Showing posts with label Refferendwm. Show all posts
Showing posts with label Refferendwm. Show all posts

Monday, April 25, 2011

Pam bod yr ymgyrch Na yn awgrymu bod pobl Cymru, Lloegr a'r Alban yn dwp?

Un o nodweddion mwy anymunol yr ymgyrch refferendwm AV ydi'r celwydd gweddol ddi gywilydd sy'n greiddiol i naratif yr ymgyrch Na. Er enghraifft maent yn honni y byddai newid trefn yn costio £250m oherwydd y byddai'n rhaid prynu peiriannau pleidleisio i wneud i'r gyfundrefn AV weithio. Rwan 'dydi hi ddim yn arferol i ddefnyddio peiriannau i gyfri pleidleisiau AV mewn gwledydd eraill - mae'n drefn eithaf syml.

Er enghraifft yng Ngorllewin Caerdydd yn etholiadau'r llynedd roedd 6 ymgeisydd - Kevin Brennan (Llafur) - 41.2%, Angela Jones Evans (Tori) - 29.6%, Rachael Hitchinson (Lib Dem) - 17.5%, Mohammed Sarul Islam (Plaid Cymru) - 7%, Michael Hennessey (UKIP) - 2.7% a Jake Griffiths (Gwyrdd) - 1.8%.

Petai'r etholiad wedi ei chynnal o dan drefn AV byddai'r papurau wedi eu dosbarthu yn ol y bleidlais gyntaf, yn union fel y gwneir ar hyn o bryd. Wedi eu cyfri byddai ail bleidleisiau Jake Griffiths a Michael Hennessey yn cael eu hail ddosbarthu. Byddai pleidleisiau'r ddau yn cael eu hail ddosbarthu ar yr un pryd oherwydd nad oedd cyfanswm eu pleidleisiau yn uwch na phleidlais yr ymgeisydd nesaf - Mohammed Sarul Islam. Petai rhai o ail bleidleisiau'r naill yn mynd i'r llall byddai'r papurau yn cael eu dosbarthu yn ol y trydydd bleidlais. Yn ol pob tebyg byddai ail bleidleisiau Mohammed Sarul Islam a Rachael Hitchinson wedyn yn cael eu hail ddosbarthu ar yr un pryd, a byddai Kevin Brennan yn cael ei ethol. Go brin y byddai hyn yn ychwanegu mwy na rhyw awr a hanner at y broses gyfri. Mae'r ymgyrch Na yn meddwl bod hyn mor gymhleth bod angen gwario degau o filiynau o bunnoedd i brynnu peiriannau.

Cymharer hyn efo'r system STV gydag etholaethau aml sedd sydd yn cael ei defnyddio yng Ngogledd Iwerddon. Mae'n drefn llawer, llawer mwy cymhleth. Er enghraifft, yr wythnos nesaf bydd yr ymgeiswyr canlynol yn sefyll yn etholaeth Mid Ulster:

Harry Hutchinson (People Before Profit), Austin Kelly (SDLP), Gary McCann (Independent), Hugh McCloy (Independent), Ian McCrea (DUP), Michael McDonald (Alliance), Patsy McGlone (SDLP), Martin McGuinness (Sinn Féin), Walter Millar (TUV), Ian Milne (Sinn Féin), Francie Molloy (Sinn Féin), Michelle O'Neill (Sinn Féin), Sandra Overend (UUP).

Mae yna 6 sedd yn Mid Ulster, fel sydd yng ngweddill etholaethau Cynulliad Gogledd Iwerddon.

Bydd rhaid i'r pleidleisiau i gyd gael eu cyfri i ddechrau. Yna bydd rhaid i'r swyddog etholiadau ddyfarnu faint ydi cwota - y nifer o bleidleisiau mae ymgeisydd ei angen cyn cael ei ethol - gwneir hyn trwy rannu nifer y pleidleisiau efo saith ac adio un (mewn etholaeth 6 sedd). Wedyn bydd y pleidleisiau yn cael eu dosbarthu yn ol y bleidlais gyntaf rhwng y tri ymgeisydd ar ddeg. Os oes rhywun yn curo'r cwota bydd ei ail bleidleisiau i gyd yn cael eu cyfri, a bydd y cyfanswm yn cael ei rannu efo'r nifer o bleidleisiau sydd ganddo uwchlaw'r cwota er mwyn rhoi rhoi'r pwysiad cywir i pob ail bleidlais. Bydd yr ail bleidleisiau yn cael eu dosbarthu ar sail y pwysiad cyfrannol hwnnw. Os nad oes neb arall wedi curo'r cwota yn dilyn hyn bydd pleidleisiau'r ymgeisydd (ymgeiswyr) sydd wedi cael y lleiaf o bleidleisiau yn cael eu hail ddosbarthu. Os na fydd neb yn cyrraedd y cwota wedi hynny bydd yr ymgeiswyr isaf yn parhau i gael eu dileu a chael eu hail bleidleisiau wedi eu dosbarthu. Pan fydd rhywun yn croesi'r cwota bydd ei bleidleisiau ychwanegol yn cael eu gwneud yn gyfrannol a'u hail ddosbarthu. Mae hyn yn mynd ymlaen nes bod chwe sedd wedi eu llenwi. Gobeithio bod hynna'n hollol glir rwan blantos.

Bydd y system yma yn cael ei defnyddio ar gyfer ethol 108 AC mewn y deunaw etholaeth seneddol a bydd hefyd yn cael ei defnyddio i ethol cannoedd o gynghorwyr yn y 26 cyngor lleol. Fydd yna ddim son am beiriant yn y canolfannau pleidleisio, bydd pob pleidlais yn cael ei chyfri gyda llaw. Mae'r rhan fwyaf o actifyddion gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon yn bobl o gefndir dosbarth gweithiol - mi fydd yna gannoedd ohonyn nhw yn y canolfannau pleidleisio trwy ddydd Gwener ac mi fyddan nhw'n ymgodymu'n iawn efo'r broses cyfri heb fynd ar gyfyl peiriant na chyfrifiadur.

Felly pam na fedrwn ni ymgodymu efo trefn llawer symlach heb orfod gwario £250m ar beiriannau pleidleisio?

Sunday, April 10, 2011

Plaid Cymru a'r SNP i helpu pleidlais Ia yn y refferendwm AV?

Dyna mae politicalbetting.com yn ei awgrymu fodd bynnag.

Ymddengys bod cwmni polio Angus Reid wedi gofyn i gefnogwyr gwahanol bleidiau yng Nghymru a'r Alban sut y byddant yn pleidleisio yn y refferendwm AV, a bod mwyafrif sylweddol iawn o bleidleiswyr yr SNP a'r Blaid yn debygol o bleidleisio Ia.

Mae'r gyfradd pleidleisio yn y refferendwm yn debygol o fod yn uwch yn y ddwy wlad Geltaidd nag yn Lloegr oherwydd yr etholiadau Cynulliad a Senedd yr Alban ar yr un diwrnod.

Gyda'r refferendwm yn debygol o fod yn agos, byddai'n ddifyr petai pleidleisiau cenedlaetholwyr o'r ddwy wlad Geltaidd yn gwneud y gwahaniaeth rhwng canlyniad Ia a Na

Sunday, March 13, 2011

Gwynedd a'r refferendwm

Mae'n arfer gan bleidiau gwleidyddol gadw golwg go fanwl ar flychau pleidleisio fel maent yn cael eu gwagio, a phan fydd y pleidleisiau sydd ynddynt yn cael eu dosbarthu. Dyma'r ffordd orau o arenwi pa ardaloedd sydd fwyaf cefnogol i'r gwahanol bleidiau. Anaml iawn y bydd y wybodaeth yma'n cael ei ryddhau oherwydd ei fod yn wybodaeth sydd yn wleiddyddol sensitif. Mae refferendwm yn wahanol wrth gwrs - 'does yna ddim llawer o ddefnydd y gall pleidiau eraill eu wneud o ddeilliannau'r ymarferiad. Felly dyma beth gwybodaeth am natur y refferendwm yng Ngwynedd.

Rhanbarth Pleidlais Ia
Dinas Bangor 70%
Tref Caernarfon 81%
Dyffryn Ogwen 82%
Arfon Wledig 78%
Dwyfor 75%
Meirion 76%

O ran y bocsus unigol wna i ddim eu rhestru nhw i gyd - mae yna ormod ohonyn nhw - ond mi ro i rhyw flas i chi. Roedd 85% neu fwy o'r pleidleisiau efo croes wrth Ia yn y bocsus canlynol:

Rachub, Bethesda, Gerlan, Y Garth (Bangor), Golan, Tremadog, Pencaenewydd, Trefor, Llaniestyn, Botwnnog, Aberdaron, Corris, Y Bala, Ffestiniog, Canolfan y WI Blaenau, Aelwyd yr Urdd Blaenau, Llanuwchllyn, Y Bontnewydd, Penrhyndeudraeth, Rhyd y Main, Sarnau, Aberangell, Santes Helen (Caernarfon), Rhosgadfan, Llanwnda, Llandwrog, Penygroes, Llanllyfni.

Mae'r uchod yn debygol o fod ymysg y ffigyrau uchaf yng Nghymru wrth gwrs, gan i Wynedd bleidleisio'n drymach na'r unman arall tros roi pwerau deddfu i'r Cynulliad.

Roedd y canlynol yn 60% neu is:

Bronyfoel, Abersoch, Aberdyfi, Y Bermo, Dyffryn Ardudwy, Llwyngwril, Y Tywyn, Talsarnau, Bryncrug, Y Friog, Y Ganllwyd, Borthygest, Dinorwig.

Pleidleisiodd llai na 50% tros y cynnig yn Tywyn, Aberdyfi, Y Friog a Bronyfoel. Mae'n weddol amlwg o edrych ar y ddau restr bod perthynas agos rhwng maint y bleidlais Na a lefelau mewnfudiad. Mae'r bleidlais Ia hefyd yn drwm iawn mewn pentrefi chwarelyddol. O bosibl bydd ambell i gynghorydd Llais Gwynedd yn cael ychydig o amheuaeth ynglyn a doethineb eu penderfyniad i sefyll yn ol yn ystod yr ymgyrch o weld bod eu wardiau wedi pleidleisio Ia'n drwm iawn.

Dwi wedi rhoi lliw coch ar enwau'r ardaloedd lle roedd y samplau braidd yn rhy fach i fod yn gwbl ddibynadwy. Er bod sampl wedi ei gymryd o fwyafrif llethol y bocsus mae un neu ddau yn ddi sampl - gan gynnwys yr un sydd o fwyaf o ddiddordeb i mi. Os ydych eisiau gwybod y ganran am focs penodol gallwch adael neges ar dudalen sylwadau'r blogiad.

Paul Rawlinson sydd wedi bod yn gyfrifol am goledu a rhoi trefn ar yr holl wybodaeth gyda llaw - fedra i ddim meddwl am neb mwy effeithiol na Paul am wneud y math yma o waith.

Tuesday, March 08, 2011

A fydd y refferendwm yn effeithio ar ganlyniadau etholiadau'r Cynulliad?


Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod y polau wedi bod yn gyson tros yr ychydig fisoedd diwethaf gyda Llafur yn y pedwar degau cynnar, y Blaid a'r Toriaid yn y dau ddegau cynnar a'r Lib Dems ymhell o dan 10%. 'Does yna ddim pol Cymreig wedi ei ryddhau ers y refferendwm, felly 'dydan ni ddim mewn sefyllfa i farnu os oes newid o unrhyw fath wedi ei wneud i lefelau cefnogaeth y pleidiau yng Nghymru ers hynny.

Y prif gwestiwn sy'n codi o ffigyrau fel hyn ydi os bydd gan Lafur ddigon o seddi i lywodraethu ar ei liwt ei hun. Y cwestiynau eilradd ydi os mai'r Blaid ynteu'r Toriaid sy'n debygol o ddod yn ail, a pha mor isel y gallai'r gynrychiolaeth Lib Dem syrthio.

Serch hynny, gallai'r refferendwm yn hawdd effeithio ar sut bydd pobl yn pleidleisio ym mis Mai - digwyddodd hynny yn 1999, a Phlaid Cymru wnaeth elwa'r tro hwnnw - ac elwa'n sylweddol. Beth allai ddigwydd y tro hwn? Mae'n amhosibl dweud i sicrwydd wrth gwrs - ond hwyrach y byddai'n ddiddorol ceisio darogan sut effaith caiff Mawrth 3 ar Fai 5.

Y peth cyntaf i'w nodi ydi bod mwyafrif llethol pleidleiswyr y Toriaid, a mwyafrif llai o gefnogwyr y Lib Dems wedi pleidleisio Na ar Fawrth 3. Mae'n bosibl y bydd rhai o'u cefnogwyr yn pechu tros dro o leiaf oherwydd i'w pleidiau beidio a gwrthwynebu ymestyn datganoli. Gallai hyn fod o gymorth i bleidiau amgen sydd wedi gwrthwynebu mwy o ddatganoli - ac yn arbennig felly UKIP.

Gallai hynny yn ei dro niweidio'r Toriaid (a'r Lib Dems o bosibl). Mae yna beth tystiolaeth polio ar gael bod tua 6% o bleidleiswyr Toriaidd yn y DU yn edrych i gyfeiriad UKIP ar hyn o bryd. Roedd canlyniad is etholiad Barnsley yn dystiolaeth pellach bod symudiad o'r math yma yn digwydd. Gallai'r tueddiad yma fod yn gryfach yng Nghymru yn sgil y refferendwm. Yn eironig ddigon efallai mai prif effaith gogwydd oddi wrth y Toriaid tuag at UKIP fyddai amddifadu'r Lib Dems o nifer o'u seddi.

Mae'r rhan fwyaf o seddi'r Lib Dems o dan fygythiad beth bynnag, ond os byddant yn cael pleidlais is nag UKIP yn rhai o'r rhanbarthau, ni fydd ganddynt obaith o gwbl o ddal gafael ar eu seddi. Gallai hynny ddigwydd yn hawdd. Er enghraifft yn 2007 cafodd y Lib Dems 7.8% o'r bleidlais yn y Gogledd, cafodd y BNP 5.1% ac UKIP 4.1%. Mae cefnogaeth y Lib Dems wedi efallai haneru tros Gymru ers hynny, ac os byddai hynny yn cael ei adlewyrchu yn y Gogledd byddai'r cwymp yn unig yn debygol o'u gwthio oddi tan y BNP ac UKIP - heb gymryd i ystyriaeth twf posibl yng nghefnogaeth y pleidiau hynny. 'Dwi'n disgwyl i UKIP wneud yn llawer gwell na'r BNP y tro hwn - mae'r BNP yn tueddu i elwa pan mae Llafur yn amhoblogaidd.

Mae'n anhebygol y bydd refferendwm digon technegol ei natur yn rhoi cymaint o wynt yn hwyliau'r Blaid na ddigwyddodd yn dilyn y refferendwm diwethaf - ond mae'r ymdeimlad cadarnhaol tuag at Gymru a'i strwythurau gwleidyddol sydd wedi ei greu tros y dyddiau diwethaf yn sicr o fod o gryn gymorth. Gallai'n hawdd sicrhau bod y Blaid yn ail clir - a gallai hefyd wneud y gwahaniaeth rhwng bod mewn clymblaid a pheidio a bod mewn un. Byddai curo Llafur mewn etholaethau megis Aberconwy a Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn mynd cryn dipyn o'r ffordd tuag at wireddu hynny.

'Dwi ddim yn siwr faint o effaith gaiff y canlyniad ar bleidlais Llafur - mae'n anodd barnu. Mae'n anodd dychmygu y bydd y canlyniad o gymorth iddynt ddenu pleidleisiau o gyfeiriad Plaid Cymru, a 'dydi o ddim yn glir i mi sut y byddai o gymorth iddynt ddenu fawr neb gan y pleidiau eraill chwaith. Efallai mai eu prif obaith nhw ydi y bydd proffeil uchel diweddar Carwyn Jones yn ei gwneud yn haws iddynt gael eu pleidlais eu hunain allan.

Felly efallai - efallai - mai prif effeithiadau gwleidyddol y dyddiau diwethaf fydd cryfhau sefyllfa Plaid Cymru, gwanio'r Toriaid rhyw gymaint a'i gwneud yn fwy tebygol y bydd UKIP yn gwneud yn well na'r Lib Dems - fel y gwnaethant yn etholiadau Ewrop yn 2009.

Cawn weld.

Saturday, March 05, 2011

Pa mor gyfrifol oedd ymdriniaeth y Bib o'r refferendwm?

Dwy gwyn sydd gen i yn y bon, ac maen nhw wedi eu cyfeirio at y Bib yn benodol - er bod gweddill y cyfryngau hefyd yn euog i raddau llai. Gan mai'r Bib ydi prif ffynhonnell newyddion mwyafrif llethol pobl Cymru, a chan bod y sefydliad yn cael ei ariannu o adnoddau cyhoeddus, mae eu cyfrifoldeb am wneud smonach yn fwy nag ydi cyfrifoldeb neb arall.

Mae'r gyntaf yn ymwneud a'r sylw yn ystod yr ymgyrch i'r nifer fyddai'n debygol o bleidleisio. Rwan 'dwi'n gwybod bod rhaid i sylwebwyr proffesiynol adrodd ar bethau fel maent yn eu gweld - ond a oedd rhaid gwneud sylw ynglyn a'r tebygrwydd o gyfradd pleidleisio isel ym mhob adroddiad ar y refferendwm? Roedd y refferendwm wedi ei diffinio gan y cyfryngau fel un lle na fyddai llawer o bobl yn pleidleisio ynddi o'r dechrau'n deg - yr etholiad honno na fydd neb yn pleidleisio ynddi oedd hi i lawer o bobl. Roedd hynny yn ei dro yn cael ei adlewyrchu ar y diwrnod. Self fulfilling prophecy ydi'r term Saesneg 'dwi'n meddwl.

Mae'r ail fater yn un sydd braidd yn ddelicet a dweud y gwir - ansawdd deallusrwydd y sawl oedd yn cael siarad gan y Bib ar ran yr ymgyrch Na - yn arbennig yn y Gymraeg (er bod peth o'r feirniadaeth yma'n wir am y darlledu cyfrwng Saesneg hefyd).

'Dwi'n siwr bod perfformiadau Billy Hughes ac Eric Howells wedi gwneud byd o les i'r ymgyrch Ia ymhlith Cymry Cymraeg. 'Dwi'n cymryd y bydd astudiaeth academaidd yn cael ei chynnal o sut wnaeth gwahanol gydrannau'r boblogaeth yng Nghymru bleidleisio - ac y bydd yn cael i ganran uchel iawn - 80% efallai - o Gymry Cymraeg wedi pleidleisio Ia. Bydd rhan - bach efallai, ond arwyddocaol - o hynny i'w briodoli i'r ffaith bod y Bib wedi caniatau i'r ddau hen gojar yma ailadrodd eu rhagfarnau personol trosodd a throsodd a throsodd, a gwneud hynny yn annibynnol o unrhyw gwestiwn a ofynwyd iddynt, ac yn aml yn annibynnol o strwythur y rhaglenni roeddynt yn cymryd rhan ynddynt.

Mae yna hefyd fater o ddyletswydd gofalaeth y gorfforaeth tuag at y sawl sy'n ymddangos ar eu rhaglenni. A bod yn blaen, roedd yn amlwg o'u hymddangosiadau cyntaf bod y ddau yn gwneud eu hunain yn destun sbort cyffredinol - yn arbennig pan roeddynt yn cael eu gosod yn erbyn gwleidyddion proffesiynol oedd yn mynd ati i'w datgymalu yn ddi drugaredd. Roedd yn anghyfrifol, ac yn anheg efo Bill ac Eric i ganiatau i'r pantomeim anymunol yma fynd rhagddo am wythnosau, Roedd yr holl ymarferiad yn greulon tuag at ddau ddyn mewn oed, roedd yn anheg a'r sawl oedd yn gorfod dadlau yn eu herbyn, roedd yn di raddio'r ddadl ehangach, ac roedd yn dangos diffyg parch tuag at wylwyr Cymraeg eu hiaith.

Mae dyn yn deall nad oedd pethau'n hawdd i'r Bib, roedd yr ymgyrch Na ar chwal ac ychydig o Gymry Cymraeg oedd eisiau cysylltu eu hunain a'r ymgyrch honno. Ond mae'r Bib yn gorfforaeth fawr sydd ag iddi adnoddau sylweddol iawn. Gellid bod wedi dod o hyd i ffyrdd o osgoi'r embaras erchyll a gyflwynwyd ger ein bron. Nid er mwyn gweld y math yma o ffwlbri gwirion mae'r sawl yn ein ein plith sy'n dal i dalu am ein trwyddedau teledu yn gwneud hynny.

Sibrwd egwan dros Gymru?

Dwi'n siwr y bydd rhai o ddarllenwyr blogmenai yn cofio i mi ofyn trwy gyfrwng y blog i Lais Gwynedd wneud datganiad di amwys yn cynghori eu cefnogwyr i bleidleisio tros roi pwerau deddfu i'r Cynulliad yn refferendwm dydd Iau. 'Dwi ddim yn ymwybodol i'r grwp (yn dorfol o leiaf) wneud datganiad o unrhyw fath ar y mater.


'Dydi hynny ddim yn golygu na wnaeth neb godi bys wrth gwrs - 'dwi'n gwybod i'r Cynghorydd Endaf Cook roi ei enw ar waelod llythyr i'r wasg gyda chynrychiolwyr lleol nifer o bleidiau eraill yn cefnogi'r ymgyrch Ia. 'Dwi hefyd yn gwybod i'r Cynghorydd Owain Williams fynegi'r farn y dylai pobl bleidleisio Ia mewn llythyr i'r wasg oedd yn ymwneud yn bennaf a mater arall, ac rydym eisoes wedi edrych ar gefnogaeth lugoer y Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones ar ei flog. 'Dwi ddim am fod yn grintachlyd, mae help o unrhyw fath yn well na dim - felly diolch i'r tri ohonyn nhw am ddangos ochr. 'Dwi hefyd yn gwybod i nifer o'u cynghorwyr godi llaw i bleidleisio tros gynnig i gefnogi'r ymgyrch Ia mewn pleidlais unfrydol bron gan Gyngor Sir Gwynedd.

Gyda 76% o bobl yn pleidleisio Ia, Gwynedd oedd y sir a bleidleisiodd gryfaf tros roi mwy o bwerau i'r Cynulliad. Roedd cryn dipyn o waith caled ar lawr gwlad y tu ol i'r bleidlais. Yma yn Arfon - yng ngogledd ddwyrain y sir, pwyllgor cyd lynnu traws bleidiol o dan gadeiryddiaeth Paul Rawlinson a pheiriannau etholiadol Plaid Cymru a'r Blaid Lafur a wnaeth y gwaith caib a rhaw - ac roedd yna waith sylweddol wedi ei wneud. Hyd y gwn i 'doedd yna ddim cyfraniad o gyfeiriad Llais Gwynedd ag eithrio'r hyn a nodwyd uchod.

Rwan, fel awgrymais 'dwi'n llawer mwy cyfarwydd a gwleidyddiaeth gogledd ddwyrain Gwynedd nag ydw i a gwleidyddiaeth y de a'r gorllewin. Efallai bod yna fwy o ymdrech wedi ei gwneud gan Lais Gwynedd yn rhywle neu'i gilydd - ond 'dydw i ddim wedi dod ar draws unrhyw dystiolaeth o weithgarwch felly. Os ydi rhywun yn cael cam gennyf ac wedi bod wrthi fel lladd nadroedd yn ymgyrchu tros yr ymgyrch Ia, mae croeso iddo / iddi roi'r manylion ar dudalen sylwadau'r blogiad yma.

Roedd llais pobl Gwynedd yn gryf a di amwys ddydd Iau - Ia tros Gymru. Hyd y gwelaf i ychydig iawn o fynegiant i'r llais hwnnw a gafwyd gan y grwp sy'n galw ei hun yn Llais Gwynedd. Roeddynt ymhell, bell o flaen y gad mae gen i ofn.

Friday, March 04, 2011

Mae pob dim yn mynd i'r Sowth _ _ _

_ _ _ neu dyna ydi naratif gwrth ddatganolwyr ac elfennau gwrth Gymreig eraill yn y Gogledd beth bynnag.

Tybed felly beth fydd y cyfryw gyfeillion yn ei wneud o'r gogwydd anferth tuag at yr ochr Ia ar hyd a lled y Gogledd? Yn wir mae'r llif tuag at ddatganoli yma'n gryfach nag yw mewn unrhyw ranbarth arall o Gymru - ac yn anhygoel mae canran uwch o bobl dwy sir y Gogledd Ddwyrain - Wrecsam a Fflint - wedi pleidleisio Ia nag o drigolion Caerdydd - ac hynny er gwaetha'r buddsoddiad cyhoeddus a phreifat anferthol sydd wedi llifo i'r brif ddinas ers i'r Cynulliad gael ei sefydlu yno.

Rhyfedd o fyd.

Graffiau True Wales

Roeddwn yn rhyw feddwl y byddai rwan yn amser da i dynnu sylw at y gyfres o bolau piniwn a gyhoeddwyd gan True Wales yn yr wythnosau cyn yr ymgyrch. Mae'n amlwg nad ydyn nhw'n dda iawn efo methodoleg polio a 'ballu. Wedi'r cwbl, go brin y byddai neb yn creu polau celwyddog yn fwriadol - hyd yn oed True Wales. Gobeithio.


Bari a'r Bontfaen:




Aberhonddu:


Aberteleri:



Caerfyrddin:



Merthyr a Rhymni:


Glas: Diddymu'r Cynulliad.

Gwyrdd: Cadw at yr hen drefn.

Melyn: Mwy o bwerau i'r Cynulliad.

Coch: Annibyniaeth i Gymru.

Piws: Ddim yn gwybod.

P'nawn da_ _ _

_ _ _ ac mae hi'n bnawn da yma yng Nghymru _ _



Pleidleisiau Sir Gaerfyrddin - Ia ar y dde, Na ar y chwith.

Thursday, March 03, 2011

Diwrnod y refferendwm

Wel - dyna fy refferendwm i drosodd o leiaf. Fel nifer dda o aelodau eraill cangen y Blaid yng Nghaernarfon 'dwi wedi bod wrthi ar y ffon trwy gyda'r nos yn ceisio sicrhau bod ein cefnogwyr yn y dref yn mynd allan i fwrw eu pleidlais.

Am yr hyn mae'r wybodaeth yma ei werth - 'dydi Caernarfon ddim yn nodweddiadol o'r rhan fwyaf o Gymru - roedd y gyfradd a aeth allan i bleidleisio yn isel, ond 'dwi'n eithaf sicr i drwch cefnogaeth y Blaid yma bleidleisio. Beth bynnag, cawn weld i sicrwydd 'fory.

Mae'r blog yma wedi bod mewn sefyllfa yn y gorffennol i ddatgan canlyniadau gwahanol etholiadau ymhell cyn iddynt gael eu datgan yn swyddogol, ac ymhell cyn i'r cyfryngau prif lif eu datgan. Yn anffodus mae'r cyfri yn ystod y dydd y tro hwn, ac mi fyddaf wrth fy ngwaith ac allan o gysylltiad efo gwleidyddiaeth, etholiadau a phob dim arall bron yn ystod y cyfri. Fodd bynnag mi gaiff y Mrs ei gadael yn gyfrifol am y blog - am y tro cyntaf erioed - ac mi gawn ni weld os ydi hi cystal a mi am chwilota am wybodaeth etholiadol.

Wednesday, March 02, 2011

Daeth yr awr _ _ _

Polau piniwn rif y gwlith

Roeddwn braidd yn flin efo fi fy hun y diwrnod o'r blaen - wedi aros cyhyd am bol piniwn ynglyn a'r refferendwm, cefais neges destun gyda chanlyniad pol piniwn YouGov ar gyfer Y Byd ar Bedwar ychydig oriau cyn y rhaglen - ond roedd y ffon mewn cot o dan y grisiau - felly collais y cyfle i ddatgelu'r canfyddiadau ymhell cyn i'r rhaglen wneud hynny. Felly dyna gyfle euraidd wedi ei golli.

Hwyrach na chaf gyfle eto - mae cynnwys y pol sydd i'w rhyddhau heno eisoes wedi eu ymddangos ar y We - ac mae cynnwys un arall sydd i'w ryddhau heno eisoes ar y We ac yn y Western Mail. Mae'r ddau yn cadarnhau canfyddiadau pol dydd Llun - y bydd tua dau draean o'r etholwyr yn fotio Ia.

Mae pol y Western Mail yn hynod ddiddorol - mae'n awgrymu bod mwyafrif pobl Cymru eisiau mwy o lawer o rym na sy'n cael ei gynnig yn refferendwm 'fory - grymoedd tros drethiant a'r gyfundrefn cyfiawnder er enghraifft. Hwyrach bod refferendwm neu ddau arall o'n blaenau yn y dyfodol agos - Dduw a'n gwaredo.

Tuesday, March 01, 2011

True Wales yn lladd ar bawb

Rydym eisoes wedi trafod arfer anymunol True Wales o ymosod ar bawb sy'n meiddio mynegi safbwyntiau sy'n groes i'w rhagfarnau nhw a phriodoli'r farn honno i rhyw gymhelliad hunanol neu'i gilydd - chwaraewyr rygbi, actorion, gwleidyddion proffesiynol, pobl maent yn eu hystyried yn gyfoethog, papurau newydd ac ati.

Y cyfryngau sy'n ei chael hi ar hyn o bryd - am fod yn anghwrtais (yn anhygoel ag ystyried mai anghwrteisi tuag at wrthwynebwyr ydi un o brif nodweddion ymgyrchu True Wales), a'r Eglwys Babyddol am wneud sylwadau amhriodol - hynny yw rhai nad ydynt yn cyd fynd a naratif boncyrs True Wales ynglyn a'r Cynulliad.

Ymddengys nad ydi'r cysyniad ei bod yn bosibl i unigolion a sefydliadau fod a syniadau didwyll ynglyn a'r ffordd orau o lywodraethu Cymru wedi treiddio i ymwybyddiaeth True Wales eto. Mae'r lefel yma o hunan dwyllo yn atgoffa dyn o gred Bill Hughes na all pol piniwn nad yw'n hoffi ei ganlyniad fod yn gywir os nad ydi Bill ei hun wedi cael ei holi ar gyfer y pol hwnnw.

Monday, February 28, 2011

Ydi'r Lib Dems eisiau i ni bleidleisio Ia?

Un o fanteision mawr byw yng Nghaernarfon ydi'r ffaith nad ydym yn cael ein boddi mewn pamffledi 'Ffocws' y Lib Dems fel trigolion anffodus Canol Caerdydd neu Aberystwyth er enghraifft. Beth bynnag, am unwaith mae yna bamffled yn cael ei ddosbarthu yn canu clodydd eu hymgeisydd ar gyfer etholiadau'r Cynulliad, Rhys Jones.

'Rwan mae'n ddigon naturiol i Rhys rannu ei bamffledi - dyna fydd pobl yn ei wneud pan bod etholiad ar y gorwel. Ond, ag ystyried bod refferendwm yn cael ei gynnal mewn tri diwrnod, ac ag ystyried mor bitw ydi ymdrech y Lib Dems ar lawr gwlad wedi bod i gefnogi'r ymgyrch hyd yn hyn(mae yna ambell i eithriad anrhydeddus), mi fyddai wedi bod yn braf cael rhyw air neu ddau yn argymell i bobl bleidleisio 'Ia'. Ond na, dim gair, dim sill.

Tybed os ydi Rhys o blaid rhoi pwerau deddfu i'r Cynulliad? A barnu oddi wrth ei bamffled does ganddo fo ddim barn ar y mater.

"Amaturiaid" yw Aelodau'r Cynulliad

Dyna'r rheswm mae cynghorwyr ac actifyddion Toriaidd Prestatyn yn ei roi i unrhyw un sy'n dod ar eu traws wrth iddynt rannu taflenni gwrth ddatganoli, tros bleidleisio Na ddydd Iau.

Mi fydd hyd yn oed y gwirionaf wedi rhyw sylwi mai San Steffan ac nid y Cynulliad oedd ddigon amaturaidd i'n cael ni mewn rhyfel anghyfreithlon a arweiniodd at 100,000+ o farwolaethau oherwydd WMDs dychmygol, mai San Steffan luchiodd £800bn o gyllid y wladwriaeth tuag at fanciau yr oeddynt hwy eu hunain wedi methu eu rheoleiddio yn briodol, ac mai aelodau seneddol y sefydliad hwnnw a dreuliodd y rhan fwyaf o 2009 mewn cywilydd a gwarth oherwydd eu bod yn cymryd mantais o system dreuliau chwedlonol o aneffeithiol oedd wedi ei greu ganddyn nhw eu hunain.

Ond a gadael hynny o'r neilltu am eiliad neu ddwy, onid ydi'n ddifyr deall beth ydi gwir farn Toriaid llawr gwlad am Nick Bourne, David Melding ac ati?

Friday, February 25, 2011

Y rhagolygon ar gyfer dydd Iau

Mae Vaughan yn awgrymu bod pob dim drosodd, ag eithrio'r cyfri a'r myllio, tra bod y wefan politicalbetting.com yn meddwl y bydd pethau'n nes o lawer na mae pobl yn meddwl - gyda phleidlais o 55% Ia, 45% Na. Mae gan y cyfeillion yn politicalbetting.com hanes o gael llawer mwy o bethau'n gywir nag ydynt yn ei gael yn anghywir. 'Does yna ddim son am bol piniwn ar y mater - hyd yn oed pol misol ITV / You Gov.

Y rhesymeg mae politicalbetting.com yn ei ddefnyddio tros honni y bydd pethau'n nes na mae llawer yn ei ddisgwyl ydi bod pobl - pan mae'n dod iddi - yn tueddu i fynd am y status quo mewn refferendwm. Mae yna wirionedd yn hyn, ac mae yna le i gredu bod elfennau mwy deallus yr ymgyrch Na (Rachel Banner a bod yn fanwl gywir) wedi deall hynny yn gynnar ac wedi ceisio sicrhau bod ffocws eu hymgyrch wedi ei gyfeirio yn erbyn y diffyg craffu o San Steffan yn hytrach nag yn erbyn y cysyniad o ddatganoli ei hun.

Serch hynny, mae'n ymddangos bod Rachel yn torri cwys digon unig bellach. Ymysodiad ar ddatganoli ei hun oedd perfformiad Bill Hughes ac Eric Howells ar Pawb a'i Farn y noson o'r blaen, ymysodiad felly ydi cenhadaeth gwefan Len Gibbs, ac er i Nigel Bull ar Dragon's Eye neithiwr lwyddo - jyst - i beidio a galw am ddiddymu'r Cynulliad, dyna beth oedd unig neges y cyfranwr arall o'r ochr Na, Anthony Tanner.

Mae'n hanfodol mewn unrhyw ymgyrch i lefarwyr ar ran yr ymgyrch honno gyflwyno neges gyson. Mae hynny hyd yn oed yn fwy gwir mewn ymgyrch sydd i bob pwrpas ond yn cael ei chynnal trwy'r cyfryngau torfol - ychydig iawn mae'r ochr Na yn ei wneud ar lawr gwlad.

'Does yna ddim neges gyson gann yr ymgyrch Na - mae negeseuon croes i'w gilydd yn cael eu cyflwyno yn aml ar union yr un pryd. Ceir apeli i boblbleidleisio tros gadw'r status quo tra ar yr un gwynt ag ymosodiad ar y status quo. Yn yr ystyr yna mae'r ymgyrch Na yn gyfangwbl dysfunctional, chwedl y Sais.

Dyna pam 'dwi'n tueddu i ogwyddo tuag at awgrym Vaughan y bydd buddugoliaeth yr ochr Ia yn un swmpus ddydd Iau nesaf. Mae'r ymgyrch Na ar chwal.

Thursday, February 24, 2011

Pawb a'i Farn

Diolch i Hogyn o Rachub am dynnu fy sylw at y rhaglen yma - rhaglen sydd ar brydiau yn wirioneddol ddigri.

Diolch hefyd i Dafydd Wigley, Jane Wyn, Eric Howells a Bill Hughes am wneud joban mor dda ar gyflwyno'r achos tros bleidleisio Ia wythnos i heddiw.

Monday, February 21, 2011

Llais Gwynedd, etholiadau'r Cynulliad a'r refferendwm

Mae'r blog yma wedi darogan yn y gorffennol mai Seimon Glyn fydd ymgeisydd Llais Gwynedd ym Meirion Dwyfor yn etholiadau'r Cynulliad eleni, ond 'does yna ddim datganiad o unrhyw fath wedi ei ryddhau hyd yn hyn - er ei bod yn hwyr glas, mi fydd yr etholiad ar Fai 5.

Beth bynnag, y sibrydion diweddaraf ydi bod datganiad ar fin cael ei wneud mai'r Cynghorydd Louise Hughes fydd eu hymgeisydd yn yr etholaeth. Bydd rhai ohonoch yn cofio i Louise sefyll yn annibynnol yn etholiadau San Steffan - a cholli ei hernes.

Ar nodyn ychydig yn wahanol mae'n ddiddorol nodi nad ydi Llais Gwynedd wedi mynegi eu safbwynt ynglyn a'r refferendwm sydd i'w gynnal ar Fawrth y trydydd eto. Tra nad ydwyf yn ymwybodol i'r un o aelodau Llais ddatgan eu bod yn erbyn rhoi pwerau deddfu i'r Cynulliad, mae un wedi datgan ei gefnogaeth yn y modd mwyaf llugoer posibl, tra bod un arall wedi defnyddio peth o naratif True Wales wrth ofyn cwestiwn mewn rhaglen deledu holi ac ateb yn ddiweddar.

'Dwi'n gwybod bod rhai o gynghorwyr Llais Gwynedd yn darllen y blog yma'n rheolaidd - felly dyma gais gan flogmenai i Lais Gwynedd - gwnewch ddatganiad swyddogol yn gofyn i'ch cefnogwyr bleidleisio Ia ar Fawrth 3 plis.

'Dydi hynny ddim yn ormod i'w ofyn siawns?

Saturday, February 19, 2011

Penwythnos prysur i Roger Lewis

Bydd cadeirydd yr ymgyrch Ia, Roger Lewis yn ymweld a'r Gogledd a'r Gorllewin tros y penwythnos gan ymgyrchu yn Saltney ar y ffin, Wrecsam, Rhuthun, Llandudno, Llangefni, Caernarfon, Porthmadog, Machynlleth ac Aberystwyth.

Roedd y ffair stryd yng Nghaernarfon yn un digon llwyddiannus beth bynnag, gyda tua ugain o bobl yn cymryd rhan - oedd yn nifer dda ag ystyried bod yr actifyddion Llafur lleol yn mynychu eu jambori yn Llandudno.

Roger Lewis yn siarad efo'r Cynghorydd Charles Jones, Llanrug. Gallwn gymryd nad oedd yna fawr o waith perswadio iddo yn yr achos yma.

Tuesday, February 15, 2011

True Wales yn pardduo Shane Williams, Alun Wyn Jones, Mike Phillips a Robin McBride

Yn ol Golwg360 'dydi True Wales ddim yn rhy hapus oherwydd i'r chwaraewyr rygbi Shane Williams, Alun Wyn Jones, Mike Phillips a Robin McBride ddatgan eu bod yn credu y dylai pobl bleidleisio tros ganiatau i'r Cynulliad ddeddfu ar faterion mae'n gyfrifol amdanynt.

Yn ol eu harfer, ymateb trwy bardduo mae True Wales - yn yr achos yma trwy awgrymu bod gan y pedwar gymhelliad ariannol tros fynegi eu barn. Eto, fel arfer, mae'n anodd deall yn iawn beth ydi eu dadl, ond mae'n debyg eu bod yn awgrymu bod cysylltiad rhwng barn y pedwar a grant o £1.7 mae'r WRU wedi ei dderbyn gan y Cynulliad tuag at brynu sgriniau i'w gosod yn Stadiwm y Mileniwm ar gyfer y Gemau Olympaidd.

Fel llawer o'r hyn sy'n cael ei gyflwyno ger ein bron gan True Wales mae'r ddadl yn chwerthinllyd os ydym yn meddwl amdani am fwy nag ychydig eiliadau. Ydyn nhw o ddifri yn awgrymu bod y pedwar yn fodlon ymddwyn mewn modd llwgr er mwyn cael offer telegyfathrebu yn rhad i'r stadiwm genedlaethol? Ydyn nhw'n honni o ddifri na ddylai neb sy'n gysylltiedig ag un o'r 293 clwb rygbi, neu un o'r pedwar tim rhanbarthol mae'r WRU yn gyfrifol amdanyn nhw fynegi barn am y mater gwleidyddol cyfredol pwysicaf, oherwydd i'r corff hwnnw dderbyn grant gan y Cynulliad i brynu dau sgrin?

Rydym eisoes wedi nodi bod True Wales yn cael anhawster delio efo'r cysyniad y gallai papur newydd fynegi barn sy'n groes i'w un nhw eu hunain. Ymgais i sgubo'r ddadl o dan y carped oedd eu penderfyniad bisar i beidio a chofrestru fel ymgyrch. Dylid edrych ar y nadu diweddaraf yn y cyd destun yma - 'dydi True Wales ddim yn hoffi gweld democratiaith ar waith - dydyn nhw ddim yn hoffi gweld unigolion a sefydliadau yn mynegi barn sy'n groes i'w barn nhw, dydyn nhw ddim yn hapus gweld dadl ddemocrataidd yn cael ei chynnal ar y cyfryngau. Yn wir maent yn fodlon bwlio a phardduo er mwyn ceisio rhoi taw ar bobl sydd eisiau cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.

Petai Blogmenai mor hysteraidd a True Wales, mae'n debyg y byddwn yn ei ddisgrifio fel mudiad ag iddo dueddiadau neo ffasgaidd.