth ar gynilion yn esiampl arall. Mae'r bobl sydd gyda chynilion yn dioddef ar hyn o bryd oherwydd cyfraddau llog isel, ac mae'r Toriaid yn ceisio ennill pleidleisiau'r grwp yma o bobl. Maent yn ceisio eu hanfon i'w corlan etholiadol nhw eu hunain os y mynwch.

Gall ymddangos mewn pob math o ffyrdd. Byddwn yn dadlau mai cleiantiaeth (di gost) o fath oedd penderfyniad y llywodraeth Lafur diwethaf i wneud hela llwynog gyda chwn yn anghyfreithlon yn ymgais i blesio un garfan etholiadol (pobl dosbarth canol dinesig - sydd yn gydadran bwysig o glymblaid etholiadol Llafur newydd) ar draul carfan arall (pobl sy'n byw mewn llefydd gwledig, a sy'n sicr ddim yn rhan o'r glymblaid honno). Mae unrhyw bolisiau sy'n hyrwyddo buddiannau lleiafrifoedd ethnig neu ieithyddol yn agored i'r cyhuddiad o gleiantiaeth.

Yn wir, mae modd dadlau bod llwyddiant hir dymor y Blaid yng Ngwynedd yn rhannol yn dilyn o weithredu yn y ffordd yma. Daeth y Blaid i ddealltwriaeth gyda llywodraeth Lafur Callaghan yn ystod misoedd olaf y llywodraeth hwnnw i'w cefnogi am bris. Un o'r pethau oedd rhaid i'r llywodraeth ei wneud oedd cytuno i greu cynllun i ddigolledu chwarelwyr oedd yn dioddef o niwmoconiosis. Roedd hyn yn fater pwysig yn nwy sedd seneddol y Blaid yn y Gogledd Orllewin gan bod nifer sylweddol o ddynion y ddwy etholaeth yn gyn chwarelwyr.

Pan ddaeth etholiad cyffredinol yn 79, gwnaeth y Blaid yn dda yng Ngwynedd - er bod yr etholiad yn un hynod siomedig yng ngweddill Cymru. 'Rwan roedd nifer o resymau am hyn - gan gynnwys ansawdd yr aelodau seneddol. Ond mae'n anodd iawn gen i gredu nad oedd cysylltiad gyda'r cytundeb efo'r llywodraeth Lafur. Aeth y Blaid ymlaen i adeiladu cefnogaeth sylweddol yn y ddwy etholaeth tros y degawdau dilynol, gan ddod i ddominyddu gwleiddiaeth ar pob lefel yn yr ardal.

Dydi hyn ddim yn golygu o anghenrhaid bod y cytundeb niwmoconiosis yn anheg wrth gwrs - i'r gwrthwyneb, y sefyllfa oedd yn bodoli cyn y cytundeb oedd yn anheg o dan unrhyw ystyriaeth gwrthrychol.

Bu farw arwr gwleidyddol fore Sadwrn - Tony Gregory. Mae'n debyg na fydd llawr o ddarllenwyr y blog hwn wedi clywed amdano, ond roedd yn un o bedwar TD (aelod seneddol) Dublin Central. Gwleidydd annibynnol oedd Tony. Roedd yn tynnu ei gefnogaeth o un o ardaloedd mwyaf di freintiedig y ddinas - ardal etholiadol y North Inner City. I'r rhai ohonoch sy'n ymweld a Dulyn, mae'n eithaf sicr eich bod wedi mynd trwy'r ardal - mae'n cynnwys O'Connell Street a'r rhan fwyaf o ganol y ddinas i'r gogledd o'r Liffey.

Un o'r prif resymau pam roedd Tony yn cael ei edmygu ymhell y tu hwnt i'w etholaeth oedd oherwydd ei ddewrder a'i ymroddiad i'w etholwyr - rhai o'r bobl mwyaf di freintiedig yn y Weriniaeth. Cafodd ei garcharu am bethefnos ym 1987 am gymryd rhan mewn protest i gefnogi masnachwyr stryd, ac roedd ei safiad cyhoeddus yn erbyn y gwerthwyr cyffuriau oedd yn dominyddu rhannau o'i etholaeth yn yr 80au - a'i gefnogaeth i ddulliau - ahem - uniongyrchol o gael gwared ohonynt yn rhywbeth oedd yn creu cryn dipyn o risg personol iddo.

Etholwyd Tony gyntaf fel TD yn etholiad cyffredinol 1982 - ac o fewn diwrnodiau roedd wedi cyflawni un o'r gweithredoedd gwleidyddol cleiantyddol mwyaf di gywilydd yn hanes gwleidyddiaeth Ewrop. Roedd arweinydd Fianna Fail ar y pryd - yr enwog Charlie Haughey mewn penbleth. Roedd yr etholiad yn agos iawn, ac roedd Charlie angen i Tony bleidleisio trosto yn y Dail - neu o leiaf beidio a phleidleisio yn ei erbyn er mwyn iddo gael ei ethol yn Taoiseach. Y broblem oedd nad oedd Tony yn hoff iawn o Charlie, ac roedd yn casau ei brif gyfaill gwleidyddol, Bertie Ahern, gyda chas perffaith. Ond roedd ganddo ei bris, a'r pris oedd £80,000,000.

Er mwyn iddo beidio a phleidleisio yn ei erbyn roedd rhaid i Haughey gytuno i gyfres maith o gonsesiynau - y rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud a chanol Dulyn, a llawer o'r rheiny o fantais i'r North Inner ei hun - £4,000,000 er mwyn creu 500 o swyddi yn y North Inner, 440 ty cyngor yng nghanol Dulyn a 1,600 o rai eraill ar draws y ddinas, gwladoli Melin Bapur Clondalkin am bod bygythiad y byddai'n cau, grantiau sylweddol i ddennu busnes i'r ddinas, cardiau meddygol am ddim i pob pensiynwr, cyflogi llawer mwy o athrawon anghenion addysgol arbennig yng nghanol y ddinas ac ati, ac ati. (Gyda llaw, ymddengys i Tony wneud i'r trafodaethau gyda Haughey barhau am dair awr a hanner yn fwriadol oherwydd ei fod yn gwybod bod Bertie Ahern yn eistedd yn y car y tu allan yn barod i ddreifio'r Bos adref).

Fel mae'n digwydd ni chafodd y rhan fwyaf o'r arian ei wario oherwydd i lywodraeth Haughey syrthio cyn diwedd y flwyddyn, ond roedd dyfodol gwleidyddol Tony wedi ei sicrhau. Er bod gwleidyddion annibynnol yn cael eu hethol yn lled aml yn y Weriniaeth, fel rheol nid oes iddynt fywyd gwleidyddol hir. Bron yn ddi eithriad byddant yn cael eu targedu gan y prif bleidiau a byddant yn colli eu seddi mewn etholiad neu ddwy. Ail etholwyd Tony yn hawdd yn yr wyth etholiad cyffredinol dilynol, ac roedd yn TD hyd y diwrnod y bu farw - ac roedd hynny mewn etholaeth lle mae'r gystadleuaeth etholiadol yn ddi eithriad yn wirioneddol ffyrnig.

'Rwan roedd elfennau rhyddfrydig a llawer o'r wasg wedi ei ffieiddio at y bargeinio 'anheg' a'r gwleidydda noeth gleiantyddol yma (am gwahanol resymau 'doedd o ddim yn poeni botwm ar Tony na Charlie). Eu dadl oedd ei fod yn anheg i elfennau eraill mewn cymdeithas. Dyma'r brif ddadl yn erbyn cleiantiaeth - er nad ydi natur yr anhegwch yn gwbl glir pob tro - gyda chynllunio er enghraifft.

Ond mae ffordd eraill o edrych ar bethau. Ar y pryd roedd ardaloedd dosbarth gweithiol canol Dulyn - yn arbennig y rhan ogleddol ohono ymysg y llefydd tlotaf yng Ngorllewin Ewrop, ac wedi dioddef o dan wariant cyhoeddus a than fuddsoddiad dybryd am ddegawdau. Roedd cyffuriau yn broblem barhaus a difrifol ac roedd rhannau o'r ardal yn rhy berygl i gerdded trwyddynt wedi iddi nosi. Roedd ymysg y llefydd mwyaf di galon dan haul i fagu plant - ac roedd yna lawer iawn o blant yno. I Tony roedd yn cymryd mantais o gyfle unwaith mewn oes i wella ansawdd bywydau pobl oedd wedi eu bradychu a'u hanwybyddu gan y pleidiau gwleidyddol a'r gyfundrefn. Fedra i yn un ddim edrych i lawr fy nhrwyn ar yr opertiwnistiaeth yma - roedd Tony'n gywir i wneud yr hyn a wnaeth.

Ac fel arfer efo'r blog yma daw hyn a ni'n ol at ni ein hunain, rwan. Y ffaith syml (ond anymunol efallai) ydi bod cleiantiaeth ar rhyw ffurf neu'i gilydd yn rhan o wleidyddiaeth - ac felly mae wedi bod erioed. 'Dydi hi ddim yn gwneud synwyr gwleidyddol nag etholiadol i beidio a cheisio amddiffyn buddiannau unrhyw grwp o gwbl. Byddai hynny'n hunanladdiad etholiadol. Mater o gydbwyso gwahanol ystyriaethau ydyw - Pa mor anghenus ydi'r grwp rydym yn amddiffyn eu buddiannau? Ydi'r hyn rydym yn ei wneud yn cael effaith negyddol sylweddol ar eraill? Ydi'r hyn rydym yn ei wneud yn gyson gyda'n gwerthoedd sylfaenol ein hunain?

Fel gyda chymaint o bethau mewn bywyd does yna ddim atebion syml - ond heb unrhyw amheuaeth mae yna'r fath beth a gwleidyddiaeth rhy egwyddorol - a dydi gwleidyddiaeth felly ddim yn debygol o lwyddo'n etholiadol - ac heb lwyddo'n etholiadol, ni ellir gweithredu i hyrwyddo unrhyw egwyddorion o gwbl.

14 comments:

rhydian fôn said...

Blog diddorol arall blogmenai. Dwi ddim yn siwr am dy sylw ar hela llwynogod gyda cwn 'de - os oes llwynog yn bla, saetha fo, nid ei rwygo yn darnau mewn proses greulon!

Ond at y pwynt am gleiantiaeth. Mae un ffordd syml o ddod a'r problem o aelodau lleol yn rhoi buddianau eu ward/etholaeth Cynulliad/ etholaeth Seneddol o flaen popeth arall. Sustem PR yw'r ffordd o wneud hynny.

menaiblog said...

Rhag bod camddaealltwriaeth 'dwi ddim yn dadlau o blaid nac yn erbyn hela llwynogod yma.

Hanfod y ddadl ydi bod cleiantiaeth yn rhan naturiol o'r drefn etholiadol - ac nad ydi dweud 'rydan ni yn erbyn y math yma o beth' - atalnod llawn - yn ymateb soffisdigedig iawn.

Mae dy bwynt ynglyn a PR yn ddiddorol. Mae rhai systemau PR (STV er enghraifft)yn gwneud cleiantiaeth yn fwy tebygol, tra bod rhai eraill (rhestr genedlaethol er enghraifft), yn ei wneud yn llai tebygol.

Ond mae systemau megis yr un rhestr yn creu problemau newydd - mae'n gwneud pleidiau gwleidyddol yn rhy bwerus a'r etholwyr yn rhy wan.

Mae hwn yn thema da am flog yn y dyfodol.

Dyfrig said...

Mae hi'n hwyr, a dwi'n rhy flinedig i fynd i berfedd hon.....ond fel y gelli di ddisgwyl, mae gen i sylw i'w wneud.
Ti'n dewis engrhaifft gyfleus o gleiantiaeth. Hap a damwain oedd hi bod Tony Gregory yn cynrychioli etholaeth ddi-freintiedig. Yn hawdd gallai fod wedi cynrychioli etholaeth gyfoethog, ac fe fydden nhw wedi elwa o'i sefyllfa fargeinio freintedig.
Dyma ydi gwendid unrhyw drefn sydd yn fympwyol - weithiau mae'n ffafrio'r bobl iawn, ond yn aml mae'n ffafrio'r bobl anghywir. Fe ddylai problemau canol Dulyn fod wedi eu sortio oherwydd mai dyna'r peth cyfiawn i'w wneud, nid i gadw Taoiseach llwgr mewn grym.
Ti'n dweud "'Dydi hi ddim yn gwneud synwyr gwleidyddol nag etholiadol i beidio a cheisio amddiffyn buddiannau unrhyw grwp o gwbl" ond dwi'n cael hynny'n anodd i'w lyncu. Pa grwpiau sydd yn dderbyniol i'w hamddiffyn? Cymry Cymraeg? Pobl leol? Pobl sydd ddim ar ddrygs? Pobl wyn?
Efallai mod i'n un o'r gwleidyddion dwl hynny sydd yn rhy egwyddorol.

menaiblog said...

Dyfrig - ti'n dweud:

Ti'n dewis engrhaifft gyfleus o gleiantiaeth. Hap a damwain oedd hi bod Tony Gregory yn cynrychioli etholaeth ddi-freintiedig. Yn hawdd gallai fod wedi cynrychioli etholaeth gyfoethog, ac fe fydden nhw wedi elwa o'i sefyllfa fargeinio freintedig.

Yn hollol Dyfrig - y norm ydi bod Fianna Fail yn gwneud pob dim posibl i hyrwyddo buddianu'r diwydiant adeiladu - the political wing of the construction industry. y rheswm am hyn ydi bod adeiladwyr yn ariannu FF. Mae gwahanol elfennau ym myd busnes a mudiadau llafur yn ariannu'r pleidiau Prydeinig.

Mae'n rhan o'r system - ond mae'n anfoesol i bleidiau lleiafrifol gymryd rhan mewn fersiwn ychydig yn gwahanol o gleiantiaeth, tra ei bod yn OK i Lafur gymryd miliynau Ecclestone.

Gret.

Dyfrig said...

Dwi'n derbyn bod 'na elfen o gleiantiaeth yn perthyn i wleidyddiaeth etholedig, ac mae'n bur debyg mai fel hyn y bydd hi. Dwi ddim yn licio'r ffaith, ond dwi'n derbyn ei fodolaeth.
Dwi hefyd yn credu ei bod yn bwysig nodi bod 'na adegau pan mae egwyddorion a chleiantiaeth yn gor-gyffwrdd. Yng nghyd-destun y Blaid Lafur, fe ellid dadlau bod rhai gweithwyr sector gyhoeddus - yn enwedig yn y gwasanaeth iechyd - yn gleiantiaid i Lafur, gan eu bod yn gyffredinol driw i'r blaid, a bod Llafur yn tueddu i wobrwyo eu ffyddlondeb gyda chodiadau cyflog. Ond efallai bod hyn yn bod yn or-sinigaidd. Mae cryfhau y gwasanaeth iechyd yn bwysig i nifer o wleidyddion Llafur, ac felly mae cynnal eu "cleiantiaid" yn weithred sydd yn gwbl gydnaws a'u hegwyddorion.
Yng nghyd-destun Plaid Cymru/cenedlaetholdeb, fe ellid dadlau fod yr un peth yn wir. Dwi'n rhywun sydd yn credu bod angen i'r cymunedau Cymraeg eu hiaith ffynnu os yw'r Gymraeg am oroesi i'r dyfodol. Mae hyn yn golygu buddsoddi arian cyhoeddus yn y cymunedau hyn, er mwyn annog/galluogi Cymry Cymraeg i fyw a gweithio yno. Ond does dim amheuaeth bod buddsoddiad o'r fath - yn enwedig os yw'n dod o lywodraeth glymblaid sy'n cynnwys Plaid Cymru - o fudd etholiadol i'r blaid. Ai ymddwyn yn egwyddorol ydw i wrth ddadlau dros hyn, ynteu gwarchod fy nghleiantiaid?
Yr hyn fyddwn i yn ei ddweud yw bod cleiantiaeth yn wenwynig mewn llywodraeth leol. Mae Cyngor Gwynedd yn uned wleidyddol fechan, sydd yn gwasanaethu rhyw 120,000 o bobl. Os yw'r uned fechan yma wedyn yn cael ei rhannu yn 75 o wardiau, a phob ward yn cynrychioli set o gleiantiaid unigol, yna mae hi'n mynd yn amhosib llywodraethu'r sir. Er mwyn i Gwynedd weithio, mae'n rhaid i'r aelodau weld eu gwaith fel edrych ar ol buddianau pawb sydd yn byw yn y sir, a nid ymladd dros fuddianau eu hetholwyr unigol hwy, ar draul pawb arall.

rhydian fôn said...

Gwir iawn Dyfrig. Yn bersonol, mi fyddai'n well gen i restr o gynghorwyr wedi eu ethol trwy sustem PR na pob ward a'i gynrychiolydd lleol yn cwffio dros fuddianau'r ward yn unig. Neu, er mwyn cadw'r cyswllt lleol, beth am i bob aelod ar y rhestr gael ei ddosranu i ward y tu allan i'w fan cartref - fel bod aelod nodedig i bob ward, ond un a fydd yn gweithio er les y sir oll.

menaiblog said...

Mae delio a phroblemau etholwyr yn rhan o ddyletswydd cynghorydd - yn aml fo neu hi ydi pwynt cyswllt pobl gyda'r cyngor.

Wedi dweud hynny 'dwi'n cytuno na ddylid cael sefyllfa lle mae ward yn cystadlu yn erbyn ward - dyna ydi un o brif anfanteision y traddodiad annibynnol Cymreig mewn llywodraeth leol.

Anonymous said...

Niсe post. I uѕed to be cheсking continuοusly this blog and I'm impressed! Extremely useful info specially the ultimate part :) I take care of such info much. I was looking for this particular information for a very lengthy time. Thank you and good luck.

My web-site :: same day payday loans
My page : same day payday loans

Anonymous said...

Τhank yοu for the аuspіcіоus wгіteup.

It in fact wаѕ a аmusement аccount it.
Loоk advanced to more аdded аgrеeable from you!
Вy the wаy, how сοuld we
communicatе?

Also viѕіt my ѕite :: instant payday loans
My weblog ... instant payday loans

Anonymous said...

Qualіty content iѕ thе κey to be a focus for thе peоple to vіsіt the sitе, thаt's what this web site is providing.
Also visit my web page :: loans for bad credit

Anonymous said...

I am regulаг readeг, how are you
everybody? Τhis рiece of writіng posted at this ωеb pаge іs in fасt
pleasant.
My weblog ... loans for bad credit

Anonymous said...

Excellent goodѕ from уou, man.
I've understand your stuff previous to and you're just too
magnificent. I really likе what you have acquirеԁ here, гeally likе
what you're saying and the way in which you say it. You make it entertaining and you still care for to keep it smart. I can not wait to read far more from you. This is actually a great site.

Review my web blog - New Bingo Sites
My web page - New Bingo Sites

Anonymous said...

уou're truly a excellent webmaster. The web site loading pace is amazing. It kind of feels that you're doing any
unіque trick. Also, The cοntents are masterpiece.
you hаѵe done a grеat activіtу in thіѕ mattеr!


My web blοg - payday loans

Anonymous said...

buy ativan effects of ativan addiction - can ativan withdrawal cause seizures