Showing posts with label Toriaid. Show all posts
Showing posts with label Toriaid. Show all posts

Thursday, October 11, 2012

Y Swyddfa Gymreig a deddfau'r Cynulliad

Mae Ffred yn gwbl gywir i ddisgrifio'r sefyllfa sydd ohoni ynglyn a deddfu yng Nghymru fel llanast llwyr.  Mi'r ydan wedi cael gwared o un dull boncyrs o ddeddfu - y gyfundrefn Lcos-  ond wedi cael ein hunain gydag un sydd hyd yn oed yn wirionach, sef cyfundrefn sy'n caniatau i David Jones dreulio yr oriau di ddiwedd sydd ar gael iddo yn cribinio pob darn o ddeddfwriaeth i weld os y gall ei atal neu'i arafu am resymau  'cyfreithiol'.

Yn wir mae idiotrwydd llwyr yr ymyraeth yma yn tanlinellu'r gwendidau sydd yn y gyfundrefn deddfu yn well nag y gallai dim arall.  Ymddengys bod David Jones o'r farn nad ydi hi'n briodol i'r Cynulliad roi hawliau cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg oherwydd ei fod wedi argyhoeddi ei hun bod hynny yn ymwneud a'r Saesneg - a bod delio a'r iaith honno tu hwnt i bwerau'r Cynulliad.

Mae'r ffordd mae pwerau'r Cynulliad wedi eu diffinio yn creu cymhlethdod lle nad oes angen hynny. Mae cymhlethdod felly yn fel ar fysedd Swyddfa Gymreig - sefydliad sydd yn cael ei reoli gan bobl sydd yn sylfaenol wrth Gymreig a sydd erioed wedi dod i delerau efo'r sefyllfa newydd yng Nghymru.  Maent yn cael anhawster efo'r syniad o ddeddfu Cymreig sy'n annibynnol o San Steffan.  O dan y drefn sydd ohoni gallant geisio dod o hyd i rhyw broblem neu'i gilydd efo pob darn o ddeddfwriaeth, a cheisio mynd ati i'w atal neu ei newid.  Hyd yn oed os nad ydynt yn llwyddo i newid y ddeddfwriaeth newydd yn y pen draw, cant y cysur seicolegol o deimlo i San Steffan chwarae rhan ynddi.

Mae dau brif bwynt yn codi o hyn oll.  Yn gyntaf mae'n weddol amlwg y dylid diffinio pwerau'r Cynulliad yn yr un ffordd a mae pwerau senedd dai yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi eu diffinio, er mwyn osgoi cymhlethdod di angen.

Yn ail mae'n tynnu sylw at y ffaith ei bod yn wastraff adnoddau chwerthinllyd i gynnal Swyddfa Gymreig.  Mae'n anodd ar y diawl ddychmygu beth  yn union mae Steven Crabb, David Jones a Jenny Randerson yn ei wneud efo'u hamser.  Efallai bod yr ymyraeth yma yn adlewyrchu'r ffaith bod y tri yn gorfod crafu pen i ddod o hyd i rhywbeth neu'i gilydd i'w wneud i lenwi'r oriau maith, diflas yn Nhy Gwydyr.

Ond mae agwedd gadarnhaol i'r bennod fach ryfedd yma hefyd - mae'n rhoi cymhelliad cryf i lywodraeth Llafur yn San Steffan unioni'r cam a wnaethant a Chymru trwy roi  setliad datganoli diffygiol i Gymru yn ol yn 1997 - ac mae hefyd yn rhoi cymhelliad iddynt anfon y Swyddfa Gymreig i aberfofiant haeddianol unwaith ac am byth.

Thursday, September 27, 2012

Alwyn a chyfarfod cyhoeddus Toiaid Aberconwy

Mae'n debyg y dyliwn i gydymdeimlo efo fy nghyd flogiwr Alwyn ap Huw oherwydd iddo gael ei hun yn y sefyllfa digon anymunol o orfod gwrando ar bobl rhagfarnllyd yn hefru am grwpiau o bobl nad ydynt yn hoff ohonynt am gyfnod o ddwy awr a mwy.  Dyna o leiaf ydi'r argraff mae dyn yn ei gael o'i adroddiad ynglyn ag un o gyfarfodydd 'agored' Toriaid Aberconwy.

Ond wedi dweud hynny - hwyrach na ddylai Alwyn fod wedi synnu cymaint mewn gwirionedd.  Mae'r Blaid Geidwadol wedi mynd i gryn ymdrech i gael gwared o'r ddelwedd o blaid annifyr tros y blynyddoedd diwethaf - dyna pam mai David Cameron ydi'r arweinydd a dyna pam bod mwy o ferched a phobl o gefndiroedd ethnic gwahanol yn eistedd ar eu hochr nhw o Dy'r Cyffredin ar hyn o bryd.

Ond hyn a hyn o'r gwir yn unig y gellir ei guddio - hyn a hyn o lwch y gellir ei daflu i lygaid pobl.  Yn y pen draw mae cyfarfod cyhoeddus sydd wedi ei drefnu gan y Toriaid am ddenu llawer o'r pobl mwyaf adweithiol sydd ar gael - yn union fel mae ymgeisydd Toriaidd mewn etholiad yn denu pleidleisiau'r  adweithiol a rhagfarnllyd.

Fel yna mae hi wedi bod erioed.  

Wednesday, September 12, 2012

Tybed pam bod y Ceidwadwyr Cymreig yn erbyn diwygio Ty'r Arglwyddi?

Mae'n ddiddorol bod Guto Bebb yn priodoli'r ffaith na ddewiswyd yr un o'r aelodau seneddol Cymreig yn Ysgrifennydd Seneddol i David Jones oherwydd i (o leiaf) dri ohonynt ddweud y byddant yn gwrthwynebu bwriad y llywodraeth i ddiwygio Ty'r Arglwyddi. Mi allwn gymryd hynny efo pinsied go lew o halen wrth reswm, ond rhywbeth arall aeth a fy sylw a dweud y gwir.

Mae hi'n bosibl bod yr aelodau seneddol Toriaidd o Gymru yn teimlo yn ddigon cryf am fater yr Arglwyddi i fod yn fodlon rhoi eu pennau tros y pared a gwrthryfela yn erbyn y llywodraeth. Ond mae yna eglurhad arall. Rydym wedi edrych ar effaith tebygol newid y ffiniau etholiadol yng Nghymru ar gynrychiolaeth y Toriaid yma - byddai'r rhan fwyaf o'u seddi yn cael eu colli.

Gan bod y ffiniau a geir ar hyn o bryd yn ei gwneud yn nesaf peth i amhosibl i'r Toriaid gael mwyafrif llwyr, byddai'n anodd i aelod seneddol Toriaidd bleidleisio yn erbyn eu newid - hyd yn oed os byddai'r aelod hwnnw yn colli ei sedd o ganlyniad i'r newidiadau.  Ond roedd yn amlwg yn ystod y dyddiau cyn bod y bleidlais i'w chynnal y byddai'r Lib Dems yn gwrthod cefnogi'r newidiadau i'r ffiniau os nad oedd y newidiadau i Dy'r Arglwyddi yn mynd rhagddynt.

Hynny yw, roedd yn bosibl i aelodau seneddol Toriaidd bleidleisio yn erbyn y newidiadau i'r ffiniau yn anuniongyrchol - trwy brocsi fel petai. Byddai dod a'r mesur Ty'r Arglwyddi lawr yn dod a'r mesur i newid y ffiniau i lawr. Byddai hynny yn ei dro yn rhoi cyfle i nifer o'r aelodau seneddol Toriaidd gadw eu seddi - er y byddai hynny yn groes i fuddiannau'r Blaid Doriaidd yn wrth gwrs.

Rwan dydw i ddim eisiau swnio'n sinicaidd na Maciofelaidd _ _ _ ond _ _ _.

Monday, September 10, 2012

Ysgrifennydd Seneddol David Jones

Felly dydi David Jones ddim eisiau Glyn Davies yn ysgrifennydd seneddol iddo - nag unrhyw un o'r aelodau Ceidwadol Cymreig eraill sydd ar gael chwaith o ran hynny. David Kawczynski aelod seneddol o Loegr, sydd o gefndir Pwylaidd ydi'r dyn lwcus.

Fel y gwelwch o'r linc mae Daniel Kawczynski ar adain Dde ei blaid - mae'n perthyn i'r grwp Cornerstone. Mae yna hefyd anghydfod bach diddorol ynglyn a gwahanol lyfrau am y Dwyrain Canol mae'n honni i fod wedi eu hysgrifennu. Fo hefyd ydi'r aelod seneddol talaf erioed yn ol pob tebyg - mae'n 6"8 1/2'.

Beth bynnag - mae'n amlwg bod y dyn eisoes wedi penderfynu ar ei flaenoriaethau yn y swydd newydd - dyma roedd ganddo i'w ddweud wrth y Shropshire News.

I look forward to leveraging my new position to further highlight my constituents’ concerns, especially in areas such as health and transport, as well as doing everything in my power to help promote economic growth.

As a long-standing advocate of the agricultural industry, I will continue to strongly lobby for farmers throughout my constituency, and look forward to working closely with my fellow Shropshire MP Owen Paterson, the new Secretary of State for Environment, Food and Rural Affairs, in the weeks and months to come.

Diweddaraiad - ychydig o waith ymchwil gan Golwg360. Ymddengys nad ydi Daniel yn rhy hoff o - wel - o Gymru, credwch y peth neu beidio.

Tuesday, September 04, 2012

Felly David Jones amdani


Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn yn rhagweld y dewis yma.  'Dwi'n siwr y bydd gan David well gafael ar fanylion ynglyn a Chymru na'i ragflaenydd - dynas nad oedd hyd yn oed yn gwybod am hir i Carwyn Jones gymryd lle Rhodri Morgan fel Prif Weinidog Cymru. Does yna ddim amheuaeth ei fod yn fwy galluog o lawer na Cheryl Gillan - yng nghyd destun y swydd yma o leiaf.

Ond - fel mae eraill wedi nodi, mae'n ddewis problematig - llugoer ar y gorau tuag at ddatganoli, amhoblogaidd gydag 'adain Gymreig' ei blaid ei hun, ac amhoblogaidd yn ehangach hefyd. Mae'n wyneb cyhoeddus oeraidd i'r Blaid Geidwadol Gymreig - a dydi gwleidyddion felly ddim yn apelio yng Nghymru.  Mae gwleidyddion lliwgar, huawdl neu gynnes o ran cymeriad yn tycio yn llawer gwell yma.

Yn ychwanegol at hynny mae blog David yn adrodd cyfrolau am ei agweddau gwaelodol at wleidyddiaeth.  Daw'r deunydd craidd yn bennaf o etholaeth David ac ardaloedd cyhoeddus.  Mae'r rhan fwyaf o'r gweddill yn ymwneud a materion 'cenedlaethol' yn ystyr Prydeinig y term hwnnw.  Ychydig iawn, iawn o dystiolaeth sydd ynddo ei fod yn gweld dimensiwn Cymreig i wleidyddiaeth - os ydym yn anwybyddu y blogiadau sy'n ymwneud ag ymgyrchu yn etholiadau'r Cynulliad. Yn yr ystyr yna mae teimlad hen ffasiwn, cyn ddatganoli i'w flogio - bron iawn fel darllen stwff rhywun oedd yn blogio yn 1993 - nid bod neb wrthi bryd hynny wrth gwrs, hyd yn oed Nic Dafis.

Felly dyna ni - mae i'r ddraig Geidwadol Gymreig ddau ben, ac felly dau wyneb - un Andrew RT Davies ac un David Jones - y naill yn crechwenu'n hunan fodlon ar yr etholwyr a'r llall yn gwgu'n biwis arnynt.

Mi gawn gip maes o law ar pa mor boblogaidd ydi'r ddraig honno yn is etholiad De Caerdydd / Penarth. Mi gawn ni olwg llawnach yn etholiadau Ewrop yn 2014. Mi fyddai dod ar ol UKIP a cholli'r sedd Doriaidd yn drychineb iddynt - ond mae'n drychineb a allai'n hawdd ddigwydd.

Monday, August 20, 2012

Stephen Crabb yn Ysgrifennydd Gwladol?

Mae'n debyg y dyliwn i gofio pwy ddywedodd bod wythnos yn amser maith mewn gwleidyddiaeth, ond a barnu oddiwrth yr holl droelli gan gyfeillion Stephen Crabb, AS Preseli Penfro, i roi pwysau ar Cameron i'w wneud yn Ysgrifennydd Gwladol tros Gymru, mae'n amlwg bod tair blynedd yn oes.

Yn ol yn 2009 roedd rhaid i Stephen alw cyfarfod cyhoeddus yn ei etholaeth i egluro pam ei fod ar flaen y gad ymysg ASau Cymru o ran hawlio treuliau seneddol - doedd y cyfarfod ddim yn un cyfforddus, ac roedd peth ansicrwydd ynglyn a dyfodol Stephen yn San Steffan ar y pryd.

Ymddengys i Stephen hawlio £8,000 i wella ei ail gartref yn Llundain cyn mynd ati i'w werthu am elw o tua £170,000. Wedyn honnodd mai ei brif gartref oedd ystafell mewn fflat cyd AS, ac mai ei gartref yng Nghymru oedd ei ail gartref. Caniataodd hyn iddo hawlio £9,300 o dreth stamp a £1,325 y mis tuag at forgais ei gartref teuluol. Er bod Stephen yn dadlau nad oedd wedi gwneud dim o'i le, ad dalodd y £9,300 wedi ychydig o hym hymian. Roedd hyfyd yn awyddus i bawb ddeall nad oedd wedi hawlio pres i brynu teledu plasma.

Petai yn cael joban Cheryl Gillan byddai ei gyflog yn codi o £65,738 i £145,567 - nid bod Stephen yn poeni am bres wrth gwrs.

Thursday, August 16, 2012

Pwy ydi'r 6?

Yn ol Sam Coates o'r Times mae chwech o'r wyth AS Toriaidd yng Nghymru yn bwriadu pleidleisio yn erbyn newid y ffiniau etholaethol.

Unrhyw un eisiau bwrw amcan pwy ydi'r chwech?

I gyd yn hyn efo'n gilydd

Mae'r wasg wedi nodi ers tro byd bod mwyafrif llethol cabinet llywodraeth San Steffan werth o leiaf miliwn o bunnoedd.

Mae'n braf felly cael nodi bod yr hogiau (a hogiau ydi'r rhan fwyaf o ddigon ohonyn nhw) wedi llwyddo i gymryd gofal ohonyn nhw eu hunain, eu teuluoedd a'u cyfeillion yn nannedd y dirwasgiad mae eu polisiau economaidd wedi ei greu. Tra bod fwy neu lai bawb arall yn mynd yn dlotach, mae bois y cabinet a'u cyd filiwnyddion yn mynd yn gyfoethocach - ac yn gwneud hynny yn gyflym iawn.

Saturday, August 04, 2012

Aelodaeth y pleidiau gwledyddol

Mae'n ddiddorol nodi o flog Michael Crick bod aelodaeth y Toriaid a'r Lib Dems wedi syrthio yn sylweddol tros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae ffigyrau Crick fel a ganlyn:

Lib Dems 48,934
Llafur 193,000
Toriaid 130,000 (er eu bod nhw yn gwrthod datgelu eu ffigyrau yn swyddogol)
SNP 23,376
UKIP 17,184

Dydi Crick ddim yn dweud wrthym beth ydi ffigyrau'r Blaid - ond 7,863 oedd yr aelodaeth ym mis Ionawr.

Mae'n anodd cymharu ffigyrau'r pleidiau unoliaethol a rhai'r pleidiau cenedlaetholgar oherwydd bod y rhan fwyaf o aelodau'r pleidiau unoliaethol yn byw yn Lloegr. Ond os ydym yn cyfrifo cymhareb poblogaeth:aelod gan ddefnyddio poblogaeth y DU ar gyfer cymarebau'r pleidiau unoliaethol a phoblogaethau'r gwledydd Celtaidd ar gyfer y Blaid a'r SNP, dyma'r darlun:

Lib Dems 1:1,280
Llafur 1:324
Toriaid 1:481
SNP 1:224
UKIP 1:3,645
Plaid Cymru 1:389

Felly'r SNP sy'n perfforio orau o ddigon ar y mesur hwn, gydag UKIP efo llai nag un aelod am pob 3,000 o bobl a'r Lib Dems efo llai nag un am pob mil. Dydi'r Blaid ddim yn gwneud yn ddrwg o gwbl.

Monday, July 09, 2012

Llywodraeth y DU i golli yn y bleidlais ar ddiwigio Ty'r Arglwyddi

Neu dyna mae'r marchnadoedd betio yn ei awgrymu fodd bynnag.

Rwan mae'r syniad o barhau i dynnu cyflog AS + treuliau sylweddol + cadw'r pen ol yn soled ar ledr y limo, yn achos gweinidogion,am wneud i lawer feddwl yn ofalus cyn gwneud rhywbeth gwirion yn sgil yr anhrefn y byddai colli'r bleidlais yn ei greu.

Ond o golli byddai ansefydlogrwydd wedi ei adeiladu i mewn i'r glymblaid, ac fel mae 2015 yn dod yn nes, bydd y fantais o aros mewn llywodraeth yn lleihau, tra y bydd y demtasiwn i ddod a'r holl sioe i lawr er mwyn ennill mantais tactegol yn cynyddu.

Os collith y llywodraeth y bleidlais, mi fydd yna etholiad cyffredinol 2015.

Sunday, July 08, 2012

Y Toriaid yng Nghymru a'u harweinydd

Mae'n gas gen i dramgwyddo ar alar preifat, ond gyda chwestiynau amlwg ynglyn ag effeithiolwyr y Toriaid yn y Cynulliad a'u harweinydd yn benodol, aelodaeth y blaid Brydeinig yn syrthio fel carreg a'r polau piniwn yn awgrymu y byddai etholiad Cynulliad heddiw yn rhoi 5 sedd iddynt - yr un faint ag UKIP - dwi'n ei chael yn anodd i beidio a gwneud sylw neu ddau.

I ddechrau byddai cwymp yn aelodaeth y Toriaid i'r un lefel ag UKIP yn y Cynulliad yn arwain at newid sylfaenol yn natur y sefydliad. Ar hyn o bryd mae yna gonsensws digon cyfforddus yn y Cynulliad sy'n bleidiol iddo. 'Dydi hyn ddim yn cynrychioli'r farn gyhoeddus yng Nghymru - mae yna leiafrif sydd o bosibl cymaint a 20% o'r boblogaeth sy'n wrthwynebus i ddatganoli o unrhyw fath. Gallai hynny (yn eironig ddigon) fod yn llesol i ddatganoli - byddai agweddau gwrth ddatganoli yn cael eu cysylltu efo pobl sy'n gwisgo welingtons a blesyrs.

Yn ail mae'r ffigyrau am aelodaeth y Toriaid ym Mhrydain yn codi cwestiynau am aelodaeth y Toriaid yng Nghymru. Ymddengys bod yna tua 177,000 aelod tros y DU - sydd yn ganrannol yn weddol debyg i aelodaeth y Blaid yng Nghymru. Ond mae'r Toriaid yn wanach o lawer yng Nghymru na'r DU yn ei chyfanrwydd. Ni ddatgelwyd faint o aelodau sydd gan y Toriaid yng Nghymru yn yr etholiad arweinyddol - yr unig wybodaeth a gafwyd oedd mai 49% a bleidleisiodd a bod Andrew RT wedi cael 52% o'r rheiny. Felly faint o aelodau sydd gan y Toriaid yng Nghymru - ydi o'n hanner yr 8,000 sy'n perthyn i'r Blaid?

Nid mater academaidd ydi hyn. Rydym yn gwybod i ymgyrch Boris Johnson yn Llundain orfod talu i gwmniau preifat ddosbarthu eu taflenni mewn ardaloedd sydd ag AS Toriaidd oherwydd nad oedd yna aelodau i wneud hynny. Mae'r rhan fwyaf o seddi'r Toriaid yng Nghymru yn ymylol - a byddant yn gorfod eu hamddiffyn yn 2015 a 2016. Mae'r cyfryngau torfol am fod o gryn gymorth iddynt yn etholiadau San Steffan wrth gwrs - ond mi fyddan nhw ar eu pennau eu hunain yn 2016.

A daw hyn a ni at fater arall - etholiadau Ewrop yn 2014. Un peth sy'n sicr os ydi ffigyrau polio diweddar yn agos at fod yn gywir ydi y bydd Llafur yn cymryd dwy o'r bedair sedd sydd ar gael yng Nghymru. Golyga hyn y bydd naill ai'r Toriaid, neu'r Blaid neu UKIPyn colli sedd. Rydym (i'r graddau ein bod wedi meddwl am y peth o gwbl) wedi tueddu i gymryd mai'r sedd UKIP fydd yn mynd - nhw oedd y gwanaf o ddigon y tro o'r blaen. Mae ffigyrau YouGov yn agor y posibilrwydd gwirioneddol mai'r sedd Doriaidd fydd yn mynd.

Polau piniwn ydi polau piniwn wrth gwrs - a gall pethau newid. Ond does yna ddim rheidrwydd y bydd pethau'n newid er gwell i'r Toriaid - mae yna lawer o broblemau ar lefel Prydeinig sy'n dechrau hel ar y gorwel - Ewrop (eto fyth), diwygio Ty'r Arglwyddi a dydi effeithiadau'r toriadau diweddar heb eu hamlygu'n llawn eto. Mae yna gysylltiad hynod o agos - nes nag un unrhyw blaid arall ond UKIP - rhwng perfformiad y Toriaid yng Ngymru a Lloegr.

Y peth diwethaf mae'r Toriaid Cymreig ei angen yn yr amgylchiadau sydd ohonynt ydi arweinydd gwan sy'n araf ar ei draed, a sy'n methu ymateb i sefyllfaoedd fel maent yn codi. Dyna sydd ganddynt.

Tuesday, July 03, 2012

Y ffolderi coch a chostau eraill

Mae'n ddiddorol bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu llywodraeth Cymru am wario cyfanswm o £648 ar ffolderi coch newydd i aelodau'r cabinet - mae hyn yn £72 y ffolder - ar yr un diwrnod a mae manylion gwariant teithio teulu Elizabeth Windsor ar gyfer y llynedd wedi ei ryddhau.

Yn ol y Guardian cafodd y trethdalwr y fraint o dalu £6.1m at gostau teithio'r teulu brenhinol am 2010 - 2011. Er enghraifft, talwyd £500.000 ar gostau Charles Windsor tra roedd hwnnw yn ymweld a'r Dwyrain Canol. Roedd ei frawd, Andrew yn rhatach o lawer - dim ond £350,000 oedd rhaid ei dalu arno fo i gyd efo'i gilydd - gan gynnwys £81,000 ar ymweliad a Saudi Arabia a £90,000 ar ymweliad a China. Ond yn anhygoel llwyddodd i wario £10,470 ar daith o Northolt i Belffast ac yn ol.

Costiodd 13 taith ar y tren 'brenhinol' £900,000 - neu £42 y filltir. Costiodd un daith o Ayr i Lundain gan Charles Windsor a'i wraig £38,106. Dylid nodi mai costau teithio yn unig ydi'r uchod - mae'r teulu 'brenhinol' yn cael aros am ddim mewn llysgenadaethau a phlasau wedi iddynt orffen teithio.

Mae'r holl wariant lloerig yma'n cymharu'n anffafriol iawn efo gwariant David Cameron. £500 dalodd hwnnw am daith ar yr Eurostar i gyfarfod a Sarkosy ym Mharis, a £2,000 i hedfan i Afghanistan. Costiodd taith awyren o Aberdeen i Lundain wedi'r terfysgoedd i Charles a Camilla £19,583 - cymaint ag y bydda'n ei gostio i Cameron fynd i Afghanistan ac yn ol ddeg gwaith.

Rwan - 'dwi'n gwybod nad cyfrifoldeb y Cynulliad ydi gwariant ar deithio'r Windsors, ond byddai'n ddiddorol gwybod beth ydi barn Andrew RT a'r hogiau am hynny - ond fyddwn i ddim yn dal fy ngwynt a bod yn onest.

Sunday, April 22, 2012

Pregeth am ddewrder gwleidyddol o gyfeiriad anisgwyl

Paul Williams, y Tori o Fon sydd wrthi yn pregethu am ddewrder gwleidyddol ar ei flog. Ei gwyn ydi nad ydi arweinydd newydd y Blaid, Leanne Wood wedi bod efo digon i'w ddweud am y datblygiadau diweddar yn hanes hir a chymhleth Wylfa B.

Hwn ydi'r un Paul Williams nad oedd yn fodlon cyfaddef ei fod yn Dori nes i'r Toriaid ei ddewis i sefyll trostynt yn etholiadau'r Cynulliad y llynedd. Ei modus operandi cyn hynny oedd cynhyrchu naratif Toriaidd, argymell i bobl bleidleisio i gwahanol Doriaid a beirniadu'r sawl nad ydynt yn Doriaid, tra' grwgnach yn flin nad Tori mohono pob tro roedd rhywun yn awgrymu hynny.

Mae'n anodd meddwl am well esiampl o lyfdra gwleidyddol nag anfodlonrwydd i gyfaddef teyrngarwch gwleidyddol.

Tuesday, April 10, 2012

Amgylchiadau ehangach yn rhoi cyfle i'r Blaid yn etholiadau lleol eleni?

Fel rydym wedi ystyried yn frysiog yn y gorffennol, mae'r hinsawdd etholiadol yn y DU wedi newid yn sylweddol ers i George Osborne fod ddigon caredig a defnyddio ei gyllideb i ddangos yn glir i ni bod ei lywodraeth yn llywodraethu yn bennaf er budd pobl gyfoethog - pobl fel aelodau'r llywodraeth. Yn wir, yn ol rhai o polau mae'r Toriaid ar 30% - lefel nad ydynt wedi gostwng iddo ers dyddiau Michael Howard.

Yr hyn sy'n ddidddorol- ac efo arwyddocad posibl o safbwynt Cymru, ydi methiant Llafur i gymryd mantais o'r sefyllfa - mae eu rhifau nhw hefyd yn gostwng neu'n fflat yn y polau. Mae'r polau, yn ogystal ag is etholiad Bradford West yn awgrymu mai pleidiau sydd y tu allan i gonsensus cyfforddus San Steffan sy' n elwa, gyda'r UKIP yn gwneud yn dda yn y polau a George Galloway yn sgubo i fuddugoliaeth yn is etholiad Bradford West. Mae'r polau a'r marchnadoedd betio yn awgrymu y bydd Llafur yn cael cweir yn etholiadau lleol yr Alban, ac y bydd Ken Livingstone yn methu yn ei ymgais i ail ennill marroliaeth Llundain.

Y cwestiwn diddorol i'n pwrpas ni ydi - i ba raddau y bydd y patrwm hwn yn cael ei adlewyrchu yng Nghymru yn yr etholiadau lleol? 'Dydi'r cyfryngau Cymreig ddim yn comisiynu polau piniwn yn aml iawn, felly rydym mewn tywyllwch braidd ynglyn a'r tirwedd etholiadol yma.

Ers datganoli mae Cymru wedi tueddu i ddilyn ei thrywydd etholiadol ei hun i rai graddau - ddim yn adlewyrchu patrymau Lloegr yn llwyr, ond ddim yn dilyn trywydd mor wahanol a'r Alban chwaith.

Mae'r tystiolaeth sydd gennym yn awgrymu bod Llafur wedi ennill cefnogaeth yng Nghymru ers etholiad cyffredinol 2010. Oherwydd hynny mae pobl wedi tueddu i gymryd y bydd Llafur yn ad ennill tir yn etholiadau lleol 2012 wedi eu perfformiad trychinebus yn 2008. Ond tybed i ba raddau y bydd hynny'n digwydd - er i Lafur wneud yn gymharol dda yn etholiadau'r Cynulliad 2011, ni lwyddwyd i ad ennill mwyafrif - ac hynny mewn amgylchiadau hynod ffafriol. Cymysg, ar y gorau ydi eu record mewn is etholiadau cyngor wedi bod ers 2010.

Efallai bod gwleidyddiaeth ehangach nag un Cymru yn rhoi cyfle i bleidiau sydd y tu allan i'r consensws unoliaethol, neo ryddfrydig i ennill tir. Dim ond un plaid felly sydd yng Nghymru sydd a'r adnoddau a'r drefniadaeth i gymryd mantais o newid strwythurol o'r fath, a Phlaid Cymru ydi honno.

Fel rheol niweidiol ydi effaith patrymau gwleidyddol Prydeinig o safbwynt y Blaid. Gallai eleni - o bosibl - fod yn eithriad.

Monday, April 02, 2012

Effaith wleidyddol y gyllideb

Ymddiheuriadau o flaen llaw am flogio ysgafn tros y dyddiau nesaf - dwi unwaith eto ymhell oddi cartref yn cadw golwg ar bethau i ddarllenwyr Blogmenai.

Beth bynnag, cyllideb llywodraeth San Steffan yr wythnos diwethaf ydi'r pwnc dan sylw heddiw. Mae'n bosibl - er nad ydi hyn yn sicr yn absenoldeb tystiolaeth polio cynhwysfawr - y bydd yr un digwyddiad yma'n newid y ffordd mae pobl yn canfod y llywodraeth yn llwyr.

Tra ei bod yn gyffredin i lywodraethau golli eu poblogrwydd, mae'n anarferol i un digwyddiad wneud hynny. Er enghraifft cyfres o sgandalau yn y 90au oedd yn gyfrifol am ddifa poblogrwydd llywodraeth Major, tra mai cyfres o streiciau wnaeth hynny i lywodraeth Callahagan yng ngaeaf 78-79. O bosibl roedd y poll tax ynddo ei hun yn ddigon i roi'r cei bosh ar boblogrwydd Thatcher, ond mi gymrodd ryfeloedd a chanfyddiad tros amser o ddiffyg gonestrwydd i newid y ffordd roedd pobl yn edrych ar lywodraeth Blair. Cyfuniad o'r argyfwng economaidd a sgiliau cyfathrebu difrifol o wael oedd yn gyfrifol am droi llywodraeth Brown o un boblogaidd i un hynod o amhoblogaidd.

Efallai bod yna resymeg economaidd y tu cefn i gyllideb yr wythnos diwethaf, ond o safbwynt gwleidyddol roedd yn tour de force mewn diffyg crebwyll - addasu'r cyfraddau treth er budd yr 1% cyfoethocaf, tra'n codi trethi ar bastai a phensiynwyr, gostwng lwfans plant ac ati. Byddai'r gyllideb ynddi ei hun yn ddigon gwael o safbwynt gwleidyddol, ond mae ei chyflwyno pan mae tros i hanner y cabinet yn filywnyddion yn cadarnhau canfyddiad oedd eisoes yn dechrau ffurfio - mai edrych ar ol y cyfoethog ydi prif genhadaeth y llywodraeth. Roedd y ffars wythnos diwethaf o idiotiaid a'u cefndir yn Eton yn rwdlan am garejes a jeri cans yn wyneb yr 'argyfwng' petrol yn atgyfnerthu'r syniad ymhellach, fel roedd y newyddion y gellir dylanwadu ar bolisi'r llywodraeth am 250k.

Tybed os bydd un araith yn ystod un prynhawn wedi bod yn ddigon i newid y tirwedd gwleidyddol yn llwyr? Cawn weld tros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

Sunday, March 25, 2012

Plaid sefydliadol, strwythurol lwgr?

Mae hi'n anodd peidio rhyw wenu o ddeall bod y 'rali' a drefnwyd gan y Toriaid Cymreig oherwydd nad oeddynt yn gallu trefnu cynhadledd fel y pleidiau eraill, wedi ei gwthio ymhell i gefndir y newyddion gan y sgandal ynglyn a threfniadau cyllido'r Blaid Doriaidd Brydeinig.

Ond mewn gwirionedd mae'r mater yn un hynod ddifrifol. Os ydi'r hyn a ddywedwyd gan Peter cruddas wrth ohebwyr y Sunday Times yn wir - bod cyfraniad o £250,000 i goffrau'r Blaid Doriaidd yn ddigon i brynu mynediad i broses creu polisi'r llywodraeth - byddai hynny'n golygu bod y Blaid Doriaidd yn strwythurol, sefydliadol lwgr. Dyletswydd unrhyw lywodraeth ydi llunio polisiau er budd pawb - nid er budd pobl sy'n rhoi 250k iddi.

Byddai hefyd wrth gwrs yn eglurhad posibl am benderfyniadau diweddar y Toriaid i dorri trethi pobl gyfoethog, a chychwyn ar y broses o yrru cyflogau i lawr mewn rhannau tlawd o'r DU.

Yr hyn sydd gan Andrew RT Davies i'w gynnig i Gymru mewn gwirionedd

Hmm, felly mae Andrew RT Davies am i gefnogwyr Plaid Cymru ystyried polisiau ei blaid o.

Mi fyddwch chi'n cofio i'r Toriaid Cymreig orfod canslo eu cynhadledd wanwyn yn Llandudno oherwydd nad oedd yna fawr neb eisiau mynd yno i wrando ar y rwdlan di ddiwedd. Beth bynnag, mae Andrew yn cymryd mantais o'r - ahem - 'rali' - a drefnwyd yn lle'r gynhadledd i ofyn i gefnogwyr y Blaid ystyried y rhyfeddodau sydd gan ei blaid o i'w cynnig.



Tybed am ba bolisiau mae o'n meddwl? - torri cyllid S4C a chyflwyno'r sianel i'r Bib o bosibl, neu'r polisi diddorol o dalu llai i weithwyr cyhoeddus yng Nghymru nag yn Lloegr efallai, neu hwyrach mai meddwl am dorri'r grant uniongyrchol i'r Cynulliad mae o, neu am ymosod ar drefniadau pensiwn canoedd o filoedd o weithwyr y wlad.

Y gwir ydi mai polisi creiddiol y Blaid Doriaidd ar gyfer Cymru ydi un o gynnal ei dibyniaeth ar drefniant cyfansoddiadol sydd wedi methu a methu, a methu, a methu. Methiant parhaol, di ddiwedd ydi'r unig beth sydd gan blaid Andrew RT i Gymru mae gen i ofn.

Thursday, March 22, 2012

Gareth Hughes a myth y Tori Cymraeg

'Dwi'n rhyw hoffi meddwl fy mod i'n cadw i fyny yn eithaf da efo'r hyn sy'n digwydd ar y blogosffer gwleidyddol Cymreig, ond wnes i ddim sylwi ar sylwadau Gareth Hughes ynglyn a buddugoliaeth Leanne Wood nes i mi weld Golwg heddiw.

The valleys are not the hot bed of radicalism that many a left wing romantic would like to hope, think and make out. No, the typical valley voter is  quite conservative, with a small ‘c’ of course. And a Stanley Baldwin type figure like Carwyn Jones suits them just fine. 
Ms Wood may attract some new idealistic young recruits to the ranks of her party, her enthusiasm and relative youth should do that.  And as her campaign showed, she can energise her own party. 

Getting the voter to desert Labour for a more radical party of the left... others have tried and failed. Looking into the entrails of history the omens are not very promising. 

The Tories are full of glee at the result. They’ve most to gain from the lurch to the left.  The party has, over the last few years, being quietly turning itself into the “Welsh” Conservative party. 
Prominent members of the party like Glyn Davies, David Melding, Jonathan Morgan, Guto Bebb, Paul Davies and former leader Nick Bourne have being pushing for more devolution, more sympathy for the language. 

Forget their initial opposition to devolution, they have the zeal of the newly converted. These right wing welshy Tories aim to hoover up the Plaid Cymru vote. 

Adlewyrchu cred Doriaidd mae Gareth bod yr etholaethau Cymraeg eu hiaith yn y bon yn Doriaidd, ond eu bod yn pleidleisio i'r Blaid oherwydd ffactorau ieithyddol. Y drwg efo'r ddamcaniaeth yma ydi nad oes yna unrhyw dystiolaeth o gwbl i'w chefnogi - dim oll, zilch.

Dau beth sydd yn gyrru'r ffordd y bydd pobl yn pleidleisio mewn gwirionedd ydi traddodiad a ffactorau cymdeithasegol / economaidd.

Mae yna bump etholaeth gyda mwyafrif yn siarad Cymraeg -Ynys Mon, Arfon, Meirion Dwyfor, Ceredigion. Dwyran Caerfyrddin. O'r rhain dim ond unsydd wedi dychwelyd aelod seneddol Toriaidd - sef Ynys Mon ddwy waith ar yn 1979 ac 1983. Ond hyn yn oed yn yr achos hwnnw ni lwyddodd Y Toriaid i gael 40% o'r bleidlais -ac roedd hi'n benllanw ar gefnogaeth y Toriaid tros Brydain. Cyn i'r Blaid ddechrau ennill seddau seneddol yn 74 byddai Ynys Mon yn dychwelyd Llafurwr, felly hefyd Caernarfon, Meirion a Chaerfyrddin. Y Rhyddfrydwyr fyddai'n ennill yn ddi eithriad yng Ngheredigion. Prin bod yna unrhyw gynghorydd Toriaidd yn cynrychioli ward lle mae yna fwyafrif sy'n siarad Cymraeg trwy'r wlad i gyd - ac mae'r sefyllfa yma'n cael ei adgynhyrchu etholiad ar ol etholiad ar ol etholiad. 'Does yna ddim traddodiad gwerth son amdano o bleidleisio i'r Blaid Doriaidd yn y Gymru Gymraeg - ond mae yna gryn dipyn o dystiolaeth o bleidleisio tactegol yn erbyn y blaid honno - er mai mater i flogiad arall ydi hwnnw.

Ac wedyn wrth gwrs mae yna'r ffactorau economaidd. Mae'r cwbl bron o'r Gymru Gymraeg yn ardal Amcan Un, ac felly wedi eu rhifo ymysg y cymunedau mwyaf difreintiedig yn y DU. 'Dydi cymunedau felly ddim yn pleidleisio i'r Dde gwleidyddol (ym Mhrydain o leiaf) - oni bai bod yna draddodiad cryf o wneud hynny yn bodoli yn lleol. Mae yna reswm da iawn am hynny wrth gwrs - anaml iawn y bydd pobl yn pleidleisio yn erbyn eu budd economaidd eu hunain. Yn wir mae tlodi cymharol yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith wedi gwaethygu ers y saith degau, yn union fel mae'r tlodi cymharol yng Nghymoedd y De wedi gwaethygu. Polisiau economaidd Toriaidd ydi un o'r prif resymau am hynny.

'Dwi wedi canfasio llawer iawn o fewn y Gymru Gymraeg tros y degawdau, ac mi fedra i ddweud gyda fy llaw ar fy nghalon mai creadur prin ydi'r Tori Cymraeg ei iaith, a'r lled Dori Cymraeg ei iaith. Efallai eu bod yn bodoli yn eu miloedd yn nychymyg rhai Toriaid ac yn wir yn nychymyg Gareth Hughes - ond mae'n uffernol o anodd dod o hyd iddynt ar lawr gwlad.

Tuesday, January 31, 2012

Pwy ydi Bwrdd rheoli'r Toriaid Cymreig?

Mae blogiad Vaughan ynglyn a chymhlethdod diwynyddol bron strwythurau mewnol y Blaid Doriaidd yn ddiddorol ynddo'i hun.

Ond mae un peth yn mynd a fy sylw i'n bersonol mwy na pwy yn union ydi arweinydd y Toriaid Cymreig - sef y ffaith bod Andrew RT Davies yn aelod o Fwrdd Rheoli y Toriaid Cymreig. Dyma'r corff mae'n debyg a benderfynodd na ddylai aelodau cyffredin y Blaid Doriaidd yng Nghymru gael dewis eu prif ymgeisyddion rhanbarthol, ac mai pobl oedd eisoes wedi yn aelodau - pobl fel Oscar ac R T Davies ei hun - ddylai gael sefyll.

Byddai'n ddiddorol gwybod os oedd unrhyw aelodau cynulliad ar y Bwrdd pan ddaethwyd i'r penderfyniad, ac os oeddynt wedi pleidleisio i enwebu nhw eu hunain tra'n gwrthod rhoi unrhyw ran i aelodau cyffredin y blaid yn y penderfyniad.

Thursday, January 19, 2012

Argyfwng ariannol y Toriaid Cymreig

Heb amheuaeth bydd darllenwyr blogmenai yn hynod drist a dryslyd o ddeall na fydd yn bosibl i'r Toriaid Cymreig gynnal eu Cynhadledd Wanwyn yn Llandudno eleni oherwydd tlodi.  Ymddengys bod y digwyddiad deuddydd wedi ei ganslo, a bod rali ar gyfer ymgyrchwyr yn etholiadau'r cynghorau i'w gynnal yn ei le. 

'Dwi ddim eisiau gwthio'r cwch i'r dwr am eiliad - mae pob amser yn beth perygl bysnesu mewn anghydfod deuluol, yn arbennig pan mai pres ydi asgwrn y gynnen.  Ond fedra i ddim atal fy hun rhag nodi i'r Toriaid Prydeinig dderbyn £12.2m o bunnoedd o gyfraniadau preifat yn y flwyddyn hyd at Fehefin y llynedd gan eu cyfnogwyr hoffus - miliwn y mis.  Rwan 'dwi'n gwybod bod y Feniw ar yr ochr ddrud, ond wir Dduw mi fyddai dyn yn disgwyl y byddai'r Toriaid Seisnig yn gallu cynnig rhyw fymryn o gymorth i'w cefndryd llywaeth a di geiniog yng Nghymru, gan eu bod wedi eu claddu gan y ffasiwn gyfoeth.  Naill ai eu bod yn rhyfeddol o grintachlyd,  neu does yna uffern o neb ymhlith y Toriaid Cymreig eisiau mynd i Landudno i falu cachu am ddeuddydd. 

Gyda llaw mae'n ddifyr nodi bod tros i hanner y wonga wedi dod o gyfeiriad sefydliadau ariannol yn ninas Llundain - sefydliadau sydd wedi'n cael yn y smonach ariannol rydym yn cael ein hunain ynddi ar hyn o bryd - a sefydliadau nad ydi'r Toriaid eisiau gwneud unrhyw beth o gwbl i'w hypsetio.