Gadawyd y sylw isod gan Macsen ar dudalen sylwadau fy mlogiad ddoe.
True Wales = Tea Party Cymru.
Gwleidyddiaeth gwrth-wleidyddiaeth, gwrth-wleidyddion, ymosod ar y 'crachach' (Cymry Cymraeg, Caerdydd, Washington DC) ond ddim ar bobl sydd â wir grym ac sy'n wir crachach ac sy'n cadw nhw'n dlawd - bancwyr, City of London, system dreth sy'n dal i elwa'r dosbarth rentier yn fwy na threth-dalwyr cyffedin.
Macsen
'Rwan mae'r sylw yn un diddorol, ac yn wir yn un treiddgar - ond yn y bon 'dwi'n anghytuno efo fo. Er bod tebygrwydd rhwng dadleuon y Te Parti a'r gwrth ddatganolwyr, mae'r reddf waelodol sy'n eu gyrru yn sylfaenol wahanol. Mi geisiaf egluro.
Mae llawer o themau'r ymgyrch Na ar un olwg yn wrth wleidyddol - ond nid gwrth wleidyddol ydynt mewn gwirionedd, ond gwrth Gymreig. Er enghraifft, mae'r rhesymeg bod y Cynulliad yn ddrud, am godi trethi ac ati ar un olwg yn syrthio i'r patrwm hwn.
Ond o dan unrhyw linyn mesur bron, mae llywodraeth San Steffan yn ddrytach i ni o lawer na'r Cynulliad - nhw sy'n codi trethi, nhw sydd newydd godi TAW, mae Aelodau Seneddol yn cael mwy o gyflog a mwy o gostau nag Aelodau Cynulliad, mae yna 500,000 o weision sifil yn gweithio i lywodraeth San Steffan a thua 6,000 i'r Cynulliad.
Roedd yna swnian rhyfeddol am gost adeilad newydd y Cynulliad o gyfeiriad y gwrth ddatganolwyr. £67,000,000 oedd cost yr holl adeilad. Costiodd
Portcullis House - bloc o swyddfeydd i 200 o Aelodau Seneddol San Steffan a agorwyd yn 2001, £235m. Costiodd y coed ffigys sy'n addurno'r lle £150,000, aeth £2,000,000 am fleinds trydanol i pob Aelod Seneddol a ddefnyddiai'r lle, a chafodd pob un gadair ar gost o £440 yr un. Gwariant San Steffan ar gyfer 2010 oedd £661,000,000,000. Gwariant y Cynulliad oedd £15,000,000,000.
Rwan, fyddwn ni ddim yn clywed swnian am hyn oll gan y gwrth ddatganolwyr - nid gwariant llywodraethol ydi'r broblem, gwariant llywodraethol Gymreig ydi'r broblem.
Yn yr un modd mae'r honiadau o lygredd llywodraethol yn dangos safonau dwbl rhyfeddol. Ag eithrio ymgais Nick Bourne i gael y cyhoedd i dalu am ei 'stafell molchi a'i ymdrech yntau ac Alun Cairns i gael
i pod am ddim, mae'r Cynulliad yn drawiadol o lan. Ar y llaw arall cafodd San Steffan ei foddi gan tsunami o gyhoeddusrwydd gwael yn sgil y sgandal treuliau y llynedd. Gwnaeth y cyhoeddusrwydd hwnnw y sefydliad yn destun gwawd oddi mewn ac oddi allan i'r DU. Er hynny crafu o gwmpas am rhywbeth i'w ddweud am y Cynulliad mae'r gwrth ddatganolwyr, 'does yna ddim gair am y cafn a adwaenir fel San Steffan. Nid llygredd ydi'r broblem, ond llygredd Cymreig (dychmygol fel mae'n digwydd).
Nid ydi aneffeithiolrwydd o ran goruwchwylio'r economi yn broblem chwaith - os ydi hynny wedi digwydd ar lefel Brydeinig. Mi gostiodd yr hyn a ddigwyddodd yn sgil methiant diweddar llywodraeth y DU i oruwchwylio'r banciau £850,000,000,000 i'r trethdalwr - digon o arian i gyllido Cymru am bron i 60 o flynyddoedd. Ond aneffeithiolrwydd Cymreig ydi'r broblem - ac unwaith eto, mae hwnnw'n ddychmygol i raddau helaeth. Does yna ddim cwestiwn ynglyn ag addasrwydd y DU i fod yn gyfrifol am ei heconomi ei hun yn codi yn sgil y drychineb banciau wrth gwrs.
Mae Prydain yn wlad sydd wedi ei dominyddu gan elitiaid ffurfiol ac anffurfiol ers sefydlu'r wladwriaeth. Yn wir mae ganddi gyfundrefn ddosbarth chwerthinllyd o gymhleth a ffurfiol, gydag arglwyddi, marchogion, barwniaid, ieirll, tywysogion ac ati ar hyd y lle i gyd.
Mae mwyafrif llethol y cabinet presenol wedi bod mewn ysgolion bonedd ac maent yn gyfoethog iawn, mae tros i hanner aelodau seneddol Ceidwadol wedi bod mewn ysgolion felly hefyd. Ceir cyn ddisgyblion y sector breifat yn dominyddu grisiau uchaf mwyafrif llethol y galwedigaethau a phroffesiynau sy'n talu'n dda yn y DU. 6.5% o blant sydd yn mynychu ysgolion bonedd. Ond 'dydi'r elitiaeth yma ddim yn broblem, y 'crachach' a'r 'Taffia' ydi'r broblem - ein fersiwn tila a di ddim ni o elitiaeth.
Ychwaneger at hyn y casineb at yr iaith, y rwdlan am buro ethnig a thypdra'r Cymry ac mae'n weddol eglur mai casineb tuag at Gymru sy'n gyrru'r ymgyrch Na. Gelyniaeth a chasineb tuag at awdurdod llywodraethol sy'n gyrru'r Te Parti. Mae'r deilliannau yn gallu edrych yn debyg, ond mae'r ddeinameg sy'n gyrru'r ddau dueddiad yn dra gwahanol.