Thursday, September 24, 2009

Dyfrig, carchar C'narfon a Chymru'n Un

'Dwi wedi darllen blogiad ddiweddaraf Dyfrig dair neu bedair gwaith, a 'dwi'n dal i grafu fy mhen. Mae'n datgan - Tydw i ddim am eiliad yn dadlau bod penderfyniad Llywodraeth Prydain i beidio ac adeiladu carchar yng Nghaernarfon yn reswm dros dorri Cytundeb Cymru'n Un, a ildio'n lle yn Llywodraeth Cymru - ac yna'n mynd ati i son am pob dim mae'n ei ddrwg leicio am y ffordd mae'r Cytundeb yn mynd rhagddo hyd yn hyn ac yna datgan - Mae'n bryd i ni wynebu y ffaith bod Llafur wedi methu a chadw ei bargen gyda Phlaid Cymru, a gadael y glymblaid.

'Rwan dydi corff y blogiad ddim yn nodweddiadol o'r ffordd y bydd Dyfrig yn dadlau fel rheol, i'r graddau ei fod yn rhestr o gwynion sydd heb eu didoli na'u gwerthuso - tipyn bach fel petai yn un o flogiadau blogwyr Llais Gwynedd. Hynny yw, mae mwy o sylwedd i rai o'r cwynion na'r lleill - ond maent i gyd yn cael eu cyflwyno i'n sylw yn un lwmp bler fel petaent i gyd yn ddiymwad, ac i gyd yn gyfartal o ran difrifoldeb. Mae hefyd yn bwysig cofio ein bod dim ond hanner ffordd trwy'r Cytundeb.

Ydi hi mewn gwirionedd yn onest i ollwng y gyfrifoldeb am beidio a symud ymlaen efo papur dyddiol ar stepan drws Rhodri Morgan, pan mai Rhodri Glyn oedd yn gyfrifol am y penderfyniad? Ydi cynlluniau'r llywodraeth i sefydlu Coleg Ffederal mewn gwirionedd yn dystiolaeth o 'fethiant' Cymru'n Un. Ydi'r ddadl LCO iaith yn dal dwr pan mae'n amlwg bod pwyllgor deddfwriaeth y Cynulliad yn credu y dylai'r cynulliad gael y cwbwl lot o'r pwerau deddfu ynghylch yr iaith?

'Dydw i ddim yn gwybod beth i'w wneud o ddadl Dyfrig - mae o'n codi'r ddadl y dylid torri Cymru'n Un yng nghyd destun y penderfyniad ynglyn a charchar Caernarfon, ac yna'n honni y dylid tynnu allan o'r cytundeb oherwydd nad ydi Cymru'n Un wedi gwireddu ei holl amcanion hanner ffordd trwy gyfnod y cytundeb.

'Dydw i'n onest ddim yn gwybod beth i'w wneud o'r ddadl.

8 comments:

Dyfrig said...

Dwi ddim yn credu bod fy nadl i'n un anodd i'w dilyn.

1) Mae Plaid Cymru wedi taro bargen gyda'r Blaid Lafur. Rydym ni yn ei cefnogi nhw ym Mae Caerdydd, a'r pris am wneud hynny oedd cael gwireddu nifer o bolisiau.

2) Nid yw nifer fawr o'r polisiau wedi eu gwireddu, neu'n debygol o gael eu gwireddu cyn 2011 - a hynny yn bennaf oherwydd gweithredoedd Llafur yn Llundain (gyda chymorth achlysurol Llafur Caerdydd)

3) I wneud sefyllfa ddrwg yn waeth, mae Llafur yn Llundain yn ymddangos fel eu bod yn bwriadu symyd 600 o swyddi posib o etholaeth ddiogel Plaid Cymru i etholaeth ymylol Plaid Lafur - camddefnydd gwarthus o adnoddau cyhoeddus.

O ystyried agwedd Llafur at Blaid Cymru ar lefel egwyddorol (h.y. gwireddu addewidion Cymru'n Un) ac ar lawr gwlad (h.y. Carchar Caernarfon), pam dylen ni barhau i'w cynnal yng Nghaerdydd?

Beth yn union wyt ti'n ei gredu mae Cytundeb Cymru'n Un yn ei roi i ni fel plaid wleidyddol genedlaetholgar?

Dyfrig said...

Mae 'na ddadl etholiadol yn erbyn y glymblaid, hefyd. Rydym ni, ar y funud, yn cyngrheirio gyda phlaid wleidyddol sydd yn syrthio drwy'r llawr, yn nhermau poblogrwydd. Dwi'n deallt sut y gallai ein cyfeillgarwch gyda Llafur Cymru fod yn fanteisiol yn Islwyn, dyweder. Ond sut effaith gaiff hyn ar ein pleidlais ym Mon ac Aberconwy? Rhwng 1997/2001 a rwan, mae'r etholaethau hyn wedi ethol aelod Llafur, a hynny yn sgil ton genedlaethol o gefnogaeth i Lafur Newydd ymhlith y "floating voter". Yr etholwyr yma sydd bellach wedi chwerwi yn llwyr gyda Llafur, a sydd yn debygol o heidio at y Ceidwadwyr. Efallai y gallai ein cyfeillgarwch gyda Llafur fod gwerth ychydig miloedd o bleidleisiau yn y de-ddwyrain. Ond ym Mon ac Aberconwy, fe allai wneud y gwahaniaeth rhwng 5 AS a 7.

menaiblog said...

Mae'r ddadl etholiadol yn amherthnasol i'r graddau na ddylid mynd ati i dorri cytundeb am resymau felly. Serch hynny mae'n bwnc diddorol, ac efallai y byddaf yn cynhyrchu blogiad ar y mater os caf amser - o safbwynt etholiadol llwyr mae'r ddadl tymor byr a'r un hir dymor yn wahanol.

Mewn gwledydd lle mae clybleidio'n gyffredin mae yna yn hanesyddol bris etholiadol i'w dalu am dorri cytundebau am resymau oportiwnistaidd - blogiad arall efallai.

Mae Cymru'n Un yn llai na pherffaith - ond yn amlwg mae pethau cadarnhaol o safbwynt cenedlaetholdeb wedi deillio ohono - comisiwn Cymru gyfan, strategaeth addysg Gymraeg, lco iaith ar y ffordd, gwyrddio polisi treftadaeth, coleg ffederal ar y ffordd er enghraifft a Golwg 360 (sori dwi'n tynnu'r diwethaf yn ol).

Dyfrig said...

Dwi'n derbyn bod pris am dorri cytundeb, ond dwi ddim yn derbyn mai Plaid Cymru fyddai'n gyfrifol am wneud hynny. O ystyried bod ASau Llafur yn gwrthod cymeradwyo addewidion sydd yn y cytundeb - gwerthu tai cyngor, yn benodol - sut gellid dadlau bod Llafur yn cadw at eu gair.
Dwi ddim yn gwadu bod 'na bethau cadarnhaol wedi dod o'r Cytundeb, gyda Addysg yn faes sydd wedi elwa yn arbennig. Ond mae'r ennillion yn fychain iawn o'u cymharu a'r gost, ac unwaith y bydd yr LCO iaith wedi ei gymeradwyo, beth fydd ar ol?

menaiblog said...

Gyda llaw, dwi'n synnu dy fod yn ystyried Mon yn etholaeth Geidwadol.

Mae'r frawddeg olaf yn awgrymu dy fod yn argymell torri cytundeb wedi i'w amcanion gael eu gwireddu.

Y refferendwm ydi'r eliffant sydd ar ol wrth gwrs.

aled g j said...

Dwi'n gallu derbyn pwynt Dyfrig am y peryglon ynghlwm wrth gael Plaid Cymru wedi'i chysylltu mor agos a phlaid mor gwbl fethiannus a'r Blaid Lafur bresennol. Fe all hynny gyfrif yn erbyn PC yn yr etholiad cyffredinol sydd ar y gorwel. Ond tydw i ddim yn teimlo bod peidio lleoli'r jel yng Nghaernarfon yn reswm dilys i derfynu'r cytundeb Cymru'n Un. Ac mae'r pwynt ynghylch pa mor warthus fyddai symud y jel i "ethlaeth ymylol" yn dangos myopia lleol ar ei waethaf yn fy marn i: ydi o ots os ydi'r jel yn mynd i Fon yn hytrach na Gnarfon?! Mi fydd yna gannoedd o swyddi yno y gall pobl o ardal Gaernarfon drio amdanyn nhw run fath yn union! A hyd yn oed os ydi hynny'n golygu bod albert bach, trwy ryw ryfedd wyrth yn cael ei ddychwelyd i san steffan, mi fyddwn i'n dadlau mai pris bach i'w dalu ydi hynny ochr yn ochr a chael hynny os y cannoedd o swyddi newydd i Ogledd Orllewin Cymru.

Dyfrig said...

Aled GJ - O'r hyn dwi'n ei ddeall, y safle mae Hain yn ei ffafrio yw Rhosgoch, reit yng ngogledd Sir Fon, rhyw awr o daith o Gaernarfon. A dwi ddim yn gwrthwynebu sefydlu carchar yno, gan bod hon hefyd yn ardal ddi-freintedig, gymharol Gymreig, sydd angen swyddi. Ond y ffaith bod y safle wedi ei newid am resymau gwleidyddol sydd yn fy nghorddi fi. Traha'r Blaid Lafur, ei llygredd moesol ac ei agwedd gwbl ddilornus tuag at ei "phartner" llywodraeth sydd yn fy nghorddi i.

BlogMenai - Dwi ddim yn credu bod Mon yn etholaeth sydd yn Geidwadol gyda 'C' (neu 'G' yn yr achos yma) fawr. Ond mae hi yn etholaeth sydd wedi ethol Aelodau Seneddol o bob plaid wleidyddol yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf. Does dim teyrngarwch sefydliadol i un plaid, fel mae rhywun yn ei ganfod mewn etholaethau yn nghymoedd y De-Ddwyrain.

menaiblog said...

DJ - Traha'r Blaid Lafur, ei llygredd moesol ac ei agwedd gwbl ddilornus tuag at ei "phartner" llywodraeth sydd yn fy nghorddi i.

Does yna neb yn gofyn i ti hoffi'r Blaid Lafur - 'dwi ddim yn eu hoffi nhw mwy na thi. Cadw at amodau ytundeb ydi'r pwynt efo clymblaid - nid gafael dwylo ayllu'n gariadus i lygaid ei gilydd.

DJ - Dwi ddim yn credu bod Mon yn etholaeth sydd yn Geidwadol gyda 'C' (neu 'G' yn yr achos yma) fawr. Ond mae hi yn etholaeth sydd wedi ethol Aelodau Seneddol o bob plaid wleidyddol yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf.

'Dydi'r pwynt bod clymbleidio efo Llafur am wneud niwed etholiadol i ni ym Mon ddim yn sefyll felly.