Pob tro bron y bydd Vaughan yn son am saga
Ysgol Treganna mae’n rhyw led ymddiheuro oherwydd ei fod yn rhyw led ystyried y mater yn un plwyfol.
‘Does dim rhaid iddo fo wneud hynny wrth gwrs – er mai mater lleol iawn a geir ar un olwg, mae’r goblygiadau sy’n deillio ohono yn rhai hynod o bell gyrhaeddol.
Mae’r stori yn mynd at galon dau o bolisiau llywodraeth y Cynulliad – un sydd yn agos at galon cydadran Llafur y glymblaid, sicrhau cost effeithiolrwydd trwy dorri ar lefydd gweigion mewn ysgolion – ac un sy’n nes at galon Plaid Cymru, ymateb i’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg ar hyd a lled Cymru.
Mae’r cyntaf o’r rhain – yr angen i greu cyfundrefn mwy cost effeithiol, wedi creu gwrthdaro ar lefel lleol am rhai blynyddoedd bellach. Mae’r pwysau ar awdurdodau lleol i leihau’r nifer o lefydd gwag yn sylweddol – fe’i ceir yn uniongyrchol o’r Cynulliad gyda grantiau arian cyfalaf yn cael eu clymu i barodrwydd i gau, ac fe’i ceir yn anuniongyrchol gan ESTYN a’r Comisiwn Archwilio.
Beirniadaeth gyffredin gan y Comisiwn, ESTYN a’r gweinidog addysg ydi bod Awdurdodau Lleol yn wastraffus a nad oes ganddynt y dewrder gwleidyddol i fynd i’r afael a llefydd gweigion. Yr unig ffordd o wneud hyn wrth gwrs ydi trwy gau ysgolion. Mae’n ddigon dealladwy nad ydi Awdurdodau Lleol yn awyddus i wneud hyn.
Ceir 243 o lefydd gwag yn ysgolion Saesneg Treganna os ydym yn cyfri’r nifer sylweddol o blant o’r tu allan i’r ward sy’n mynychu ysgolion yno. Os ydym yn diystyru’r rheini mae’r ffigwr yn uwch - 536. Mae’r ddau ffigwr yn sylweddol, ac o ddilyn rhesymeg y Cynulliad ei hun nid oes unrhyw ddadl o gwbl tros gynnal pedair ysgol Saesneg yn Nhreganna – hyd yn oed pe na bai addysg Gymraeg yn rhan o’r cawl – ac mae’n rhan gweddol bwysig o’r cawl yn y rhan arbennig yma o Gymru. Eto o ddilyn rhesymeg y Cynulliad ei hun, mae honni bod cau Landsdowne yn 'niweidiol' i addysg Saesneg yn gwrth ddweud yr hyn mae’r Cynulliad, ei swyddogion, a’i hasiantaethau wedi bod yn ei brygethu i awdurdodau lleol am flynyddoedd.
Pam y dylai Cyngor Caerfyrddin (dyweder) gau ysgolion yno pan mae’r Prif Weinidog ei hun yn dweud bod cau ysgol yn Nhreganna yn mynd i ‘niweidio’ addysg yno? Pam y dylai cynghorwyr yn Sir Ddinbych ‘fod yn ddewr a chymryd penderfyniadau anodd’ pan na all y llywodraeth ym Mae Caerdydd sefyll y tu ol i gynghorau sy’n cymryd penderfyniadau 'anodd' oherwydd bod gwneud hynny yn cymryd dewrder ar ran y llywodraeth yn ogystal a’r awdurdod? A defnyddio idiom hyll braidd o ochrau G’narfon, mae Carwyn Jones wedi gwnio ei din ei hun efo’r penderfyniad yma.
Mae’r ail fater yn bwysicach o ran dyfodol Cymru, a sut wlad fydd hi mewn canrif. O edrych ar y Gymraeg yn nhermau marchnad mae yna ormod o gyflenwi a dim digon a alw ym mron iawn i pob maes – mwy o ffurflenni Cymraeg nag oes yna alw amdanynt, llawer o raglenni teledu nad oes fawr neb yn edrych arnynt, fersiynnau Cymraeg o wefannau cynghorau nad oes yna neb yn eu defnyddio, gwasanaeth bancio twll yn y wal sy’n cael ei ddefnyddio gan nifer gyfyng o bobl, mwy o gyfieithu nag oes galw amdano ac ati, ac ati.
Yr eithriad mawr wrth gwrs ydi’r peth sydd fwyaf costus i’w ddarparu – addysg Gymraeg. Mae’r galw yma yn llawer, llawer uwch na’r cyflenwad. Oherwydd nad ydi pob cyngor wedi mynd ati i asesu’r galw mae’n anodd bod yn gystact ynglyn a’r gwir alw, ond mae lle i gredu y byddai mwy na 50% o rieni plant Cymru eisiau addysg Gymraeg i’w plant petai ysgol gyfagos ar gael. Tua 20% o blant cynradd sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd.
Byddai ymateb i’r galw hwn yn ail strwythuro addysg yng Nghymru yn sylweddol – ac waeth i ni fod yn gwbl onest am y peth – mi fyddai lleihau’r nifer o blant sy’n cael addysg cyfrwng Saesneg o 80% i ddim llawer mwy na hanner hynny - yn arwain at gau ysgolion Saesneg, a llawer iawn ohonynt. O geisio cadw pob ysgol Saesneg yn agored byddai datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn anfforddiadwy – ‘dydi hi ddim yn bosibl cynnal cyfundrefn lle byddai llawer iawn o ysgolion Saesneg gydag efallai 40% neu lai o’u capasiti yn cael ei ddefnyddio. Mi fyddai addysg yn bwyta’r rhan fwyaf o gyllid y Cynulliad.
‘Rwan ‘dwi ddim yn amau am eiliad y bydd rhyw gyfaddawd yn cael ei ddarparu yn Nhreganna, ond os ydi’r llywodraeth yng Nghaerdydd am ddilyn egwyddor o wrthod cau ysgolion Saesneg ar y sail rhyfeddol bod hynny’n 'niweidio' addysg cyfrwng Saesneg pan mae’r galw addysg felly yn plymio fel angor, ni fydd y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg byth, byth yn dod yn agos at gyfarfod a’r galw amdano.
Mae pethau mor syml a hynny mae gen i ofn – mae gwrthod cau ysgolion Saesneg yn golygu mai cyfyng iawn, ac araf iawn fydd datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol.