
Blogmenai ydi'r unig flog yn y byd mawr crwn sy'n gwneud arfer o gymharu gwleidyddiaeth etholiadol Cymru a gwleidyddiaeth etholiadol Iwerddon - hyd y gwn i. 'Dwi ddim yn siwr bod cymharu dwy wlad sydd mewn rhai ffyrdd yn debyg, ond sydd o ran system etholiadol a diwylliant gwleidyddol yn gwbl wahanol, yn syniad da. 'Dwi'n rhyw led ymddiheuro pob tro 'dwi'n gwneud cymhariaeth, a 'dwi'n gwneud hynny eto y tro hwn.
Beth bynnag - mae clymbleidio yn rhan anatod o ffurfio llywodraeth yn Iwerddon - y dyddiau hyn mae'n ymylu at fod yn amhosibl ffurfio llywodraeth heb wneud hynny. Mae clymbleidio yn gysyniad newydd yng Nghymru, ac mae'n amlwg o nifer o sylwadau diweddar ar y We a thu hwnt nad ydi oblygiadau bod mewn tirwedd etholiadol sy'n gorfodi clymbleidio wedi treiddio'n llawn i'r ymwybyddiaeth dorfol eto.
'Rydym eisoes wedi edrych ar sut y llwyddodd
John A Costello i achub ei blaid - Fine Gael - trwy ffurfio clymblaid llywodraethol ym 1948. Y ddadl pan gynhyrchais y blogiad hwnnw oedd os oedd yn briodol i'r Blaid glymbleidio o gwbl. Y ddadl y tro hwn ydi os y dylai'r Blaid dynnu allan o glymblaid, neu newid partneriaid mewn clymblaid lywodraethol. Efallai y gall dau etholiad Gwyddelig mwy diweddar fod o gymorth i ni.
Yn fy marn bach i etholiad 1992 yng Ngweriniaeth Iwerddon oedd yr un mwyaf dramatig ers un 1918, pan sgubodd y wlad gan Weriniaethol anferth. Ton etholiadol o fath gwahanol a gafwyd ym 1992. Dwblodd y Blaid Lafur Wyddelig ei chynrychiolaeth yn y
Dail o 15 i 33. Dwblwyd hefyd y bleidlais i bron i 20%. Yn yr ardaloedd trefol oedd y rhan fwyaf o'r gefnogaeth newydd, ond llwyddodd y blaid ryddfrydig yma i gael mwy na 10% o'r bleidlais yn rhai o geiri ceidwadiaeth Pabyddol Gwyddelig - llefydd fel
Donegal North East er enghraifft. I mi roedd hyn yn fwy syfrdanol na'r buddigoliaethau trefol anferth.
'Roedd llawer (gan fy nghynnwys i) yn darogan ar y pryd bod newid strwythurol, hir dymor ar ddigwydd yng ngwleidyddiaeth yr ynys. Hyd hynny roedd yr ymgiprys gwleidyddol yn Iwerddon wedi croni o gwmpas yr hafn a agorwyd mewn cymdeithas Gwyddelig gan y Rhyfel Cartref. Roedd gwleidyddiaeth i raddau helaeth yn llwythol - gyda'r sawl oedd a'u teuluoedd wedi gwrthwynebu'r Cytundeb Eingl Wyddelig yn cefnogi Fianna Fail, a'r sawl a'i cefnogodd yn pleidleisio i Fine Gael. Roedd mwy iddi na hynny wrth gwrs - ond goroesodd y Rhyfel Cartref yng ngwleidyddiaeth Iwerddon am ddegawdau wedi i'r bwled olaf gael ei danio. Byddai aml i un yn dadlau bod y rhyfel yn waelodol i wleidyddiaeth y Weriniaeth hyd heddiw.
Canlyniad hyn oedd system oedd yn cynhyrchu dwy blaid - Fine Gael a Fianna Fail - oedd i rhywun o'r tu allan yn edrych yn ddigon tebyg i'w gilydd. Roeddynt yn ddwy blaid adain Dde - y naill efallai ychydig yn fwy rhyddfrydig yn gymdeithasol, a'r llall yn gogwyddo ychydig i'r Chwith weithiau mewn polisiau economaidd. 'Doedd yr hollt De / Chwith oedd yn nodweddu gwleidyddiaeth etholiadol gweddill Ewrop ddim yn ffactor ar yr Ynys Werdd.
Ac yna daeth
etholiad 1992. 'Doedd y polau piniwn ddim wedi darogan yr hyn ddigwyddodd - ond roedd perfformiad rhyfeddol o gryf y Blaid Lafur a'u harweinydd carismataidd, Dick Spring - yn rhoi lle gwirioneddol i gredu bod yr hen drefn ar ddymchwel. Fianna Fail oedd y blaid gryfaf o hyd - ac wedi ychydig wythnosau o'r hym hymian arferol, cafwyd clymblaid FF / Llafur. Cafodd Llafur 6 o'r 15 sedd yn y cabinet, a gwnaethwyd Spring yn Tánaiste - dirprwy brif weinidog. Albert Reynolds, arweinydd FF oedd y prif weinidog.
Cafodd Spring fuddugoliaeth bersonol anferth yn ei etholaeth ei hun - Kerry North. Bathwyd y term
Spring Tide - llanw Spring i ddisgrifio'r hyn oedd wedi digwydd.
Cafwyd newidiadau sylweddol yn fuan iawn mewn polisi cyhoeddus - cynllunwyd ar gyfer refferendwm i gyfreithloni ysgariad, cyfreithlonwyd rhyw hoyw am y tro cyntaf, cafwyd deddfwriaeth i ddelio efo llygredd llywodraethol, caniatawyd gwethiant offer atal cenhedlu ac ati.
Syrthiodd yr olwynion oddi ar y wagen ym 1994. Yn dilyn un neu ddwy o is etholiadau gwael i Lafur, cafodd Spring homar o ffrae efo Reynolds ynglyn a phenodiad llywodraethol. Wna i ddim mynd i mewn i'r mater yma - mae'n gymhleth. Bu'n rhaid i Reynolds ymddiswyddo, a chymerwyd ei le gan Bertie Ahern a'r disgwyl oedd y byddai llywodraeth FF / Llafur newydd yn cael ei ffurfio - ond nid dyna beth ddigwyddodd. Y diwrnod cyn roedd y trafodaethau i fod i ddod i ben, newidiodd Spring ei feddwl - ac aeth ati i ffurfio clymblaid anhebygol efo Fine Gael a'r Democratic Left. Roedd rhaid i Bertie Ahern ddisgwyl tair blynedd arall cyn gwireddu uchelgais oes.
Ac wedyn
daeth 1997 ag etholiad arall yn ei sgil. Collodd Llafur yr oll roeddynt wedi ei ennill yn 92 - fwy neu lai. Yng ngeiriau'r Irish Independent, roedd hi'n
Payback Time. Cadwodd Spring ei sedd, ond bu'n rhaid iddo ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Lafur.
Collodd ei sedd yn yr etholiad canlynol - un 2002 i wleidydd carismataidd arall - Martin Ferris - dyn oedd wedi treulio cyfran dda o'i fywyd fel oedolyn mewn carchar, ac a oedd yn ol pob tebyg yn un o uchel swyddogion yr IRA. 'Dydi'r Blaid Lafur byth wedi ad ennill y tir a gollwyd, ac mae strwythurau gwaelodol gwleidyddiaeth Gwyddelig yn dal yn ddigon tebyg i'r hyn a fuont ers dau ddegau cynnar y ganrif ddiwethaf.

'Rwan, nid y neidio o un gwely gwleidyddol i'r llall oedd yr unig reswm tros berfformiad sal y Blaid Lafur Wyddelig, ond roedd yn sicr yn ffactor pwysig. Llwyddodd y blaid i dynnu blewyn o drwyn pawb oedd yn gogwyddo tuag at FF, pawb oedd yn gogwyddo tuag at FG a phawb nad oeddynt yn hoff o'r Chwith eithafol mewn un tymor llywodraethol. Gwnaethant hefyd i'r blaid ymddangos yn ddi gyfeiriad ac yn anwadal.
Byd gwleidyddol hollol wahanol? Efallai. Trefn etholiadol hollol wahanol? Efallai - ond dim ond ffwl fyddai'n dweud nad oes yna wers i'w hystyried o gwbl.