Ydi o 'mond fi sy'n meddwl bod rhywbeth anymunol iawn am Gordon Brown yn mynd yn emosiynol ac ati o flaen miliynau o bobl oherwydd iddo ef a'i Fusus golli babi.
Trwy ras Duw mi dyfodd ein pum plentyn ni i fod yn oedolion iach - rhywbeth anarferol o edrych yn ol tros hanes dynoliaeth, ond sefyllfa yr ydym yn ei disgwyl erbyn heddiw.
Doedd Brian, ewythr y Mrs ddim mor lwcus. Mae Brian yn hynod, hynod o allblyg (yn wahanol iawn i Gordon Brown). Os oes rhywun yn Nhreforys yn darllen hyn o lith, arferai gadw'r swyddfa bost acw.
Pan oedd yn ifanc roedd yn gweithio i gwmni olew yn Saudi Arabia. Yn ystod y cyfnod yma yn ei fywyd aeth ei blentyn blwydd oed yn sal yn anisgwyl, ac fe aeth a hi i'r ysbyty gyda'r nos pan aeth pethau o ddrwg i waeth. Dychwelodd i'r ysbyty yn y bore bach i gael fod y babi wedi marw ymhell cyn toriad y wawr. Rhoddwyd y corff iddo mewn blanced a threuliodd weddill y bore yn dreifio o gwmpas yn edrych ar ei ffenest flaen trwy ei ddagrau yn chwilio am ymgymerwr angladdau. Roedd y darn bach o gnawd dynol oedd mor annwyl iddo ar y sedd flaen wrth ei ochr.
Er gwaethaf y ffaith ei fod yn berson sydd bron yn chwerthinllyd o allblyg, sy'n rhannu pob cyfrinach efo pawb, sy'n siarad am pob math o sbwriel yn barhaus, chlywais i erioed o'r stori ganddo - rhywbeth oedd wedi ei grio i berthnasau agos yn fuan wedi'r digwyddiad yng ngwres y profiad oedd y stori a wnaeth ei ffordd i mi. 'Dwi'n amau'n gryf ei fod wedi son am y peth wrth neb mewn deg mlynedd ar hugain.
Mi gollodd nain ddau o blant pan oeddynt yn fabanod. 'Does gen i ddim cof ohoni yn rhannu ei thrallod na'n gwahodd neb arall i'w rannu - eu thrallod hi oedd o.
A dyna pam 'dwi'n teimlo ychydig yn sal gweld Gordon Brown yn sniffian wrth son am ei brofedigaeth yntau. Petai'r peth wedi digwydd i mi, nid mynd ar y teledu i siarad fyddai'r hyn y byddwn eisiau ei wneud - mi fyddwn eisiau mynd i fy ngwely i grio pob tro y byddwn yn meddwl am y peth.
Dwi'n mawr obeithio fy mod yn anghywir, ond yr argraff 'dwi'n ei chael ydi bod y dyn yn chwifio mymryn cnawd treuenus ei blentyn marw o'n blaenau i geisio ennill ein pleidleisiau, ac mae hynny'n gwneud i fi deimlo'n sal.
Showing posts with label Gordon Brown. Show all posts
Showing posts with label Gordon Brown. Show all posts
Friday, February 12, 2010
Thursday, February 11, 2010
Ymddygad bygythiol yn y gweithle

Mae polticalbetting.com wedi bod yn adrodd ar nifer o lyfrau diweddar gan bobl sy'n honni eu bod yn gyfarwydd a sut mae llywodraeth Prydain yn gweithio o ddiwrnod i ddiwrnod, llyfrau sydd yn codi cwestiynau eithaf sylfaenol am arddull arwain Gordon Brown.
Mae'r hyn a ddisgrifir ganddynt mewn gwirionedd yn sefyllfa lle mae yna batrwm o fwlio digon anymunol yn digwydd yng nghalon llywodraeth Llundain, a lle mai'r prif weinidog sy'n gyfrifol am lawer o'r bwlio hwnnw.
Rwan, mae bwlio yn y gweithle yn fater difrifol. Mae hefyd yn fater y byddai disgwyl i'r sawl sy'n gyfrifol am weithle roi sylw iddo'n ddiymdroi os oes honiadau yn cael eu gwneud. Mae amddiffyn staff ymysg prif ddyletswyddau cyflogwr, a byddai bwlio staff yn fater y dylid ei archwilio a'i gyfeirio i strwythur disgyblu'r corff dan sylw os oes sail i'r amheuon.
Rhan o'r broblem yma ydi mai'r prif weinidog sy'n gyfrifol am lawer o'r bwlio (os ydi'r straeon i'w credu). Fyddai hy ddim yn broblem yn y rhan fwyaf o weithleoedd sector gyhoeddus - mae gweithrefnau mewn lle i ddelio efo ymddygiad bygythiol ac amhriodol - hyd yn oed os mai'r sawl sydd yn rheoli sy'n gyfrifol am yr ymddygiad hwnnw. Mae'r ffaith nad oes trefn i ddelio efo'r sefyllfa yn dangos mor bell oddi wrth weithleoedd normal ydi San Steffan ar hyn o bryd - ffaith a danlinellwyd yn hynod glir gan y diffyg rheolaeth ariannol a ddaeth i'r amlwg yn sgil y sgandal treuliau diweddar. Mae'n weddol amlwg bod cryn dipyn o waith i'w wneud o hyd, cyn y bydd gweithdrefnau llywodraethol y DU yn dal i fyny efo gweddill y byd gwaith.
Mae yna gwestiwn arall yn codi wrth gwrs. Ydi undebau gweision sifil yn euog o beidio cymyd eu dyletswyddau o ddifri os oes gwybodaeth fel hyn yn gyhoeddus, ond eu bod yn dewis peidio edrych i mewn i'r mater? Mi dybiwn mai ateb cadarnhaol sydd i'r cwestiwn hwnnw.
Sunday, January 31, 2010
Peidiwch ag ypsetio Gordon Brown

Mae politicalbetting.com pam bod y stori uchod wedi ei thynnu oddi ar y We gan y Mail. Cwestiwn da.
Wna i ddim ailadrodd yr honiadau - maen nhw i'w gweld os ydych yn clicio ar y linc.
Tuesday, January 05, 2010
Unrhyw beth yn y gwynt?

Mae nifer o flogiau - megis hwn - yn cyfeirio at stori a ymddangosodd yn y Standard heddiw sy'n awgrymu bod symudiad eto fyth yn y Blaid Lafur i gael gwared o'u harweinydd.
Efallai bod rhywbeth yn y stori, ond mae'n fwy tebygol mai ychydig o nonsens dechrau'r flwyddyn sydd yma.
Sunday, October 11, 2009
Llygad Mr Brown

Mae'r stori am fan broblem Gordon Brown efo'i lygad dde yn gwneud i rhywun feddwl. Mi gofiwch na all weld efo'i lygad chwith o ganlyniad i ddamwain pan oedd yn ifanc. Mae dyn yn cydymdeimlo efo'i sefyllfa wrth gwrs - gyda golwg yn un llygad yn unig, mae'n amlwg y byddai rhywun yn sensitif iawn i broblemau gyda'r lygad honno.
Yr hyn sy'n croesi fy meddwl ydi sut y daeth stori ynglyn a phroblem gweddol ddi ddim i sylw'r cyfryngau?
Ydi hi'n bosibl fod Brown yn paratoi exit strategy fyddai'n rhoi'r cyfle iddo ymddiswyddo heb orfod cyfaddef methiant cyn etholiad 2010? Wedi'r cwbl mae ganddo hanes o osgoi etholiadau - cofier na safodd yn erbyn Blair yng nghanol y nawdegau a'i fod wedi sicrhau nad oedd rhaid iddo wynebu etholiad am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.
Efallai fy mod yn sinicaidd - ond hen fusnes digon sinicaidd ydi gwleidyddiaeth yn aml - ac yn arbennig felly'r math o wleidyddiaeth mae Brown yn ei hymarfer.
Sunday, September 27, 2009
Diwrnod du eto fyth i Brown

O diar, 'dydi pethau ddim yn mynd yn dda iawn i Mr Brown - y Lib Dems yn dal ei blaid yn y polau piniwn, Y Farwnes Scotland yn cael ei dal yn dweud _ _ _ , wel llai na'r gwir, wedyn dyma Alistair Darling yn ymosod ar ei holl blaid gan gynnwys fo'i hun a'i fos; a fel petai hynny ddim yn ddigon, mewn datblygiad dramatig a allai'n hawdd ddod a'r llywodraeth i lawr, mae Llais Gwynedd wedi galw ar y creadur i ymddiswyddo, er mwyn i'r Toriaid gael dod i rym yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.
Mae'r diwedd yn agos bois bach.
Saturday, February 07, 2009
Diwrnod y ddau Gordon
Yn ol Gordon Brown mae o wedi bod o blaid sefydlu trefn rhybudd cynnar i adnabod sicrhau bod llif ariannol rhyngwladol yn rhedeg yn briodol ers blynyddoedd lawer. Yn wir mae wedi bod o'r farn nad yw'r drefn bresenol yn ddigonol ers talwm. Felly mae'n dadlau ei fod wedi rhagweld yr argyfwng ariannol. Hawdd y gallai dyn ofyn - pam ddiawl na wnaeth o ddim i atal y peth?
'Rwan fedra i ddim meddwl am unrhyw beth mor anhygoel y gallai Brown ei ddweud - efallai mai hanner dwsin o bobl a gafodd eu hunain mewn sefyllfa i osod trefn o oruwchwylio llif ariannol rhyngwladol - a fo, fel canghellor y trysorlys ym Mhrydain am ddegawd oedd un ohonynt.
Pam bod Gordon yn dweud rhywbeth mor gwbl anhygoel? Fedra i ddim meddwl am unrhyw reswm call pam y byddai'r dyn yn dweud y ffasiwn beth - beth bynnag ei wendidau, dydi o ddim ymhlith y bobl mwyf di gywilydd yn hanes y Byd? Yr unig beth y gallaf feddwl amdano ydi ei fod wedi cael damwain o rhyw fath sydd wedi niweidio ei fenydd.
Efallai ei fod wedi cynhyrfu'n lan wedi cael gwared o Tony Blair ar ol yr holl flynyddoedd o gynllwynio, ac wedi degawdau o ddal ei hun yn ol aeth ati i ddathlu'n lloerig gan ddobio ei ben yn erbyn y wal i gyfeiliant cerddoriaeth soniarus Black Sabbath. Hwyrach bod hyn wedi hollti'r llinyn sy'n cysylltu dau ochr ei fenydd a bod y cyn ganghellor wedi ei adael ar ol yn yr ochr chwith ei fenydd, tra bod y prif weinidog yn yr ochr dde. Felly mae yna ddau Gordon Brown.
Mae'r ddau yn cyd fyw - yn mynd i'r un llefydd, yn ystyried yr un problemau - yn gwneud pob dim efo'u gilydd, ond maent yn ddau endid cwbl wahanol.
Bydd y ddau yn rowlio allan o'r gwely efo'i gilydd ac yn ymbalfalu yn y myrllwch am drons, par o sanau, trywsus ac ati. Wedyn byddant yn mynd i lawr y grisiau i gael eu brecwast. Daw gwas sifil i mewn gyda'r papurau boreuol, ac mae'r ddau Gordon yn mynd trwy'r penawdau - Brown's Ratings Now Lower Than Hitler's, Labour In Single Digits In The Polls, Labour Peers Willing To Legalise Dog Fighting In Exchange For Cash, USA Breaks Diplomatic Relations With UK After Latest Milliband Faux Pas , Jacqui Smith Puts All The Nation's Reserves In Her Purse ac ati, ac ati. Mae'r ddau Gordon yn troi at y tudalenau cefn.
Wedyn mae'r ddau yn cael eu gyrru o 10 Downing Street i'r Senedd. Maent yn mynd i'w swyddfa lle mae'r prif chwip yn ei aros gyda'r storiau arferol am aelodau seneddol yn bygwth pleidleisio gyda Cameron, aelodau seneddol ddim am sefyll y tro nesaf, aelodau seneddol yn bygwth cyflawni hunan laddiad ar lawr Ty'r Cyffredin _ _ _. Maen nhw'n dechrau meddwl am rhywbeth arall - unrhyw beth arall - eu hoff gol - yr un a sgoriodd Paul Gascoine yn erbyn yr Alban yn Euro 96.
Daw amser Cwestiynau'r Prif Weinidog yn erchyll o fuan. Mae'r Gordons yn gwybod yr ateb i'r cwestiwn cyntaf pob tro am bod eu gweision sifil wedi sgwennu'r atebion ar bapur gan ddefnyddio ffont maint 16. Yn anffodus 'does gan y gweision sifil ddim syniad beth ydi'r cwestiynau dilynol, a dydi'r Gordons ddim efo'r syniad lleiaf sut i'w hateb - felly maent rwdlan yn gloff, ac mae pawb o'n blaen yn dechrau chwerthin, neu weiddi, neu ysgwyd eu dyrnau, neu ofyn cwestiynau sbeitlyd. Mae pawb y tu ol iddynt yn rhoi eu pennau yn eu dwylo. Mae'r dyddiau pan oedd Betty Williams yn planu ei hun yn union y tu ol i Blair wedi hen fynd. Mae bellach yn planu ei hun cyn belled a phosibl oddi wrth y Gordons.
Wedyn cant eu gyrru'n ol i 10 Downing Street a chael cip ar Sky News - y gohebydd gwleidyddol gyda chrechwen ar ei wyneb yn rhoi adroddiad ar berfformiad y Gordons yn y Senedd. Clip neu ddau o'r gyflafan ar lawr Ty'r Cyffredin.
Mae'r Gordons yn mynd at y cwpwrdd diod ac yn llenwi gwydr hanner peint o'r botel wisgi ac yn troi i edrych ar y darts ar Sky Sports.
Deffro'n sydyn a'r darts yn dal i fynd. Edrych ar y cloc - un o'r gloch y bore. Ymlwybro i fyny'r grisiau - mae'r golau wedi diffodd ac mae Sarah eisoes yn y gwely. Mae'r ddau Gordon yn ystyried ceisio cael cyfathrach rywiol gyda hi - ar yr un pryd. Maent yn rhoi eu llaw ar ei chlun, mae hithau'n troi ei chefn arnynt. Maent hwythau yn troi eu cefn ac yn ceisio cysgu - er mwyn bod yn ffres i wynebu diwrnod arall.
Sunday, December 14, 2008
Afghanistan, Gordon Brown a rol plant mewn rhyfeloedd
Roedd ymateb Gordon Brown yn chwyrn i ymysodiad gan fomiwr tair ar ddeg oed ar fyddin Prydain yn Afghanistan a adawodd dri o filwyr Prydain yn farw. Roedd y bachgen wedi cuddio bom yn y ferfa roedd yn ei gwthio, a bu farw ynghyd a'r milwyr. Yn ol Gordon, roedd hyn yn brawf o natur y Taliban. Aeth ymlaen i'n sicrhau ein bod i gyd yn saffach o lawer oherwydd bod y fyddin Brydeinig yn ymladd rhyfel yn Afghanistan.
Heb fynd i amddiffyn y Taliban, mae hon yn amlwg yn ryfel gwirioneddol anymunol. ac mae mwy nag un ochr yn gyfrifol am erchyllderau.
Tair ar ddeg oed oedd y plentyn a laddodd ei hun er mwyn lladd aelodau o'r fyddin Brydeinig. Mae'r fyddin honno hefyd yn fodlon recriwtio plant yn 16 oed - ac hynny'n groes i argymhelliad y Cenhedloedd Unedig. Eu hawgrym nhw ydi mai deunaw ddylai fod yr oed recriwtio cynharaf. Ymddengys bod unigolyn yn ddigon hen i gael eu hyfforddi i ladd ac i farw yn un ar bymtheg, ond nid yw'n ddigon hen i brynu alcohol, i yrru car, i bleidleisio nag i brynu paced o ffags.
Yn wir, mae'n arfer gan y fyddin Brydeinig i fynd o ysgol i ysgol yn ceisio dwyn perswad ar blant i ymuno a'r lluoedd diogelwch Prydeinig. Mae lle i ddadlau bod hyn yn ffurf ar gamdriniaeth plant. Yn sicr mae elfen hynod anymunol i'r arfer - wedi'r cwbl mae ymaelodi a'r lluoedd diogelwch yn ddeniadol i blant o gefndiroedd di freintiedig sydd ddim yn debygol o lwyddo'n addysgol.
Canlyniad tebygol ymuno a'r lluoedd ydi wynebu'r union beryglon a arweiniodd at farwolaeth y tri milwr y diwrnod o'r blaen - ac mae'r arfer o recriwtio plant yn sicrhau mai pobl o gefndiroedd tlawd sydd am orfod wynebu'r rhan fwyaf o'r perygl hwnnw.
Heb fynd i amddiffyn y Taliban, mae hon yn amlwg yn ryfel gwirioneddol anymunol. ac mae mwy nag un ochr yn gyfrifol am erchyllderau.
Tair ar ddeg oed oedd y plentyn a laddodd ei hun er mwyn lladd aelodau o'r fyddin Brydeinig. Mae'r fyddin honno hefyd yn fodlon recriwtio plant yn 16 oed - ac hynny'n groes i argymhelliad y Cenhedloedd Unedig. Eu hawgrym nhw ydi mai deunaw ddylai fod yr oed recriwtio cynharaf. Ymddengys bod unigolyn yn ddigon hen i gael eu hyfforddi i ladd ac i farw yn un ar bymtheg, ond nid yw'n ddigon hen i brynu alcohol, i yrru car, i bleidleisio nag i brynu paced o ffags.
Yn wir, mae'n arfer gan y fyddin Brydeinig i fynd o ysgol i ysgol yn ceisio dwyn perswad ar blant i ymuno a'r lluoedd diogelwch Prydeinig. Mae lle i ddadlau bod hyn yn ffurf ar gamdriniaeth plant. Yn sicr mae elfen hynod anymunol i'r arfer - wedi'r cwbl mae ymaelodi a'r lluoedd diogelwch yn ddeniadol i blant o gefndiroedd di freintiedig sydd ddim yn debygol o lwyddo'n addysgol.
Canlyniad tebygol ymuno a'r lluoedd ydi wynebu'r union beryglon a arweiniodd at farwolaeth y tri milwr y diwrnod o'r blaen - ac mae'r arfer o recriwtio plant yn sicrhau mai pobl o gefndiroedd tlawd sydd am orfod wynebu'r rhan fwyaf o'r perygl hwnnw.
Subscribe to:
Posts (Atom)