Mae’n debyg y bydd rhaid i mi sôn rhyw ychydig am yr etholiad cyffredinol annisgwyl braidd sydd ar y ffordd - felly dyma gychwyn trwy edrych ar y marchnadoedd betio, a’r hyn maent yn dweud wrthym am yr hyn sy’n debygol o ddogwydd mewn etholaethau unigol.
Cyn mynd ati i wneud hynny efallai ei bod werth dweud pwt am farchnadoedd betio, a pham eu bod yn ffordd eithaf da - ond ddim perffaith o bell ffordd - o ddarogan beth sydd am ddigwydd mewn etholiadau.
Y peth cyntaf i’w ddweud mae’n debyg ydi bod marchnadoedd betio yn wrthrychol i’r graddau eu bod yn cael eu gyrru gan bres - maent yn adlewyrchu sut mae niferoedd eithaf mawr o bobl wedi betio, ac mae betio’n golygu gollwng gafael ar bres - a ‘dydi’r rhan fwyaf o bobl ddim yn gwneud hynny ar chwarae bach.
Y ffordd arall o geisio darogan etholiadau ydi polau piniwn wrth gwrs. Mae’r rheiny yn gweithio mewn ffordd hollol wahanol i farchnadoedd betio - maent yn gweithio trwy samplu setiau cynrychioladol o’r boblogaeth pleidleisio - ac erbyn hyn mae nhw’n gweithio’n eitha’ da - er bod yr amrediad rhwng gwahanol bolau yn gallu bod yn eang yn aml – rhywbeth sydd yn adlewyrchu methodoleg gwahanol yr amrywiol gwmnïau polio.
Mae’n debyg bod marchnadoedd betio yn llai ‘gwyddonol’ ar un olwg, ond mae ystyriaethau ehangach yn eu gyrru hefyd - yr amrywiol bolau piniwn wrth gwrs - ond hefyd ystyriaethau eraill megis gwybodaeth leol, canfyddiadau cyfryngol, argraffiadau o wefannau cymdeithasol, straeon anecdotaidd ac weithiau data sydd ym meddiant pleidiau gwleidyddol a pholio preifat.
Mae’n anodd gwybod os mai marchnadoedd betio ‘ta polau ydi’r ffordd orau o ddarogan canlyniadau etholiad, ond mae gan y trywydd marchnadoedd betio un fantais - anaml y bydd polau ar gael ar gyfer etholaethau unigol - ond mae marchnadoedd betio ar gael ar gyfer etholaethau unigol, ac mae nhw eisoes wedi dechrau agor - gan gynnwys rhai Cymreig.
Felly beth mae’r marchnadoedd Cymreig sydd wedi ymddangos yn dweud wrthym? Mi wnawn ni ddechrau efo tair etholaeth lle mae’r canlyniad tebygol yn eithaf clir - Dwyfor Meirionnydd, Aberafan / Maesteg a Phontypridd. Mae’r marchnadoedd betio yn adlewyrchu’r realiti hwnnw.
Aberafan / Maesteg yn gyntaf. Mae’r farchnad yma yn rhoi odds o 1/500 i Lafur - sydd yn cyfieithu i debygolrwydd sy’n agos i 100% mai Llafur fydd yn ennill yma.
Mae marchnad Pontypridd yn rhoi odds o 1/150 i ni - sydd eto yn rhoi tebygolrwydd sydd yn agos at 100% mai Llafur fydd yn ennill.
O symud i’r Gogledd Orllewin a’r ecosystem etholiadol wahanol sy’n bodoli yno, mae’r farchnad betio yn Nwyfor Meirionnydd yn rhoi odds o 1/100 mai Plaid Cymru fydd yn ennill yno. Mae hyn yn cyfieithu i debygolrwydd o 99% mai Plaid Cymru fydd yn ennill yma. Tra nad ydi hi byth yn bosibl bod yn hollol siŵr beth fydd canlyniad etholiad, mae’r hyn mae’r hyn mae’r marchnadoedd betio yn awgrymu am y dair etholaeth uchod yn rhesymol.
Beth am etholaethau Cymreig mwy ymylol felly? Wel, dim ond llond dwrn o farchnadoedd am etholaethau Cymreig sydd yn agored ar hyn o bryd, ond mae rhai digon diddorol ar gael.
Dyma’r farchnad ar gyfer Ynys Mon er enghraifft. Mae’r odds o 4/5 yn awgrymu bod tebygolrwydd o tua 56% mai Plaid Cymru fydd yn ennill. Yn bersonol ‘dwi’n meddwl bod y tebygolrwydd yn uwch na hynny - tua 66% o bosibl. Ond ‘dydi canfyddiad y farchnad ddim yn un afresymol.
Ceredigion / Gogledd Penfro nesaf. Mae’r odds o 1/4 yn awgrymu bod y tebygolrwydd mai Plaid Cymru fydd yn ennill yma yn dod i tua 80%. ‘Dwi’n meddwl bod hyn yn ganfyddiad hollol resymol.
Yr hyn sy’n fwy diddorol o bosibl ydi’r odds o 125/1 sy’n cael eu cynnig i’ch perswadio i roi bet mai’r Lib Dems fydd yn ennill - sy’n cyfieithu i debygolrwydd sy’n is nag 1%. Ag ystyried bod y blaid yma wedi dominyddu gwleidyddiaeth yng Ngheredigion am y rhan fwyaf o’r ganrif ddiwethaf, ac wedi dal y sedd mor ddiweddar a 2015 - ac wedi ei hennill gyda 19,000 o bleidleisiau yn 2010, mae hyn yn rhyfeddol - ac mae’n dangos mor gyflym mae tirwedd etholiadol yn gallu newid yn lleol.
Ac yn olaf Bangor / Aberconwy. Mae’r odds o 1/7 yn awgrymu bod y tebygolrwydd o fuddugoliaeth i Lafur o gwmpas 87% - sydd yn uchel. Ond yr hyn sy’n fwy diddorol ydi odds y Toriaid a Phlaid Cymru. Mae nhw’n awgrymu bod y tebygolrwydd y bydd y Toriaid yn ennill o gwmpas 14% tra bod tebygolrwydd y Blaid o ennill tua 9%.
Ag ystyried y byddai’r Toriaid wedi ennill y sedd yn eithaf hawdd petai’n bodoli yn 2019, ac mai trydydd fyddai’r Blaid mae agosatrwydd y ddwy blaid o ran tebygolrwydd yn drawiadol - ac yn awgrymu bod ymgyrch y Blaid yn yr etholaeth yma yn mynd yn dda. Bydd yn ddiddorol gweld sut mae’r ffigyrau yn symud tros yr wythnosau nesaf - ac ar ben hynny mae unrhyw un sy’n betio yn gwybod bod ceffyl sydd ag odds o 10/1 yn dod yn gyntaf weithiau. Ac wedyn mae yna Electoral Calculus hefyd.
Byddaf yn dod yn ôl at y mater yma unwaith neu ddwy tros yr wythnosau nesa’.