Showing posts with label Aberconwy. Show all posts
Showing posts with label Aberconwy. Show all posts

Thursday, May 05, 2011

Taflen gelwyddog Eifion Williams

Wele gopi o'r enwog daflen - gyda'r darnau enllibus wedi eu dileu.




Yr hyn sydd wedi digwydd yn y bon ydi bod yr ymgyrch Llafur wedi creu 'ffeithiau,' wedi eu cyhoeddi ac yna wedi mynd ati i'w dosbarthu i etholwyr Aberconwy, yn y gobaith y byddai'r rheiny yn pleidleisio i Eifion Williams ar sail y celwydd yn y pamffledi.

Mae hyn yn ddigon tebyg i'r hyn a ddigwyddodd yn Oldham yn ystod yr etholiad cyffredinol y llynedd. Diwedd y stori honno oedd i'r ymgeisydd Llafur celwyddog, Phil Woolas orfod egluro ei hun i lys barn a cholli ei sedd.

Rwan, petai Eifion yn ennill, ac yn arbennig petai'n ennill o drwch blewyn mae'n ddigon posibl y byddai pethau'n cyrraedd llys barn unwaith eto. Byddai'n dra thebygol y byddai hynny'n arwain at rhywbeth tebyg i'r hyn a ddigwyddodd yn Oldham - sydd yn codi mater digon diddorol. Byddai canlyniad Aberconwy wedi cael effaith ar y canlyniad rhanbarthol yn y Gogledd. Byddai'n rhaid cael is etholiad yn Aberconwy, ac mae'n debyg y byddai'r canlyniad yn wahanol. Felly ar rhyw olwg byddai canlyniad annilys wedi cael effaith ar y canlyniad rhanbarthol yn y Gogledd.

Mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf bod un neu ddau oddi mewn i'r Blaid Lafur Gymreig yn gobeithio nad Eifion Williams fydd AS nesaf Aberconwy.

Thursday, March 03, 2011

Ymgeisydd Llafur yn Aberconwy

Alun Puw fydd yn sefyll i Lafur yn sgil ymadawiad Ronnie Hughes a'r talwrn etholiadol - neu dyna ydi'r son beth bynnag.


Mae Alun yn brofiadol ac yn gyn weinidog yn y Cynulliad - ond mae ganddo hefyd hanes o golli etholiadau, ac o fethu cael ei ddewis i sefyll tros Lafur mewn nifer o etholaethau. Felly mae'n anodd barnu os ydi gobeithion Llafur yn well ta'n waeth o ffeirio Alun am Ronnie - ond mi fyddwn yn bersonol yn tybio ei fod yn gam yn ol iddynt yn hytrach nag yn gam ymlaen.

Monday, February 28, 2011

A rwan problem yn Aberconwy i Lafur



Ar ol colli eu hymgeisydd yn Arfon yr wythnos diwethaf, ymddangys nad ydi Ronnie Hughes eu hymgeisydd yn Aberconwy am sefyll chwaith. Yn wahanol i'r sefyllfa yn Arfon, 'does yna fawr o ddirgelwch yma - bu Ronnie'n sal ers tro, er ei bod yn dda deall ei fod yn gwella bellach.

Bydd y datblygiad yn hwb serch hynny i ymgyrch Iwan Huws i gadw'r sedd i Blaid Cymru wedi ymddeoliad Gareth Jones. Mae'r ymgyrch wedi agor swyddfa yn ddiweddar yn Cambridge House, Pant yr Afon, PENMAENMAWR, Conwy LL34 6AE .

Tuesday, November 23, 2010

Newyddion etholiadol diddorol o Aberconwy


Yn ol Oscar mae'n fwriad gan Jason Weyman sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn Aberconwy yn etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Mae'r newyddion yn ddiddorol oherwydd bod Jason yn gynghorydd sir poblogaidd yn Neganwy - ardal lle byddai'r Toriaid yn disgwyl pleidlais sylweddol. Fydd yna ddim cymaint o bleidleisiau iddynt ag y byddent wedi disgwyl yno.

Gallai ymyraeth o'r math yma wneud y gwahaniaeth hanfodol mewn etholaeth lle mae disgwyl i bethau fod yn agos.

Tuesday, May 04, 2010

Stalin Aberconwy


Ar dudalen flaen gwefan Ceidwadwyr Aberconwy (sydd wedi ei thalu amdani yn rhannol gan ddyn nad yw'n awyddus i dalu ei drethi fel chi neu fi o'r enw yr Arglwydd Ashcroft) ceir y datganiad sych dduwiol canlynol - We especially want to hear your views so go straight to the new blog, and join in the debate.

Ond ceisiwch adael sylw neu gymryd rhan yn y 'drafodaeth' a gallwch ddisgwyl i'ch sylwadau gael eu taflu i limbo'r rhyngrwyd oni bai eu bod yn esiamplau o sycioffantiaeth dagreuol o grafllyd fel yr isod:

The way that you and your team have conducted yourselves and addressed the whole challenge of this campaign is so impressive, I can’t begin adequately to express my admiration. You could not have done more and we’re all very proud of you.
You are now on the final lap and we all wish you success on Thursday.
I know how exhausted you must feel, so I welcome you as an honorary member of the Rhinoceros Club – head down and charge!
Good luck, Guto
Go get ‘em!Derek

Dyma ystyr debate i Geidwadwyr Aberconwy.

Byddai'r diweddar Joseph Stalin yn gwerthfawrogi'r math yma o debate.

Saturday, May 01, 2010

Cwis bach arall

Pwy sydd yn dweud hyn pan mae posteri Plaid Cymru yn cael eu dwyn?

1. Dwi ddim yn credu fod tynnu arwydd lawr yn rhyw lawer o drosedd
2. Dwi ddim yn credu fod posteri yn bwysig iawn mewn etholiad

Stuff happens.

Ond sy'n meddwl ei bod yn goblyn o drosedd pan mae rhywun neu'i gilydd yn rhoi clec i'w bosteri o ei hun:

Further to the theft of some 25 of my large signs in the Conwy Valley over the weekend we managed to get some 30 back in place today. This included two farms that had Plaid posters on their land which had not even been offered approval! By 10pm this evening five of these sites had again been subjected to vandalism and theft.

Monday, April 26, 2010

Brolio ei fod wedi ei cholli hi

Diddorol gweld bod Guto yn brolio iddo gael y myll ar Hawl i Holi nos Wener.

Ymateb yn weddol hysteraidd wnaeth Guto ar Pawb a'i Farn, i'r ffaith bod Elfyn Llwyd wedi tynnu sylw at gelwydd yn ei ohebiaeth etholiadol, trwy wrthod ymateb a chodi'r pwynt hollol amherthnasol bod Elfyn wedi hawlio costau am ei fwyd yn San Steffan - rhywbeth roedd llawer o Aelodau Seneddol Toriaidd (a'r pleidiau eraill) wedi ei wneud wrth gwrs.

Rwan mae gwrando ar Dori yn cega am dreuliau braidd fel gwrando ar Fred West yn cwyno bod yna ormod o dor cyfraith. Roedd sylwadau Guto yn gyfle gwych i Elfyn son am y ffosydd o gwmpas y stadau, yr ynysoedd hwyaid, fflipio tai di ddiwedd Stephen Crabb, Nick Bourne yn cael y trethdalwr i drwsio ei ystafell molchi, i pod Alun Cairns, a bwyd ci Cheryll Gillan ac ati, ac ati, ac ati.

Mae'n anffodus bod Elfyn yn rhy anrhydeddus i gicio'r bel i mewn i'r gol agored.

Thursday, April 08, 2010

'Dydi'r Toriaid jyst ddim yn ei chael hi'

Gobeithio nad ydi'r cyfieithiad o ddywediad diweddar Saesneg yn rhy hyll ar y glust, ond dyna'r dywediad ddaeth i fy mhen i neithiwr wrth wrando ar Guto Bebb, ymgeisydd y Toriaid yn Aberconwy. yn amddiffyn y ffaith bod gwybodaeth - ahem - camarweiniol yn cael ei ddosbarthu gan ei ymgyrch.

Os oeddwn i'n deall yn iawn mae Guto yn y cyfweliad efo'r Bib (yr un Cymraeg a'r un Saesneg) yn mynegi siom - nid siom yn ei ymgyrch ei hun wrth gwrs, ond siom mewn sylw gan yr aelod aelod o'r cyhoedd, Gwen Gray a ddaeth a'r camarwain i sylw'r cyfryngau.

Mi fydd y senedd lwgr bresenol yn cael ei diddymu ddydd Llun, a bydd y lle'n cael ei garthu o'i aelodau seneddol gwaethaf. Mae hyn yn fendith i bawb. Ond mae'n werth nodi bod llawer o'r hyn sydd wedi arwain at ddifa hygrededd y lle tros y blynyddoedd diwethaf yn deillio, yn y pen draw, o draha a hyfdra ei haelodau a'u diffyg parch tuag at y cyhoedd. Mae'n fater o ofid felly i nodi bod y traha a'r diffyg parch tuag at y cyhoedd yn parhau ymhlith y sawl sydd eisiau cymryd lle'r hen do.

Mi fyddai wedi bod yn rheitiach o lawer i Guto ddiolch i Mrs Gray am dynnu ei sylw at y 'camgymeriad' yn hytrach na mynegi siom nad aeth i edrych ar wefan y Toriaid neu gael gair bach distaw efo swyddfa'r Toriaid yn Aberconwy.

Tuesday, February 16, 2010

Croeso Ronnie

Diolch unwaith eto i Alwyn am dynnu ein sylw at flog newydd arbennig Mr Ronnie Hughes - darpar ymgeisydd gwych Llafur yn etholaeth Aberconwy.

Fel y byddai dyn yn disgwyl mae'n flog caboledig a deallus iawn. Mae hefyd yn un digon anarferol. Nid Ronnie sy'n ei gadw, ond blogiwr neu flogwyr di enw. Prif genhadaeth y blog ydi gadael i ni wybod pob dim yr ydym angen ei wybod am symudiadau dyddiol Ronnie.

Mae ganddo fywyd hynod ddiddorol yn amlwg, felly rydym yn cael clywed am Ronnie yn mynd i weld pel droed, rhywbeth am sioe focsio (er nad yw'n glir os oedd Ronnie yno), Ronnie yn llusgo ei wyrion o gwmpas Conwy yn canfasio efo fo am nad oedd yn gallu dod o hyd i neb i edrych ar eu holau, Ronnie'n cael sgwrs efo contractwyr Pont Maes, Ronnie'r mynychu'r Modernisation of In-house Homecare Briefing, (beth bynnag ydi hynny), Ronnie yn gwneud ei waith papur, ac ati.

Mi allwn edrych ymlaen am wledd yma yn amlwg ddigon.

Sunday, February 07, 2010

Beth sydd wnelo oed Dennis Tew a'i benderfyniad i adael y Toriaid?

Mae'r Toriaid wedi gweithio'n galed i gael gwared o'r tag nasty party. Un o'r pethau oedd y tu cefn i'r ddelwedd honno oedd y ffaith bod canfyddiad bod y Blaid Doriaidd yn 'rhagfarnllyd' - hynny ydi eu bod yn barnu pobl ar sail yr hyn ydynt yn hytrach na phwy ydynt. Dyna pam bod cymaint o ymdrech wedi ei wneud gan y blaid i gael ymgeiswyr benywaidd, Asiaidd ac ati. 'Dwi'n digwydd credu bod y feirniadaeth o'r blaid Geidwadol fel un sydd ei hanfod yn rhagfarnllyd yn or simplistaidd - mae'r blaid wedi bod yn babell gweddol eang erioed - ac mae yna ffrwd ryddfrydig gref wedi bodoli o gychwyn ei hanes bron. Ta waeth, stori arall ydi honno - roedd y canfyddiad hwnnw'n gryf erbyn 97 - ac roedd yn un o'r rhesymau am y chwalfa yn y bleidlais geidwadol bryd hynny.

Un o'r pethau anisgwyl sydd wedi codi o'r holl fusnes Dennis Tew ydi'r sylw sydd wedi ei roi mewn cylchoedd Toriaidd i'r ffaith ei fod yn ddyn mewn oed - 'dydi rhagfarn yn erbyn yr henoed ddim yn rhywbeth sy'n cael ei gysylltu efo' Toriaid gan amlaf. Er enghraifft, dyma rai o'r sylwadau sydd wedi ymddangos ar flogiau Ceidwadwyr Aberconwy a The Thoughts of Oscar.

A thoughtful and reasoned response to the dissapointing behaviour by this elderly man. Well worded.

I understand that there are many young and bright contenders for his candidacy (a friend of mine being one of them)

80 years old.The old Fart shouldnt be a councillor. He shouldnt be allowed out after dark. In case you think I am nasty to the man I must point out that I am in my 79th year so cant be accuse of ageism.

Which octogenarian said the above in a widely distributed letter written by his newmasters?

Mae yna nifer o sylwadau eraill hefyd, mi gewch chi chwilio amdanynt eich hunain

Wrth ymateb i'r erthygl yn Golwg mae Guto ei hun gwneud y sylw rhyfedd braidd - 'Dwi'n credu bod Plaid Cymru wedi defnyddio dyn yn ei oed a'i amser'. Rwan mi fyddwn (yn y rhan yma o Gymru o leiaf) yn defnyddio'r term yn ei oed a'i amser i olygu rhywun sydd wedi tyfu i fyny - hynny yw rhywun nad yw'n laslanc (neu lances). 'Dydi sylwadau Guto ddim yn gwneud llawer o synnwyr yn y cyd destun hwnnw - felly mae'n debyg gen i mai cyfeiriad at y ffaith bod Mr Tew wedi hen gyrraedd a gadel oed yr addewid ydi'r sylw.

'Rwan mae'n amlwg at beth mae'r sylwadau yn cyfeirio - mae lleiafrif o bobl mewn oed yn dioddef gyda phroblemau meddygol sy'n effeithio mewn ffordd negyddol ar eu iechyd meddwl a'u deallusrwydd. 'Dydi hyn ddim yn wir am Mr Tew, a 'dydi o ddim yn wir am fwyafrif llethol pobl mewn oed. Mi fyddai'n llawer gwell gen i yn bersonol gymryd cyngor ar y rhan fwyaf o faterion gan rhywun mewn oed a phrofiad bywyd ganddo i dynnu arno na chan rhywun ieuengach o lawer.

Mae rhywbeth digon hyll am ddefnyddio'r ffaith bod rhai pobl mewn oed yn dioddef o broblemau efo'u deallusrwydd er mwyn bwrw amheuaeth ar ddilysrwydd penderfyniad gwleidyddol gan Mr Tew i adael y Blaid Doriaidd. Nasty fyddai'r ansoddair Saesneg o bosibl. Ach a fi.

Sunday, January 31, 2010

Y Cynghorydd Tew eto

Ymddengys bod gwirionedd yn y stori sydd wedi ei rhedeg ar y blog hwn a rhai eraill ynglyn ag ymddiswyddiad Dennis Tew o'r blaid Geidwadol - mae gwefan Ceidwadwyr Aberconwy yn cydnabod hynny bellach.

Dydi'r blaid yn lleol ddim yn cymryd y peth yn arbennig o dda - gan dyllu ar ol nifer o resymau pam nad ydi Mr Tew yn golled fawr, gan gynnwys ei ymddswyddiad anisgwyl o swydd Sion Corn Cyngor Tref Conwy, y ffaith ei fod yn costio seddi eraill i'r Ceidwadwyr a'i fod yn gwneud unreasonable demands in relation to his continued position as a Conservative candidate at the next council elections. beth bynnag ydi hynny yn ei olygu.

Mae'r straeon ei fod yn ymuno a Phlaid Cymru hefyd yn fater o dristwch i Geidwadwyr Aberconwy, yn wahanol i pan newidiodd Oscar ei got a throi at yn Dori. Yn wir mae'n dystiolaeth o pa mor ruthless ydi'r Blaid. yn gwneud i Mr Tew druan hyrwyddo socialist and independent Wales’.

Ond ta waeth, dydi'r holl ddigwyddiad ddim yn debygol o effeithio ar ganlyniad etholiad San Steffan yn yr etholaeth, ac mi'r rydan ni'n derbyn adroddiadau rheolaidd yn egluro i ni pa mor rhyfeddol o lwyddiannus ydi'r ymgyrch yn Aberconwy. Felly mae yna ddiwedd hapus i'r stori wedi'r cwbl.

Diolch byth am hynny.

Thursday, December 24, 2009

Mae sawl ffordd o gael Phil i'w wely

Mae yna drafodaeth wedi bod ynghynt yn yr wythnos ar y blog hwn sydd yn anuniongyrchol yn ymwneud y phleidleisio tactegol, ac mae'r ddadl wedi ei datblygu yn ffau'r Hen Rech Flin. Wna i ddim ailadrodd yn fanwl sylwadau Alwyn, na fy ymateb i - gallwch edrych yma os oes gennych ddiddordeb.



Ers ymateb i Alwyn fodd bynnag 'dwi wedi bod yn rhyw g'noi cil ar y mater tra'n gwneud fy siopa 'Dolig munud diwethaf. Prif bwynt Alwyn ydi y byddai'n rheitiach ymosod ar Lafur mewn sedd fel Aberconwy nag ar y Toriaid. 'Rwan mae'n rhaid i mi gyfaddef bod Alwyn gyda llawer mwy o brofiad na fi o wleidydda mewn etholaeth lle mae pleidleisio tactegol yn bwysig. Serch hynny mi fyddwn yn gofyn os ydi'r syniad y dylai'r blaid sydd yn ail neu'n gyntaf dreulio gormod o amser yn ymosod ar y blaid sy'n bedwerydd neu'n drydydd, yn syniad da?

Fel 'dwi'n sgwennu hyn mae gen i bamffled etholiadol o etholaeth Canol Caerdydd o fy mlaen sy'n perthyn i'r Lib Dems - pencampwyr y bleidlais dactegol. Y Lib Dems sy'n dal y sedd gyda thua hanner y bleidlais gyda Llafur yn ail gyda thraean. Mae Plaid Cymru a'r Toriaid yn is na 10%. Mae'n amlwg bod rhan o'r bleidlais Lib Dem yn hen un Doriaidd - nhw sydd wedi dal yr etholaeth am gyfran helaeth o'i hanes. Yn y pamffled ceir ymysodiadau ar Lafur, brolio'r Lib Dems a dim gair am y Toriaid ag eithrio'r graffiau arferol, ods bwcis a chanlyniadau lleol i 'brofi' nad oes ganddynt obaith mul o ennill.

Y strategaeth yma yn amlwg ydi peidio ag ypsetio pobl sy'n gogwyddo tuag at y Toriaid trwy ymosod arnynt - dim ond eu hanwybyddu a honni nad oes ganddynt obaith ac mai'r unig ffordd o gadw Llafur allan ydi trwy roi fot i'r Lib Dems. Mae'r lled Bleidwyr a'r lled Doriaid yn siwr o fwynhau'r ymysodiadau ar Lafur yn fawr iawn.

Ydi hyn yn cyfieithu i sefyllfa fel un Aberconwy - hynny yw ymosod ar y Toriaid, ond dweud dim am Lafur a'r Lib Dems ag eithrio nad oes ganddynt obaith? A dweud y gwir 'dwi ddim yn gwybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw - ond mae barnu'r math yma o beth yn gywir yn aml yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng ennill a cholli etholiad.

Nid dweud bod Alwyn yn anghywir ydw i - dim ond codi'r cwestiwn.

Thursday, October 08, 2009

Ceidwadwyr Aberconwy yn siomi eto fyth!

Pan addawodd darpar ymgeisydd y Toriaid yn etholaeth Aberconwy, ddydd Sul, y byddai'n rhoi inside track i'r blogosffer Cymreig ar yr holl bethau gwych a chynhyrfus a fyddai'n siwr o ddigwydd yng nghynhadledd ei blaid ym Maenceinion (I will report back as things happen!), roeddwn yn edrych ymlaen yn arw.

Ond am rhyw reswm wnaeth Guto ddim trafferthu i adrodd yn ol o gwbl rhwng hynny a rwan. Mae'n bosibl wrth gwrs na chafodd gyfle, cyn bod y digwyddiad mor llawn a diddorol. Digon teg - ond mi gafodd gyfle i ail adrodd stori ddibwys a phlwyfol am gynghorydd yn Aberconwy oedd eisoes wedi ei hadrodd gan ei elyn achlysurol - Oscar.



Ymddengys bod Guto'n edrych ymlaen at un neu ddau o eitemau'n arbennig - I'm looking forward to a fringe meeting discussing the Centre for Social Justice report on reducing the dependency culture in the UK and also to hear Chris Grayling MP outline his ideas on how to tackle anti social behaviour.

Rydym yn aros o hyd am adroddiad o'r hyn a ddywedwyd yn y cyfarfod ymylol oedd yn ymdrin a syniadau siop rwdlan Iain Duncan Smith, a 'does gennym ni ddim syniad chwaith os ydi Chris Grayling mor awyddus a'i fos i ymgoleddu hwdis.

Hwyrach mai'r broblem ydi nad oes dim oll ond darogan gwae, angau a distryw i adrodd yn ol arno, ac nad oes gan Guto stumog mor gryf ag un George Osborne. Os nad ydi'r Toriaid eu hunain eisiau riportio ar eu cynhadledd, mi wna i yn eu lle. Peidied neb a honni nad ydi blogmenai yn darparu gwasanaeth cyflawn. Dyma rai o'r addewidion a gafwyd eisoes:
  • Rhewi cyflogau 5 miliwn o weithwyr sector gyhoeddus.
  • 3 biliwn o doriadau i'r weinyddiaeth sifil.
  • Neb yn y sector cyhoeddus i gael cyflog uwch nag un David Cameron, heb ganiatad gan ei hen fet coleg - George Osborne.
  • Diddymu ymddiriedolaethau plant i'r rhan fwyaf o bobl.
  • Symud oed pension dynion o 65 i 66, a chymryd camau i symud yr oedran i ferched i'r un lle.
  • Dod a'r means test yn ol mewn perthynas a chredydau treth.
  • Difa gallu cynghorau i liniaru ar y toriadau arfaethiedig trwy rewi treth y cyngor.
  • Cyfyngu ar fudd daliadau anabledd a gorfodi 500,000 o bobl sal i weithio.
  • Diddymu Future Jobs Fund sy'n rhoi chwe mis o waith i 150,000 o bobl ifanc.
  • Annog pobl tros 65 i 'wirfoddoli' i dalu £8,000 o flaen llaw er mwyn yswirio eu hunain rhag colli eu tai - cam fyddai'n sicr o arwain cynghorau lleol i ddympio pobl sydd wedi cymryd yr yswiriant mewn cartrefi i'r henoed yn hytrach na gofalu amdanynt adref.
  • Creu worcws ar gyfer mamau sengl (OK mi gawsom ni'r em fach yma cyn y gynhadledd).
'Rwan, peidiwch a fy ngham ddeall i - 'dwi'n sylweddoli y bydd rhaid i'r Toriaid wneud rhywbeth pan fyddant yn ennill yr etholiad, ac mae rhywun yn eu hedmygu am fod yn onest - hyd yn oed os ydi'r gonestrwydd hwnnw yn amlygu'r ffaith nad ydynt wedi meddwl trwy eu polisiau yn fanwl - a bod eu toriadau, yn ol yr arfer, am effeithio llawer mwy ar y tlawd na'r cyfoethog.

Mae'r ystumio nad ydi'r dirwasgiad yn ddim oll i wneud efo nhw yn ddigri - y rheswm yr ydym yn y twll yr ydym ynddo ar hyn o bryd ydi oherwydd i Lafur ddechrau edrych ar fancwyr yn benodol, a'r sector breifat yn gyffredinol, yn yr un ffordd babiaidd na mae'r Toriaid yn edrych arnynt - duwiau nad oes angen eu rheoli am na fedrant wneud camgymeriadau. Mi fyddem yn yr un llanast yn union petai'r Toriaid wedi rheoli am y deuddeg mlynedd diwethaf.

Ta waeth - yn ol at Geidwadwyr Aberconwy. Mae'n amlwg o ddarllen eu blog mai rhyngddyn nhw a Phlaid Cymru mae hi - dydyn nhw prin yn trafferthu ymosod ar y Blaid Lafur. Eu prif (os nad eu hunig) strategaeth ydi ceisio cysylltu Plaid Cymru mor agos a phosibl at Blaid Lafur amhoblogaidd. Mae hynny'n ddigon teg - felly mae etholiadau yn cael eu hymladd.

Y strategaeth i'r Blaid yn Aberconwy ddylai fod i wneud yn glir mai Plaid Cymru, a Phlaid Cymru yn unig, all guro'r Ceidwadwyr yn yr etholaeth honno. Yn hyn o beth mae ymysodiadau mynych y Toriaid ar y Blaid o gymorth. Dylai'r rhestr faith o doriadau mae'r Toriaid am eu gweithredu, a'r awch amlwg i gael gwneud hynny, helpu hefyd. Byddai strategaeth felly hefyd yn ddigon teg.

Y tro diwethaf i lywodraeth Doriaidd gymryd trosodd oddi wrth un Llafur yn 1979, roedd yna lanast economaidd bryd hynny hefyd, ac roedd rhaid i'r Toriaid dorri'n ol ar wariant cyhoeddus. Mi wnaethant hynny, ac aethant yn llawer iawn pellach nag oedd rhaid - gyda Geoffrey Howe yn troi rhesymeg economaidd ar ei ben yn 1981 ac yn torri gwariant cyhoeddus yng nghanol dirwasgiad - rhywbeth roedd Cameron ac Osborne eisiau ei wneud eleni a llynedd.

Yr unig ffordd i bobl Aberconwy - a nifer o lefydd eraill yng Nghymru - bleidleisio'n effeithiol yn erbyn toriadau gormodol a chyn amserol mewn gwariant cyhoeddus - toriadau sydd wedi eu gyrru gan ddogma adain Dde, simplistaidd a phlentynaidd, ydi trwy fwrw pleidlais i Blaid Cymru. Mae natur ymgyrch y Toriaid yn Aberconwy yn fwy o brawf o hynny na dim y gallaf i ei ddweud.

Thursday, August 27, 2009

Guto, David ac Oscar

'Dwi'n rhyw ddeall o flog Ceidwadwyr Aberconwy nad yw pawb o griw'r cwch Geidwadol yn rhwyfo i'r un cyfeiriad yn yr etholaeth.

Waeth i mi heb a honni fy mod yn arbenigwr ar yr etholaeth arbennig yma. Er ei bod drws nesaf i'r un 'dwi'n byw ynddi mae yna nifer o etholaethau eraill 'dwi'n eu hadnabod yn well o lawer. Serch hynny hoffwn wneud sylw neu ddau ar y ddadl rhwng Oscar - Ceidwadwr ac awdur un o flogiau mwyaf diflas a phlwyfol Cymru a Guto Bebb - ymgeisydd y Toriaid yn yr etholaeth.

I ddechrau mae Oscar yn cwyno bod ei sylwadau ar flog Ceidwadwyr Aberconwy yn cael eu cymedroli - hynny yw nad ydynt yn cael eu cyhoeddi. 'Dwi wedi cael yr un broblem pan 'dwi wedi ceisio gwneud sylwadau (digon ffeind a chymharol anwleidyddol). 'Dwi ddim yn meddwl bod fy sylwadau fi wedi cael eu cymedroli - 'dwi'n weddol siwr bod nam technegol ar y blog ac nad yw'n bosibl gadael sylwadau o bob peiriant yno. Mae'r diffyg sylwadau cefnogol neu feirniadol, yn awgrymu fy mod yn gywir.





Mae Oscar yn cymharu Guto'n anffarfiol efo David Jones, aelod seneddol etholaeth gyfagos Gorllewin Clwyd ac awdur blog sydd bron mor ddiflas (ond ddim mor blwyfol) ag un Oscar ei hun. Mae'n ymddangos bod y naill yn ganolbwynt gweithgaredd brwdfrydig a hynod effeithiol tra bod y llall yn treulio'i oriau'n hamddena mewn hammock yng ngardd gefn ei annedd sylweddol sydd wedi ei leoli yn rhywle anymunol, gorllewinol a Chymreig ynghanol y defaid, y derwyddon, y niwl, y gwynt a'r eithafwyr.

'Rwan, dydw i'n amlwg ddim yn un o gefnogwyr mawr Guto - ond efallai y dyliwn dynnu sylw at ganlyniadau'r etholiadau cyffredinol diwethaf. Roedd Guto'n sefyll yn hen sedd Conwy tra bod David erbyn hynny wedi dianc o'r fan honno i sedd mwy Ceidwadol Gorllewin Clwyd. Bu bron iddo a chyflawni'r wyrth o fethu a churo Gareth Thomas. Roedd yna ogwydd o fwy na 4% tuag at Guto tra bod y gogwydd tuag at David yn llai na hanner hynny. Yn wir perfformiad Guto oedd yr un gorau i'r Ceidwadwyr yng Ngogledd Cymru, ac un o'r rhai gorau yng Nghymru gyfan ar ddiwrnod digon symol i'r Toriaid.



Cwyn fawr arall Oscar ydi bod Guto'n ymddiddori gormod mewn materion sy'n ymwneud a'r Cynulliad ac mewn etholaethau cyfagos (hy rhai gorllewinol llawn defaid, derwyddon, niwl, nashis ac ati). 'Rwan mae'r gwyn gyntaf yn wirioneddol idiotaidd gan y byddai osgoi trafod materion sy'n ymwneud a'r Cynulliad yn golygu osgoi trafod tua 80% o'r hyn sy'n effeithio'n uniongyrchol ar etholwyr Aberconwy. Mae'n rhaid cyfaddef bod diddordeb mawr Guto yn Arfon ychydig yn od ar un olwg, ond rhesymau - ahem - hanesyddol sydd wrth gefn hynny. Mae hefyd yn digwydd byw yn yr etholaeth honno.

Felly beth yn union ydi problem Oscar? Gellir cael goleuni ynglyn a hyn (os fawr ddim arall) ym mlog David Jones - blog mae Oscar yn meddwl y Byd ohono. 'Dwi'n rhestru teitlau diweddar blogiadau David:

Prescott Clears It Up.
Dump Russell Brand & Save £1,000,000.
Healthandsafety Corner - rhywbeth am flodau yn Llundain.
Time to reassess CCTV - rhywbeth am gamerau yn Llundain.
PMS Headache - rhy ddiflas i mi ddarllen y peth i gyd ond rhywbeth i'w wneud efo llefarydd Brown ar rhywbeth neu'i gilydd.
Redwood is Right; Recall Parliament.
More Power for Councils.
Lewis Letter Doesn't Stack Up - roeddwn yn meddwl am eiliad mai cyfeirio at lythyrwr mwyaf toreithiog Cymru (ac efallai'r Byd), Robin Lewis oedd David yma, ond rhywun o'r enw Ivan Lewis sy'n rhywbeth neu'i gilydd yn y Swyddfa Dramor sydd ganddo mewn golwg.
Quintissentially Mandelson.
Shame is Too Much To Expect From Mr MacAskill.
Miliband and Gadaffi Can't Both Be Telling The Truth.
Miliband's Silence Dishonours Britain.

Mae hanner y lincs sydd ym mlog David yn cyfeirio rhywun at ddeunydd darllen dyddiol y dyn - y Telegraph, neu'r Sunday Times.

'Rwan mi wnes i awgrymu ar gychwyn y darn yma mai blog Oscar ydi'r mwyaf cachlyd yng Nghymru - ond o nofio trwy'r llyn o ddiflasdod yma, 'dwi wedi newid fy meddwl. Yr unig flog gwaeth nag un Oscar ydi blog ei arwr. 'Does yna ddim byd diddorol, dim byd lleol, dim byd gwreiddiol, dim byd treiddgar, dim mymryn o wybodaeth na ellid ei gael yn rhywle arall ar gyfyl y domen dail yma o flog. Y cwbl sy'n cael ei gyflwyno ger ein bron ydi ailadroddiad o ddehongliad Adain Dde bland a chwbl ragweladwy'r papurau mae rhyw greadur druan yn gorfod eu stwffio trwy dwll llythyrau David pob bore. Mae cadw'r blog yn wastraff amser llwyr.

Pam bod Oscar wedi dotio cymaint ar flog David felly - onid yw'n gallu fforddio i brynu'r Telegraph a'r Sunday Times trosto'i hun?

Efallai, ond mae'n debyg gen i mai Seisnigrwydd world view y blog sy'n apelio at Oscar druan. Mae ei flog o ei hun yn Seisnig ond yn lleol o ran ei ddiddordebau, tra bod un David yn Seisnig ond yn 'genedlaethol' o ran ei ddiddordebau yntau. Mae'r ddau yn mynd efo'u gilydd fel hufen a jam. Mae blog Aberconwy yn cynnwys elfennau lleol a 'chenedlaethol'. Mae rhywfaint o'r 'lleol' yn ymwneud ag ardal ehangach na gogledd etholaeth Aberconwy, ac mae'r elfennau 'cenedlaethol' yn genedlaethol yn ystyr Cymreig yn hytrach na Phrydeinig y gair hwnnw.

Problem Guto ydi ei fod yn rhy Gymreig (ac efallai'n rhy wrthnysig Gymreig) i gydadran sylweddol o aelodau a chefnogwyr plaid sydd yn ei hanfod yn Brydeinllyd o ran gwleidyddiaeth ac yn Seisnig o ran diwylliant. Mi fyddai un neu ddau yn dweud bod hon yn groes mae wedi ei chreu iddo'i hun - ond mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn rhyw gydymdeimlo efo fo am unwaith.