Felly mae Carwyn Jones o'r farn mai daearyddiaeth anffafriol a 'diwylliant' sy'n gyfrifol am ddiffyg llwyddiant economaidd Cymru. Ymddengys bod natur tirwedd y Cymoedd ynghyd a'r ffaith ein bod yn cael ein hannog i fynd am swyddo saff sector cyhoeddus a 'ballu yn gyfrifol am yr holl broblem.
Rwan, mae yna wledydd cymharol agos atom sy'n gyfoethog a sydd efo daearyddiaeth - a hinsawdd - llawer, llawer mwy heriol na'r hyn a geir yng Nghymru - gwledydd Sgandinafia er enghraifft. Mae Cymru yn wlad cymharol fach, sydd ag iddi system drafnidiaeth cymharol dda - gwell na'r hyn a geir yn Iwerddon neu'r Alban mae'n debyg.
Mae'r hyn a ddisgrifir gan Carwyn yn 'ddiwylliant' yn ymarferiad o synnwyr cyffredin gan bobl mewn gwirionedd. Mae'n gwbl naturiol i bobl fod eisiau gweithio mewn swyddi sector cyhoeddus 'saff' os ydynt yn gwybod bod y rhan fwyaf o fusnesau bach yn methu, neu yn cynhyrchu elw isel iawn.
Mae hefyd yn gwbl naturiol i gyfalaf gael ei fuddsoddi yn Lloegr - yn agos at ganolfannau poblogaeth mawr - a felly marchnadoedd mawr - y wlad honno ac Ewrop, os nad ydi'r gyfundrefn drethiannol yng Nghymru yn gwahanol i un Lloegr.
Os ydi Carwyn o ddifri am newid pethau mae'n rhaid iddo roi rhesymau da i bobl sefydlu eu busnesau eu hunain yma, yn ogystal a rhoi rhesymau da i gwmniau o'r tu allan fuddsoddi yma. Golyga hynny gael rheolaeth tros agweddau ar sut yr ydym yn trethu. Fel rydym wedi trafod yn y gorffennol 'dydi Llafur byth am fod eisiau i drethiant gael ei ddatganoli i Gymru - yn wir ymddengys bod Peter Hain o'r farn y byddai datganoli pwerau trethu yn 'difa'r genedl'.
A'r gwir amdani mae gen i ofn ydi y gall Carwyn drafod daearyddiaeth, diwylliant a band eang hyd ddydd y farn - ond os nad ydi o eisiau'r arfau i fynd i'r afael efo problemau sylfaenol Cymru, ni fydd yn llwyddo i wneud iot o wahaniaeth i'r problemau hynny.
Showing posts with label Carwyn Jones. Show all posts
Showing posts with label Carwyn Jones. Show all posts
Saturday, September 08, 2012
Wednesday, June 20, 2012
Carwyn a'r WMDs
Felly mae'n ymddangos bod y Blaid Lafur Gymreig yn erbyn WMDs yn Iran, Irac ac ati, ond o blaid eu gorfodi nhw ar Gymru.
O ganlyniad ymddengys bod Carwyn Jones eisiau lleoli WMDs yng Nghymru - arfau fyddai yn rhoi'r wlad ymysg prif dargedau unrhyw elyn - yn absenoldeb unrhyw ddylanwad tros bolisiau tramor a allai arwain at ryfel efo'r gelyn hwnnw.
Tybed os oes yna unrhyw lywodraeth arall yn unrhyw le yn y Byd fyddai'n fodlon rhoi'r wlad mae'n llywodraethu trosti mewn perygl sylweddol, tra'i bod heb unrhyw fewnbwn i'r prosesau sy'n arwain at gynnydd a lleihad yn lefel y risg hwnnw?

Friday, June 08, 2012
Carwyn a'r Gymraeg
Felly mae Carwyn Jones o'r farn mai'r ffordd gorau o roi hwb i'r Gymraeg ydi sicrhau ei bod yn cael ei defnyddio yn amlach..Dwi'n siwr ei fod yn llygad ei le - ond efallai bod yna le i'r dyn ddechrau wrth ei draed ei hun.
Yn ol fy nghyfri fi mae'r ACau Llafur canlynol yn siarad yr iaith yn eithaf rhugl - Carwyn ei hun, Alun Davies, Mark Drakeford, Keith Davies, Gwenda Thomas a Leighton Andrews. Mae Jane Hutt a Huw Lewis gyda rhywfaint o Gymraeg hefyd. Mae'n fwy na phosibl fy mod wedi methu rhywun.
Rwan - ag eithrio Keith Davies, sy'n gwneud defnydd cyson a chlodwiw o'r iaith ar lawr y Cynulliad - pa un o'r uchod sy'n dod yn agos at wneud defnydd cyfartal o'r ddwy iaith?
Dwi'n gwybod nad ydi gosod esiampl yn y Cynulliad ynddo'i hun am wneud gwahaniaeth mawr ar lawr gwlad? Ond os ydi pobl sydd ddim yn clywed y Gymraeg o'u cwmpas yn ddyddiol i ddechrau gwneud defnydd cyson ohoni, maent angen ei chlywed mewn cymaint o gyd destunau gwahanol a phosibl. Mae gan bobl fel Carwyn a'i gyd ASau eu rhan i chwarae os ydi hynny i gael ei wireddu.

Thursday, January 26, 2012
Carwyn Jones o blaid mwy o bres i'r Cynulliad, ond yn erbyn cael yr hawl i'w godi
Hmm - felly mae Carwyn Jones o'r farn bod y ffordd mae Cymru yn cael ei hariannu yn anheg, ac mae'n bendant nad ydyw am weld pwerau trethu arwyddocaol yn dod i Gaerdydd.
Mae'r blog yma wedi darogan sawl gwaith yn y gorffennol na fydd y Blaid Lafur Gymreig byth eisiau pwerau trethu arwyddocaol. Y rheswm am hynny ydyw mai unig uchelgais y blaid honno i Gymru ydi gofyn i San Steffan am fwy o arian cyhoeddus a dosbarthu'r arian hwnnw i'w chleantiaid Cymreig. Y peth diwethaf mae am ei weld ydi perthynas yn cael ei sefydlu rhwng gwariant cyhoeddus a threthu. Gwario heb drethu ydi prif genhadaeth y Blaid Lafur Gymreig - gwleidyddiaeth yr ysgol feithrin - yr unig fath o wleidyddiaeth mae Llafur yng Nghymru yn gyfforddus efo hi.
A beth bynnag - 'dydi Carwyn ddim yn credu bod Cymru'n cael ei hariannu yn anheg go iawn, neu mi fyddai wedi dweud rhywbeth pan roedd Llafur mewn grym yn San Steffan - ond wnaeth o ddim mentro agor ei big ynglyn a'r mater. Smalio ei fod yn meddwl bod yr ariannu yn amhriodol mae'r dyn mae gen i ofn - a gwneud hynny er mwyn cael chwaneg o wonga di gost (o ran ei hun) i'w ddosbarthu.

Tuesday, December 13, 2011
Swnian diweddaraf Carwyn Jones
Mae'n anodd cydymdeimlo llawer efo Carwyn Jones pan mae'n swnian am y niwed mae'n feddwl fydd yn cael ei achosi i economi Cymru gan fethiant David Cameron i ddod i delerau efo gweddill gwledydd yr Undeb Ewropiaidd.
Y ffaith syml amdani ydi mai unoliaethwr Prydeinig ydi Carwyn o ran ei wleidyddiaeth, ac mae unoliaethwr Prydeinig yn derbyn bod ystyriaethau'r llywodraeth Brydeinig mewn materion sydd y tu allan i gwmpawd cyfrifoldebau'r Cynulliad yn bwysicach nag ydi rhai'r llywodraeth Gymreig.
Mae Carwyn yn y bon yn cwyno yn erbyn rhesymeg creiddiol ei wleidyddiaeth ei hun.

Tuesday, November 15, 2011
Arwain trwy ddilyn
Mae Jonathan Edwards yn gwbl gywir i awgrymu mai arwain trwy ddilyn mae Carwyn Jones mewn perthynas a statws cyfansoddiadol Cymru.
Ond yr hyn sy'n fwy arwyddoaol efallai ydi mai cyfyng iawn ydi uchelgais Carwyn Jones tros Gymru hyd yn oed os ydi'r Alban yn ennill annibyniaeth - rhywbeth anelwig i'w wneud efo'r fframwaith cyfreithiol a rhywbeth arall anelwig i'w wneud efo ariannu teg.
Dim gair am bwerau trethiant a dim gair am ehangu amrediad cyfrifoldebau'r Cynulliad.
Ac mae hynny yn adrodd cyfrolau am Lafur Cymru. Petai'r Alban yn gadael, byddai yna lywodraeth Doriaidd led barhaol yn Llundain. Ond er gwaethaf yr holl hysterics pan ddaw'n amser etholiad y bydd y Toriaid ofnadwy, ofnadwy yna am ddod i rym os na fydd pawb yn fotio iddyn nhw, mae'r Llafurwyr yn hollol hapus i agweddau arwyddocaol o'n bywyd cenedlaethol fod yn nwylo'r dywediedig Doriaid ar delerau lled barhaol.
Arwynebol iawn ydi casineb Llafur Cymru tuag at y Toriaid - erfyn etholiadol a fawr ddim arall.

Wednesday, June 29, 2011
Alan Trench, Carwyn Jones a threth incwm
Felly 'dydi Alan Trench methu deall pam bod galwadau Carwyn Jones am rymoedd trethu i Gymru mor ddi sylwedd.
Mae Mr Trench yn crafu ei ben oherwydd bod Carwyn Jones yn gofyn am rym i fenthyg pres, ond yn gwrthwynebu'r hawl i godi treth incwm - rhywbeth a fyddai yn cynyddu'r gallu i fenthyg yn sylweddol.
Efallai y dyliwn egluro. Camgymeriad Mr Trench ydi rhagdybio bod Plaid Lafur Cymru yn rhoi Cymru'n gyntaf. Yn hanesyddol mae Plaid Lafur Cymru pob amser yn rhoi Plaid Lafur Cymru o flaen pob dim arall. Y peth diwethaf mae Plaid Lafur Cymru ei eisiau ydi sefydlu perthynas rhwng gwariant cyhoeddus a threthiant. Mae eu holl apel yn ddibynnol ar eu gallu i ofyn am fwy a mwy o wariant cyhoeddus heb orfod codi treth ar neb i sicrhau hynny.
Ni fydd Plaid Lafur Cymru byth yn gofyn am y gallu i godi treth incwm oherwydd bod hynny yn erbyn eu buddiannau pleidiol nhw.

Tuesday, June 21, 2011
Rhestr siopa Jones y Gombin

Mae blogmenai'n rhyw ymfalchio iddo gyflwyno'r term gwleidyddiaeth y gombin i Gymru. Term ydyw sy'n cyfeirio at hen draddodiad Gwyddelig o gynhyrchu gwleidyddion sy'n arbenigo mewn cysylltu eu hunain gyda phob penderfyniad poblogaidd, a dad gysylltu eu hunain oddi wrth pob penderfyniad amhoblogaidd. Fel rheol 'dydi diddordeb y gombin ddim yn ymestyn y tu hwnt i'r bobl hynny sydd mewn sefyllfa i bleidleisio iddo, ac oherwydd hynny mae'n sobor o blwyfol ac un llygeidiog.
Ceir gombins yn y rhan fwyaf o'r pleidiau Gwyddelig, ond gwleidyddion annibynnol ydi'r arch gombins fel rheol - nhw sydd wedi perffeithio eu crefft orau. Rydym eisoes wedi chwerthin ar ben Jackie Healy Rae, ond mae yna nifer o arch gombins eraill - pobl fel Mattie McGrath a Michael Lowry. Mae'r gombin ar ei hapusaf yn ystod senedd grog pan mae'n gallu hawlio pob math o ffafrau cwbl anhaeddiannol i'w etholwyr am gefnogi'r llywodraeth. Dyna pam rydych yn dod o hyd i gasino €460 miliwn yn Tipperary ac is strwythur trafnidiaeth penigamp ac ysgolion newydd sbon yn niffeithwch De Kerry. Gombins lleol gyda llaw sy'n gyfrifol am yr holl blasdai modern enfawr yng nghanol caeau sy'n creithio llawer o'r Iwerddon.
A barnu oddi wrth ddigwyddiadau heddiw a ddoe mae Carwyn Jones yn ceisio mynd cam ymhellach a sefydlu llywodraeth sydd wedi ei seilio ar egwyddorion y gombin. Mae'n arfogi ei lywodraeth i fod mewn sefyllfa i gymryd cymaint o benderfyniadau poblogaidd a phosibl tra'n ei gwneud yn anodd iddi gymryd rhai amhoblogaidd.
Mae Carwyn eisiau'r hawl i gyfyngu ar beilonau a melinau gwynt, mae eisiau cael gwario £300m Gerry Holtham, mae eisiau'r hawl i dorri man drethi, mae eisiau'r hawl i fenthyg i wario ar brosiectau cyfalaf, ac mae eisiau arbed moch daear.
'Dydi o ddim yn hoff o'r syniad o gael grym i dorri treth corfforaethol - byddai hynny'n arwain at dorri gwariant cyhoeddus yn y tymor byr o leiaf; a dydi o'n sicr ddim eisiau hyd yn oed ystyried y posibilrwydd o gael yr hawl i gynyddu treth incwm - byddai hynny'n amhoblogaidd efo pawb sy'n talu'r dreth honno.
Felly dyna ni - mae'n ymddangos bod Jones y Gombin eisiau arwain llywodraeth gombinaidd - llywodraeth efo'r grym a'r anian i blesio, ond sydd heb yr asgwrn cefn (nac yn wir yr hawl) i bechu fawr neb.
Tuesday, June 14, 2011
Symud ymlaen, 'ta gogor droi am bum mlynedd?

Cafwyd cryn sylw'r wythnos diwethaf i'r digwyddiad bach pan gafodd Carwyn Jones y myll efo Jocylyn Davies. Yr hyn a gafodd lai o sylw ydi pam yn union ymatebodd Carwyn yn y ffordd y gwnaeth - wedi'r cwbl 'dydi'r dyn ddim yn un am wylltio fel rheol - yn wir mae'n greadur digon lleddf a di gynnwrf.
Rwan, mae'r ffaith iddo wylltio yn awgrymu bod rhywbeth oedd wedi ei ddweud gan Jocylyn wedi taro'r targed. Wedi'r cwbl gwylltio fydd pobl gan amlaf pan maent yn teimlo o dan rhyw fath o fygythiad. Felly beth oedd wedi ei ddweud i beri'r fath ymateb? Wel, cyfeirio oedd Jocylyn at ddiffyg gweithgarwch llywodraeth Llafur hyd yn hyn. Mae'r cyhuddiad hwnnw yn cael ei ail adrodd heddiw gan y gwrthbleidiau yn sgil cyhoeddi 'blaenoriaethau'r' weinyddiaeth newydd.
'Dydi hi ddim yn gyfrinach bod gan Carwyn enw am fod yn ddiog. 'Dydw i ddim yn gwybod faint o wirionedd sydd y tu ol i'r canfyddiad yma, ond byddai synnwyr cyffredin yn awgrymu nad diogi fyddai un o brif nodweddion rhywun sydd wedi creu dwy yrfa lwyddiannus iddo'i hyn ym myd y gyfraith a gwleidyddiaeth. Serch hynny mae'r argraff o Carwyn fel dyn diog yn bodoli, a mewn gwleidyddiaeth mae argraffiadau cynnar yn tueddu i aros efo dyn. Efallai mai'r rheswm ydi osgo hamddenol di ffwdan Carwyn - felly mae pethau - mae nodweddion arwynebol yn aml yn diffinio person i bobl nad ydynt yn ei adnabod.
Mewn talwrn gwleidyddol mwy ffyrnig nag un Cymru gwneir defnydd di drugaredd o nodweddion personol arweinwyr gwleidyddol i greu delweddau negyddol o'u pleidiau. Er enghraifft 'doedd John Major ddim yn greadur llywath o bell ffordd - ond roedd yna rhyw osgo felly ganddo. Felly roedd delweddau ohono efo'i drons y tu allan i'r drywsus yn cael eu defnyddio'n ddi baid i bortreadu ei blaid fel un aneffeithiol a di glem. Yn yr un modd roedd llygaid mymryn yn lloerig yr olwg Blair yn cael eu defnyddio i symbylu delwedd o'i blaid fel corff obsesiynol a rhyfedd oedd eisiau rheoli pob dim ym mhob man ar pob achlysur - yn llwyr a chyfangwbl.
'Dydi pethau ddim mor ddi drugaredd yng Nghymru wrth gwrs, ond gallai osgo Carwyn yn hawdd ddod i symbylu llywodraeth ddiog a ddi symud - a llywodraeth felly fydd hi - nid oherwydd diffygion ar ran Carwyn, ond oherwydd natur y Blaid Lafur Gymreig.
Mae Llafur Cymru yn babell eithaf eang sy'n cynnwys amrywiaeth eang o bobl sydd a fawr ddim yn gyffredin ag eithrio eu bod yn hoffi ennill grym ac yn gweld eu plaid fel prif golofn sefydliadol Cymru. Cadw pob carfan yn hapus ydi greddf gryfaf y blaid, a dyna pam bod Llafur mor aneffeithiol am lywodraethu ar ei phen ei hun yng Nghymru. Roedd llywodraeth 2003 - 2007 yn fodel o lywodraethiant di ddim, ac mae cynghorau sy'n cael eu rheoli gan y Blaid Lafur Gymreig yn aml yn anobeithiol o aneffeithiol. Mae'n rhaid wrth gyfeiriad pendant i lywodraethu'n effeithiol - 'dydi plesio pawb ddim yn cynnig cyfeiriad i'r unman.
Y rheswm bod Cymru'n Un cymaint mwy llwyddiannus na'r llywodraeth Llafur a'i ragflaenodd oedd bod Llafur wedi gorfod sortio ei phroblemau mewnol ar y cychwyn, negydu cytundeb gyda Phlaid Cymru ac wedyn gweithredu'r cytundeb hwnnw. Os na fydd Llafur yn cael ei gorfodi i glymbleidio, yna byddwn yn ol yn sefyllfa 2003 - 2007 lle mai buddiannau'r Blaid Lafur fydd y brif ystyriaeth wrth lywodraethu Cymru - ac mi gawn bum mlynedd o ogor droi a lladd amser.
O dan yr amgylchiadau anodd presenol, ni all Cymru fforddio hynny.
Monday, June 28, 2010
Crachach
Mae rhai geiriau'n rhyfedd i'r graddau eu bod yn magu bywyd eu hunain, ac yn dechrau mynegi ystyron gwahanol mewn gwahanol rannau o'r wlad. Cymerer y gair crachach er enghraifft. Yn y Gogledd byddwn yn ei ddefnyddio i gyfeirio at bobl fawr neu bobl snobyddlyd. 'Dydi'r gair ddim yn cyfleu dim am iaith y sawl mae'n gyfeirio ato.

Yn Ne Ddwyrain Cymru mae iddo ystyr arall, ac mae'n cael ei ddefnyddio yn bennaf gan bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg. Yn wir, mae'n ddigon posibl mai crachach ydi'r unig air Cymraeg mae Don Touig yn ei ddeall.
Blog o'r De Ddwyrain ydi Syniadau, ac mae'n cynnig diffiniad da iawn o'r gair fel mae'n cael ei ddefnyddio gan y di Gymraeg yn y gornel honno o Gymru - My definition is that they are those who speak Welsh, make sure their own children are educated in Welsh ... but want to make it difficult for others to join their exclusive circle.
Cweit. Mi fyddai'n drist o beth petai clwb bach egsgliwsif Carwyn Jones yn cael ei wenwyno gan ddosbarth gweithiol Treganna.
Diweddariad - mae MH (awdur Syniadau) wedi fy ngheryddu am awgrymu bod y De Ddwyrain yn ei gyfanrwydd yn defnyddio'r term crachach i ddilorni siaradwyr Cymraeg. Ymddengys mai term sy'n cael ei ddefnyddio gan elit Llafuraidd gwrth Gymreig ydyw. Fel rhywun sydd a chysylltiadau llai uniongyrchol a'r De Ddwyrain na MH 'dwi'n cyffwrdd fy nghap i gydnabod ei ddealltwriaeth ehangach o arferion a geirfa y gwrth Gymreig yn y De Ddwyrain na fy un i.

Monday, June 21, 2010
Jonathan yn cymryd mantais o lyfdra Carwyn

Mae erthygl gwirioneddol warthus ar Waleshome.com gan Aelod Cynulliad Gogledd Caerdydd, Jonathan Morgan yn dangos yn eithaf clir y cyfeiriad mae penderfyniad llwfr Carwyn Jones wedi ein gyrru ni iddo. Am y tro wna i ddim mynd ar ol yr awgrym ar ddiwedd yr erthygl y dylai awdurdodau lleol geisio cynyddu'r galw am addysg cyfrwng Saesneg.
Chwi gofiwch i Carwyn benderfynu peidio a chymeradwyo cynlluniau ail strwythuro ysgolion Cyngor Caerdydd yn Nhreganna ar y sail y byddai'r cynlluniau hynny ddim yn gwella safon addysg cyfrwng Saesneg yn yr ward. Mi gofiwch hefyd mai canlyniad hyn ydi sicrhau bod camau'r Cyngor i ymateb i gyfarwyddyd y Cynulliad ei hun i ddelio a phroblem llefeydd gweigion yn ysgolion Treganna ac i'r galw cynyddol am addysg Gymraeg yno bellach yn deilchion.
Mae Simon Brooks yn mynegi'r farn ar waelod yr erthygl bod yr hyn a ddigwyddodd yng Ngorllewin Caerdydd yn creu rhagfarn sefydliadol yn erbyn pobl sydd am i'w plant dderbyn addysg Gymraeg. 'Dwi ddim yn amau bod gwirionedd yn hynny, ond ystyriaethau etholiadol oedd y prif gymhelliad y tu ol i benderfyniad Carwyn Jones, nid rhagfarnau ethnig / ieithyddol.
Gall Llafur yng Nghaerdydd deimlo yn eithaf bodlon efo eu perfformiad yn etholiadau eleni. Roeddynt wedi gweld eu canran o'r bleidlais yn y ddinas yn cwympo'n gyson ar pob lefel ers penllanw etholiadol mawr 1997, ac roeddynt wedi colli Canol Caerdydd ar lefel Cynulliad a lefel San Steffan, a Gogledd Caerdydd ar lefel Cynulliad. Roeddynt hefyd wedi colli eu rheolaeth o'r Cyngor. Erbyn etholiadau Ewrop y llynedd roedd eu pleidlais mor isel nes awgrymu bod pob un o'u tair sedd yn y ddinas mewn perygl ar lefel San Steffan. Pan ddaeth yr etholiadau San Steffan yn eu tro cadwyd y Gorllewin a'r De yn eithaf hawdd, cauwyd y bwlch rhyngddynt a'r Lib Dems yn y Canol ac er i'r Gogledd gael ei golli roedd y gogwydd yn llawer, llawer llai nag oedd neb yn meddwl - yn wir gwnaethant cystal yn y Gogledd a rhoi cyfle go iawn iddynt ad ennill y sedd ar lefel Cynulliad y flwyddyn nesaf.
Aelod Cynulliad ar ran Gogledd Caerdydd ydi Jonathan Morgan wrth gwrs, ac yng nghyd destun etholiadol dinas Caerdydd y dylid gweld ei erthygl Waleshome.com. Beth bynnag y 'rhesymu' swyddogol, ymateb i bwysau gan Lafur Caerdydd i wneud pethau'n haws iddynt wrthsefyll ymosodiad deublyg gan Blaid Cymru ar y naill llaw a'r Toriaid ar y llall y flwyddyn nesaf yng Ngorllewin y ddinas oedd Carwyn Jones pan ddaeth i'w benderfyniad ynglyn a Threganna.
Mae ardal yr Eglwys Newydd mor bwysig i'r Toriaid yng Ngogledd Caerdydd nag ydi Treganna i Lafur yn y Gorllewin ar lefel lleol a Chynulliad. Mae pethau'n glos rhwng Llafur a'r Toriaid yn ward fawr boblog yr Eglwys Newydd. Defnyddio yr union 'resymeg' a ddefnyddwyd tros beidio a chau Landsdowne gan Carwyn Jones mae Jonathan Morgan wrth ddadlau yn erbyn cau Ysgol Eglwys Newydd er mwyn ehangu'r sector cyfrwng Cymraeg. Os ydi Leighton Andrews yn bod yn gyson a 'rhesymeg' Carwyn Jones ac yn atal y cynlluniau oherwydd nad ydynt yn gwella'r ddarpariaeth Saesneg, gall Jonathan Morgan hawlio mai fo gadwodd trwyn Leighton ar y maen. Os mai'r ffordd arall y bydd pethau'n mynd gall Jonathan Morgan elwa yn etholiadol o'r penderfyniad yn ogystal a dadlau bod y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd yn bod yn anghyson - gan weithredu un rheol i ward Llafur, ac un arall i ward Doriaidd.
A dyna ydi problem cymryd penderfyniadau sydd yn y bon yn rhai gweinyddol am resymau etholiadol - mae'r broses yn cael eu llygru mewn modd sy'n galluogi gwleidyddion plwyfol a di egwyddor fel Jonathan Morgan ddefnyddio addysg plant bach fel pel droed wleidyddol er ei les etholiadol ei hun
Sunday, September 13, 2009
Ac wedyn dyna i ni Carwyn Jones

Mae Carwyn yntau yn ei flog gwych a gwreiddiol yn egluro i ni bod pleidlais i Blaid Cymru mewn gwirionedd yn bleidlais i'r Toriaid.
Eglurwyd hyn i ni yn fanwl iawn yn ystod etholiadau'r Cynulliad yn 2007. Prif ladmerydd y newyddion yma yn y parthau hyn oedd Martin Eaglestone. Dadl Martin oedd nad oedd yn bosibl i Lafur gyd weithio efo'r Blaid oherwydd gwahaniaethau athronyddol cymhleth a dwys - llawer rhy gymhleth a dwys i Martin fedru eu trafod na hyd yn oed eu harenwi. Felly byddai pleidlais i'r Blaid yn arwain at lywodraeth Doriaidd yng Nghaerdydd - ac roedd pawb yn gwybod bod rheiny yn bwyta babis ac yn lluchio'r henoed i'r ffynnon.
Beth bynnag daeth yr etholiad, cafodd Martin gweir ac roedd Llafur ar eu gliniau yn crefu ar y Blaid i glymbleidio efo nhw mewn chwinciad chwanen. Oni bai am lwyddiant y Blaid yn yr etholiadau hynny ni fyddai plaid Martin yn rhannu grym heddiw.
Fast forward i 2009, ac mae Carwyn yn ail adrodd yr un hen fantra blinedig.
Hoffwn awgrymu'n garedig ac yn wylaidd mai'r hyn mae Carwyn yn ei olygu pan mae'n dweud bod pleidlais i'r Blaid yn bleidlais i'r Toriaid mewn gwirionedd, ydi na all feddwl am cymaint ag un rheswm call pam y byddai rhywun eisiau pleidleisio i Lafur yn hytrach nag i Blaid Cymru, felly mae'n gwau ffantasi lliwgar ac afresymegol ac yn stwffio hwnnw ger ein bron.
Subscribe to:
Posts (Atom)