Showing posts with label Elfyn Llwyd. Show all posts
Showing posts with label Elfyn Llwyd. Show all posts

Monday, April 26, 2010

Brolio ei fod wedi ei cholli hi

Diddorol gweld bod Guto yn brolio iddo gael y myll ar Hawl i Holi nos Wener.

Ymateb yn weddol hysteraidd wnaeth Guto ar Pawb a'i Farn, i'r ffaith bod Elfyn Llwyd wedi tynnu sylw at gelwydd yn ei ohebiaeth etholiadol, trwy wrthod ymateb a chodi'r pwynt hollol amherthnasol bod Elfyn wedi hawlio costau am ei fwyd yn San Steffan - rhywbeth roedd llawer o Aelodau Seneddol Toriaidd (a'r pleidiau eraill) wedi ei wneud wrth gwrs.

Rwan mae gwrando ar Dori yn cega am dreuliau braidd fel gwrando ar Fred West yn cwyno bod yna ormod o dor cyfraith. Roedd sylwadau Guto yn gyfle gwych i Elfyn son am y ffosydd o gwmpas y stadau, yr ynysoedd hwyaid, fflipio tai di ddiwedd Stephen Crabb, Nick Bourne yn cael y trethdalwr i drwsio ei ystafell molchi, i pod Alun Cairns, a bwyd ci Cheryll Gillan ac ati, ac ati, ac ati.

Mae'n anffodus bod Elfyn yn rhy anrhydeddus i gicio'r bel i mewn i'r gol agored.

Saturday, May 23, 2009

Y Daily Post a Lwfansau Plaid Cymru

Mae Dail y Post yn poeni'n arw bod yr hen Plaid Cymru ddrwg 'na wedi gorfodi trethdalwyr sy'n pleidleisio i'r Blaid Lafur i dalu swm anferthol o £4,500 tuag at uwch gyhuddo'r cyn brif weinidog diarhebol o gelwyddog Mr Tony Blair.



Yr hyn sydd ganddynt ydi bod y tri aelod seneddol Plaid Cymru wedi defnyddio rhan o'u lwfansau cadw swyddfa ac ati i dalu am gyngor cyfreithiol ynglyn a'r posibilrwydd o uwch gyhuddo Blair. Mae'r defnydd yma o bres y trethdalwr yn cymaint o stwmp ar stumog y Daily Post, maent wedi mynd ati i greu stori tudalen flaen o'r mater.

Am rhyw reswm 'dydi'r stori ddim yn nodi mai cost y rhyfel hwnnw i drethdalwyr Unol Daleithiau'r America oedd $1,600,000,000,000,000,000, na bod 4,296 o'r dywydiedig drethdalwyr wedi eu lladd yn y rhyfel (heb son am y 110,600 o Iraciaid a laddwyd wrth gwrs).Yn ffodus roedd pethau'n rhatach ym Mhrydain - 179 o farwolaethau milwrol yn unig a chost i'r trethdalwr o £5,300,000,000, ond 'dydi'r Post ddim yn son am hynny chwaith.

Y prif reswm bod Prydain wedi cymryd rhan yn yr ymarferiad gorffwyll o ddrud (yn ariannol ac o ran y bywydau pobl) yma ydi bod y llywodraeth Lafur wedi rhaffu un celwydd ar ol y llall er mwyn creu argraff bod bygythiad o gyfeiriad Irac.

Fedra i ddim honni mai'r grwp atgas o bapurau mae'r Daily Post yn perthyn iddo - Trinity Mirror - oedd y mwyaf euog o bell ffordd o bedlera propoganda Blair yn y misoedd cyn y rhyfel. Serch hynny, pe byddai'r wasg - Trinity Mirror yn gynwysiedig - ar y pryd heb fod mor bathetig o grediniol o gelwydd gwleidyddion, hwyrach na fyddai'r trethdalwr wedi orfod dod o hyd i biliwn ar ol biliwn o bunnoedd i dalu am antur oedd wedi ei chyfiawnhau gan llond trol o gelwydd.

Friday, July 04, 2008

Y llywyddiaeth - etholiad di angen

Mae nifer wedi holi pam bod Elfyn Llwyd yn sefyll yn erbyn Dafydd Iwan. Dim ond Elfyn sy'n gwybod i sicrwydd wrth gwrs - ond mi geisiaf fy mymryn barn i ar y pwnc.

Efallai mai'r lle i gychwyn ydi gydag ymarferiad trychinebus yr hen Gyngor Gwynedd ar 'ymgynghori' ynglyn ag ail strwythuro ysgolion cynradd y sir. Fy unig brofiad personol i o'r broses hon oedd mynychu'r cyfarfodydd 'ymgynghori yn nalgylch Ysgol Glan y Mor. Cynhalwyd nifer o gyfarfodydd gyda llywodraethwyr ysgolion, ond byddai'r fformat yr un peth pob tro:

Cam 1: Biwrocrat nad oedd neb ond yr athrawon yn y gynulleidfa yn ei adnabod yn sefyll i egluro, gan ddefnyddio jargon proffesiynol oedd prin yn ddealldadwy i lawer o'i gynulleidfa, pam nad oedd yn gynaladwy i gynnal ysgol annibynnol yn eu pentref nhw.
Cam 2: Llywodraethwyr yn dadlau, weithiau'n ffyrnig, efo'r biwrocrat eu bod am gynnal eu sefydliadau i'r dyfodol.
Cam 3: Cynghorwyr Plaid Cymru yn codi i ddweud eu bod yn cytuno efo'r biwrocratiaid ac nid efo'u hetholwyr.

Byddai'r gynulleidfa yn bennaf yn llywodraethwyr - Cymry Cymraeg parchus sy'n ysgwyddo pob dyletswydd di ddiolch yn eu cymunedau - halen y ddaear ac asgwrn cefn cefnogaeth y Blaid.

Rwan mae'r blog yma wedi dadlau droeon mai prif apel y Blaid yn y Wynedd wledig oedd y ffaith bod yr etholwyr yn ei hystyried yn blaid leol oedd yn amddiffyn buddiannau lleol yn erbyn bygythiadau o'r tu allan.

Os ydi'r canfyddiad hwn yn gywir - a 'dwi mor siwr ag ydwyf o unrhyw beth mewn gwleidyddiaeth ei fod - mae'n anodd dychmygu unrhyw ymarferiad mwy distrywgar i'r Blaid yn etholiadol na'r un a ddisgrifwyd uchod. Ac wedyn - yn y diwedd - anwybyddwyd yr holl broses ymgynghori, ac aethwyd ati i greu cynllun llawer mwy pellgyrhaeddol nag unrhyw beth a drafodwyd yn yr 'ymgynghoriad'.

Mae'n anodd meddwl am unrhyw ffordd mwy effeithiol o ddifa cefnogaeth y Blaid yn rhai o'i chadarnleoedd traddodiadol. Llwyddodd yr 'ymgynghoriad' ail strwythuro i wneud rhywbeth na lwyddodd yr un blaid Brydeinig na'r cyfryngau torfol Seisnig i'w wneud mewn deg mlynedd ar hugain - niweidio'n sylweddol gefnogaeth etholiadol y Blaid yn Ne a Gorllewin Gwynedd. Mi fydda i'n deffro yng nghanol y nos yn fynych yn chwys trostof yn cofio'r ymarferiadau, ac yn cofio ffyrnigrwydd ymateb pobl yr oeddwn i wedi eu hystyried yn genedletholwyr rhonc tuag at y Blaid pan oeddynt yn siarad yn breifat. Ac yn waeth na ffyrnigrwydd mae siom wrth gwrs - siom pobl yn y Blaid oedd y peth mwyaf dirdynol i mi. Cyn yr etholiadau diweddar roedd pob un o saith cynghorydd ardal dalgylch Glan y Mor yn Bleidwyr. Un sydd ar ol heddiw.

Mae Elfyn yn deall hyn yn dda - ac mae'n deall y perygl sydd i'r Blaid ym Meirion Dwyfor (mae Arfon yn fater hollol gwahanol - ond testun blog arall ydi hynny). Ymarferiad sydd yn ceisio ail leoli'r Blaid yn ei thir traddodiadol - ac ail leoli Elfyn cyn belled a phosibl oddi wrth Dafydd Iwan sydd ar waith yma. mae'n ddealladwy - ond yn ddi angen - ac (a benthyg idiom Saesneg) yn methu'r pwynt.

Ond nid dyma'r ffordd o fynd ati. Y ffordd o ad leoli'r Blaid yn ei thirwedd gwleidyddol traddodiadol ydi trwy deilwra polisi cenedlaethol - ac yn bwysicach bolisi lleol. Nid y llywyddiaeth ydi'r mater creiddiol - polisi ydi'r broblem - a polisi ydi'r ateb. Mae arweinyddiaeth newydd y Blaid yng Ngwynedd wedi cymryd camau breision i'r cyfeiriad cywir.

Swydd gyfyng iawn ydi un y llywydd - ysbrydoli aelodau'r Blaid - hynny yw cyfathrebu mewnol mewn cyfrwng sydd ond yn ddealladwy i Bleidwyr. Dyma forte Dafydd. Mae'n dda iawn am apelio at genedlaetholwyr, ac yn wir diffinio cenedlaetholdeb cenedlaetholwyr iddyn nhw eu hunain. Dydi o ddim cystal am lunio polisi sydd ag apel y tu hwnt i'r Blaid - ond nid dyna hyd a lled y swydd.

Dyna pam y byddaf, yn ol pob tebyg yn pleidleisio i Dafydd yn yr etholiad am y llywyddiaeth ('dwi'n siwr bod hyn yn gryn sioc i Dafydd gan nad yw yn ol yr hyn a ddeallaf yn un o edmygwyr y blog hwn).

Mae'r etholiad yn ddi angen, ac yn bygwth tynnu sylw oddi wrth yr hanfodion - osgoi'r broblem ydi newid llywydd.