Showing posts with label Louise Hughes. Show all posts
Showing posts with label Louise Hughes. Show all posts

Thursday, April 26, 2012

Beth goblyn sydd o'i le ar y Cambrian News?

Wele eu stori tudalen flaen yr wythnos yma.Mae Louise Hughes o Lais Gwynedd yn cwyno fod y cyn gynghorydd annibynnol Morgan Vaughan wedi bod yn ffonio pobl a dweud wrthynt nad yw'n ddibynadwy.
Ymddengys mai'r peth pwysicaf sydd wedi digwydd yn nhiriogaeth y Cambrian News yr wythnos diwethaf ydi bod cynghorydd yn cyhuddo cyn gynghorydd o ddweud pethau cas amdani yn ystod yr wythnosau cyn etholiad.

O ddifri rwan - ydi'r Cambrian News o dan yr argraff bod yna rhywbeth anarferol am bethau cas yn cael eu dweud am gynghorwyr yn ystod ymgyrchoedd etholiadol?

Am y tro cyntaf mae'n debyg, mae Blogmenai yn cael ei hun yn llongyfarch ac edmygu  Louise Hughes - roedd yn gryn gamp ar ei rhan i allu dwyn perswad ar bapur newydd i redeg  stori mor ddi ddim - heb son am ei rhoi ar eu tudalen flaen. 

Wedi dweud hynny, dwi ddim rhy siwr beth i'w ddweud am y Cambrian News.

Tuesday, February 22, 2011

Louise i Lais Gwynedd


Felly ymddengys bod y sibrydion a ddaeth i sylw blogmenai yn gywir - mae stori yn y Daily Post mai Louise Hughes ydi ymgeisydd Llais Gwynedd ar gyfer Meirion Dwyfor.

Mae'n ddewis diddorol ar sawl cyfri. Ni chafodd Louise fawr o lwyddiant yn etholiadau San Steffan y llynedd, ac ni chafodd sefyll yn enw Llais Gwynedd, er iddi wneud cais i gael gwneud hynny. 'Dydi hi ddim yn glir pam nad oedd ei hymgeisyddiaeth yn dderbyniol i'w chyd aelodau y llynedd, ond yn dderbyniol eleni.

Mater arall wrth gwrs ydi'r un iaith. Mae Louise ymhell, bell o fod yn rhugl ei Chymraeg, ac mae Meirion Dwyfor yn etholaeth gyda tua dau draean o'i phoblogaeth yn siarad Cymraeg. Yn wir Arfon yn unig sydd a ffigyrau uwch.

'Rwan 'dydi hi ddim yn amhosibl i rhywun nad yw'n gallu siarad Cymraeg gael ei ethol mewn etholaeth lle mae'r rhan fwyaf o'r trigolion yn siarad yr iaith - meddylier am Mark Williams yng Ngheredigion er enghraifft, neu Keith Best yn Ynys Mon (er i hwnnw ddysgu'r iaith yn ystod ei gyfnod fel AS). Serch hynny nid oes gan Meirion na Dwyfor (roeddynt mewn etholaethau gwahanol hyd yn ddiweddar) unrhyw hanes o ddychwelyd Aelodau Seneddol na Chynulliad di Gymraeg ers i drwch y boblogaeth gael yr hawl i fwrw pleidlais yn negawdau cyntaf y ganrif ddiwethaf.

Yr unig eithriad posibl y gallaf feddwl amdano ydi 1945. Roedd Nefyn, Cricieth a Phwllheli yn rhan o etholaeth drefol Bwrdeisdrefi Caernarfon ar y pryd, ac fe etholwyd Tori o'r enw D.A Price-White. Roedd Lloyd George wedi cynrychioli'r etholaeth am ddegawdau cyn hynny wrth gwrs. 'Dwi ddim yn rhy siwr os oedd o'n siarad Cymraeg.

Oes yna rhywun yn gwybod?

Wednesday, April 28, 2010

Diolch Louise

Diolch i Louise Hughes am dynnu ein sylw yn ei rant etholiadol i o leiaf un o gynghorwyr Llais Gwynedd (sef hi ei hun) fod a chysylltiadau agos at wasanaethau cudd y Deyrnas Unedig. Gwybodaeth ddiddorol iawn.

Monday, April 26, 2010

O blaid toiledau ond yn erbyn iechyd a diogelwch

Waeth i mi heb a chymryd arnaf ei bod yn fater o syndod i mi bod gohebiaeth etholiadol Louise Hughes - yr aelod o Lais Gwynedd sy'n sefyll yn annibynnol ym Meirion Dwyfor, yn cymryd ffurf rant estynedig yn hytrach na phamffled etholiadol traddodiadol.


Mae yn peri cryn syndod i mi, fodd bynnag, ei bod yn cychwyn y rant gydag ymysodiad ar reoliadau iechyd a diogelwch. Mae'n arfer wrth gwrs gan elfennau o'r Dde Brydeinig eithafol i ymosod ar reoliadau sy'n cael eu cynhyrchu gan y llywodraeth, ond mae'n anarferol i hyd yn oed yr elfennau hynny ymosod ar yr agwedd arbennig yma ar reoliadau llywodraethol.

'Dwi'n gwybod ein bod i gyd o bryd i'w gilydd yn cael ein diflasu gan y gyfundrefn iechyd a diogelwch sydd wedi ei chreu a sydd yn cael ei gweinyddu gan yr HSE (yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch), ond mae'n gyfundrefn bwysig iawn. Os nad ydych yn fy nghredu ystyriwch y ffigyrau canlynol - ym 1974 bu farw 651 (2.9 o pob 100,000) o bobl yn eu man gwaith o ganlyniad i ddamweiniau, erbyn 2008 / 2009 y ffigwr oedd 121 (0.5 o pob 100,000). Y gymhariaeth o ran damweiniau nad oeddynt yn angeuol tros yr un cyfnod oedd 336 701 i 94 790*. Mae'n werth nodi mai record diogelwch yn y gweithle Prydain ydi'r gorau yn Ewrop o ddigon - esiampl prin o Brydain ar ben tabl Ewropiaidd.

Rwan mae'n debyg bod rhan o'r gwelliant syfrdanol yma yn niogelwch y gweithle yn ganlyniad i newidiadau yn y math o waith y bydd pobl yn ei wneud - ond tua chwarter y gwahaniaeth sy'n ganlyniad i hynny. Gellir priodoli'r gweddill i ymyraeth gan asiantaethau'r llywodraeth. Mae diwylliant sicrhau diogelwch mewn mannau gwaith wedi ei drawsnewid tros y degawdau diwethaf, ac er gwaethaf y niwsans mae'r gweithdrefnau sy'n rhaid eu dilyn yn eu hachosi i bobl fel fi, mae'n rhaid ei fod werth y drafferth i arbed bywydau canoedd o bobl yn flynyddol.

Mae'n stori o lwyddiant clodwiw, ond nad ydi Louise yn credu hynny yn ol pob golwg. Ymddengys ei bod eisiau mynd yn ol i rhyw orffennol gwych pan nad oedd y wladwriaeth yn amddiffyn ei dinasyddion yn y gweithle. Dydi hi ddim yn glir os mai eisiau mynd yn ol i'r dyddiau cyn sefydlu'r HSE mae'r ddynas, ynteu ydi hi eisiau mynd a ni yn ol i Oes Fictoria pan roedd miloedd lawer yn cael eu lladd yn y gweithle yn flynyddol a chanoedd o filoedd yn cael eu hanafu.

Mae'n fater o ofid bod rhywun sydd eisiau bod yn Aelod Seneddol yn arddel y fath syniadau adweithiol ac anghyfrifol.

*Ystadegau oll gan yr HSE.

Thursday, April 22, 2010

Ymgeisyddiaeth Louise Hughes - eglurhad o fath.



Os ydi’r rhifyn cyfredol o Golwg yn gywir, ymddengys nad oedd y sibrydion y cyfeirwyd atynt ar y blog hwn yn ddiweddar ynglyn a bwriad Louise Hughes i ymddiswyddo o Lais Gwynedd yn wir. Mae Louise yn parhau i fod yn aelod o Lais Gwynedd. Mae hefyd yn parhau i fod yn ymgeisydd seneddol ym Meirion Dwyfor, ond ddim ar ran Llais Gwynedd.


Heb fod yn hollol siwr, 'dwi'n meddwl fy mod yn deall pethau. Ceisiodd Louise sefyll yn enw Llais Gwynedd, ond nid oedd y grwp hwnnw’n fodlon gadael iddi sefyll. Ar y cychwyn ildiodd (o dan gryn brotest) i ewyllys y grwp cyn newid ei meddwl a sefyll yn annibynnol. Er iddi weithredu’n groes i ddymuniad y grwp mae’n dal yn aelod ohono, ac mae’r rhan fwyaf o gynghorwyr Llais Gwynedd yn gefnogol i’w hymgeisyddiaeth, - er bod cnewllyn ohonynt yn boenus oherwydd ei diffyg rhuglder yn y Gymraeg. Yn ol Louise hithau, bai ei mam ydi’r diffyg rhuglder nid ei bai hi. Mae Louise hefyd yn nodi am rhyw reswm ei bod yn berson blin, ac mai camgymeriad fyddai cymryd person felly yn ysgafn. Ymddengys ei bod hefyd yn bleidiol i ‘doiledau, ysgolion, swyddfeydd post a bysiau’. Dydi hi ddim yn dweud os ydi ei blaenoriaethau wedi eu rhestru yn nhrefn eu pwysigrwydd iddi.


Gobeithio bod y nodiadau uchod yn gwneud pob dim yn glir i bawb.

Sunday, April 18, 2010

Louise i ymddiswyddo o Lais Gwynedd

Mae yna sibrydion o gwmpas bod Louise Hughes i ymddiswyddo o Lais Gwynedd mewn cyfarfod o'r grwp nos fory.

Yn anffodus mae'n eithaf sicr y bydd y cyfarfod yn un hynod anodd am resymau eraill fydd yn dod yn amlwg maes o law.

Saturday, April 17, 2010

Ymgeisydd anisgwyl ym Meirion Dwyfor


Mae yna hen joc go gas wedi bod o gwmpas ers i Llais Gwynedd benderfynu na fyddai'n syniad rhy dda iddynt gyflwyno ymgeiswyr gerbron yr etholwyr yn yr etholiad cyffredinol. Mae hi'n mynd rhywbeth fel hyn -

Cwestiwn: Pam bod Llais Gwynedd eisiau cadw'r holl doiledau 'na'n agored?
Ateb: Er mwyn cael rhywle i guddio ynddo pan mae'n amser etholiad.

Mae'r blog yma eisoes wedi trafod y ffaith bod Llais Gwynedd yn rhy ofnus o ddyfarniad yr etholwyr ar eu cyfnod fel plaid etholedig ar Gyngor Gwynedd i adael i Louise Hughes sefyll yn etholiadau San Steffan. Mae hyn yn anffodus oherwydd ei bod yn bwysig bod pleidiau gwleidyddol yn sefyll mewn etholiadau pan mae hynny'n bosibl. Mae etholiadau cyson a chyflawn yn hanfodol i unrhyw gyfundrefn etholiadol iach.

Mae'n dda iawn gen i felly ddeall bod Louise yn sefyll yn yr etholiadau wedi'r cwbl. Er nad yw'n sefyll yn enw Llais Gwynedd mae'n debyg, credaf bod y sefyllfa yn cynnig cyfle gwych i'r etholwyr hynny ym Meirion Dwyfor sy'n credu bod Llais Gwynedd wedi bod yn gaffaeliad i ddemocratiaeth yng Ngwynedd fynegi hynny trwy bleidleisio i Louise.

Rhyw fath o refferendwm ar eu perfformiad os y mynwch.

Tuesday, March 16, 2010

Beth ydi pwrpas pleidiau gwleidyddol os nad ydynt yn sefyll mewn etholiadau?


Gyda chryn ryddhad mae blogmenai yn cael ar ddeall nad oes yna fymryn o wirionedd yn yr honiadau oedd ar led yr wythnos diwethaf bod yna glamp o ffrae wedi bod rhwng aelodau Llais Gwynedd oherwydd bod Louise Hughes (mi fydd darllenwyr y blog yma yn cofio am ei hymdrech ddewr tros doiledau'r Sir) o'r farn y dylai hi gael sefyll yn erbyn Elfyn Llwyd ym Meirion Dwyfor yn yr etholiad San Steffan fydd yn cael ei chynnal maes o law. Doedd y grwp cynghorwyr Llais Gwynedd ddim yn cytuno efo farn honno.



Yn ol y Daily Post rhywbeth a elwir yn hiccup a gafwyd. 'Dwi ddim yn rhy siwr beth ydi hiccup, ond mae'n debyg ei fod yn rhywbeth tra gwahanol i ffrae. Beth bynnag, yn ol Louise mae'n bwriadu aros gyda'i phlaid er iddi gael ei hed hyntio i fod yn ymgeisydd seneddol i'r Toriaid a'r Blaid Lafur. Ymddengys ei bod yn cael sefyll mewn rhyw etholiad cyffredinol neu'i gilydd yn y dyfodol ar ran Llais Gwynedd.

Mae'r holl stori yn codi nifer o gwestiynau diddorol. Er enghraifft, pam bod y Toriaid eisiau i Louise sefyll yn etholiadau San Steffan trostynt? Mae ganddynt ymgeisydd digon parchus ym Meirion Dwyfor (Lisa Francis), ac ymgeisydd o rhyw fath Arfon ('dwi ddim yn cofio ei enw mae gen i ofn) a fwy neu lai pob man arall. Yn sicr mae gan Nick Bourne (y dyn anarferol o lan) gryn feddwl o Louise, fel y gellir gweld yma. Mae Nick yn ei disgrifio fel the excellent Louise Hughes. Ond sut y gallai addo ymgeisyddiaeth sydd eisoes wedi ei llenwi iddi? Ydi hyn yn rhywbeth i'w wneud a'r ffaith ei fod wedi cynnig yr ail le ar restr De Ddwyrain Cymru yn etholiadau'r Cynulliad i Mohammad Ashkar am adael ei blaid, er nad ydi'r etholiad ar gyfer yr ymgeisyddiaethau hynny wedi ei gynnal eto?

Yr ail gwestiwn ydi hwn - ym mha etholiad cyffredinol y bydd Louise yn sefyll tros Lais Gwynedd ynddo ac yn lle? Ac mae'r trydydd yn codi yn naturiol o hynny - pam nad ydi Llais Gwynedd yn awyddus i wynebu'r pleidleiswyr? Roedd yna son rai misoedd yn ol bod un o'u cynghorwyr eisiau sefyll yn Arfon yn yr etholiad cyffredinol, ond ni ddaeth dim o hynny. Rydym yn gwybod i sicrwydd bod Louise am sefyll, ond nad oedd Llais Gwynedd am iddi wneud hynny.

Mae dyn yn deall pam na fyddai plaid ranbarthol yn sefyll yn etholiadau Ewrop, mi fyddai'n anodd iawn iddynt gael pleidleisiau o'r tu allan i'w rhanbarth. Ond mae yna ddwy etholaeth seneddol yng Ngwynedd, a phwrpas pleidiau gwleidyddol ydi ymladd etholiadau.

Mae'r holl stori yn sawru o lyfdra gwleidyddol mae gen i ofn.

Thursday, September 17, 2009

Da iawn Louise Well done Louise



'Dydi hyn ddim yn digwydd yn aml iawn, ond hoffwn gefnogi blogiad gan fy nghyfaill achlysurol Gwilym Euros Roberts.

Yr hyn sydd gan Gwilym ydi bod cynghorydd Llais Gwynedd Llanegryn yn ddynes arbennig o wych oherwydd iddi feicio 63 milltir o'i chartref i Gaernarfon mewn ymgais i gadw toiledau cyhoeddus y sir ar agor. Mi fedraf innau hefyd edmygu Louise - 'dwi'n cofio reidio o Gaernarfon i Ddolgellau ac yn ol mewn diwrnod ers talwm, ac roedd fy mhen ol yn brifo am bethefnos. 'Dwi ddim yn hollol siwr sut mae beicio 63 milltir am gadw ceudai'r sir ar agor, ond mae'n debyg fy mod yn methu rhywbeth.

Fel mae Gwilym yn dweud byddai cau toiledau yn codi gwrychyn amryw o drigolion yn eu mysg yr henoed, mamau ifanc, gyrrwyr loris a'r rhai sydd yn dioddef anhwylder. Mae'n anodd anghytuno.

Mae holl awdurdodau lleol y Deyrnas Gyfunol yn wynebu toriadau enbyd tros y blynyddoedd nesaf. Bydd rhaid i Wynedd ddod o hyd i £16 miliwn. O dan amgylchiadau fel hyn mae'n hanfodol ein bod yn blaenori - yn dod i gasgliadau pendant am yr hyn y gellir ei dorri, ac am yr hyn na ddylid cyffwrdd a fo. Felly mae'n dilyn bod rhaid i pob cyngor benderfynu beth sy'n greiddiol, beth sy'n hanfodol, beth sy'n waelodol i'w gwerthoedd sylfaenol.

Ac mae Llais Gwynedd am ddechrau efo toiledau.



Da iawn chi bois - mi fydd yna wahanol nytars yn ymbil, yn crefu ac yn bygwth tros y misoedd nesaf ar y Cyngor i gau toiledau a dileu gwasanaethau ac asedau nad ydynt yn greiddiol i anghenion trigolion Gwynedd, er mwyn ceisio amddiffyn yr hyn sydd yn hanfodol - gofal, addysg, gwasanaethau cymdeithasol. Ond mi fydd Llais Gwynedd yn sefyll yn y bwlch yn gadarn eu cri o blaid y toiledau.

Fel arwydd o ewyllys da, mi hoffwn wneud un awgrym bach i Lais Gwynedd. Roedd penderfyniad Llafur i newid eu henw i New Labour yng nghanol y ddegawd diwethaf yn gam ysbrodoledig a arweiniodd at lwyddiant etholiadol.

'Dwi'n siwr os gwnaiff Llais Gwynedd ddechrau galw eu hunain yn Llais Toiledau Gwynedd, gallant ddisgwyl llwyddiant tebyg. Wedi'r cwbl mae pawb angen toiled, ond dim ond plant sydd angen ysgol, dim ond yr hen a'r methedig sydd angen gofal a dim ond pobl sydd a phroblemau dwys sydd angen cymorth gwasanaethau cymdeithasol.

Thursday, January 15, 2009

The Voice of Gwynedd speaks?

Newydd sylwi ar yr ymateb rhyfeddol yma i sylwadau cwbl ddi niwed ar flog Dyfrig Jones. Wna i ddim manylu - dilynwch y linc ac ewch i waelod y darn a darllenwch sylwadau Big Sis - maent werth eu ddarllen. Beth bynnag mae'r ddynas yn ei ddweud am ei chefndir, maent yn diferu o hyfdra a thraha'r gwladychwr - a'r wladychwraig.

'Rwan does yna ddim ffordd o wybod os mai'r awdur ydi'r unigolyn y cyfeirir ati yn y darn - 'does yna ddim ffordd o ddarganfod hynny heb ffonio'r ddynas ei hun a gofyn iddi - a does gen i beth bynnag ddim y dewrder i wneud hynny mae gen i ofn.

Serch hynny mi fanteisiaf ar y cyfle i ailadrodd pam nad oes dyfodol i Lais Gwynedd. Mae'n grwp sy'n glir ynglyn a'r hyn nad yw yn ei hoffi - Plaid Cymru. Oherwydd hynny mae'n dennu'r cymysgedd rhyfeddaf o bobl - gan gynnwys rhai o'r elfennau mwyaf gwrth Gymreig yng Ngwynedd. Fodd bynnag nid oes ganddo syniad sut i'w ddiffinio ei hun ynhellach na hynny. 'Dydi grwpiau felly byth yn goroesi yn yr hir dymor.