Un o'r
anghytundebau bach fydd yn dod i'r wyneb o bryd i'w gilydd rhwng Blogmenai ag aelod seneddol Aberconwy sydd gen i heddiw.
Rwan ar un olwg mae Guto'n gywir. Mae yna hanes o wrth Semitiaeth yn yr Iwerddon. Mae'n debyg bod Guto wedi ymgyfarwyddo ei hun a thri llyfr ar Foicot Limerick yn 1904 - cyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at niweidio eiddo Iddewig a boicotio eu siopau. Cafwyd gwrthdystiadau gwrth Iddewig yn Nhredegar saith neu wyth mlynedd yn ddiweddarach gyda llaw.
Ond mae yna hanes o wrth Semitiaeth ym mhob rhan bron o'r byd Cristnogol - mae cred wedi bodoli yn Ewrop o leiaf ers yr Oesoedd Canol cynnar ei bod yn briodol cosbi'r Iddewon yn dorfol am groeshoelio Crist.
Arweiniodd y gred yma at drychinebau gymunedau Iddewig di rif. Cafodd Iddewon Ewrop eu herlid yn ystod y Croesgadau - yn arbennig felly yn Ffrainc a'r Almaen. Yn y ganrif ddilynol cafodd Iddewon Sbaen, Lloegr, Ffrainc ac Awstria eu hel o'u cartrefi a'u gwledydd. Cafodd yr Iddewon y bai am y Pla Du yn rhannau o Ewrop a'u herlid oherwydd hynny. Yn niwedd y 19C cafodd llawer o Iddewon Ewrop eu hel i getos a dyfeiswyd trethi arbennig ar eu cyfer. Cafwyd cyfres hir o bogroms gwrth Iddewig yn Rwsia pan laddwyd nifer sylweddol o Iddewon rhwng 1880 ac 1917. Mae hanes Iddewiaeth yn Ewrop yn 30au a 40au y ganrif ddiwethaf yn adnabyddus a wna i ddim mynd i fanylu ymhellach ynglyn a'r erchylldra yna.
Yn y cyd destun Ewropiaidd ehangach mae gwrth Semitiaeth Gwyddelig (a Chymreig) yn weddol ddi ddim - os cwbl anerbyniol. Felly pam bod Guto yn dewis Iwerddon - un o'r ychydig wledydd yn Ewrop lle na chafodd yr un Iddew ei ladd oherwydd ei grefydd - i'w harenwi'n benodol fel gwlad gwrth Semitig? A pham mae o'n trafferthu darllen tri llyfr am foicot ar ddigwyddiad cyfyng, na arweiniodd at farwolaethau ac a gafodd ei gondemnio gan yr awdurdodau seciwlar ac eglwysig? A pham ei fod yn defnyddio'r term 'pogrom' pan nad ydi'r awdurdodau Israelaidd nag Iddewon Limerick yn f
odlon defnyddio'r term yng nghyswllt Boicot Limerick? Mae'n weddol gyffredin i bardduo gwrthwynebwyr gwleidyddol efo'r tag 'gwrth semitaidd' neu 'ffasgaidd', er mai'r Chwith gwleidyddol sy'n euog o hynny gan amlaf. Ond mae'n dra anarferol i ddefnyddio'r term i bardduo cenedl gyfan. Felly pam gwneud hynny yma? Guto ei hun sy'n gwybod yr ateb i honna wrth gwrs.
Ta waeth - petai Guto yn chwilio gallai ddod o hyd i lawer o ddyfyniadau gwrth Semitaidd gan Wyddelod o pob perswad gwleidyddol yn ystod hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf. Mae'n ymddangos ei fod wedi gwneud hynny yn achos Saunders Lewis, ac am wn i ei fod yn gyfarwydd a'r llond dwrn o ddyfyniadau gwrth Semitaidd roedd yn gyfrifol amdanynt. Ond gallai fod wedi darganfod llawer, llawer mwy o sylwadau gwrth Semitaidd a wnaethwyd gan aelodau o'r prif bleidiau Prydeinig - rhai'r Dde, y Canol ac yn wir y Chwith. Nid y Blaid Doriaidd oedd yr unig bechaduriaid yn hyn o beth - ond does yna ddim dwywaith bod llawer o'i haelodau yn y blynyddoedd cyn RhB2 yn arddel credoau cwbl wrth Semitaidd.
Dwi ddim yn meddwl gyda llaw bod y rhan fwyaf o'r bobl hyn yn bwriadu peri unrhyw niwed i Iddewon - roedd gwrth Iddewiaeth di hid yn rhan o idiom y cyfnod.
Un ffordd o ddangos natur disgwrs wleidyddol yr oes ydi edrych ar y wasg. Heddiw mae'r
Daily Mail yn pedlera casineb tuag at Fwslemiaid a mewnfudwyr eraill. Dim ond Iddewon oedd ar gael i bwrpas myllio senophobaidd cyn y Rhyfel, felly Iddewon oedd yn ei chael hi gan y papur a'i berchenog boncyrs - Viscount Rothemere.
A chyn ein bod ni wrthi waeth i ni gynnwys llun bach del o Rothemere efo'i arwr.
Nid llun o dim pel droed yr Almaen a geir isod, ond llun o dim pel droed Lloegr yn ol yn 1938. Rwan dwi'n siwr nad oedd y rhan fwyaf o aelodau'r tim efo daliadau Natsiaidd, ond roeddynt yn ymddwyn yn y ffordd ryfedd yma oherwydd bod y Swyddfa Dramor wedi gofyn iddynt wneud hynny. Roeddynt yn chwarae gem yn erbyn yr Almaen, ac roedd y Swyddfa Dramor eisiau iddynt ddangos parch at Ganghellor yr Almaen. Y Blaid Doriaidd oedd mewn grym, ac roedd yr erledigaeth o Iddewon yn yr Almaen wedi hen, hen ddechrau.
A dyna ydi'r ffaith wrth gwrs - o pob prif blaid yn y blynyddoedd cyn y rhyfel roedd gwrth Semitiaeth a chydymdeimlad at y Dde eithafol yn Ewrop yn nodweddu'r Blaid Doriaidd yn annad yr un blaid arall. Tua'r un pryd a Boicot Limerick ffurfwyd mudiad yn nwyrain Llundain o'r enw
The British Brothers League. Er nad oedd y mudiad yn wrth Semitaidd ar y cychwyn, datblygodd i fod yn fudiad gwrth Iddewig yn weddol gyflym. Roedd o leiaf dau aelod seneddol Toriaidd yn rhan o'r mudiad - Major Evans-Gordon a Howard Vincent. Roedd G.K Chesterton ac Arthur Conan Doyle yn gefnogwyr gyda llaw.
Roedd ymateb Prydain i'r pogroms yn Rwsia yn datw poeth gwleidyddol yn ystod y cyfnod 1890 - 1906. Roedd y Toriaid eisiau gwahardd yr Iddewon oedd yn cael eu herlid yn Rwsia rhag cael lloches ym Mhrydain, tra bod y Rhyddfrydwyr yn ystyried gwaharddiad o'r fath yn anfoesol. Yn y diwedd llwyddodd y Toriaid i weithredu'r
Aliens Act yn 1905 - darn o ddeddfwriaeth oedd yn gwahardd pobl nad oedd a ffordd o gynnal eu hunain (fel pobl oedd yn dianc rhag pogroms er enghraifft) yn llwyr. Gellir cael blas o'r ymgyrch i ffurfio'r ddeddf gan y wasg Asgell Dde o'r sylw hwn yng ngholofn golygyddol oedd yn argymell yr
Aliens Act y
Manchester Evening Chronicle -
that the dirty, destitute, diseased, verminous and criminal foreigner who dumps himself on our soil and rates simultaneously, shall be forbidden to land
Y peth rhyfedd ydi bod gwrth Semitiaeth yn gymaint o ran o fyd olwg Toriaid yn y cyfnod cyn y rhyfel nes bod hyd yn oed arwyr Zionistiaidd Toriaidd yn aml yn wrth Semitaidd. Winston Churchill er enghraifft:
The part played in the creation of Bolshevism and in the actual bringing about of the Russian Revolution by these international and for the most part atheistic Jews ... is certainly a very great one; it probably outweighs all others. With the notable exception of Lenin, the majority of the leading figures are Jews. Moreover, the principal inspiration and driving power comes from Jewish leaders ... The same evil prominence was obtained by Jews in (Hungary and Germany, especially Bavaria).
Although in all these countries there are many non-Jews every whit as bad as the worst of the Jewish revolutionaries, the part played by the latter in proportion to their numbers in the population is astonishing. The fact that in many cases Jewish interests and Jewish places of worship are excepted by the Bolsheviks from their universal hostility has tended more and more to associate the Jewish race in Russia with the villainies which are now being perpetrated
Yn anhygoel i'r sylwebydd cyfoes mae'n ymddangos bod Arthur Balflour - awdur
Datganiad Balflour - dogfen a ddaeth i fod yn un o gonglfeini'r ymdrech i sefydlu gwladwriaeth Iddewig - yn wrth Semitaidd ei hun. Un o'r prif resymau pam roedd am sefydlu gwladwriaeth Iddewig oedd i gael gwared o Iddewon o Brydain.
If [Zionism] succeeds, it will do a great spiritual and material work for the Jews, but not for them alone. For as I read its meaning it is, among other things, a serious endeavour to mitigate the age-long miseries created for western civilisation by the presence in its midst of a Body which it too long regarded as alien and even hostile, but which it was equally unable to expel or absorb. Surely, for this if for no other reason, it should receive our support.
Rwan 'dwi'n sylweddoli bod ychydig o beryg i mi syrthio i'r trap y syrthiodd Guto iddo - barnu oes o'r blaen efo safonau oes fy hun a dod i gasgliadau ysgubol a hysteraidd sy'n ymwneud a'r presenol - er fy mod wrth gwrs yn tynnu sylw at bolisi cyhoeddus y Toriaid a'u harweinyddiaeth yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf - yn hytrach na thynnu sylw at foicot ynysig does fawr neb wedi clywed amdano - ac yn defnyddio hynny i bardduo cenedl gyfan. Ond y ffaith syml amdani ydi bod amwyster hyd heddiw yn y Blaid Doriaidd am y pwnc yma.
Y grwp mae'r Toriaid yn perthyn iddo yn senedd Ewrop ydi'r ECR. Mae'r grwp yn un - ahem - 'dewr'. Dydyn nhw heb gael trafferth derbyn aelodau o blaid Pwylaidd sydd wedi cysylltu eu hunain efo'r offeiriad gwrth Semitaidd - Tadeusz Rydzyk, mae un o aelodau'r blaid honno yn gwadu i nifer fawr o Iddewon gael eu lladd gan y Natsiaid. Derbyniodd y grwp hefyd gynrychiolwyr Latfiaidd sydd a hanes o drefnu gorymdeithiau i gofio Waffen-SS Latfia. Yn wir mae Michal Kaminski - sydd wedi arwain y grwp - efo hanes o wisgo symbolau Natsiaidd a dadlau na ddylai Gwlad Pwyl ymddiheuro am bogrom (gwrth Iddewig) Jedwabne ym 1941.
Rwan, dydi hi ddim yn bosibl i Guto effeithio ar foicot Limerick ym 1904 ag eithrio i'w godi a'i chwyddo i bwrpas pardduo Gwyddelod. Dydi hi ddim chwaith yn bosibl iddo atal Saunders Lewis rhag yngan llond dwrn o sylwadau gwrth Iddewig yn y tri degau, ag eithrio i bwrpas parddup Plaid Cymru. Dydi hi ddim hyd yn oed yn bosibl iddo effeithio ar wrth Semitiaeth rhemp ei blaid ei hun yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf. Ond gallai'n hawdd roi pwysau ar ei blaid i beidio a chyngrheirio efo elfennau gwrth Semitaidd ar y funud hon. Onid yw'n fodlon gwneud hynny gallwn gymryd nad ydi'r tantro am wrth Semitiaeth yn ddim mwy na gorchest ac ymgais i sgorio pwyntiau rhad yn erbyn gwledydd a phleidiau nad yw yn ei hoffi. Mae hynny'n sarhad ar y miliynau trwy'r oesoedd sydd wedi dioddef o ganlyniad i wrth Semitiaeth.