Mae'r hyn sydd yn ein cythruddo yn aml yn dweud llawer iawn am ein daliadau gwaelodol, ac am wn i bod hynny mor wir am dim golygyddol papur newydd nag ydyw am unrhyw un arall. Felly mae'n debyg gen i bod tudalen flaen y
Western Mail heddiw yn adrodd cyfrolau am ddaliadau gwaelodol tim golygyddol y papur hwnnw.
Cyn dechrau efallai y dyliwn nodi nad oes gen i unrhyw broblem fel y cyfryw efo'r Western Mail, nag unrhyw bapur arall yn codi cwestiynau ynglyn a gwario ar gyfieithu i'r Gymraeg. Mae sicrhau atebolrwydd gan gyrff cyhoeddus yn un o briod ddylerswyddau gwasg rydd. Yr hyn sydd yn drawiadol yma, fodd bynnag ydi ymdriniaeth y papur o'r stori. Mae'r ffigwr o £400k yn cael ei greu o awyr iach, mae'r pennawd yn ymfflamychol ac yn bersonol, ac mae'n cael ei phloncio ar dudalen flaen y papur. Hynny yw mae stori sydd yn ei hanfod yn un digon sensitif yn derbyn ymdriniaeth tabloid digon cras ac ansoffistigedig. Mae'n amlwg bod tim golygyddol y Mail wedi cael y myll oherwydd bod pres yn cael ei Ŷwario ar gyfieithu i'r Gymraeg. Mae'n amlwg hefyd nad ydynt yn deall sensitifrwydd rhaniadau ieithyddol yng Nghymru.
Rwan mae sawl elfen i hyn oll. Er enghraifft 'dydi'r papur ddim yn cwyno am y 'gwastraff arian' wrth gyfieithu hysbysebion y Cynulliad i'r Gymraeg - ond wedyn maen nhw'n uniongyrchol elwa o hynny. Yn wir, oni bai am hysbysebion sector cyhoeddus mi fyddai'r
Western Mail wedi mynd i ddifancoll ers blynyddoedd lawer. 'Dydyn nhw ddim chwaith yn cwyno am y £500m mae'r Gemau Olympaidd yn ei gostio i Gymru, na'r £60m y bydd y jiwbili yn ei gostio i Gymru, na'r miliynau di derfyn aeth i lawr y draen ar ryfeloedd di bwrpas. Mae yna weithien addawol iawn i'w chloddio ym maes gwastraff mewn llywodraeth leol, neu lywodraeth genedlaethol. Ond na, mae'r
Wester Mail yn mynd ati i efelychu'r
Daily Express neu'r
Daily Mail mewn stori am wariant ar yr iaith Gymraeg. Dyma un o'r ychydig faterion mae tim golygyddol y papur yn teimlo'n gryf amdano.
A dyna ydi'r peth rhyfedd am hyn oll. Beth bynnag ydi ein barn am y
Daily Mail, a'r
Daily Express, maent yn bapurau efo tan yn eu boliau. Mae ganddynt gyfeiriad golygyddol clir sy'n cael ei fynegi mewn modd cwbl ddi flewyn ar dafod. Ceir ymdeimlad o genhadaeth. Yn yr ystyr yna maent yn hollol wahanol i'r
Western Mail - papur digon llipa a di gyfeiriad o ran gwerthoedd golygyddol creiddiol. Ond pan mae'r
Western Mail yn penderfynu mynd i lawr llwybr ei gefndryd Seisnig mae'n gwneud hynny mewn modd sy'n rhedeg yn gwbl groes i'w honiad i fod yn bapur 'cenedlaethol' Cymru. Mae yna rhywbeth yn bisar am y syniad o 'bapur cenedlaethol' yn erlid yr iaith genedlaethol. Hynny yw, mae'r stori tudalen flaen yn tanseilio'r ddelwedd mae'r papur yn ceisio ei meithrin, yn ogystal a phechu llawer o'r darllenwyr. Allwch chi ddychmygu'r
Daily Express yn ymosod ar y teulu brenhinol, neu'r
Daily Mail yn rhedeg stori ymfflamychol ar bobl gwyn, dosbarth canol, canol oed yn osgoi talu eu trethi? Mae'r hyn wnaeth y
Western Mail yn ymdebygu i hynny.
A goblygiadau hyn oll? Yn ol pob tebyg fydd y
Western Mail ddim efo ni fel papur dyddiol am hir. Mae'n weddol amlwg nad oes gan golygyddion y papur fawr o glem o pwy ydi eu darllenwyr, natur eu marchnad botensial na pa mor bwysig ydi hi i gadw delwedd a hunaniaeth gyson i bapur newydd. Neu mewn geiriau eraill, does ganddyn nhw fawr o syniad ynglyn a'r hyn maent yn ei wneud.