Showing posts with label Barnett. Show all posts
Showing posts with label Barnett. Show all posts

Tuesday, June 12, 2012

Pam na fydd Llafur Cymru yn derbyn yr hawl i drethu - beth bynnag ffawd Barnett

'Dydw i ddim yn cytuno efo Gareth Hughes yn aml, ond mae ei flogiadu - ag eithrio'r rhai sy'n ymwneud a cheffylau wrth gwrs - yn rhai digon diddorol. Mae hynny'n wir am flogiad heddiw.

Dadl Gareth ydi na fydd y Blaid Lafur yng Nghaerdydd yn symud tuag at dderbyn yr hawl i drethu yng Nghymru hyd y bydd y llywodraeth yn Llundain yn diwygio fformiwla Barnett (y dull a ddefnyddir i ariannu Cymru), ac na fydd hynny'n digwydd yr ochr yma i refferendwm yr Alban yn 2014. Y rheswm am hynny yn ol Gareth yw y byddai newid Barnett yn debygol o wneud i fwy o bobl fotio 'Ia' yn y refferendwm hwnnw.

',Dwi'n anghytuno. 'Dydi'r Blaid Lafur Gymreig byth am dderbyn yr hawl i drethu o'u gwirfodd. Y peth diwethaf mae'r blaid ei eisiau ydi sefydlu perthynas rhwng gwariant a threthiant. Mae'r gallu i alw am fwy o wariant cyhoeddus heb orfod trethu neb i dalu am y gwariant hwnnw yn greiddiol i apel y Blaid Lafur Gymreig. Ni fydd y Blaid Lafur Gymreig yn gwneud unrhyw beth i amharu ar eu hapel etholiadol. Ennill etholiadau ydi'r peth pwysicaf o ddigoni Lafur yng Nghymru.

'Dydi diwygio Barnett ddim yn debygol o newid y realiti sylfaenol yma.

Friday, October 09, 2009

A fydd y toriadau mewn gwariant cyhoeddus yn effeithio llai ar Gymru nag ar Loegr?

'Dwi'n petruso cyn gofyn y cwestiwn, rhag gwneud ffwl ohonof fi fy hun - ond mi wnaf i beth bynnag.

Mae'r pleidiau mawr Prydeinig yn dweud y byddant yn cynnig gwarchodaeth i addysg a iechyd yn ystod toriadau mawr y blynyddoedd sydd i ddod.

Mae'r fformiwla Barnett yn cyllido Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon trwy ddarparu canran (5% yn achos Cymru) o wariant cyhoeddus ar feysydd dynodedig yn Lloegr i'r gwledydd hynny. Addysg ac iechyd sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o'r gwariant dynodedig hwnnw o lawer iawn.

Mae'n ymddangos i mi felly y bydd dyraniad Cymru yn 5% o feysydd fydd yn derbyn gwarchodiad.

Ydw i'n methu rhywbeth?

Sunday, September 20, 2009

Mr Balls yn penderfynu y bydd y Cynulliad yn cael llai o gyllid

Mae'n ddrwg gen i am ddod a Mr Balls i'ch sylw ddwywaith mewn diwrnod - ond mae ei ddatganiad yn ei gwneud yn eithaf clir mor wirion ydi'r ffordd mae Cymru'n cael ei chyllido.

Fel bydd darllenwyr cyson y blog hwn yn ymwybodol, cyllidir Cymru yn unol a fformiwla a adwaenir fel Fformiwla Barnett. Mi fydd darllenwyr cyson yn gwybod hefyd bod awdur y blog yma'n ystyried nad ydi'r fformiwla bellach yn ffit i bwrpas - hyd yn oed os oedd synnwyr iddi pan gafodd ei dyfeisio yn saithdegau'r ganrif ddiwethaf.

'Rwan mae'r ffordd mae Barnett yn gweithio yn golygu bod penderfyniadau mewn rhai adrannau o lywodraeth Prydain yn effeithio'n uniongyrchol ar faint o gyllid mae Cymru yn ei gael - mae'r gwasanaeth addysg Seisnig ymhlith y rhain. Bydd Cymru'n derbyn 5% o gyllid yr adrannau llywodraethol dynodedig hyn. Felly - er nad oes gan Mr Balls unrhyw ddiddordeb yng Nghymru (hyd y gwyddon ni), er mai Cymru oedd y peth diwethaf ar ei feddwl pan aeth ati i weithio allan faint mae'n bwriadu ei dorri ar wariant ei adran ei hun, mi fydd ei benderfyniad yn cael effaith uniongyrchol er gwaeth ar wariant cyhoeddus yng Nghymru.

Mae hyn yn amlwg yn anheg ac yn wirion - ond mae pethau'n mynd yn waeth y mwyaf y byddwn yn meddwl am y peth.

Gadewch i mi egluro - nid yw rhai adrannau - amddiffyn er enghraifft - yn effeithio ar wariant yng Nghymru o gwbl. Felly petai yna lywodraeth Doriaidd y flwyddyn nesaf yn penderfynu cynnig elfen o warchodaeth i amddiffyn ar draul adrannau fel addysg a iechyd (mae ganddynt hanes o wneud hyn), yna gallai gwariant cyhoeddus yng Nghymru syrthio'n gynt nag y byddai yn Lloegr - ac hynny ar sail penderfyniad arall nad oes wnelo fo ddim a Chymru. Fel rydym wedi ei drafod eisoes, mae'r Barnett Squeeze yn golygu fod gwariant cyhoeddus yn syrthio'n gynt yng Nghymru nag yn Lloegr o dan amgylchiadau presenol.

Byddai cwymp hwn mewn cyllid i wasanaethau rheng flaen yn digwydd er gwaetha'r ffaith ei bod yn anhebygol iawn y byddai unrhyw un o bleidiau'r Cynulliad (gan gynnwys y Toriaid Cymreig) yn rhoi blaenoriaeth i amddiffyn tros y gwasanaethau hynny, ac er gwaetha'r ffaith nad torri ar y cyllid sydd ar gael i Gymru ydi bwriad llywodraeth San Steffan.

Neu i dorri stori hir yn fyr, mae'r gyfundrefn gyllido yn hollol wallgo.

Wednesday, September 16, 2009

Plaid Cymru, y dirwasgiad a Barnett

Mae sylwadau Gwilym Euros, ymateb dychanol Simon i dueddiad Llais Gwynedd i feio Plaid Cymru am holl ddrygioni'r Byd a'r drafodaeth sy'n dilyn yn codi pwyntiau diddorol.

Yn gyntaf 'dwi'n meddwl bod Gwilym o dan gamargraff os ydi'n meddwl bod y toriadau mae o a gweddill cynghorwyr Cymru yn gorfod ymgodymu efo nhw yn 2010 yn cael eu gyrru gan y dirwasgiad. Cymhlethdodau'r fformiwla Barnett sy'n gyrru toriadau 2010 yn bennaf. O 2011 hyd 2014 fydd y glec o ganlyniad i'r dirwasgiad yn cael ei gweithredu. Mi fydd canlyniadau hynny'n llawer, llawer gwaeth na'r hyn sydd o'n blaen ar hyn o bryd.

'Rwan mae Simon wedi dangos yn glir iawn bod y Blaid wedi gwrthwynebu toriadau 2011 - 2014. Yr unig bwynt y byddwn yn hoffi ei ychwanegu ynglyn a hynny ydi hyn - o'r pleidiau sydd ar gael yng Nghymru, dim ond y Blaid sydd wedi bod y tu allan i'r consensws o neo ryddfrydiaeth economaidd tros y ddegawd diwethaf - y consensws hwnnw yn annad dim arall a luniodd y tirwedd masnachol a ganiataodd i'r llanast banciau ddigwydd. Byddai'n fwy cywir i ddadlau bod mai yng nghyd destun gwleidyddol Cymru, mai'r Blaid yn unig oedd yn erbyn y gyfundrefn a arweiniodd at y toriadau arfaethiedig.

Y Blaid hefyd ydi'r unig blaid Gymreig sydd eisiau diwygio Barnett er mwyn caniatau i Gymru gael ei chyllido yn ol angen yn hytrach nag yn y ffordd fympwyol y caiff ei chyllido ar hyn o bryd. 'Does yna'r un plaid arall yng Nghymru yn cymryd y safbwynt yna. Mae hi'n bwysicach bod y ddadl yma yn cael ei hennill nawr nag oedd o'r blaen - dyna'r unig ffordd y gallwn osgoi'r toriadau gwirioneddol enbyd sy'n ein hwynebu o 2011 i 2014 - yr unig ffordd.

Felly hoffwn awgrymu gyda chymaint o garedigrwydd ag y gallaf ddod o hyd iddo mai'r peth gorau y gall grwpiau, sydd yn wirioneddol boeni am wariant cyhoeddus yng Nghymru, ei wneud ydi cefnogi ymgyrch y Blaid i ddiwygio Barnett. 'Tydi ceisio beio'r Blaid am greu hinsawdd cyllido sydd wedi ei lunio gan ddigwyddiadau y tu allan i'r wlad ddim o unrhyw gymorth o gwbl. Yr unig beth mae'n ei wneud ydi gwneud y sawl sy'n ceisio gwneud y cysylltiad edrych yn chwerthinllyd o ddi niwed a di glem.

Wednesday, April 22, 2009

Y Toriaid i gael gwared o Barnett?

'Dwi ond yn gofyn oherwydd sylwadau a wnaed gan lefarydd y Toriaid ar Ogledd Iwerddon, Owen Paterson:

...we have never said that a Conservative Government would make severe cuts to Northern Ireland’s block grant. We have said the Barnett Formula can’t last forever. Any replacement would be a needs-based formula and as Northern Ireland has substantial needs it would therefore get substantial resources. These comments prove that debate about the Barnett Formula is happening in a fact-free vacuum and we have repeatedly called on the Government to show some leadership on this issue and look at an updated needs-based assessment of how spending should be allocated across the UK.

Byddai addasu, neu gael gwared ar Barnett yn cael effaith pell gyrhaeddol ar y ffordd mae Cymru yn ogystal a Gogledd Iwerddon yn cael ei chyllido. Mae'n amlwg bod yna drafodaeth yn mynd rhagddi yn y Blaid Geidwadol.