Mae yna erthygl ddiddorol iawn yn Sunday Times heddiw ynglyn a rhyw waith ymchwil neu'i gilydd am acenion (Seisnig yn bennaf). Y prif bwynt sy'n cael ei wneud ydi bod acenion dinasoedd mawr Lloegr yn dal eu tir yn ddigon di drafferth, er gwaethaf y darogan a fu y byddai pawb yn mynd i siarad yn fwy tebyg i'w gilydd. Y rheswm (amlwg am wn i) a gynigir ydi bod pobl yn awyddus i gynnal eu hunaniaeth, a bod acenion rhanbarthol yn rhan pwysig o'r hunaniaeth hwnnw. Sylw ychwanegol sy'n cael ei wneud ydi bod acenion lleol iawn - trefi bychain ac ati yn tueddu i fynd yn fwy tebyg i un y ddinas fawr agosaf.
Mi wnaeth yr erthygl i mi feddwl am fy mhrofiad uniongyrchol diweddar i o acenion, ac un neu ddau o bethau 'dwi wedi sylwi arnynt yn ddiweddar.
Yn gyntaf mae'n ymddangos i mi bod acen (Gymraeg) Caernarfon ac un y pentrefi o'i gwmpas yn Nyffryn Nantlle ac ardal Llanberis yn fwy tebyg i'w gilydd nag oeddynt chwarter canrif yn ol. 'Dydi o ddim cymaint bod Cofis y wlad wedi troi at acen Cofis y dre cymaint a bod ddwy acen wedi symud tuag at ei gilydd.
Yn ail mae'r Mrs ychydig yn anarferol i'r graddau ei bod yn siarad y Gymraeg efo acen Ogleddol, tra ei bod yn siarad Saesneg efo acen Caerdydd gref iawn - canlyniad i fod wedi symud yn ifanc i ardal lle nad oedd yn gorfod siarad Saesneg llawer. Mae un o'r hogiau yn canlyn hogan o Ogledd Caerdydd ar hyn o bryd ac mae dylanwad Wenglish y Cymoedd yn gryf iawn ar ei Saesneg hi (dydi hi ddim yn rhugl ei Chymraeg). Mae ei hacen hi ac un y Mrs yn wahanol iawn (o orllewin y ddinas y daw Nacw, ac mae genhedlaeth yn hyn wrth gwrs). Yn draddodiadol roedd yr acen yn newid o dafodiaeth Caerdydd i un y Cymoedd ymhellach i'r gogledd. Tybed os ydi acen y Cymoedd yn dechrau ymwthio i mewn i Gaerdydd?
'Dwi wedi bod yn mynd i Wrecsam yn lled aml yn ddiweddar oherwydd bod un o'r plant eraill yn y coleg yno. Mae ymddangos i mi bod acen Wrecsam yn dra gwahanol i un arfordir y Gogledd Ddwyrain - mae'n fwy Cymreig o lawer - weithiau mae'n swnio bod yna dinc o acen De Cymru yno - i mi beth bynnag.
Mi fyddai o ddiddordeb i mi os oes rhywun efo unrhyw sylwadau pellach ynglyn ag acenion rhanbarthol Cymru, ac yn arbennig am y sylwadau 'dwi wedi eu gwneud uchod am gylchoedd C'narfon, Wrecsam a Chaerdydd.
Showing posts with label diwylliant. Show all posts
Showing posts with label diwylliant. Show all posts
Sunday, January 03, 2010
Friday, August 07, 2009
Llwyddiant yr Eisteddfod

'Dwi wedi clywed llawer tros y blynyddoedd yn rhyfeddu at lwyddiant tymor hir yr Eisteddfod Genedlaethol - ac erbyn meddwl mae'n beth rhyfeddol i gymuned gymharol fechan (hy y Gymru Gymraeg) lwyddo i gynnal gwyl fawr iawn yn llwyddiannus flwyddyn ar ol blwyddyn - ac yn llwyddo i ddenu canran mor uchel o'i haelodau ei hun.
'Dydw i fawr o 'Steddfodwr mae gen i ofn - ond mi fyddaf yn gwneud pwynt o fynd am ddiwrnod o leiaf pob blwyddyn. 'Dwi byth bron yn mynd i mewn i'r Pafiliwn - oni bai bod y ferch yn dawnsio yno - mae'n hoffi dawnsio disgo. Mi fyddaf yn rhoi fy mhen yn y stondinau, ond fawr mwy - anaml y byddaf yn prynu llawer.
Yr unig reswm 'dwi'n mynd ydi oherwydd ei fod yn gyfle i gyfarfod a phobl 'dwi wedi hen golli cysylltiad a nhw, ond oedd yn rhan o fy mywyd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ar rhyw amser neu'i gilydd yn y gorffennol. 'Dwi'n rhyw feddwl bod llawer o bobl eraill yn mynd am yr un rheswm.
Petai'r gymuned sy'n siarad Cymraeg yn llawer mwy - yn bum miliwn efallai, yn hytrach nag yn hanner miliwn, mae'n debyg na fyddai rhywun yn gweld ei gydnabod yn aml ar y maes - mi fyddai'r 'pwll' o bobl yn rhy fawr. Petai'n llai o lawer - yn hanner can mil efallai, ni fyddai angen digwyddiad blynyddol i gadw pobl at ei gilydd - byddai gennym lai o lawer o bobl yr ydym yn eu hadnabod sy'n siarad yr iaith.
'Dwi'n siwr bod sawl rheswm am lwyddiant y brifwyl - traddodiad, trefniadaeth ac ati - ond tybed os mai un o'r rhesymau hynny ydi bod y Gymry Gymraeg yn ddigon mawr - ond heb fod yn rhy fawr - i roi'r cymhelliad pwerus i bobl fynd - sef eu bod yn debygol o weld llawer o bobl na fyddant byth yn eu gweld onibai am y 'Steddfod.
Subscribe to:
Posts (Atom)