Monday, September 13, 2010

Un gair bach arall am y gynhadledd

Cymhariaeth rhwng dwy araith sydd gen i heddiw - un Ron Davies ddydd Sadwrn, ac un arall y llynedd.

Yr araith wnaeth yr argraff yng nghynhadledd y llynedd oedd un Adam Price. Roedd yn ymdrech gaboledig, effeithiol a soffistigedig, gyda'r gymysgedd o hiwmor a grafitas a'r gallu i osod y tirwedd gwleidyddol sydd ohoni mewn cyd destun hanesyddol sy'n nodweddu areithiau gorau Adam. Ymysodiad chwyrn ar y Toriaid oedd prif ffocws yr araith honno. Rhywbeth a wylltiodd Llais Gwynedd yn gacwn gyda llaw.

Roedd araith Ron Davies yn wahanol fath o araith - un nad oedd iddi bolish Adam, ond roedd yn effeithiol iawn serch hynny - yn arbennig felly'r rhan lle'r aeth ati i ddatgymalu seiliau syniadaethol y Blaid Lafur Gymreig.

Ac efallai mai'r hyn y dylid ei gofio yn annad dim arall ydi mai'r Blaid Lafur, ac nid y Blaid Doriaidd ydi prif elyn Plaid Cymru, ac yn wir prif elyn Cymru. Mae hyn yn wir, er bod y rhan fwyaf ohonom sydd oddi mewn Blaid yn llawer nes i'r Blaid Lafur nag i'r Toriaid ar sawl cyfrif. Er mai cyffredinoli ydw i yma wrth gwrs, mae serch hynny yn wir i ddweud bod y Toriaid yn apelio at elfennau mewn cymdeithas Gymreig lle nad oes yna hunaniaeth Gymreig gref. Dyna pam mae y rhan fwyaf o'i haelodau seneddol yn cynrychioli ardaloedd sydd a llawer o bobl gydag hunaniaeth Brydeinig. 'Dydi pobl o'r fath ddim ar gael i Blaid Cymru beth bynnag - 'dydi achos Cymru ddim yn bwysig iddyn nhw.

Ar y llaw arall mae prif gadarnleoedd Llafur yn yr ardaloedd sydd a'r hunaniaeth Gymreig gryfaf, ac mae cefnogaeth y bobl hyn i Lafur wedi ei seilio ar eu tlodi, a'u dibyniaeth materol ar y wladwriaeth Brydeinig. Mae'r ddibyniaeth yma yn greiddiol i gefnogaeth Llafur yng Nghymru. Mae hefyd yn greiddiol i lwyddiant yr achos unoliaethol yng Nghymru.

A dyna pam bod yna fwy i'w dynnu o araith Ron nag un Adam. Dylai hoelio sylw ar y berthynas rhwng tlodi, anhyblygrwydd ac aneffeithlonrwydd ymateb y wladwriaeth Brydeinig i dlodi yng Nghymru a thaeogrwydd cibddall y Blaid Lafur Gymreig i'r wladwriaeth honno fod yn greiddiol i neges etholiadol y Blaid. Llafur ydi'r gelyn nid y Toriaid - a felly mae hi wedi bod erioed. Chwalu tirwedd syniadaethol y Blaid Lafur yng Nghymru ydi'r unig ffordd o baratoi'r tir y gellir sefydlu gwladwriaeth Gymreig arno.

Saturday, September 11, 2010

Argraffiadau brysiog o'r gynhadledd

Ar ddydd Sadwrn yn unig y byddaf yn mynychu Cynhadledd Flynyddol y Blaid gan amlaf, a 'doedd eleni ddim yn eithriad.

Roedd Vaughan yn awgrymu draw ar ei flog bod awyrgylch digon cadarnhaol yna, a gallaf ddweud i mi gael yr un argraff yn union. Roedd cryn dipyn o bobl yn mynychu'r digwyddiad ac roedd yr hwyliau'n hynod o dda, yn arbennig ag ystyried bod llawer o Bleidwyr yn ystyried etholiad cyffredinol mis Mai yn un siomedig.

Yn wahanol i 'gynadleddau'r' pleidiau unoliaethol sydd yn fawr mwy na raliau estynedig mewn gwirionedd, mae cynhadledd y Blaid yn un go iawn lle mae polisi yn cael ei greu, a gwelwyd hynny yn ystod y bore gyda dadleuon digon tanbaid a phleidleisio agos iawn ar wahanol agweddau ar bolisi ynni'r Blaid.

'Roedd yna nifer o areithiau clodwiw iawn hefyd - gan y cyn lywydd, a'r un newydd, Elfyn Llwyd, Sera Evans-Fear, Dafydd Trystan a Jocelyn Davies, Y ddwy araith mwyaf tanbaid a lliwgar oedd rhai Mabon ap Gwynfor a Helen Mary - roedd un Mabon yn arbennig o gaboledig.



Yr araith a wnaeth y mwyaf o argraff arnaf fi fodd bynnag oedd un Ron Davies. 'Dydi Ron ddim yn areithiwr mor naturiol a hyderus a rhai o'r lleill, ond roedd ei ymysodiad ar y Blaid Lafur Gymreig yn un o'r ymysodiadau mwyaf clinigol a thrylwyr ar blaid wleidyddol 'dwi wedi ei chlywed ers tro byd. Mae'r cwbl o'r hyn sydd ei angen ar gyfer naratif etholiadol effeithiol gwrth Lafur yn yr araith a draddodwyd ganddo heddiw - ac os ydi'r Blaid byth i wthio Llafur o'r neilltu, rydym ddifrawr angen naratif felly.

Friday, September 10, 2010

Is etholiadau Gwynedd

Mi fydd yna bedwar is etholiad yng Ngwynedd tros yr wythnosau nesaf - dau ar Gyngor Gwynedd a dau ar Gyngor Tref Caernarfon.

Mae'r cyntaf yn ward Bowydd a Rhiw ym Mlaenau Ffestiniog ar Fedi 30.
  • Donna Morgan - Llais Gwynedd-The Voice of Gwynedd
  • Paul Eurwel Thomas - Plaid Cymru-The Party of Wales
Yna bydd tri arall yng Nghaernarfon ar Hydref 7 - un Cyngor Sir yn ward mwyaf poblog Gwynedd, Seiont:
  • James Endaf Cooke Llais Gwynedd
  • Gareth Edwards
  • Llinos Mai Thomas Ymgeisydd Plaid Geidwadol Cymru
  • Menna Wyn Thomas Plaid Cymru
  • Tecwyn Thomas Ymgeisydd Plaid Lafur
A dau ar y Cyngor Tref - un yn Seiont:

  • Glyn Thomas Plaid Cymru
  • Tecwyn Thomas Ymgeisydd Plaid Lafur
Ac un yng Nghadnant:

  • Dylan William Jones Ymgeisydd Plaid Geidwadol Cymru
  • Glyn Thomas Ymgeisydd Plaid Lafur
  • Meilyr Hywel Tomos Plaid Cymru
Mi fyddaf yn edrych eto ar rhai o'r etholiadau tros y dyddiau nesaf, ond hoffwn wneud wneud un sylw bach cyn hynny. Mae gan y Blaid gyfle rhesymol ym mhob un o'r etholiadau. Petai yn ennill yr etholiad cyngor sir byddai pedair o bump sedd Caernarfon yn nwylo'r Blaid. 'Dydi hynny erioed wedi digwydd o'r blaen. Petai yn ennill un o'r ddau etholiad cyngor tref, byddai'r Blaid yn rheoli'r cyngor hwnnw - rhywbeth arall sydd erioed wedi digwydd o'r blaen. Mae yna gyfle hanesyddol i symud o safle cryf iawn yng ngwleidyddiaeth lleol y dref i un sydd hyd yn oed yn gryfach - ond mae gwaith i'w wneud cyn hynny.

Thursday, September 09, 2010

Cofeb Bomber Command

A hithau'n drigain mlynedd ers y Blits ymddengys bod cynlluniau ar y gweill i gofio am y 55,000 o aelodau Bomber Command a laddwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Rwan mae dyn yn sylweddoli bod y cyfnod o dan sylw yn un anodd iawn, bod y lluoedd Prydeinig yn wynebu gelyn anymunol iawn, mai'r Almaenwyr a ddechreuodd yr arfer o fomio er mwyn lladd sifiliaid a bod y sawl oedd yn fodlon mentro i mewn i fomar yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn ddewr iawn trwy ddiffiniad. Ond - wedyn - mewn difri ydi codi cofeb o'r fath yn briodol? Mae yna eisoes gerflun o Bomber Harris ar y Strand yn Llundain - y sawl oedd yn arwain yr RAF ar y pryd. Achosodd hynny gryn anghydfod pan gafodd ei ddadorchuddio ym 1992.

Ystyriwch y canlynol:

Mae'r amcangyfrifon o faint o sifiliaid Almaeneg a laddwyd oherwydd bomio strategol yn amrywio o 300,000 i 600,000. Nid marw oherwydd eu bod 'yn y ffordd' wnaeth y rhan fwyaf o'r rhain - roeddynt yn cael eu targedu yn fwriadol. Does yna ddim llawer o amheuaeth am hynny - mae hyd yn oed cyfarwyddiadau y Swyddfa Rhyfel ar y pryd yn cadarnhau hynny. Gweler geiriad cyfarwyddyd 5 (S.46368/D.C.A.S)- the primary objective of your operations should be focused on the morale of the enemy civil population and in particular the industrial worker - you accordingly authorized to employ your forces without restriction. Pe byddai strategaeth o'r fath yn cael ei defnyddio heddiw, 'does yna fawr o amheuaeth y byddai'r sawl oedd yn gyfrifol amdani yn cael ei hun mewn llys barn am droseddau rhyfel.

Fel y dywedais, amserau anodd a rhyfel anodd. Ond mae'r syniad o gofeb yn gadael blas drwg yn fy ngheg i mae gen i ofn. 'Dwi'n hoff o gofebau cyhoeddus - ond mae hwn yn un na ddylid ei godi.

Tuesday, September 07, 2010

Pob lwc Vaughan!

Ymddengys bod Vaughan yn bwriadu 'sgwennu pwt i godi calonnau pob un o'r prif bleidiau Cymreig ar drothwy eu cynhadleddau. Chware teg iddo fo - mae'n braf deall bod ganddo galon feddal.

Ond beth goblyn mae am ei ddweud i godi calonnau y Lib Dems Cymreig? Yn ol un pol (YouGov) a gyhoeddwyd heddiw maent ar 13% tros Brydain ar hyn o bryd. Os ydi patrwm 2007 yn rhywbeth i fynd arno byddai hyn yn cyfieithu i rhwng 8% a 9 % yn yr etholaethau, a rhwng 6% a 7% ar y rhestr mewn etholiadau Cynulliad.

Mewn termau seddi byddai hyn yn debygol o olygu bod y Lib Dems yn colli sedd restr y Gogledd - gan o bosibl gael llai o bleidleisiau nag UKIP a'r BNP. Byddai rhanbarth y De Ddwyrain hefyd mewn perygl yn ogystal ag un Canol De Cymru. Byddai sedd De Orllewin Cymru yn debygol o gael ei chadw.

O ran yr etholaethau byddai Maldwyn yn debygol iawn o syrthio - er y gallai hynny sicrhau sedd restr o'r newydd. Mi fyddai yna berygl o golli Brycheiniog a Maesyfed a Chanol Caerdydd hefyd - er cymaint y mwyafrifoedd. Gallai'r blaid yn hawdd gael eu hunain efo tair - os nad dwy sedd Cynulliad yr amser yma'r flwyddyn nesaf.

Felly Vaughan - pob lwc - mae'n dda gen i mai dy orchwyl di ac nid fy un i ydi codi calonnau'r Lib dems.

Sunday, September 05, 2010

S4C - eto fyth


'Dwi wedi rhyw ystyried 'sgwennu pwt am S4C ers tro. Mae'n eithaf anodd serch hynny oherwydd bod y cyfryngau print prif lif am unwaith ymhell o flaen y blogosffer, a chyda mwy o fynediad i wybodaeth gywir. Gweler dwy erthygl dreiddgar iawn gan Gwion Owain yn y cyhoeddiadau cyfredol o Barn a Golwg er enghraifft. Roedd hyd yn oed Lol yn eithaf dadlennol.

Wna i ddim ail adrodd beth sydd wedi ei ddweud yn yr erthyglau hynny, maent wedi eu 'sgwennu gan bobl sydd ar y tu mewn fel petai - ond mi hoffwn wneud sylw neu ddau fel rhywun sy'n edrych ar bethau o'r tu allan. Problem ganolog S4C ydi'r ffaith ei bod yn derbyn swm sylweddol o arian cyhoeddus er nad oes yna lawer iawn yn ei gwylio. Yn hyn o beth mae'n unigryw fel sianel deledu yn y DU. Fel mae Gwion yn ei awgrymu yn ei erthygl yn Golwg, fel ymarferiad darlledu syml 'does yna ddim cyfiawnhad tros S4C - cyfiawnhad diwylliannol, gwleidyddol a ieithyddol sydd yna dros ei chynnal. Mi gafodd ei chreu oherwydd yr ystyriaethau hynny, ac mae ei bodolaeth yn llwyr ddibynnol arnynt.

O ganlyniad mae'r sianel yn gorfod cyfiawnhau ei bodolaeth i raddau nad ydi sianeli eraill yn gwneud. Nid trwy geisio ymddwyn fel sianel gyffredin ydi'r ffordd orau i wneud hynny . Wrth gwrs bod ffigyrau gwylio yn bwysig - wedi'r cwbl nid oes cyfiawnhad ieithyddol na diwylliannol i sianel nad oes yna llawer o'r sawl mae wedi ei hanelu atynt yn ei gwylio. Ond mae mwy iddi o lawer na hynny. Mae cyfathrebu effeithiol a magu perthynas dda gyda'r holl bartneriaid sy'n gysylltiedig a'r sianel yn greiddiol i hyn - y llywodraethau yn Llundain ac yng Nghaerdydd, y sawl sy'n darparu rhaglenni ar ei chyfer, ei chynulleidfa wirioneddol a'i chynulleidfa botensial, ei gweithwyr cyflogedig ei hun a'r trethdalwyr sy'n ariannu'r sianel ond sydd byth am ei gwylio.

Rwan ystyriwch sefyllfa'r sianel ar hyn o bryd - mae ei phrif weithredwr wedi ymddiswyddo / cael ei sacio yn anisgwyl, mae'r niferoedd sy'n ei gwylio yn cwympo fel carreg, mae'n wynebu toriadau enbyd o gyfeiriad llywodraeth Llundain, mae'r gefnogaeth iddi o gyfeiriad gwleidyddion Caerdydd yn sigledig, 'does yna fawr o arwydd hyd yn hyn bod yr elfennau hynny yng Nghymru a sicrhaodd ei bodolaeth yn y lle cyntaf yn styrio rhyw lawer i'w hamddiffyn, mae llawer o'r cynhyrchwyr oedd wedi ei darparu a rhaglenni ar hyd y blynyddoedd wedi eu torri allan o'r sioe, mae'r trethdalwr, fel llywodraeth Llundain, yn gweld y toriadau sydd ar y ffordd yng nghyd destun syml yr holl doriadau eraill sydd ar y gweill, ac mae moral gweithwyr y sianel yn isel. 'Dwi'n meddwl ei bod yn ddiogel casglu i rhywbeth fynd o'i le yn rhywle.

Ac mae'n ddiogel casglu hefyd nad ydi'r hyn sydd wedi mynd o'i le yn rhywbeth sydd wedi ymddangos tros nos fel caws llyffant- mae'n sefyllfa sydd wedi datblygu tros amser. Mae'n cymryd amser i unrhyw gorff dorri ei holl bontydd, un ar ol y llall. 'Dwi ddim yn amau bod llawer o'r gyfrifoldeb yn syrthio ar reolwyr cyflogedig diweddar y sianel, ond mae'n rhaid codi'r cwestiwn yma - ymhle'r oedd Awdurdod S4C yn ystod yr holl ddatgymalu yma? Sut y cododd sefyllfa lle'r oedd y cyfeiriad strategol a ddilynwyd gan y tim rheoli mor wallus a di hid o'r strwythurau hynny oedd yn rhoi i'r sianel ei hygrededd a'r cyfiawnhad am ei bodolaeth? Efallai y dylai Awdurdod y sianel, ac yn arbennig ei gadeirydd ystyried y cwestiwn hwnnw yn ddwys.

Beth bynnag am hynny - mae'r cam nesaf yn amlwg ddigon - ceisio ail gysylltu efo'r gynulleidfa greiddiol - Cymry Cymraeg ar hyd a lled Cymru sy'n defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd (neu pobl sy'n dymuno ei defnyddio o ddydd i ddydd), a cheisio ail adeiladu'r ymdeimlad o berchnogaeth o'r sianel ymysg y cyfryw bobl - symud yn ol i'r dyfodol os y mynwch. O ail godi'r bont yma yn gyntaf, mi fydd yn haws ail godi'r gweddill wedyn.

Thursday, September 02, 2010

Netanyahu, Abbas, Faulkner, a Fitt, - gwers fach ynglyn a sicrhau heddwch

Os ydym i gredu'r cyfryngau mae peth optimistiaeth ynglyn a'r trafodaethau rhwng llywodraeth Israel a gweinyddiaeth Glan Orllewinol yr Iorddonen. Mae gen i ofn bod yr optimistiaeth hwnnw yn ol pob tebyg wedi ei seilio ar dywod ac yn ei dro mae hynny oherwydd bod problem sylfaenol ynghlwn a strwythur y trafodaethau. Mae'r gwendid yma wedi tanseilio ymgeisiadau yn y gorffennol i ddod a heddwch i'r Dwyrain Canol - ac yn nes at adref na hynny.

Mae'n hawdd anghofio heddiw bod sawl ymgais wedi ei wneud i ddod a'r rhyfel yng Ngogledd Iwerddon i ben cyn y cafwyd llwyddiant cymharol gyda chytundeb Dydd Gwener y Groglith. Un o'r methiannau cynnar oedd Cytundeb Sunningdale yn 1973. Ceir dyfyniad eithaf enwog gan gyn ddirprwy arweinydd yr SDLP (y blaid genedlaetholgar gymhedrol yn y Gogledd), Seamus Mallon mai Sunningdale i bobl ag anhawsterau dysgu oedd cytundeb dydd Gwener y Groglith. Y pwynt roedd yn ei wneud oedd bod y ddau gytundeb yn debyg, ond bod amser maith rhwng gwrthod un a derbyn y llall. Roedd wedi cymryd chwarter canrif i'w elynion ar ddwy ochr y ffens wleidyddol i'w 'gweld hi'. Roedd y sylw yn or symleiddiad o ran sylwedd y ddau gytundeb - roedd gwahaniaethau eithaf sylweddol. Roedd gwahaniaeth arall pwysicach fodd bynnag - un nad oedd yn ymwneud a manylion y cytundebau.

Ym mis Mawrth 1973, bedair blynedd wedi i'r wladwriaeth Brydeinig golli eu gafael ar rannau helaeth o'r dalaith cyhoeddwyd Papur Gwyn ynglyn a llywodraethiant Gogledd Iwerddon yn San Steffan. Y syniad oedd i sefydlu senedd o 78 aelod i'w hethol trwy dref gyfrannol, i rannu grym rhwng y ddwy gymuned oedd i gael rheolaeth ar amrediad o feysydd oedd yn ymwneud a bywyd pob dydd yng Ngogledd Iwerddon - ond nid diogelwch wrth gwrs. Roedd yna hefyd fwriad i sefydlu Cyngor Iwerddon er mwyn trafod materion oedd yn ymwneud a'r ddwy wladwriaeth Wyddelig. Y farn gyffredinol ar y pryd oedd bod y camau hyn yn delio efo'r canfyddiad o anhegwch sefydliadol gan Babyddion, ac mai hynny oedd wrth wraidd y gwrthdaro.

Roedd holl bleidiau 'parchus' y Gogledd yn bleidiol i'r syniad, yn ol y polau piniwn roedd 75% o'r boblogaeth o blaid y cytundeb a 8% arall yn fodlon rhoi cyfle iddo weithio.

Cafwyd cynhadledd fawreddog yn Berkshire ym mis Tachwedd i ffurfioli'r cytundeb. Yn union wedi cyrraedd roedd hwyliau ardderchog ar bawb - canodd arweinydd yr SDLP, Gerry Fitt y Sash i ddiddanu'r cynadleddwyr, ac aeth arweinwyr yr Unoliaethwyr, Brian Faulkner ati i ganu Galway Bay. Wedi pedwar diwrnod o drafod digon cyfeillgar cafwyd cytundeb. Y ddau ganwr oedd i arwain y weinyddiaeth newydd. Cafwyd naw swydd cabinet arall i'w rhannu rhwng y pleidiau a sefydlwyd Cyngor Iwerddon. Roedd pawb wrth eu bodd - Esgob Conway, arweinydd yr Eglwys Babyddol yn Iwerddon, Teddy Kennedy, pob un papur newydd o bwys yn yr Iwerddon a Phrydain, holl bleidiau San Steffan, yr holl gyfryngau torfol eraill, ac ati, ac ati. Ac roedd optimistiaeth cyffredinol yn y gwynt.

Oddi mewn i chwe mis roedd yr holl sioe yn deilchion ar y llawr ynghanol trais sylweddol, anhrefn sifig, streic 'gyffredinol', blacowts deuddeg awr, dim nwy na phetrol mewn ardaloedd helaeth, prinder bwyd, ffyrdd ar hyd a lled y dalaith wedi eu cau a ffrwydradau yn Nulyn a Monaghan a arweiniodd at farwolaeth dau ddeg wyth o ddinasyddion y Weriniaeth.

Y cwestiwn sy'n berthnasol i'r ddadl yma ydi beth oedd y gwahaniaeth rhwng Sunningdale a Chytundeb Dydd Gwener y Groglith? Yr ateb ydi bod ymdrech wedi ei gwneud yn y naill achos i gynnwys yr elfennau mwy eithafol (yn aml iawn y sawl oedd yn gyfrifol am yr ymladd) ac na wnaed ymdrech felly yn yr achos arall.

Roedd y broses a arweiniodd ddistryw y sefydliadau datganoledig yn eithaf syml. Ymateb yr IRA i'r broses oedd cynyddu lefel y trais o'u hochr nhw yn sylweddol, roedd hyn yn arwain at gynnydd mewn trais gan eithafwyr teyrngarol oedd yn arwain at gynyddu'r gefnogaeth i'r IRA, oedd yn arwain at ganfyddiad ymysg Unoliaethwyr 'cymhedrol' bod y cytundeb wedi methu, oedd yn arwain at wrthwynebiad i'r cytundeb, oedd yn arwain i wrthdaro ar y strydoedd, oedd yn arwain at gynnydd yn y gefnogaeth i'r IRA, oedd hyn yn arwain at gynnydd mewn trais _ _a rownd a rownd a ni eto.

Rwan 'dydi hi ddim yn anhepgor bod cylch dieflig fel hyn yn cael ei greu pob tro y ceir ymgais i greu heddwch trwy lunio cytundeb rhwng elfennau sy'n cadw'r heddwch tra'n anwybyddu'r sawl nad ydynt yn cadw'r heddwch. Ond fedra i ddim yn fy myw gredu bod cytundeb di Hamas am fod yn fwy llwyddiannus na Suningdale - yn arbennig o ystyried bod gan Hamas fwy o gefnogaeth nag oedd gan elfennau milwriaethus yng Ngogledd Iwerddon 1973 - 1974.

Mi fydd llawer ohonoch yn gyfarwydd a'r gofgolofn isod, mae wedi ei lleoli ar ben Talbot Street, gyferbyn a Connolly Station yn Nulyn. Fe'i codwyd i gofio am y sawl a laddwyd gan fomiau Teyrngarol yn y ddinas honno a Monaghan ar ddiwrnod mwyaf marwol y rhyfel hir yn y Gogledd. Proses heddwch ddiffygiol a greodd y cyd destun gwleidyddol a milwrol a arweiniodd at y ffrwydriadau hynny.

Wednesday, September 01, 2010

Problemau William Hague


Mae datganiad William Hague yn gwadu honiadau sydd wedi eu gwneud amdano ar y We tros y dyddiau diwethaf yn eithriadol i'r graddau eu bod yn dinoethi gwybodaeth am ei fywyd priodasol mewn ffordd nad ydi gwleidyddion yn ei wneud yn aml. Mae'r hyn sydd ganddo i'w ddweud yn ddigon i ennyn cydymdeimlad o'r galon galetaf, ond mae ganddo broblemau o hyd.

Mi fyddwch mae'n debyg gen i yn ymwybodol bod yr honiadau yn ymwneud a'r ffaith ei fod wedi rhannu ystafell o bryd i'w gilydd gyda chymhorthydd etholaethol o'r enw Christopher Myers a bod hwnnw wedi cael swydd yn y Swyddfa Dramor gan Hague fel ymgynghorydd polisi. Yr awgrym wrth gwrs ydi bod perthynas hoyw rhwng y ddau ddyn.

'Rwan mae yna ddwy broblem wleidyddol yn codi o'r sefyllfa, y naill yn ymwneud a hoywder honedig y berthynas honedig, a'r llall yn ddim oll i'w wneud efo hynny. Mi gychwynwn ni efo'r ail. Pe byddai gan Mr Hague berthynas rywiol efo dynas, a'i fod wedyn yn mynd ati, yn dilyn cael ei benodi i safle bwerus, yn defnyddio'r safle hwnnw i roi swydd iddi nad yw'n ymddangos yn gymwys i'w chyflawni, byddai hynny yn amhriodol. Efallai na fyddai'n gorfod ymddiswyddo - ond byddai ganddo gwestiynau i'w hateb. Byddai'r sefyllfa yr un peth yn union petai'r cariad honedig yn ddyn.

Yn ail mae yna broblem yn codi o hoywder honedig y berthynas. Petai Mr Hague yn hoyw, ond yn teimlo na allai gydnabod hynny yn gyhoeddus mae'r posibilrwydd o flacmel yn gryfach nag y byddai pe na byddai'r berthynas honedig yn un hoyw. Byddai hynny'n broblem mewn unrhyw swydd cabinet, ond mae'n arbennig o berthnasol ynglyn a dyn sy'n derbyn adroddiadau cyfrinachol gan MI6 yn ddyddiol. 'Dydi'r ffaith ei fod wedi gorfod gwadu honiadau ei fod yn hoyw yn y gorffennol ddim o llawer o gymorth yn hyn o beth. Roedd hynny yn ystod ei ymgeisyddiaeth i fod yn arweinydd y Blaid Geidwadol yn ol yn 1997.

Mi fedrwn fentro y bydd y wasg (neu elfennau o'r wasg o leiaf) yn mynd trwy fywyd personol Mr Hague efo crib man tros y dyddiau nesaf, ac mi fentra i na fyddant yn dod o hyd i fawr ddim. Y broblem ydi y byddant hefyd yn mynd ar ol bywyd personol Mr Meyers, ac mae'n fwy na phoibl na fydd yna ddim byd yn y fan honno chwaith. Ond os bydd rhywbeth sy'n berthnasol i'r stori yn codi mi fydd yn broblem sylweddol i'r Ysgrifennydd Tramor, hyd yn oed os yw'n hollol ddi euog o'r honiadau sy'n cael eu gwneud yn ei erbyn. Fel rydym wedi nodi yma, gall pethau fod yn sobor o anodd ar wleidydd pan mae straeon yn cerdded.

Un gair bach cyn gorffen. Mae'n dda nodi bod y blogiwr Toriaidd Iain Dale yn dwrdio Guido Fawkes am ddod a'r stori i'r agored. 'Dwi'n cytuno efo llawer o'r hyn mae Dale yn ei ddweud - ond byddai ei gwyno yn cario mwy o bwysau efo fi petai ef ei hun yn ymatal rhag cynnwys lincs i flog Guido pan mae hwnnw'n dod o hyd i sgandalau am wleidyddion Llafur.

Tuesday, August 31, 2010

Ystadegau'r mis

Diolch _ _

_ _ _ i'r rhai yn eich plith oedd ddigon caredig i bleidleisio i'r blog yma yng nghystadleuaeth totalpolitics. Roeddwn ddigon ffodus i ennill yn y categori Cymreig eleni - er bod rhai o'r blogiau sydd ychydig yn is i lawr y rhestr yn well pethau na hwn mewn gwirionedd.

Roedd yn dda nodi bod dau flog arall cwbl Gymraeg o ran cyfrwng yn y deg uchaf - da iawn Alwyn a Vaughan, a bod Guto Dafydd ond mymryn y tu allan i'r deg uchaf. Mi fydd o'n beryg bywyd flwyddyn nesaf!

Mae'n dda iawn nodi hefyd bod cymaint o flogiau sy'n gefnogol, neu'n lled gefnogol i'r Blaid wedi sgorio'n uchel - yn arbennig felly Plaid Wrecsam a Syniadau oedd yn ail ac yn drydydd. Dau flog arbennig o dda yn eu ffyrdd gwahanol.


1 (3) Blog Menai
2 (10) Plaid Wrecsam
3 (6) Syniadau
4 (14) Hen Rech Flin
5 (7) Vaughan Roderick
6 (12) Miserable Old Fart
7 (11) Cardiff Blogger
8 (26) Betsan Powys
9 (16) Peter Black AM
10 Everyone's Favourite Comrade
11 Blog Guto Dafyyd
12 (12) Pendroni
13 (41) Wales Home
14 (5) Welsh Ramblings
15 (35) Freedom Central
16 (18) Bethan Jenkins AM
17 Ffranc Sais
18 Dib Lemming
19 The Druid of Anglesey
20 (13) Valleys Mam
21 (36) Blog yr Hogyn o Rachub
22 (23) Glyn Davies MP
23 Plaid Panteg
24 (15) Polemical Report
25 (49) A Change of Personnel
26 (24) Leanne Wood AM
27 (20) Politics Cymru
28 (42) Blog Answyddogol
29 Liberal Smithy
30 Inside Out - A Jaxxland Perspective
31 (45) Alun Williams
32 (28) Gwilym Euros Roberts
33 Institute of Welsh Affairs
34 (29) Dylan Jones-Evans
35 (22) Borthlas
36 (30) Paul Flynn MP
37 (27) David Cornock
38 Morfablog
39 Red Anorak
40 Mike Priestley
41 (44) 07.25 to Paddington
42 Blog Golwg
43 Plaid Cymru Llundain
44 (53) Rene Kinzett
45 (32) This is My Truth
46 (46) Denverstrope
47 Independence Cymru
48 Grangetown Jack
49 Blog Rhys Llwyd
50 (8) Cambria Politico

Sunday, August 29, 2010

Yr ymgyrch ryfedd ar y We yn erbyn Alun Davies


Mi fydd llawer ohonoch yn ymwybodol bod Alun Davies wedi bod yn cwyno yn y wasg bod ymgyrch i'w bardduo wedi ei chynnal ar y We. Gellir gweld manylion yma er enhraifft. Fedra i ddim dweud fy mod wedi bod yn wrthrych ymgyrch pardduo, ond mi fydd yna honiadau celwyddog yn cael eu gadael amdanaf ar y We o bryd i'w gilydd, ac mae'n brofiad digon anymunol. Mae'n un o nodweddion anffodus y We bod pobl yn gallu gadael stwff yn ddi enw ac mae'n anodd gwneud fawr ddim am hynny. Mae'n dilyn felly bod gennyf gydymdeimlad efo Alun.

Cyn mynd ymlaen hwyrach y dyliwn ddweud gair neu ddau am Alun. Mae'n aelod rhanbarthol Llafur tros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, ond mae wedi penderfynu sefyll yn erbyn Trish Law (Llais y Bobl) yn etholaeth Mlaenau Gwent yn 2011. Mae Alun yn gyn aelod o Blaid Cymru, ac mae wedi sefyll dros y blaid honno yn y gorffennol. Fel mae'r fideo isod ohono yn ystod ei gyfnod fel aelod o'r Blaid yn ei ddangos, mae'n gymeriad lliwgar, di flewyn ar dafod ac uniongyrchol iawn. Mae'r ffaith bod ganddo dueddiad i ddefnyddio iaith ymfflamychol yn nodwedd o'i gymeriad sy'n creu gelynion.





'Does yna ddim llawer o amheuaeth bod ymgyrch felly wedi bod yn mynd rhagddi - mae'r blogiwr yma yn ogystal a nifer o rai eraill wedi derbyn nifer o negeseuon o dan enw ffug yn gwneud nifer o gyhuddiadau. Mae Alun o dan yr argraff bod cysylltiad rhwng yr honiadau a'r ffaith iddo alw yn ddiweddar iawn alw am ymddiswyddiad ymddiriedolwyr S4C. Gan bod natur yr honiadau o leiaf mor niweidiol i'r sawl sy'n rheoli S4C nag ydynt i Alun, fyddwn i ddim yn meddwl hynny a bod yn onest. Mi fydd yr anoracs go iawn yn eich plith yn cofio i Alun ddangos parodrwydd i wneud defnydd o reolau rhyddid gwybodaeth er mwyn achosi niwed gwleidyddol i Trish Law yn y gorffennol a bod rhai o'i ymysodiadau arni wedi bod yn ffyrnig ac yn bersonol. Mi fyddwn i'n gweld yr honiadau am Alun yng nghyd destun hynny a'r drwg deimlad, ac yn wir y gwenwyn sydd wedi bod yn ffrwtian ers blynyddoedd yn sgil y rhyfel cartref oddi mewn i'r Blaid Lafur yn y De Ddwyrain.

Mae'r honiadau yn erbyn Alun wedi eu seilio ar ddau gais i S4C o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, gan rhywun sy'n defnyddio enw ffug - y naill am fanylion treuliau Alun pan oedd yn gweithio i S4C a manylion am gontract rhwng S4C, a'r llall am wybodaeth ynglyn a chontract honedig rhwng S4C a chwmni lobio Alun, Bute Communications. Mae'r ail wedi ei wneud yn ddiweddarach yn dilyn datganiad clir gan Alun nad oedd contract rhwng Bute Communications a S4C mewn bodolaeth, yn holi os oedd contract personol rhwng Alun yn bersonol ag S4C. Byddai trefniant sydd er budd cwmni ond wedi ei arwyddo yn enw unigolyn yn anarferol a dweud y lleiaf - ac mae'n anodd credu bod unrhyw sylwedd i'r awgrym am y rheswm hwnnw . Gweler yma ac yma am fanylion.

'Dydi'r naill gais na'r llall wedi eu hateb gan S4C eto - ond mae ganddynt ddigon o amser i wneud hynny o dan amodau'r Ddeddf. Mae'r ymholiad cyntaf yn swnio fel trol digon cyffredinol, a 'dwi am ei anwybyddu am y tro am y rheswm hwnnw. Mae'r ail yn fwy manwl ei natur. Yr hyn sydd gan y sawl sy'n holi, ydi bod S4C wedi 'cael gwared' o Alun trwy roi contract iddo fo neu i'w gwmni, a gwneud hynny heb fynd trwy'r drefn dendro arferol. Mi fyddai gweithredu yn y ffordd yma yn gwbl groes i ddeddfwriaeth corfforiaethol Ewropeaidd (o ran S4C yn hytrach na Bute Communications neu Alun wrth gwrs). Lobio cyrff cyhoeddus ar ran S4C oedd natur y gwaith gyda llaw.

Mae'n bwysig nodi yma nad oes yna (yn absenoldeb ymateb S4C i'r cais rhyddid gwybodaeth) affliw o ddim tystiolaeth y tu ol i'r honiad, a bod Alun yn ei wrthod yn llwyr yn ei gyfweliad efo Wales on Line - I am speechless about these allegations, which are without a shred of truth. Yna a ymlaen i nodi ei fod yn dymuno y byddai'r sawl sydd wedi gwneud yr honiad yn cyhoeddi ei enw fel y gallai fynd a fo i gyfraith.

Yn anffodus i Alun, dydi hynny ddim yn debygol, ac yn bwysicach efallai mae'n anodd iawn i wleidydd proffesiynol ennill achos enllib - mae'r bar i bobl felly yn uchel iawn oherwydd bod budd cyhoeddus yn cael ei ystyried yn fater sylweddol gan y llys. Dau achos diweddar y gallaf feddwl amdanynt o wleidydd yn ennill achos enllib - Archer yn erbyn y News of the World a George Galloway yn erbyn y Telegraph. Y ffaith i Archer fod yn fodlon dweud celwydd yn ogystal a thalu i eraill i wneud hynny a arweiniodd at ennill y cyntaf, a diffyg proffesiynoldeb dybryd a rhyfeddol ar ran y Telegraph a arweiniodd at yr ail.

Ac efallai mai dyna'r brif wers i'w chymryd o'r holl hanes - sef bod gwleidydd - unrhyw wleidydd yn agored iawn i'r math yma o beth - yn fwy agored o lawer nag ydi'r rhan fwyaf o bobl. 'Dydi'r gyfraith ddim yn cynnig cymaint o amddiffyniad iddynt na mae'n ei wneud i chi neu fi. Mae gwleidydd sy'n mynd ati i gythruddo pobl ac ymddwyn yn ymysodol iawn yn fwy tebygol o fod yn darged i ymgyrch bardduo nag ydi un llai cynhenus, ac mae llai o barodrwydd i gydymdeimlo efo fo pan mae'n wrthrych ymgyrch bardduo. 'Dydi dweud hynny ddim yn cyfiawnhau ymgyrch o'r fath wrth gwrs, ond mae'n sicr yn rhywbeth i wleidyddion feddwl amdano.

Blogio ysgafn

Ymddiheuriadau am y blogio ysgafn (wel y dim blogio o gwbl a dweud y gwir), 'dwi wedi cael fy llusgo gan 'Nacw i Budapest am ychydig ddyddiau.

Rhag ofn nad ydi rhai ohonoch yn fy nghredu, ac yn meddwl fy mod wedi bod yn diogi o gwmpas tafarnau Caernarfon neu rhywbeth, 'dwi'n amgau llun o dafarn a thafarnwr hynod nodweddiadol o ddinas Budapest.

Saturday, August 21, 2010

Yr hyn sy'n gyffredin rhwng S4C a hanner peint o John Smiths

Chwi gofiwch 'dwi'n siwr bod rhai o ymgeiswyr, (a bellach Aelodau Seneddol) y Toriaid wedi bod yn mynd o gwmpas y gorsafoedd radio cyn yr etholiad cyffredinol yn ein sicrhau na fyddai cyllideb S4C yn cael ei thorri. Mi fyddwch hefyd yn cofio i'r llywodraeth 'berswadio' S4C i gymryd toriad o £2,000,000 yn wirfoddol yn fuan iawn wedi i George Osborne gael ei ben ol ar leder moethus 11 Downing Street, ac i doriad llai gwirfoddol hyd yn oed o £25m dros 4 blynedd gael ei ddatgan yn fuan wedyn. 'Dydi Jeremy Hunt, y gweinidog treftadaeth yn Llundain ddim yn ol pob golwg yn rhy awyddus i drafod y mater efo'r gweinidog cyfatebol yng Nghymru.


Yn ol Golwg mae Arwel Ellis Owen yn bwriadu cynnal ymgyrch i ennill cefnogaeth i'r sianel. 'Does yna ddim manylu ar natur yr ymgyrch, na'r gefnogaeth sydd ei hangen. I mi mae natur y gefnogaeth sydd ei hangen yn eithaf syml - dylid dwyn cymaint o bwysau gwleidyddol a phosibl i leihau, neu ddileu'r toriadau. Calon yr ymgyrch honno ddylai fod y cysyniad bod S4C yn achos arbennig - yn achos sydd y tu hwnt i'r storm gyllidol bresenol. Mae S4C wedi bod yn achos arbennig ers y diwrnod y penderfynwyd ei sefydlu - cyfiawnhad gwleidyddol a ieithyddol oedd yna tros ei sefydlu - dim arall. Mae'r sianel yn rhan pwysig o'r rhwydwaith o strwythurau sy'n cefnogi'r iaith - mae ei gwanhau yn debygol o wanhau'r holl strwythur. Y cwestiwn a ddylai fod yn greiddiol i ymgyrch Arwel ydi hwn - ydi'r iaith werth £25m i'r glymblaid Doriaidd / Lib Dem?

A faint ydi £25m i'r llywodraeth? Wel o'r £661,000,000,000 a werir yn flynyddol gan y wladwriaeth mae'n dod i lai na 0.004%. Neu i roi pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol - dychmygwch bod teulu sydd ag incwm o £30,000 y flwyddyn yn gorfod gwneud toriadau oherwydd eu bod yn gwario gormod, a'u bod yn crafu yma ac acw am ffyrdd i arbed arian. Mi fyddai'r £25m yn cyfateb i £1.20 - hanner peint y flwyddyn o John Smiths yn Wetherspoons.

A oes angen dweud mwy am agwedd y glymblaid at y Gymraeg?

Friday, August 20, 2010

Oscar eto


Mi'r ydym wedi trafod y cyfaill yma ar sawl achlysur - yma, ac yma er enghraifft - ac wedi cwyno ei fod wedi cael lle ar y rhestr Geidwadol ar air Nick Bourne.

Ond, yn ol blog Betsan, 'dydi pethau ddim cweit mor syml a hynny, ac mae yna ymdrechion ar lawr gwlad (neu o leiaf yn lolfeydd clwbiau golff ochrau Casnewydd) gan aelodau cyffredin o'r Blaid Geidwadol i roi sbocsan yn olwyn y trefniant bach cyfforddus yma.

Mi fyddai'n anffodus pe na bai Oscar yn cael ei osod ar y rhestr ar ol pob dim - trist iawn, very sad.

Wedi dweud hynny, fyddwn i ddim yn cynhyrfu gormod - mae'r buddugions ar ben y Blaid Geidwadol yng Nghymru eisiau Oscar - a'r buddugions sy'n rhedeg y sioe fach Doriaidd mae gen i ofn - nid yr aelodau.

Wednesday, August 18, 2010

Y polau wedi 100 diwrnod

Wel dyma ni - 100 diwrnod ers ffurfio'r glymblaid, ac mae ICM yn rhoi Llafur a'r Toriaid yn gyfartal.

Nid cwymp yng nghefnogaeth y Toriaid sydd y tu ol i hyn cymaint a chynnydd yng nghefnogaeth Llafur ar draul y Lib Dems. Bu cryn gyfnod ers i bethau fod yn gyfartal gan ICM (ICM ydi un o'r cwmniau polio mwyaf effeithiol gyda llaw). 'Dydi Llafur heb fod yn gyfartal ers hydref 2007 pan ddaeth Brown i'r casgliad trychinebus na ddylai alw etholiad cyffredinol bryd hynny. Amgaeaf isod polau'r cwmni ers hynny.

04/10/2007 38% 38% 16% 8% 0% 1,008 3-4 October, 2007
28/10/2007 40% 35% 18% 7% 5% 1,011 26-28 October, 2007
22/11/2007 37% 31% 21% 10% 6% 1,005 21-22 Nov 2007
19/12/2007 39% 34% 18% 9% 5% 1,004 18-19 Dec 2007
20/01/2008 37% 35% 20% 8% 2% 1,009 18-20 Jan 2008
17/02/2008 37% 34% 21% 9% 3% 1,003 15-17 Feb 2008
16/03/2008 42% 29% 21% 8% 13% 1,003 14-16 Mar 2008
20/04/2008 39% 34% 19% 9% 5% 1,000 18-20 Apr 2008
18/05/2008 41% 27% 22% 9% 14% 1,008 16-18 May 2008
22/06/2008 45% 25% 20% 10% 20% 1,000 20-22 June 2008
20/07/2008 43% 28% 19% 10% 15% 1,007 18-20 July 2008
17/08/2008 44% 29% 19% 9% 15% 1,005 15-17 Augu 2008
25/09/2008 41% 32% 18% 10% 9% 1,012 24-25 September 2008
19/10/2008 42% 30% 21% 7% 12% 1,007 17-19 October 2008
26/11/2008 45% 30% 18% 8% 15% 1,027 25-26 November 2008
14/12/2008 38% 33% 19% 10% 5% 1,003 12-14 December 2008
25/01/2009 44% 32% 16% 8% 12% 1,003 24-25 January 2009
15/03/2009 42% 30% 20% 8% 12% 1,004 13-15 March, 2009
19/04/2009 40% 30% 19% 11% 10% 1,005 17-19 April 2009








17/05/2009 39% 28% 20% 14% 11% 1,002 5-17 May 2009
14/06/2009 39% 27% 18% 15% 12% 1,006 12-14 June 2009
11/07/2009 41% 27% 20% 12% 14% 1,000 10-11 July 2009
23/08/2009 42% 25% 19% 15% 17% 1,004 21-23 Augu 2009
20/09/2009 43% 26% 19% 12% 17% 1,001 18-20 September 2009
18/10/2009 44% 27% 18% 11% 17% 1,002 16-18 October 2009
15/11/2009 42% 29% 19% 10% 13% 1,010 13-15 November 2009
13/12/2009 40% 31% 18% 11% 9% 1,009 11-13 December 2009
24/01/2010 40% 29% 21% 10% 11% 1,000 22-24 January 2010
21/02/2010 37% 30% 20% 13% 7% 1,004 19-21 February 2010
14/03/2010 40% 31% 20% 9% 9% 1,002 12-14 March 2010
31/03/2010 38% 29% 23% 10% 9% 1,003 30-31 March 2010
03/04/2010 37% 33% 21% 9% 4% 1,001 1-3 April 2010
11/04/2010 37% 31% 20% 9% 6% 1,001 9-11 April 2010
18/04/2010 33% 28% 30% 9% 5% 1,024 16-18 April 2010
25/04/2010 33% 28% 30% 8% 5% 1,031 23-25 April 2010
02/05/2010 33% 28% 28% 12% 5% 1,026 30 April - 2 May 2010
04/05/2010 36% 28% 26% 10% 8% 2,022 3-4 May 2010
06/05/2010 36.45% 29.01% 23.03% 11.95% 7% GENERAL ELECTION RESULT - 6 May, 2010
23/05/2010 39% 32% 21% 8% 7% 1,001 21-23 May 2010








20/06/2010 39% 31% 21% 8% 8% 1,000 18-20 June 2010
25/07/2010 38% 34% 19% 8% 4% 1,009 23-25 July 2010
15/08/2010 37% 37% 18% 8% 0%


Data i gyd o Guardian Datablog.

Rhag ei fod o ddiddordeb i rhywun, roedd IBM yn rhoi'r Toriaid ar 34%, Llafur ar 32% a'r Lib Dems ar 21% tros Brydain ym mis Mai 2007 - y mis pan gynhalwyd etholiadau'r Cynulliad yng Nghymru a'r Alban. Yng Nghymru yn yr etholiad hwnnw cafodd Llafur 32.2%, y Toriaid 22.4%, Plaid Cymru 22.4% a'r Lib Dems 14.8%.

Mae'r blog yma wedi awgrymu eisoes y byddai bod o gwmpas y 10% yn etholiadau'r Cynulliad yn drychinebus i'r Lib Dems. Mae'n edrych yn fwyfwy posibl y bydd hyn yn digwydd.

Sunday, August 15, 2010

Cyfiawnder i gwn


Pleser o'r eithaf ydi nodi o ddarllen fy nghopi cyfredol o'r News of the World, bod Cheryl Gillen, Ysgrifennydd Gwladol newydd, gwych Cymru wedi llwyddo i wrthdroi un o anghyfiawnderau mawr ein hoes.

Mi gofiwch 'dwi'n siwr i Cheryl druan gael ei hun mewn dwr poeth yn ystod yr helynt treuliau am hawlio £4.47 i fwydo ei chwn Tizzy a Curby efo bagiad o Iams Senior Chicken meal "for older dogs" a dau gan o Cesar chicken and turkey meat. Aeth ati hefyd i hawlio £1,884.23 o bres nad oedd ganddi hawl iddo er mwyn talu at forgais.

Yn anffodus, mewn esiampl o greulondeb ofnadwy tuag at gwn gorfodwyd Cheryl i dalu'r £4.47 yn ei ol yn ogystal a'r £1,884.23 am y morgais ar gyfer y naill neu'r llall o'i chartrefi oherwydd yr holl hw ha yn y papurau newydd. Dychmygwch y gofid mae hyn oll wedi ei achosi i Tizzy a Curby druan - meddyliwch am y boen o beidio bod yn rhy siwr os ydi'ch perchenog yn gallu fforddio i'ch bwydo 'fory. Yn anffodus ni chafodd y £1,884.23 am y ty / tai yn ei ol.

Ond pleser o'r eithaf ydi cael dweud bod diwedd hapus i'r stori - mae Cheryl wedi llwyddo i hawlio'r £4.47 yn ei ol gan yr awdurdodau seneddol. Gall Tizzy a Curby gysgu'n sownd unwaith eto yn ei cartrefi bach clud yn Chesham and Amersham a Battersey.
.
Buddugoliaeth arall i achos teilwng a phwysig hawliau anifeiliaid.

Friday, August 13, 2010

Peter Hain ac Old Sarum

Tref, neu a bod yn fwy manwl bwrdeistref oedd Old Sarum sydd a'i hanes yn mynd yn ol i'r canol oesoedd . 'Doedd yna erioed lawer o bobl yn byw yno, ond mi symudodd ei phoblogaeth i gyd bron i New Sarum (Salisbury heddiw) rhywbryd yn y canol oesoedd hwyr gan adael y lle bron iawn yn amddifad o bobl - ac etholwyr. Ond ni wnaeth hynny ddim oll i effeithio ar gynrychiolaeth seneddol yr ardal hyd Deddf Diwigio 1832. Dychwelwyd 1 aelod o 1414 hyd 1641, ac o'r flwyddyn honno ymlaen dychwelwyd 2. Roedd sefyllfa etholiadol y fwrdeisdref yn weddol boncyrs am y cwbl o'i hanes - ychydig iawn, o bobl yn dychwelyd aelodau seneddol.

Er enghraifft yn 1802 dychwelwyd dau Dori, Nicholas Vansittart a Henry Alexander. Yr etholwyr oedd Y Parch Dr. Skinner Y Parch Mr. Burrough, William Dyke, Esq. Mr. Massey and Mr. Brunsdon. Pump o etholwyr, dau aelod seneddol. Doedd yr un o'r cyfryw etholwyr yn byw yn Old Sarum. Byddai'r etholwyr yn cael eu dewis o'r tu allan gan berchenog y tir i bleidleisio. Y teulu Pitt oedd y perchnogion hyd 1802 pan werthwyd y lle i deulu arall. Gan nad oedd y perchenog yn debygol o ddewis etholwyr fyddai'n pleidleisio'n groes i'w ewyllys, nid yw'n fawr o syndod mai perthnasau i'r perchenog oedd yr aelodau yn amlach na pheidio. Yn y cyfamser ceid trefi newydd oedd yn byrlymu efo pobl heb gynrychiolaeth o gwbl. Mae'r stori yn dysteb i ffolineb y gred y dylid cadw trefn etholiadol fel ag y mae hi am ei bod yn hen drefn a dim arall.

'Does yna ddim rotten boroughs heddiw wrth gwrs, ond mae yna gryn anghyfartaledd mewn nifer yr etholwyr mewn etholaethau ar draws y DU. Maent yn cael eu dwyn i'r cof ar hyn o bryd oherwydd yr anghydfod ynglyn a bwriad y llywodraeth i newid ffiniau etholaethau yn y DU yn sylweddol. Rydym eisoes wedi edrych ar effaith posibl hyn ar Gymru yma.

Mae'r newidiadau yn cael eu gyrru gan ddwy flaenoriaeth llywodraethol - lleihau'r nifer o aelodau seneddol a dileu i bob pwrpas yr amrywiaeth sylweddol a geir ar hyn o bryd ym maint etholaethau (o ran etholwyr) tros y DU. Mae'r blaenoriaethau hyn yn ymddangos i mi yn rhai digon rhesymol - hyd yn oed os ydynt yn debygol o fod o gymorth etholiadol i'r Toriaid tros y DU (os nad yng Nghymru fel y trafodwyd yma).

Mae'r rhesymau tros yr anghyfartaledd yn eithaf cymhleth. Bu gor gynrychiolaeth hanesyddol yng Nghymru ar Alban - ond mae hwnnw wedi ei ddileu fwy neu lai mewn blynyddoedd cymharol ddiweddar yn yr Alban. Mae'r gor gynrychiolaeth Gymreig yn parhau. Yn bwysicach ceir patrwm o ran symuniadau poblogaethol mewn blynyddoedd diweddar lle mae pobl yn symud o ganol dinasoedd (ardaloedd Llafur gan amlaf) i gyrion dinasoedd a thu hwnt. Hefyd mae llai o bobl yn gyffredinol yn cofrestru i bleidleisio - ac mae hyn yn arbennig o wir mewn trefi mawr.

O ganlyniad ceir llawer o etholaethau trefol gyda phoblogaeth cymharol isel - o ran etholwyr o leiaf. Mae'r drefn bresenol o adolygu ffiniau yn raddol yn delio efo'r broblem - ond graddol ydi'r ferf weithredol. Bwriad y llywodraeth ydi clymu'r broses o adolygu'r ffiniau efo'r broses o leihau'r nifer o ASau a dod a'r holl beth i fwcwl erbyn diwedd y senedd yma. Eto mae yna elfen o hunan les yma ar ran y Toriaid yn arbennig - ond mae'r camau ynddyn nhw eu hunain yn ymddangos yn weddol rhesymegol.

Roedd ymateb Llafur i hyn oll ychydig yn wahanol yng Nghymru nag yn Lloegr. Lein Llafur yng Nghymru ydi mai jerimandro gwrth Gymreig sydd ar waith. Gan mai sicrhau cysondeb o ran nifer etholwyr ydi bwriad y mesurau, a chan bod y Comisiwn Ffiniau yn annibynnol, mae'r cyhuddiadau hwnnw yn chwerthinllyd. Mae ymateb Llafur yn Lloegr ychydig yn wahanol - jerimandro (eto) a phwynt mwy sylweddol, sef bod llawer o etholwyr mewn etholaethau trefol heb eu cofrestru. Hynny yw mae poblogaethau (yn hytrach na chyfanswm etholwyr) mewn llawer o'r etholaethau trefol yn gymharol uchel. Y broblem ydi nad yw canran uchel o'r bobl hyn yn trafferthu i gofrestru. Dadl Llafur ydi y dylid ceisio eu hannog i gofrestru cyn adolygu'r ffiniau.

Rwan mae yna lawer o resymau am y diffyg cofrestru - mae yna bobl efo'u rhesymau eu hunain tros beidio a bod eisiau tynnu llawer o sylw at eu presenoldeb mewn man arbennig trwy gofrestru, mae poblogaethau trefol yn aml yn symudol ac mae'n fwy anodd cofrestru o dan amodau felly, ac mae lefelau addysg yn tueddu i fod yn gymharol isel mewn rhai ardaloedd trefol - a thuedda hynny hefyd i arwain at debygrwydd is o gofrestru. Ond mae yna reswm arall hefyd - un pwysicach na'r un o'r lleill. Ers i Lafur Newydd symud o'u lleoliad gwleidyddol traddodiadol a cheisio meddianu'r tir canol bondigrybwyll mae llawer o'u cefnogwyr traddodiadol wedi colli diddordeb mewn gwleidyddiaeth - ac mewn cofrestru i bleidleisio.

Cafodd Llafur dair blynedd ar ddeg i geisio mynd i'r afael efo problemau tan gofrestru ond wnaethon nhw ddim - wedi'r cwbl beth ydi'r pwynt gwneud ymdrech i sicrhau bod y rhan fwyaf o bobl Liverpool Riverside yn cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd os ydi'r cyfryw etholaeth yn ethol AS Llafur beth bynnag? Pa fantais ydi annog llwyth o blebs ochrau Newcastle i gymryd rhan yn y broses etholiadol pan mae etholiadau yn cael eu hennill a'u colli mewn etholaethau megis Hampstead & Killburn?

Yn fwyaf sydyn mae pethau wedi newid, a gallai diffyg mynediad i'r broses ddemocrataidd gan bobl ddosbarth gweithiol arwain at leihad yng nghynrychiolaeth Llafur yn San Steffan. Gan bod sicrhau cynrychiolaeth mor deilwng a phosibl o bobl (dosbarth canol yn bennaf) Llafuraidd yn San Steffan yn bwysicach na dim arall i Lafur maent yn datblygu diddordeb o'r newydd mewn cynyddu'r bobl dosbarth gweithiol sydd ar y gofrestr bleidleisio. 'Dydi fy nghydymdeimlad ddim yn fawr mae gen i ofn. Ddim yn aml y byddaf yn cytuno efo'r llywodraeth yma, ond yn yr achos hwn _ _ _.

Wednesday, August 11, 2010

Ymweliad y Pab a Llais Gwynedd

Mae'n ddiddorol nodi i Lais Gwynedd ddangos amheuon ynglyn ag ymweliad y Pab a Phrydain (neu a'r Ynys a defnyddio term anarferol braidd Llais Gwynedd) yn ddiweddarach eleni. Mae'r meicroblaid mewn cwmni eithaf da yn eu amheuon - mae Urdd Oren Iwerddon yn gwrthwynebu'r ymweliad yn llwyr, tra bod sefyllfa Urdd Oren yr Alban ychydig yn fwy cymodlon (ond cymhleth) - 'dydyn nhw ddim yn croesawu'r ymweliad, ond dydyn nhw ddim yn gwrthwynebu chwaith. Mae'r ddau fudiad yn credu mai'r Pab ydi'r Gwrth Grist. Tra bod y gred yna'n un rhyfedd o safbwynt y rhan fwyaf o bobl, mae'n debyg ei bod yn rhesymegol i'r Urddau Oren wrthwynebu ymweliad gan y Gwrth Grist os ydynt yn credu mai dyna pwy sy'n dod yma ym mis Medi mewn gwirionedd.

Dyna'n sicr mae Ian Paisley yn ei gredu, ond ar sail sgandalau diweddar yn yr Eglwys mae'n gwrthwynebu'r ymweliad y tro hwn. Roedd o hefyd yn gwrthwynebu'r ymweliad gan y Pab diwethaf yn ol yn ol ym 1982 cyn bod yna son am sgandalau. Y busnes Gwrth Grist oedd yn ei boeni y tro hwnnw. Dyna oedd yn ei boeni yn ol yn 1963 pan ddaeth i sylw'r cyhoedd am y tro cyntaf wrth arwain gwrthdystiad y tu allan i Neuadd y Ddinas yn Belfast oherwydd bod Jac yr Undeb yn chwifio ar hanner mast yn dilyn marwolaeth y Pab Ioan.

Gwrth Babyddiaeth sydd y tu ol i wrthwynebiad Eglwys Bresbyteraidd Rydd yr Alban hefyd, mae mynychu cynhebrwng Pabyddol yn ddigon i gael rhywun wedi ei daflu o'r Eglwys honno. Ar y llaw arall mae'r anffyddwyr milwriaethys Richard Dawkins a Christopher Hitchins yn edrych ymlaen yn arw at y digwyddiad oherwydd eu bod nhw'n gobeithio manteisio ar y cyfle i arestio'r Pab am droseddau yn erbyn dynoliaeth.

Os ydw i'n deall safbwynt Llais Gwynedd yn iawn, 'dydyn nhw yn ddim gwrthwynebu'r ymweliad ond maent o'r farn mai'r Eglwys Babyddol ddylai dalu am pob dim sy'n ymwneud a hi. Mi fyddai'n hynod o anarferol os nad unigryw disgwyl i arweinydd gwleidyddol, gwladol neu grefyddol sydd wedi derbyn gwahoddiad gan lywodraeth Prydain i ymweld a'r wladwriaeth i dalu am y trefniadau - yn wir byddai gwahoddiad o'r fath yn bur sarhaus. Fel mae'n digwydd yr Eglwys Babyddol sydd yn talu am yr agweddau defosiynol ar yr ymweliad - bydd hyn yn tua £7m. Codir yr arian trwy garedigrwydd noddwyr a thrwy gynnal casgliadau arbennig mewn Eglwysi yn ystod yr Offeren. Bydd y wladwriaeth Brydeinig yn cyfranu (mae'n debyg) £10m i £12m yn ogystal a chostau plismona. Mae'r llywodraeth bresenol ynghyd a'r un flaenorol wedi mynegi eu bod yn hapus efo'r trefniant yma.

'Rwan a bod yn deg a Llais Gwynedd mae ganddyn nhw pob hawl i'w barn ynglyn a threfniadau talu am yr ymweliadau swyddogol a'r DU. Ond mae hefyd yn deg gofyn pam eu bod yn cymryd yr agwedd yma tuag at yr ymweliad arbennig yma? Wedi'r cwbl anaml y bydd Llais Gwynedd yn mynegi barn ynglyn a gwariant ar lefel Brydeinig (mae hyn yn hollol ddealladwy wrth gwrs - grwp lleol ydynt), er eu bod yn gwneud datganiadau anisgwyl ynglyn a gwariant cyhoeddus ar lefel ehangach na Chymru weithiau - dadlau na ddylid anfon pobl i'r lleuad tra bod pobl yn llewygu ar y Ddaear er enghraifft, neu ddadlau yn erbyn trydaneiddio'r rheilffyrdd.

Mae hefyd yn deg peidio a hoffi rhywbeth neu'i gilydd - gwleidyddion, chwaraeon, crefyddau ac ati (er nad yw'n dderbyniol i fod a rhagfarnau yn erbyn aelodau grwpiau crefyddol wrth gwrs). 'Dydw i ddim yn hoffi peldroed, ac mae'r gem yn ddrud iawn i'r wladwriaeth. Mae'n anodd cyfrifo beth ydi'r gost i'r wladwriaeth o blismona'r canoedd o gemau peldroed sy'n digwydd yn wythnosol - mae'n debyg ei fod yn ugeiniau o filiynau yn flynyddol. Ond fyddwn ni ddim yn codi hynny fel rhyw fater mawr - mae mynychu gemau peldroed yn rhan digon di niwed o wead bywydau llawer iawn o bobl - yn union fel mae ymarfer y ffydd Babyddol yn rhan o ddiwylliant llawer iawn o bobl hefyd.

Ond pam - o bob dim - mynd ar ol ymweliad gan arweinydd crefyddol fel esiampl o wastraff ariannol ar lefel San Steffan? Bydd gwariant cyhoeddus yn y DU eleni oddeutu £661,000,000,000 neu 55,000 o weithiau'r swm mae Llais Gwynedd yn poeni amdano. Mae yna pob math o wastraff oddi mewn i'r gyllideb yna. Er enghraifft bydd £44,000,000,000 yn cael ei wario ar, ahem, 'amddiffyn' eleni. Hwyrach bod yna eitem neu ddwy i fynd ar eu ol yna - yr £8,800,000 sy'n cael ei wario'n flynyddol ar y Red Arrows efallai? Roedd gwariant y llywodraeth (Brydeinig) ar hysbysebu yn £540,000,000 y llynedd. Mae adrannau o'r llywodraeth yn gwario tua £40,000,000 yn flynyddol ar lobio. Mae'n bosibl y bydd adnewyddu Trident yn costio £100,000,000,000 tros y blynyddoedd nesaf (tua 6 gwaith cyllideb flynyddol Cymru). Mae'r rhestr yn un diddiwedd - ond ymweliad y Pab a'r 'Ynys' sy'n poeni Llais Gwynedd.

Mae'r hyn yr ydym yn poeni'n gyhoeddus amdano a'r hyn nad ydym yn trafferthu gwneud fawr ohono yn aml yn dweud llawer iawn am ein hagweddau a'n gwerthoedd gwaelodol.

Monday, August 09, 2010

Y Lib Dems eto

'Dwi'n ddigon hen i gofio gwleidyddiaeth y saithdegau - ac roedd y tirwedd yn dra gwahano i un heddiw. 'Doedd yr arfer o ymladd am y 'tir canol' bondigrybwyll heb gychwyn, ac roedd gwahaniaeth gwirioneddol rhwng y ddwy brif blaid Brydeinig. Roedd hyn yn wir am y pum degau a'r chwe degau - er bod y degawdau hynny y tu hwnt i'm cof i hyd yn oed. Mae'r graff isod yn cyfleu'r symudiadau yn eu cefnogaeth ers 1820:

Rhyddfrydwyr / Lib Dems - melyn, Llafur - coch, Toriaid - glas.

Byddai dyn yn disgwyl y byddai hyn yn rhoi digon o wagle gwleidyddol i blaid canol y ffordd megis y Rhyddfrydwyr (fel y gelwid y Lib Dems bryd hynny). Nid felly oedd hi - gwan iawn oedd y gefnogaeth i'r Rhyddfrydwyr trwy gydol y cyfnod. Ffenomena cymharol ddiweddar ydi cefnogaeth arwyddocaol i'r Lib Dems - cafwyd llwyddiant (mewn termau pleidleisiau os nad seddi) wedi sefydlu'r Gynghrair yn yr wythdegau, edwino yn y 90au a thwf wedi troi'r mileniwm newydd:

Bl Canran Seddi
1983 25.40% 23
1987 22.60% 22
1992 17.80% 20
1997 16.70% 46
2001 18.30% 52
2005 22.10% 62
2010 23% 57

Pam felly bod y Lib Dems wedi tyfu mewn cyfnod lle mae'r tir canol wedi ei lenwi gan y pleidiau gwleidyddol mawr? Mae'r ateb mi dybiwn yn weddol gymhleth, ond mae'n rhannol yn ymwneud efo'r ffaith bod yna newidiadau cymdeithasegol sylweddol wedi digwydd yn y ddeg mlynedd ar hugain diwethaf. Mi fu hollt ers talwm rhwng aelodau o'r gweithlu a weithiai yn y diwydiannau trwm traddodiadol, a rhai oedd efo'u busnesau eu hunain neu a weithiai mewn swyddi coler gwyn. Roedd pobl yn tueddu i ddiffinio eu hunain yn wleidyddol yn unol a'u galwedigaeth, ac yn pleidleisio ar sail hynny.

Gyda diflaniad y diwydiannau traddodiadol daeth canfyddiad pobl o'u gwleidyddiaeth eu hunain i fod yn fwy cymhleth, a chaniataodd hyn i'r Lib Dems lenwi gwahanol niches gwleidyddol - a gwnaethant hyn yn gelfydd iawn. Er enghraifft rhoddodd rhyfeloedd tramor Llafur Newydd gyfle i'r Lib Dems osod eu hunain mewn rhai ffyrdd i'r chwith o'r Blaid Lafur gan apelio at yr elfennau hynny mewn cymdeithas Brydeinig sy'n draddodiadol wrthwynebus i ryfeloedd o bob math. Mae'r grwp yma yn un mawr. Roedd gwrthwynebiad llywodraeth Blair i hawliau sifil sylfaenol hefyd o gymorth. Llwyddwyd i apelio at fyfyrwyr trwy addo i edrych ar ol eu buddiannau hunanol nhw, llwyddwyd i apelio at bobl oedd wedi cael llond bol ar Lafur yn rheoli trefi mawr a dinasoedd yng Ngogledd Lloegr, a llwyddwyd i ddominyddu'r bleidlais draddodiadol wrth Geidwadol mewn rhannau eang o Dde Lloegr.

Mae'n rhaid ychwanegu wrth gwrs i'r Lib Dems yn aml feistrioli tactegaeth gwleidyddol ar lefel lleol - cyflwyno eu hunain fel rhyw grwp ffocws oedd yn canolbwyntio ar ateb problemau penodol lleol (felly'r term dogshit Liberals), ac wrth gwrs honni mai ond y nhw allai guro Plaid X trwy gynhyrchu'r holl graffiau digri 'na.

Y drwg efo bod mewn grym wrth gwrs ydi bod y ddadl y dylid pleidleisio i chi am nad ydych yn rhywun neu'i gilydd yn syrthio - ac yn aml dyna'r brif ddadl tros bleidleisio i'r Lib Dems. Os na ellir gwireddu dyheuadau'r niche mae cefnogaeth y niche yn toddi fel eira Mai. Mae pleidlais y Lib Dems yn gymhleth fel y dywedwyd, ond mae tua dau draean o'i phleidlais yn gogwyddo tuag at y Toriaid tros Brydain. Mae'n dilyn felly bod tua thraean yn gogwyddo tuag at Lafur (neu genedlaetholwyr yng Nghymru a'r Alban). Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Lloegr mae llawer o'r gefnogaeth 'Lafuraidd' neu asgell chwith. Yma felly y gellir disgwyl gweld y rhan fwyaf o'r cwymp yng nghefnogaeth y Lib Dems.

Rwan, yn y sgwrs a soniais amdani yn y blogiad isod roedd Vaughan yn rhyw awgrymu y gallai'r gynrychiolaeth Lib Dem syrthio o dan y 6 arferol yn etholiadau'r Cynulliad yn 2011 gan golli llawer iawn o'u cefnogaeth mewn rhannau o Gymru, ac aeth mor bell ag awgrymu y gallai'r Lib Dems Cymreig a'r rhai Albanaidd fod yn eistedd ar ochr arall i'r Ty Cyffredin erbyn diwedd y senedd yma. Mae'r blog yma wedi edrych ar yr hyn a allai ddigwydd i'r Lib Dems yn y Cynulliad ar sail eu trallodion diweddar yn y polau piniwn Prydeinig. 'Dwi fy hun ddim yn gweld y blaid yng Nghymru yn hollti oddi wrth yr un Brydeinig - o'r tair plaid fawr unoliaethol yng Nghymru y Lib Dems ydi'r un sy'n fwyaf seicolegol ddibynnol ar y fersiwn Seisnig ohoni ei hun. Gallai'r Lib Dems yn yr Alban a rhai o'r aelodau trefol o Ogledd Lloegr dorri eu cwys eu hunain serch hynny.


Mi'r ydwyf fodd bynnag yn derbyn ei bod yn dra thebygol y bydd cynrychiolaeth y Lib Dems yn y Cynulliad yn syrthio, gyda sedd ranbarthol y Gogledd yn cael ei cholli, yn ogystal a Maldwyn ac o bosibl Canol Caerdydd. Yn wahanol i Vaughan fodd bynnag fedra i ddim gweld y sedd yn y De Ddwyrain yn cwympo. Mi fyddwn i yn disgwyl iddyn nhw ennill 4 - Brycheiniog a Maesyfed, sedd ranbarthol y De Orllewin, sedd ranbarthol y De Ddwyrain a naill ai sedd ranbarthol Canol De Cymru neu Canol Caerdydd. Mi fyddwn hefyd yn disgwyl iddyn nhw ildio eu safleuoedd cryf ar gynghorau'r bedair dinas fawr yng Nghymru yn etholiadau lleol 2012 ac ennill yn sylweddol lai na 100 cynghorydd tros y wlad. Mae ganddynt 155 ar hyn o bryd.

Saturday, August 07, 2010

Y rhagolygon i Lafur

Mi es i'r 'Steddfod yn y diwedd - a'r digwyddiad cyntaf i mi ei fynychu oedd yr un a 'hysbysebwyd' gan Vaughan ar ei flog y diwrnod o'r blaen oedd yn cael ei gynnal yng nghwmni Arwyn Jones, Daran Hill a Vaughan ei hun. Mi godwyd nifer o faterion. 'Dwi am aros efo dau, sydd fel mae'n digwydd wedi eu codi ar y blog hwn eisoes - y tebygrwydd neu'r anhebygrwydd y bydd Llafur yn ad ennill y tir sylweddol a gollwyd ganddynt yng Nghymru, a'r trallod etholiadol tybiedig sy'n aros y Lib Dems yng Nghymru. Mi edrychaf ar yr ail fory a'r cyntaf heddiw.

Roedd Vaughan yn cyfeirio at anghytundeb rhwng Rhodri Morgan a Dicw ynglyn a thynged y bleidlais Lafur yng Nghymru. Ymddengys bod Rhodri Morgan yn credu mai canlyniad anochel bod mewn grym yn San Steffan am gyfnod maith ydi'r cwymp yng nghefnogaeth Llafur, ac y bydd y blaid yn ad ennill y tir a gollwyd maes o law. Ar y llaw arall mae Dicw o'r farn ('dwi'n meddwl - chlywais i ddim ei sgwrs) bod y strwythurau cymdeithasegol sydd wedi cynnal yr hegemoni Llafur wedi crebachu bellach, a bod y cwymp yn un parhaol. Mae Vaughan yn dod i lawr rhywle yn y canol - mi fydd Llafur yn ad ennill tir ar lefel San Steffan, ond bydd pethau'n wahanol ar y lefelau etholiadol eraill.

'Dwi'n tueddu i fod braidd yn besimistaidd a dweud y gwir - yn y byr dymor o leiaf. Tra bod newidiadau cymdeithasegol diweddar wedi sicrhau bod y byddinoedd anferth o bobl fyddai'n pleidleisio Llafur ym mhob etholiad doed a ddel wedi diflannu, mae'r amgylchiadau gwleidyddol a geir ar hyn o bryd yn creu byddin arall o bleidleiswyr posibl i Lafur - pobl sy'n ddibynol mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ar wariant cyhoeddus. Maent yn wynebu bygythiad byr dymor sylweddol. Mae yna lawer iawn o bobl o pob dosbarth cymdeithasol yn y sefyllfa yma ym mhob rhan o Gymru - ac mae'r sefyllfa yn creu pwll sylweddol o bobl sydd a llawer i'w ennill ac ychydig i'w golli trwy obeithio am gynrychiolaeth Llafur.

Mae gan Vaughan bwynt pan mae'n nodi ei bod yn bosibl na fydd y grwp yma'n pleidleisio i Lafur ar pob lefel, ac mae yna beth lle i gredu bod etholwyr Cymru yn gymhol soffistigedig i'r graddau eu bod yn gwahaniaethu rhwng etholiadau wrth bleidleisio. Ond y broblem ydi hyn - mae un etholiad yn effeithio ar y llall, a dydi Llafur ddim yn gorfod dod yn agos at eu penllanw etholiadol i gael eu hunain mewn sefyllfa o reoli bron i pob dim. Mi fyddai 45% yn debygol o'u gweld yn rheoli'r Cynulliad, y rhan fwyaf o gynghorau Cymru ac yn cael dwy o'r bedair sedd Ewropiaidd yn ogystal nag efallai 32 neu 33 o'r 40 etholaethau fydd ar ol erbyn etholiad cyffredinol 2015 . Mae Llafur wedi cael mwy na 50% yng Nghymru mor ddiweddar a degawd yn ol.

'Dwi'n mawr obeithio fy mod yn anghywir - 'dydi bron i ganrif bellach o gefnogaeth i'r Blaid Lafur ddim wedi gwneud mymryn mwy i Gymru na'n rhoi mewn sefyllfa o dlodi cymharol a dibyniaeth economaidd ar Lundain, ond mae amgylchiadau presennol yn ei gwneud yn fwy tebygol yn hytrach na'n llai tebygol y bydd y gefnogaeth (ac o ganlyniad y ddibyniaeth a'r tlodi cymharol) yn parhau.