Showing posts with label Alwyn ap Huw. Show all posts
Showing posts with label Alwyn ap Huw. Show all posts

Wednesday, August 03, 2011

Fotiwch i Hen Rech!

'Dwi'n siwr bod yna gannoedd o ddarllenwyr blogmenai yn byw yn ward Bryn Rhys yng nghymuned Llansanffraid, Glan Conwy.  Mae'n bleser cael annog y cwbl ohonynt i godi oddi ar eu pen olau a mynd i bleidleisio i Alwyn ap Huw Humphreys (aka Hen Rech Flin) mewn is etholiad cyngor cymuned fory.



Mi fydd yn hysbys i ddarllenwyr rheolaidd nad ydi'r Hen Rech a minnau'n gweld lygad yn llygad yn rhy aml.  Bydd y dywydiedig ddarllenwyr  hefyd yn gwybod nad ydi blogmenai yn annog i bobl bleidleisio i ymgeiswyr annibynnol yn aml iawn chwaith, am yr un rheswm nad yw'n annog pobl i brynu cath mewn sach.  Mae'n well pleidleisio a phrynu pan rydym yn weddol glir ynglyn a beth ydi'r hyn rydym yn ei brynu neu'n pleidleisio trosto.


Ni all neb, fodd bynnag gyhuddo HRF o fod yn gath wleidyddol mewn sach - mi'r ydych yn cael yr hyn rydych yn ei weld - gan gynnwys y plorod a'r blewiach.  Felly dyna chi - fotiwch i'r Hen Rech a thros Gymru rydd.  Os nad ydi hynny'n ddigon o reswm i chi, beth am fotio trosto er mwyn rhoi rhywbeth i'r hogyn ei wneud er mwyn ei gadw allan o drwbwl?

Friday, March 25, 2011

Cymru'n Un 2?

Draw ar Flog Hen Rech Flin mae Alwyn yn mynd trwy'i bethau oherwydd awgrymiadau Ieuan Wyn Jones nad yw'r Blaid yn debygol o glymbleidio efo'r Toriaid, ac yn bygwth rhoi ei bleidlais bost yn y bin sbwriel yn hytrach nag yn y post. Mae'r math yma o beth yn digwydd yn achlysurol ar flogiau Alwyn.

Casineb Alwyn at Lafur oherwydd ei ganfyddiad o 'wrth Gymreigrwydd' y blaid honno ydi un o'r rhesymau am ei anhapusrwydd. Rwan mae'n hawdd creu naratif sy'n portreadu Llafur fel plaid wrth Gymreig - byddai enwau megis George Thomas, Don Touig, Kim Howells ac ati yn codi yn aml mewn stori felly. Gellid hefyd wrth gwrs greu naratif tebyg am y Toriaid - byddai'r enwau a'r hanesion canlynol yn codi'n aml yn hwnnw - Delwyn Williams, David Davies, gwrthwynebiad y Toriaid i'r Swyddfa Gymreig a datganoli yn 79 a 97, toriadau diweddar i gyllideb S4C ac ati.


Gellid creu naratif fyddai'n dweud stori wahanol am y ddwy blaid wrth gwrs - mi fyddai Cledwyn Hughes, Elustan Morgan, Carwyn Jones, cefnogaeth i ddatganoli, sefydlu'r Swyddfa Gymreig ac ati yn codi mewn stori felly am y Blaid Lafur, ac mi fyddai Wyn Roberts, Glyn Davies, sefydlu S4C, deddfau iaith ac ati yn codi mewn un am y Toriaid.

Y gwir ydi nad ydi'r naill blaid na'r llall yn cael eu gyrru gan syniadaethau cenedlaetholdeb Gymreig - felly maent iddynt elfennau sydd yn wrthwynebus i genedlaetholdeb Cymreig, ac mae iddynt elfennau nad ydynt yn wrthwynebus. Weithiau maent yn gwneud pethau sydd at ddant y cenedlaetholwr Cymreig, ac weithiau maent yn gwneud rhywbeth gwrth genedlaetholgar. Fel rheol canlyniad i bwysau o gyfeiriad cenedlaethlwyr Cymreig ydi'r camau cadarnhaol - weithiau o gyfeiriad Plaid Cymru, ac weithiau o gyfeiriad mudiadau amgen megis Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Llywodraeth Cymru'n Un ydi'r esiampl orau o allu cenedlaetholwyr i ddylanwadu er budd Cymru. Ers 2007 mae'r achos cenedlaethol wedi cymryd camau breision ymlaen - hawliau deddfu i'r Cynulliad, deddf iaith, coleg ffederal, comisiynydd iaith, uwchraddio system drafnidiaeth oddi mewn i'r wlad, codi statws henebion cynhenid Gymreig, Holtham, ymrwymiad i greu gwlad ddwyieithog ac ati. Yn wir go brin i Gymru symud yn ei blaen cymaint yn ystod unrhyw gyfnod yn ei hanes.

Canlyniad ydi hyn oll i wleidyddiaeth y pragmatydd, ac nid i wleidyddiaeth y purydd. Cyfaddawd ydi Cymru'n Un, ond un sydd wedi dod a llawer iawn i Gymru - ac o ganlyniad mae'n anodd gweld pam bod cenedlaetholwyr fel Alwyn a HoR yn casau'r Cytundeb i'r fath raddau. Mi fyddwn wedi rhyw feddwl y byddai'r rhan fwyaf o genedlaetholwyr yn gobeithio am fwy o'r hyn a gafwyd - ond dyna fo, dwi ddim yn un da iawn am ddeall sut mae eraill yn meddwl.

Mae peth sylwedd i ddadl Alwyn y byddai clymblaid efo'r Toriaid a'r Lib Dems (pe etholir unrhyw Lib Dems) yn cynyddu gallu'r Blaid i ddylanwadu ar lywodraeth San Steffan. Ond ydi hynny'n dal dwr mewn gwirionedd? Ydi hi'n debygol bod cael Nick Bourne yn ddirprwy brif weinidog yn y Cynulliad yn ddigon uchel ar restr blaenoriaethau Cameron i'w annog i ildio consesiynau mawr? Dwi ddim yn meddwl rhywsut.

Yn bwysicach, mae yna'r mater o realpolitik. Mae'r brand Toriaidd yn wenwynig yn y rhan fwyaf o Gymru. Yn 2007 doedd hynny ddim mor bwysig oherwydd bod Llafur hefyd yn amhoblogaidd iawn. Felly roedd Clymblaid yr Enfys yn wleidyddol bosibl.

'Dydi hynny ddim yn wir yn 2011. Fel mae pethau ar hyn o bryd, mae'n ddigon posibl y bydd Llafur mewn sefyllfa i ffurfio llywodraeth ar eu pen eu hunain ym Mis Mai. Byddai clymu'r Blaid - gyda'r gydadran sylweddol o'i chefnogaeth sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus, neu sy'n ddibynol ar wariant cyhoeddus mewn ffyrdd eraill - i frand gwenwynig y Toriaid yn sicrhau degau o filoedd o bleidleisiau ychwanegol i Lafur. Byddai hynny yn ei dro yn sicrhau llywodraeth fwyafrifol Llafur.

Go brin y bydd agenda'r cenedlaetholwr yn symud modfedd yn ei blaen am bedair blynedd o leiaf mewn amgylchiadau felly. Yn wir mae'n fwy na thebyg mai llithro'n ol fyddai pethau.

Thursday, October 28, 2010

Prif gyfrifoldeb caredigion y Gymraeg

Er bod y berthynas rhwng awdur y blog Hen Rech Flin, Alwyn ap Huw, a finnau yn ddigon sifil gan amlaf, mi fydd darllenwyr cyson y naill flog neu'r llall yn gwybod ein bod yn anghytuno'n ddigon llafar o bryd i'w gilydd. Dyna ddigwyddodd y diwrnod o'r blaen pan wnaeth Alwyn droi trwyn pan wnes i nodi mor ofnadwy o gymhleth ydi ei sefyllfa parthed penderfynu os i siarad efo pobl yn y Gymraeg neu beidio. 'Dwi'n rhyw deimlo bod Alwyn yn meddwl fy mod yn dangos diffyg cydymdeimlad at ei sefyllfa, ac os felly 'dwi'n rhyw hanner pledio'n euog i'r cyhuddiad. Mi geisiaf egluro pam.

Asgwrn y gynnen oedd rhaglen Richard Williams, Welsh Knot. Roedd Alwyn yn flin nad oedd trafodaeth o gymhlethdod yr hyn y gallwn o bosibl ei ddisgrifio fel seicoleg iaith, tra'r oeddwn i yn falch bod y rhaglen yn dangos nad ydi addysg Gymraeg ynddo'i hun yn creu siaradwyr Cymraeg. Yr hyn roedd y rhaglen yn ei ddangos yn gliriach na dim efallai ydi bod pobl yn defnyddio'r Gymraeg pan fod yna gyd destunau priodol i wneud hynny, ac nad ydynt yn ymarfer yr iaith yn absenoldeb y cyd destunau hynny. Mae hwn yn bwynt syml, amlwg hyd yn oed - ond mae'n un sydd ddim yn cael ei werthfawrogi na'i ddirnad yn ddigon aml.

Felly, i mi o leiaf, gwers y rhaglen oedd bod yr eneth o'r De (Bethany 'dwi'n meddwl) yn siarad Cymraeg yn y Gogledd oherwydd bod yna gyd destunau oedd yn caniatau iddi wneud hynny heb edrych yn od. Roedd y rheiny yn bresenol wrth gwrs oherwydd ei bod ynghanol pobl oedd yn dewis defnyddio'r Gymraeg o'u gwirfodd - y rhan fwyaf am eu bod yn fwy cyfforddus yn yr iaith, ond rhai eraill (tad Grug er enghraifft) am resymau eraill.

A daw hyn a ni at bwynt syml arall sydd ddim yn cael ei werthfawrogi yn ddigon aml. Mae defnyddio'r Gymraeg (a phob iaith arall) yn heintus yn yr ystyr ein bod yn fwy tebygol o'i defnyddio pan rydym yn dod ar draws llawer o bobl eraill yn gwneud hynny. Mae'r Gymraeg yn marw mewn ardaloedd pan mae pobl yn siarad llai a llai ohoni ymysg ei gilydd, nes eu bod yn peidio a gwneud hynny o gwbl. Mi fydd hyn yn digwydd pan fydd y cyd destunau lle mae pobl yn hapus yn siarad Cymraeg ynddynt yn lleihau. Weithiau canlyniad i lastwreiddio siaradwyr Cymraeg ymysg mewnfudwyr di Cymraeg ydi o, ond yn amlach (yn hanesyddol o leiaf) Cymry Cymraeg sydd yn mynd i ddefnyddio llai a llai o Gymraeg wrth gyfathrebu a'i gilydd. Mae presenoldeb y di Gymraeg yn eu mysg yn ffactor bwysig mewn sefyllfaoedd fel hyn, ond mae yna ffactorau eraill yn aml ar waith hefyd.

Mae barnu ym mha sefyllfa y dylid defnyddio iaith arbennig yn rhywbeth mae'r cwbl ohonom sy'n siarad mwy nag un iaith yn weddol rhugl yn gorfod ei wneud yn aml iawn. Gan amlaf mae'r penderfyniad yn cael ei wneud yn is ymwybodol - mae'n deillio o'n seicoleg. Mae hyn yn ei dro yn creu cymhlethdod ym mywydau'r dwy (neu'r tair) ieithog - a 'dydi'r cymhlethdod hwnnw ddim yr un peth i bawb. Mae'r penderfyniad yn aml yn dibynnu ar ein cefndir, proffeil ieithyddol yr ardal yr ydym yn digwydd byw ynddi a llu o bethau eraill gan gynnwys ein nodweddion seicolegol personol.

Cymharwch hyn efo symlder sefyllfa'r sawl sydd ond yn siarad Saesneg. 'Does yna ddim penderfyniad i'w wneud byth - yn ymwybodol na'n is ymwybodol. Y Saesneg a ddefnyddir ar pob achlysur. Mae hyn yn rhoi mantais ychwanegol i'r Saesneg o gymharu a'r Gymraeg. Mae pob cyd destun yn un mae'r di Gymraeg yn defnyddio'r Saesneg ynddo, ac mae ei bresenoldeb / phresenoldeb mewn unrhyw gyd destun cymdeithasu yn Seisnigeiddio'r sefyllfa trwy ei gwneud yn llai clir i'r sawl sydd yn siarad Cymraeg mai'r iaith honno y dylid ei defnyddio. 'Does yna ddim bai personol wrth gwrs ar neb am y sefyllfa honno - fel yna mae pethau.

Mae'n weddol amlwg felly bod y berthynas rhwng y Gymraeg a'r Saesneg yn un hynod anghyfartal. Oherwydd bod y Cymry Cymraeg i gyd (ag eithrio'r ifanc iawn) yn siarad Saesneg, mae eu cyfleoedd i siarad Cymraeg yn tueddu i gael ei reoli gan faint o bobl sydd ond yn siarad Saesneg sydd mewn sefyllfa arbennig. Dydi'r cyfleoedd i siarad Saesneg byth yn cael eu cyfyngu gan ystyriaethau fel hyn. Yn y rhan fwyaf o Gymru mae'r sefyllfa yma'n farwol i ddefnydd cymunedol o'r iaith. Mewn ardaloedd eraill mae yna ddigon o Gymry Cymraeg i oresgyn y broblem. Mae yna ffactorau ag eithrio niferoedd cymharol o siaradwyr Cymraeg wrth gwrs - mae'n fwy derbyniol mewn rhai rhannau o Gymru ac ymysg rhai grwpiau yng Nghymru i siarad Cymraeg hyd yn oed pan nad ydi rhai o'r sawl sy'n bresenol yn deall beth sy'n cael ei ddweud.

Daw hyn a ni at siaradwyr Cymraeg a sut y byddant yn cyfathrebu efo'i gilydd. Pan rydym ni ein hunain yn siarad Saesneg efo'n gilydd, hyd yn oed pan nad oes yna bobl di Gymraeg yn bresenol rydym yn cyfyngu ar y cyd destunau lle gellir siarad yr iaith ein hunain. Hynny ydi, rydym yn cryfhau'r ddeinamig 'dwi wedi ei disgrifio uchod sy'n culhau'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg a sydd yn raddol yn ei lladd. Y peth pwysicaf y gellir ei wneud i arbed y Gymraeg ydi dod o hyd i ffyrdd o gynyddu'r cyd destunau lle gellir siarad y Gymraeg. Golyga hyn bod pobl weithiau yn gorfod siarad yr iaith pan nad ydi hi'n 'teimlo'n' addas i wneud hynny. 'Dydi hi ddim yn ormodiaeth i ddweud nad ydi cymhlethdod ynglyn a pha iaith y dyliwn fel Cymry Cymraeg ei siarad efo'n gilydd, yn ddarn bach o foethusrwydd y gallwn ei fforddio.

Mae'n hawdd i mi siarad wrth gwrs - mae fy seicoleg ieithyddol i'n weddol syml oherwydd fy nghefndir a lle 'dwi'n byw. Mae yna rhywbeth yn anheg hefyd am awgrymu i bobl ymddwyn mewn ffordd sydd ddim yn teimlo'n naturiol. Ond mae disgrifio ein hunain fel caredigion yr iaith yn rhoi cyfrifoldeb arnom, a'r gyfrifoldeb bwysicaf o'r cwbl ydi defnyddio'r iaith ym mhob sefyllfa mae'n ymarferol bosibl gwneud hynny - a thrwy hynny ddarparu cyd destunau i eraill hefyd ddefnyddio'r iaith.

Mae gorfod meddwl am y math yma o beth ac ymddwyn mewn ffyrdd sy'n wrth reddfol weithiau yn rhan o dristwch a her bod yn garedigion y Gymraeg yn yr oes sydd ohoni mae gen i ofn.

Thursday, December 24, 2009

Mae sawl ffordd o gael Phil i'w wely

Mae yna drafodaeth wedi bod ynghynt yn yr wythnos ar y blog hwn sydd yn anuniongyrchol yn ymwneud y phleidleisio tactegol, ac mae'r ddadl wedi ei datblygu yn ffau'r Hen Rech Flin. Wna i ddim ailadrodd yn fanwl sylwadau Alwyn, na fy ymateb i - gallwch edrych yma os oes gennych ddiddordeb.



Ers ymateb i Alwyn fodd bynnag 'dwi wedi bod yn rhyw g'noi cil ar y mater tra'n gwneud fy siopa 'Dolig munud diwethaf. Prif bwynt Alwyn ydi y byddai'n rheitiach ymosod ar Lafur mewn sedd fel Aberconwy nag ar y Toriaid. 'Rwan mae'n rhaid i mi gyfaddef bod Alwyn gyda llawer mwy o brofiad na fi o wleidydda mewn etholaeth lle mae pleidleisio tactegol yn bwysig. Serch hynny mi fyddwn yn gofyn os ydi'r syniad y dylai'r blaid sydd yn ail neu'n gyntaf dreulio gormod o amser yn ymosod ar y blaid sy'n bedwerydd neu'n drydydd, yn syniad da?

Fel 'dwi'n sgwennu hyn mae gen i bamffled etholiadol o etholaeth Canol Caerdydd o fy mlaen sy'n perthyn i'r Lib Dems - pencampwyr y bleidlais dactegol. Y Lib Dems sy'n dal y sedd gyda thua hanner y bleidlais gyda Llafur yn ail gyda thraean. Mae Plaid Cymru a'r Toriaid yn is na 10%. Mae'n amlwg bod rhan o'r bleidlais Lib Dem yn hen un Doriaidd - nhw sydd wedi dal yr etholaeth am gyfran helaeth o'i hanes. Yn y pamffled ceir ymysodiadau ar Lafur, brolio'r Lib Dems a dim gair am y Toriaid ag eithrio'r graffiau arferol, ods bwcis a chanlyniadau lleol i 'brofi' nad oes ganddynt obaith mul o ennill.

Y strategaeth yma yn amlwg ydi peidio ag ypsetio pobl sy'n gogwyddo tuag at y Toriaid trwy ymosod arnynt - dim ond eu hanwybyddu a honni nad oes ganddynt obaith ac mai'r unig ffordd o gadw Llafur allan ydi trwy roi fot i'r Lib Dems. Mae'r lled Bleidwyr a'r lled Doriaid yn siwr o fwynhau'r ymysodiadau ar Lafur yn fawr iawn.

Ydi hyn yn cyfieithu i sefyllfa fel un Aberconwy - hynny yw ymosod ar y Toriaid, ond dweud dim am Lafur a'r Lib Dems ag eithrio nad oes ganddynt obaith? A dweud y gwir 'dwi ddim yn gwybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw - ond mae barnu'r math yma o beth yn gywir yn aml yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng ennill a cholli etholiad.

Nid dweud bod Alwyn yn anghywir ydw i - dim ond codi'r cwestiwn.

Saturday, September 05, 2009

A ddylai'r BNP fod yn blaid gyfreithlon?

Yn ol blog Saesneg Alwyn mae yna tipyn o ddadlau ar hyn o bryd rhwng rhai o flogwyr y Blaid a Peter Black ynglyn a sut y dylid ymateb i'r BNP. Mae Alwyn yn nodi ei fod yn cytuno efo Peter Black nad oes angen anghyfeithloni'r blaid neo ffasgaidd.

'Rwan 'dwi heb fod yn dilyn y ddadl mor agos ag Alwyn, ond fedra i ddim gweld neb yn dadlau tros eu gwneud yn anghyfreithlon fel y cyfryw - dadl ydi hi yn y bon ('dwi'n meddwl) ynglyn a pha mor briodol ydi hi iddyn nhw gael stondin mewn sioe ym Mro Morgannwg - efallai fy mod wedi methu rhywbeth yma.

Ta waeth, mae'n codi pwynt digon diddorol - ydi hi'n briodol i wahardd rhai pleidiau gwleidyddol oherwydd bod eu credoau'n wrthyn i'r rhan fwyaf o bobl? Mi fyddwn i'n tueddu i ochri efo Alwyn ynglyn a hyn am unwaith.

Y drwg efo anghyfreithloni grwpiau oherwydd eu heithafiaeth ydi bod yr hyn a ystyrir yn eithafol yn newid yn gymharol rheolaidd, ac mae'r hyn sy'n cael ei ystyried yn eithafol yn ddibynnol ar o lle'r ydych yn edrych ar bethau.

Er enghraifft, yn Oes Fictoria roedd y rhan fwyaf o bobl yn BNPwyr i'r graddau bod rhywbeth yn ymylu ar gonsensws o'r farn bod rhai hiliau dynol yn uwchraddol i hiliau dynol eraill. Yr agwedd yr ydym yn ei hystyried yn ryddfrydig erbyn heddiw oedd y farn 'eithafol' bryd hynny. O edrych yn ol ymhellach, roedd yna amser pryd ystyrid bod safbwynt oedd yn bleidiol i anghyfreithloni caethweisiaeth yn eithafol.

Mae yna bobl sy'n ystyried cenedlaetholdeb Cymreig yn eithafol heddiw. Er enghraifft 'dwi'n dyfynu'r isod o flog Stonemason - y blogiwr mwyaf gwrth Gymreig ar y blogosffer mae'n debyg.

…… where its ultimate objective is separation, is much the same as an external aggressor that would invade a country, the only exception is where not even 1 citizen objects to the nationalist objective, only then is it legitimate.

Welsh nationalism is little different to any aggressor of the past.

In Wales today, the major political players need to divorce themselves from Plaid Cymru, lest they become tainted as political aggressors.


Hynny yw, o edrych ar Gymru o'r safbwynt yma mae mynegi'r gobaith y bydd Cymru rhyw ddiwrnod yn annibynnol ynddo'i hun yn weithred ymysodol. Mae'r awdur yn disgrifio ei hun fel Ceidwadwr (nid bai y Blaid Geidwadol ydi hynny wrth gwrs), ac mewn materion ag eithrio ei gasineb rhyfedd tuag at genedlaetholdeb Cymreig mae'n ymddangos yn weddol agos at y prif lif Ceidwadol. Rydym eisoes wedi edrych ar farn digon tebyg gan geidwadwr (c fach) mwy eithafol - John Walker.

It doesn't matter whether Plaid play the short game or the long game - they are still, ultimately, a destructive force in British politics and they should be marginalised by the 'Brits' at every opportunity.

'Dwi ddim yn dadlau am funud bod yr agwedd yma yn ganolog i ideoleg ceidwadiaeth Seisnig cyfoes, ond mae edefyn felly yn sicr yn bodoli oddi mewn i'r brodwaith ideolegol hwnnw. 'Dydi hi ddim yn bosibl gweld o flaen llaw pa agweddau ar geidwadiaeth Seisnig (nag unrhyw ideoleg arall o ran hynny) fydd yn bwysig yn y dyfodol. Yr hyn yr ydym yn gwybod ydi bod natur ideolegau yn amrywio'n sylweddol o gyfnod i gyfnod. Rydym hefyd yn gwybod mai ceidwadiaeth Seisnig ydi'r ideoleg sydd fwyaf llwyddiannus am drosglwyddo trwy'r canrifoedd ar yr ynysoedd hyn.

I roi pethau mewn ffordd arall 'does ganddom ni ddim ffordd o wybod os mai ni fydd yn cael eu hystyried yn 'eithafwyr' yn y dyfodol. Os oes yna gynsail o ddeddfu i wahardd pleidiau ar sail y canfyddiad o eithafiaeth, 'dydan ni ddim yn gwybod os y caiff y ddeddfwriaeth honno ei defnyddio yn ein herbyn ni ar rhyw bwynt yn y dyfodol.

Mae hanes y ganrif ddiwethaf yn Ewrop a thu hwnt yn ddigon o ddadl i sicrhau nad ydi gwleidyddiaeth sydd wedi ei seilio ar gasineb tuag at, neu o leiaf ddrwgdybiaeth o hiliau eraill yn llwyddo. 'Does yna ddim dyfodol i blaid fel y BNP oherwydd ein bod yn gwybod beth sydd yn digwydd pan mae pobl sy'n coleddu credoau sylfaenol y BNP yn ennill grym. Atgoffa pobl hyd at syrffed o hynny ydi'r ateb gorau i bleidiau hiliol.

Un nodyn bach arall cyn gorffen - 'dydi dweud nad ydw i'n cytuno a gwahardd pleidiau gwleidyddol ddim yn golygu fy mod yn credu y dylai digwyddiadau megis Ffair Bro Morgannwg ganiatau iddynt eu defnyddio i ledaenu propoganda. Mae'n gywilydd ar y trefnwyr eu bod yn eu derbyn yno.

Saturday, August 29, 2009

Brogarwch vs Cenedlaetholdeb rhan 2

'Dwi am gychwyn trwy ddyfynu rhan o ymateb HRF i fy sylwadau yn ail ran ei ymateb i mi:

Os ydy pobl Bontddu am gadw eu hysgol , iawn gad iddynt dalu, trwy dreth blwyfol, y swm uwchben y cyfartaledd i'w gadw ar agor. Os yw'r gost yn rhy uchel i ganiatáu i hynny digwydd gad i fwrdd yr ysgol penderfynu uno efo'r Bermo, y Ganllwyd, Llanelltud, Dolgellau neu Lesotho er mwyn cyfiawnhau cadw presenoldeb ysgol yn y Llan. Gad i bobl Bontddu, yn hytrach na swyddogion Caernarfon, penderfynu nad yw cadw ysgol y llan yn syniad cynaliadwy!

Cyfeirio mae HRF yma wrth gwrs at y ddadl ysgolion, ac mae'n cynnig ateb i ddwy o'r elfennau sy'n gyrru'r agenda ailstrwythuro ysgolion tros Gymru, sef cost ysgolion llai a'r gwahaniaeth rhwng gwariant y plentyn mewn ysgolion mwy a rhai llai. Er bod y ddwy elfen yma'n ymddangos ar yr olwg gyntaf yn debyg, maent mewn gwirionedd yn wahanol - mae'r naill yn ymwneud ag effeithiolrwydd cyllidol tra bod y llall yn ymwneud a thegwch cymdeithasol.

Mae'n disgrifio ei ateb - sef rhoi'r cynnig i godi treth cyngor uwch mewn ardal os ydi ysgol yn ddrud i'w chynnal - fel un ceidwadol. Mae'r sylw yn hollol gywir - mae'n ateb ceidwadol yn ystyr ariannol / cyllidol y gair hwnnw. 'Dwi'n ystyried y syniad hefyd yn un diddorol iawn - er na fydd o fawr o syndod i neb sy'n darllen y blog hwn yn aml nad ydw i'n cael fy hun ar yr un ochr i bethau nag Alwyn. Mater i lywodraeth San Steffan wrth gwrs fyddai newid deddfwriaeth trethiant - felly ar y lefel honno y byddai mynd i'r afael a mater fel hyn. 'Dwi'n cymryd mai trwy refferendwm lleol y byddai cymuned yn penderfynu os ydynt eisiau ysgol neu beidio.

Gadewch i ni edrych ar ychydig o ffigyrau. Cyn dechrau dyliwn bwysleisio nad ydw i yn defnyddio ffigyrau go iawn yma - does gen i ddim rhai wrth law, a byddai'n amhriodol ymdrin ag ysgolion penodol ar flog sy'n gyhoeddus i bawb.

Cymerer am funud bod ysgol fechan o 23 o blant, a bod y gwariant y pen ar y plant hynny yn £5,200, tra bod gwariant cyfartalog y sir mae'r ysgol ynddi yn £2,700. Ceir gwahaniaeth felly o £2,500 y plentyn rhwng gwariant yr ysgol a'r gwariant cyfartalog. O gyfieithu hyn i wariant tros yr ysgol byddwn yn son am 23 x £2,500 sydd yn £57,500. Felly o gymryd syniad HRF ar ei symlaf, byddai'n rhaid codi cymaint a hynny trwy drethiant lleol ychwanegol yn y gymuned o dan sylw.

Mae'n rhesymol cymryd mai cymuned o tua 400 o bobl fyddai'n cynnal ysgol o'r maint yma. Gallwn gyfieithu hyn i 200 cartref. Felly byddai'n rhaid i'r 200 cartref yna godi £57,500 trwy drethiant lleol ychwanegol. Mae hyn yn swm sylweddol o bres. Byddai'r dreth ychwanegol yn £287.50 y flwyddyn yn ychwanegol i bob cartref yn yr ardal.



Mae hefyd yn rhesymol cymryd y byddai 23 o blant yn dod o tua 15 teulu gwahanol. Byddai tua 200 o deuluoedd yn y pentref. Canran fechan o deuluoedd fyddai efo plentyn yn yr ysgol gynradd. Mae'n ddigon posibl y byddai rhieni a pherthnasau agos y 23 plentyn sydd yn yr ysgol yn ystyried bod talu £300 yn rhesymol am addysg leol i'w plant - ond son am efallai chwarter y tai yn y gymuned ydym ni wedyn. Fyddai'r tri chwarter arall eisiau talu bron i £300 ychwanegol? Efallai, ond fyddwn i ddim yn betio'n rhy drwm ar ganlyniad cadarnhaol refferendwm a dweud y gwir. Byddai modd chwarae o gwmpas efo'r ffigyrau wrth gwrs - disgwyl dim ond hanner y gost ychwanegol i gael ei godi'n lleol ac ati.

Ta waeth am hynny, mi gymerwn am ennyd bod pobl yn pleidleisio'n gadarnhaol mewn refferendwm ac ystyried y goblygiadau.

Yn gyntaf, byddai byw mewn llefydd gwledig yn ddrytach na fyddai byw mewn cymunedau trefol. Mae hyn eisoes yn wir wrth gwrs - mae'r ffaith bod pobl yn gorfod teithio ymhell i ganolfannau cyflogaeth ac at wasanaethau yn golygu bod cost uwch i fyw mewn ardal wledig beth bynnag. Os ydi'r ardal yn un sy'n apelio at bobl 'o'r tu allan' mae'r gost yn uwch eto oherwydd bod tai yn fwy drud nag ydynt mewn canolfannau trefol. Cost uwch byw mewn llefydd gwledig ydi un o'r prif ffactorau pam bod pobl yn symud o gymunedau gwledig i rhai trefol. Byddai trefniant fel hyn yn atgyfnerthu'r broses - y broses yma ydi prif ffynhonnell argyfwng ysgolion bychain yn y lle cyntaf.

Yn ail byddai'n gynsail gwirioneddol beryglys i gefn gwlad. Mae pob gwasanaeth yn ddrytach i'w ddarparu yng nghefn gwlad nag yn unman arall - hel sbwriel, fan llyfrgell, cymorth yn y cartref - pob un dim. Ar hyn o bryd mae'r gost ychwanegol yma'n cael ei rannu rhwng pawb - pobl sy'n byw mewn cymunedau trefol a rhai gwledig fel ei gilydd. Byddai gwneud i gymunedau dalu union gost y gwasanaethau maent yn ei dderbyn unwaith eto'n gwneud ardaloedd gwledig yn anatyniadol i fyw ynddynt a rhai trefol yn fwy atyniadol.

Mae'n eironi am wn i bod pobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig (fel HRF) yn tueddu i fod yn geidwadol, tra bod rhai sy'n byw mewn cymunedau trefol (fel fi) yn tueddu i fod yn llai felly. Byddai gweithredu egwyddorion ceidwadiaeth cyllidol ar sir sydd a chymunedau cymysg (hy rhai trefol a gwledig) fel Gwynedd yn wirioneddol niweidiol i gefn gwlad (ac yn gymharol fanteisiol i gymunedau trefol).

Mae'r syniad yn un diddorol - ond 'dwi'n anghytuno sylfaenol efo fo oherwydd y byddai'n arwain at wneud cefn gwlad yn llai hyfyw o lawer nag yw heddiw.

Sunday, March 01, 2009

Cyngor Gwynedd, toriadau a gwleidydda cyfrifol

Mae Hen Rech Flin yn cwyno nad oedd fy nghyfraniad diwethaf i'r blog yn amddiffyniad da o benderfyniad Cyngor Gwynedd i gau cartref henoed Bryn Llywelyn yn Llan Ffestiniog. Mae hynny'n ddigon gwir - beirniadaeth ar ymgais HRF i gysylltu'r penderfyniad a brad cenedlaethol oedd. Serch hynny, gan fod HRF yn codi'r peth, mi wnaf ychydig o sylwadau ynglyn a'r toriadau yn gyffredinol.

Wna i ddim trafod sefyllfa Bryn Llywelyn yn benodol - dydw i ddim yn gwybod digon am fanylion trafodaethau'r Cyngor Sir. Serch hynny 'dwi'n copio'r sylwadau a adawodd Dyfrig Jones ar flog Hen Rech Flin (heb ofyn ei ganiatad gyda llaw - 'dwi'n gwybod y bydd yn maddau i mi - mae wedi maddau llawer gwaeth yn y gorffennol.

Gyda phob parch, Alwyn, dwi ddim yn credu dy fod yn ymdrin a'r drafodaeth yma yn deg. Does neb yn awgrymu nad yw'r gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig ar y funud ym Mryn Llewelyn yn wasanaeth da iawn. Ond rhaid ystyried addasrwydd yr adeilad, a'r math o ddarpariaeth fydd ei angen yn y dyfodol. Y gwir yw bod 'na 13 o w'lau yn Bryn Llewelyn, ac fe fydd y ddarpariaeth yna yn diflannu gyda chau'r cartref. Ond mae'r Cyngor yn adeiladu estyniad modern i gartref Bryn Blodau - sydd filltir i fyny'r ffordd - a fydd yn golygu ychwanegu 10 gwely at y ddarpariaeth bresennol. Ac fe fydd y 10 ystafell yma yn ystafelloedd wedi eu hadeiladu yn arbennig ar gyfer anghenion trigolion cartref henoed, yn hytrach na bod yn ystafelloedd mewn heb blasdy, wedi ei addasu ar gyfer defnydd gan yr henoed. Yn ychwanegol at hyn, mae'r Cyngor yn codi 40 o dai gofal ychwanegol yn Blaenau, fydd - yn y dyfodol - yn cynnig cyfle i'r henoed dderbyn gofal proffesiynnol, ond o fewn cyd-destun lle maent yn dal eu gafael ar eu hannibynniaeth. Ac mae pob arolwg yn dangos mai dyna'r math o ofal y bydd pobl yn gofyn amdano yn y dyfodol.
O ran y staff, mae'r Cyngor wedi ei gwneud hi'n glir na fydd yr un aelod o staff yn cael ei ddi-swyddo, ac y bydd pob un yn cael cynnig swyddi gofal newydd. Felly fe fydd yr ymarfer da sydd i'w ganfod yn Bryn Llewelyn yn aros o fewn Gwynedd - a gobeithio yn aros ym Mlaenau, gan gyfrannu at y ddarpariaeth newydd sydd yn cael ei sefydlu.
Dwi'n gwybod y bydd y broses o symyd o Bryn Llewelyn yn un anodd i nifer o'r trigolion, a bydd y Cyngor yn sicrhau ei fod yn gwneud popeth sydd yn bosib i leihau'r anghyfleustra. Ond erys y ffaith bod 'na broblemau sylfaenol gyda adeilad Bryn Llewelyn. Petai'r Cyngor wedi mabwysiadu gwelliant Linda Jones ddoe - a oedd yn galw am newid defnydd y cartref - fe fyddai gwaith sylweddol wedi gorfod cael ei wneud ar yr adeilad, ac yn ol pob tebyg, fe fyddai'r trigolion wedi gorfod gadael Bryn Llewelyn dros dro, beth bynnag.
Wrth gwrs, fyddai dim modd i ti wybod hyn oll o wrando ar y cyfryngau, gan mai dim ond ochr negyddol y stori sydd yn cael ei hadrodd. Ond y gwir yw bod Cyngor Gwynedd yn gwella y ddarpariaeth i'r henoed yn ardal Ffestiniog, ac yn sicrhau bod gan y fro arbennig honno ddarpariaeth sydd yn addas ar gyfer anghenion yr 21ain ganrif.


Wna i ddim ychwanegu at sylwadau Dyfrig - ag eithrio i nodi eu bod yn hynod gyflawn a thrylwyr. Mi ddyliwn i ychwanegu, er mwyn tegwch, bod Gwilym wedi tynnu fy sylw at ymateb ganddo ar flog arall i rhai o'r pwyntiau mae Dyfrig yn eu gwneud. Wna i ddim dyfynnu'r sylwadau yn llawn - mae'n ddigon cael Dyfrig yn dominyddu fy mlog, heb gael Gwilym yn gwneud hynny hefyd!

Eto, heb fynd i drafod sefyllfaoedd penodol, mi hoffwn wneud sylw neu ddau ynglyn a sefyllfa ariannol y Cyngor. Mae'r sefyllfa yn ymylu at fod yn argyfyngys - mae disgwyl i Gyngor Gwynedd dorri ar wariant eleni, y flwyddyn nesaf ac ym mhob blwyddyn y gallwn eu rhagweld. Nid yw hyn yn cael ei yrru gan benderfyniadau'r Cyngor ei hun - fe'i gyrrir gan y ffaith bod setliad ariannol y Cynulliad yn waeth nag oedd yn y gorffennol. Gyrrir hynny yn ei dro gan y ffaith bod yr adnoddau mae'r Cynulliad yn eu derbyn gan San Steffan yn eu tro yn cael eu lleihau. 'Dydi Cyngor Gwynedd ddim ar ei ben ei hun yn gorfod gwneud rhywbeth o'r picil yma - mae'r rhan fwyaf o gynghorau Cymru mewn sefyllfa digon tebyg.


'Rwan, os ydi'r adnoddau sydd ar gael i gyngor yn cael eu tocio o flwyddyn i flwyddyn, nid yw'n bosibl cadw'r ddarpariaeth fel ag y mae, nag yn wir ei gynyddu. Petai cyngor yn dilyn trywydd felly byddai dau beth yn digwydd:

(1) Byddai ansawdd gwasanaethau yn dirywio'n fisol - ni fyddai yna adnoddau ar gael i'w cynnal ar yr un lefel a maent yn cael eu cynnal ar hyn o bryd.

(2) O fewn cyfnod o rai blynyddoedd byddai'n rhaid torri'n sylweddol ar wasanaethau - a byddai'r toriadau hynny'n digwydd mewn modd na ellid ei reoli'n hawdd - toriadau brys fyddent a fyddai'n cael eu gorfodi ar y Cyngor. O leiaf mae rheolaeth ar y toriadau presenol.

'Dydw i ddim yn dadlau bod pob toriad mewn gwasanaethau yn briodol wrth gwrs. Mae'n ddigon posibl bod rhai o'r dewisiadau yn rhai gwael o gymharu a thoriadau eraill posibl. Ond, nid yw'n bosibl dadlau - yn gyfrifol ac yn gall - na ddylid gwneud toriadau o gwbl.

Dyma'r cyd destun sy'n gwneud toriadau o rhyw fath yn anorfod. Mae Gwilym Euros yn ei flog yn gweld cyd destun arall pwysicach - cyd destun o ddiffygion moesol a phersonol ymysg y sawl sy'n pleidleisio tros y toriadau - maent yn griw o unigolion anghynes, diegwyddor, diasgwrn cefn a dan din. O - ac mae Dyfrig Jones yn goc oen hefyd. Mae testun cudd i hyn wrth gwrs - pan rydym yn dweud bod ein gwrthwynebwyr yn anfoesol, rydym hefyd yn awgrymu ein bod ni ein hunain yn foesol - felly mae Gwilym yn awgrymu ei fod o ei hun yn fynwesol, yn egwyddorol, yn ddewr ac yn onest. Digon posibl ei fod, 'dydw i ddim yn ei adnabod yn dda yn bersonol - ond 'dydi hynny ddim yn golygu nad oes pobl ar ochr arall y ddadl wleidyddol sydd a mymryn o hygrededd a moesoldeb yn perthyn iddynt hefyd.

'Rwan, y peth mwyaf caredig y gallaf ei ddweud am y math yma o beth ydi nad yw yn ffordd arbennig o soffistigedig o resymu'n wleidyddol. Mae dehongli gweithredoedd gwleidyddol gwrthwynebwyr yn nhermau eu hanfoesoldeb nhw yn nodwedd o wleidydda'r Dde eithafol. Er enghraifft, mae'r BNP yn hel pob sgandal ym mywydau personol eu gwrthwynebwyr ac yn eu cyhoeddi. Ceir ymysodiadau ar gymhellion personol tybiedig gwleidyddion yn hytrach na'u cymhellion gwleidyddol.

Dangoswyd y tueddiad hwn hefyd yn anffodus gan un neu ddau o ymgeiswyr Llais Gwynedd yn yr ymgyrch ar gyfer etholiadau lleol 2008, lle'r oedd rhai o'u gwrthwynebwyr yn cael eu diafoli.

'Dydw i ddim am eiliad yn awgrymu bod Gwilym na neb arall yn Llais Gwynedd yn rhannu gwleidyddiaeth y Dde eithafol wrth gwrs - i'r gwrthwyneb, 'dwi'n gwybod nad ydynt. Ond mae'r arfer o symleiddio gwleidyddiaeth i anterliwt lle ceir gornest rhwng daioni a drygioni yn nodwedd o wleidyddiaeth populist ('dwi ddim yn siwr o'r Gair Cymraeg yma mae gen i ofn).

Mae meddylfryd y traddodiad gwleidyddol yma yn dyladwadu ar Lais Gwynedd, mudiadau asgell Dde yn Ewrop a Phrydain, a rhai mudiadau y gellid eu disgrifio fel rhai adain Chwith yn Ne America. Yn wir roedd rhai elfennau ohono yn ymgyrchoedd John McCain a Barak Obama. Mae'r traddodiad yn ei hanfod yn un afresymegol, ac mae'n creu anhrefn gwleidyddol yn ei sgil.

'Rwan, mae'r blynyddoedd nesaf am fod yn rhai anodd i lywodraeth leol yng Ngwynedd, ac yng ngweddill Cymru - ac mae penderfyniadau anodd am orfod cael eu gwneud gan rhywun neu'i gilydd. Mae gwleidydda trwy honni bod cynrychiolwyr cyhoeddus cyfrifol, ymroddedig a chydwybodol yn cymryd penderfyniadau anodd oherwydd eu bod yn gywion Uffern yn llusgo gwleidyddiaeth Gwynedd i'r gwter - unwaith eto.

Saturday, February 28, 2009

Gwobr Hen Rech Flin - rhan 2

Mae llawer o'r hyn a ysgrifennir ym mlogiau HRF yn gwbl gall a rhesymol, ond mae ambell i gyfraniad yn gwneud i fy llygaid agor i'r fath raddau nes bod perygl gwirioneddol iddynt syrthio ar y llawr.

Pan gwymp y call fe gwymp ymhell.

Ychydig fisoedd yn ol cefais y syniad o roi gwobr HRF o bryd i'w gilydd am idiotrwydd rhyfeddol ar y We. Roedd hyn yn dilyn y sylwadau gwirioneddol idiotaidd gan HRF y byddai yntau a'i deulu yn siwr o osgoi effeithiadau'r dirwasgiad oherwydd na fu'r un ohonynt yn ddigon anffodus i ddal ffliw adar.

Enillydd cyntaf y wobr oedd cyfaill sy'n galw ei hun yn Still a Liberal oherwydd iddo honni bod pris olew byd eang yn cael ei yrru gan bwerau ymgyrchu y cadach llawr o aelod seneddol sydd gan Ceredigion - Mr Mark Williams.

Beth bynnag, daeth yn amser i ddyfarnu ar wobr HRF newydd - a'r enillydd yw _ _ _ y dyn ei hun - HRF. Y cyfraniad hwn sy'n mynd a hi - gyda theitl sydd ymysg y pethau gwirionaf i gael ei ysgrifennu yn y Gymraeg, ac yn wir un o'r pethau gwirionaf i gael ei 'sgwennu mewn unrhyw iaith.

Awgrym Alwyn ydi y byddai Llywelyn ein Llyw Olaf yn wylo, ac yn wir o bosibl yn wylo gwaed petai'n gwybod y byddai cartref henoed Bryn Llywelyn yn Llan Ffestiniog yn cau wyth gan mlynedd yn y dyfodol. Lle ddiawl mae dyn yn dechrau ymateb i sylw fel hwn?

Mae'n debyg bod y cyd ddigwyddiad bod y cartref henoed yn rhannu enw gyda gwrthrych cerdd Gerallt Lloyd Owen yn ormod o demtasiwn i Alwyn - ond mae ei gyfeiriad yn un sy'n cysylltu'r sawl a bleidleisiodd tros gau'r cartref a brad yr arwisgiad yn ol yn 69. Mae'r cyswllt yma yn chwerthinllyd o amhriodol.

Roedd Llywelyn yn dywysog ffiwdal, canoloesol, doedd o ddim yn weithiwr cymdeithasol dagreuol, nag yn wir yn aelod o Lais Gwynedd. 'Doedd yna ddim llawer o bobl yn byw i fod yn ddigon hen i fod angen gofal yn ei henaint ar y pryd, a byddai'r syniad bod y wladwriaeth, neu awdurdodau lleol gyda chyfrifoldeb am edrych ar ol yr henoed, neu'n wir unrhyw un arall yn gwbl anaealladwy iddo.

Roedd yn byw ganrifoedd cyn y digwyddiadau mawr sydd wedi creu'r Gymru ryddfrydig ol Gristnogol yr ydym yn byw ynddi - roedd yn byw cyn Harri V111 a dyfodiad Protestaniaeth, cyn cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg, cyn y rhyfel cartref Seisnig, cyn setliad 1688, cyn y chwyldro Ffrengig, cyn y diwygiadau Protestanaidd Cymreig, cyn y chwyldro diwydiannol, cyn sefydlu llywodraeth leol, cyn Lloyd George a'r pensiwn, cyn Marx, cyn dirwasgiad mawr y dau ddegau a'r tri degau, cyn yr NHS a'r wladwriaeth les.

Ac eto mae teitl cyfraniad HRF yn ein hanog i gredu y byddai tywysog ffiwdal ar ei liniau yn wylo gwaed oherwydd bod rhywbeth y byddai'n gyfangwbl y tu allan i'w brofiad a'i ddirniadaeth yn cau mewn wyth gan mlynedd.

Monday, December 29, 2008

'Ymadawiad' Linda Wyn Jones a grwp y Blaid ar Gyngor Gwynedd

Mae'n hysbys i rai ohonoch am wn i bod Gwilym Euros wedi dyfynnu'r honiad yn y Caernarfon & Denbigh - papur sydd prin yn un o brif gyfeillion y Blaid yng Ngwynedd - bod Linda Wyn Jones wedi ymadael a grwp y Blaid.

A bod yn deg a Gwilym, 'dydi o ddim yn honni bod Linda wedi gadael, er ei fod yn nodi - yn gwbl gywir - ei bod yn anhapus a rhai penderfyniadau diweddar gan y cyngor. Nodi mae o bod y stori yn y C&D. 'Dydi hyn ddim yn atal Alwyn ap Huw rhag dweud i Gwilym wneud yr honiad. Mae gwneud sylwadau camarweiniol yn nodwedd o flogiau Alwyn wrth gwrs, ac mae wedi cynhyrfu cymaint mae'n mynd ymlaen i wneud cyfres o honiadau tra anhebygol - megis y gallai deg cynghorydd adael - ac mae hyd yn oed yn rhagweld y bydd Llafur yn 'cadw' Arfon - er gwaethaf y gweir anferth gaethant yn yr etholaeth gan y Blaid yn yr etholiadau Cynulliad a'r etholiadau lleol diweddar.

Beth bynnag, rhydd i bawb ei farn - ond mi hoffwn wneud un sylw bach. Nid oes yna unrhyw wirionedd yn y stori yn y Caernarfon & Denbigh i Linda adael grwp y Blaid ar Gyngor Gwynedd.

Thursday, December 25, 2008

Rol y snob ideolegol yn y teulu cenedlaetholgar

Mae'r ddadl rhwng Rhydian, gwahanol gyfranwyr anhysbys a Hogyn o Rachub yma wedi codi nifer o gwestiynau digon diddorol. Mi gefais gip y diwrnod cyn y Nadolig ar y cwestiwn o pryd y dylid cynnal refferendwm. Fy mwriad heddiw ydi cael golwg ar fater arall - rol y snob ideolegol mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru.

Efallai bod snob ideolegol yn derm ychydig yn gas - chwilio am derm am ideological purist oeddwn i, ond mae'n mynegi'r hyn 'dwi'n ceisio ei ddweud cymaint yn well. Y peth cyntaf i'w ddeall am y snob ideolegol ydi nad oes ganddo unrhyw ddiddordeb mewn, na dealltwriaeth o wleidyddiaeth etholiadol. Ei brif ddiddordeb ydi harthio nad ydi pobl eraill cyn bured a fo ei hun. Felly mae'r snob ideolegol sydd hefyd yn genedlaetholwr Cymreig yn meddwl ei fod yn well cenedlaetholwr na neb arall, ac mai ei le fo yn nhrefn pethau ydi tynnu sylw at pob dim mae ei gyd genedlaetholwyr yn eu gwneud nad ydynt yn genedlaetholgar yn eu hanfod.

'Dwi wedi canfasio tros rhyw Bleidiwr neu'i gilydd ers etholiad cyffredinol 1983. Yn ystod yr amser yna gallaf ddweud gyda pheth hyder fy mod wedi sefyll wrth ddrws miloedd ar filoedd o bobl yn trafod gwleidyddiaeth efo nhw. Mae pobl yn barod iawn i drafod yr hyn sydd yn eu poeni.

Y themau mwyaf cyffredin ydi materion yn ymwneud a thai a chynllunio, swyddi, cymdogion sy'n defnyddio cyffuriau ac yn ymddwyn yn wrth gymdeithasol, treth y cyngor, datblygiadau lleol ('dwi wedi clywed am y datblygiad ar Ddoc Fictoria mor aml nes fy mod eisiau sgrechian pob tro 'dwi'n meddwl am y lle). Roedd y rhyfel yn Irac yn codi ar aml i stepan drws yn ystod y ddwy etholiad diwethaf - roedd pawb, yn ddi eithriad yn erbyn.

Mae pobl yn codi pob math o bethau eraill hefyd - llawer ohonynt yn bisar - cefais un cyfaill oedd wedi gwisgo fel dynas yn dweud mai hawliau hoyw oedd y peth mawr iddo fo a chymydog agos oedd gyda baner fawr yr hen Dde Affrica (hy baner y De Affrica aparteid) yn bytheirio bod gormod o bobl sydd a gwyrdroedigaethau rhywiol yn poblogi San Steffan. 'Dwi wedi clywed llawer un yn dweud nad ydynt am bleidleisio oherwydd eu bod eisoes wedi pleidleisio tros Grist. Mae yna foi yn Twtill sy'n poeni bod Caernarfon yn cael ei boddi gan bobl dduon, ac mae yna foi yn yr un rhan o'r dref sy'n poeni bod gwreiddiau coeden sy'n tyfu o flaen ei dy yn mynd i chwalu'r seiliau a ddymchwel ei gartref i'r llawr. Mae'n fodlon pleidleisio i'r sawl sy'n fodlon torri'r goeden. 'Dwi hefyd wedi clywed aml i fan swyddog cyngor yn gwrthod dweud i bwy maent am bleidleisio oherwydd bod eu swydd mor ofnadwy, ofnadwy o bwysig nes ei bod yn hanfodol bod yn ddi duedd pob amser.

'Dwi erioed - ddim unwaith wedi clywed neb yn codi mater cyfansoddiadol o unrhyw fath - dim byd ynglyn a datganoli, dim ynglyn a'r frenhiniaeth, dim ynglyn a Thai'r Arglwyddi a dim ynglyn ag annibyniaeth i Gymru, dim gair, dim sill, dim byd - zilch.

Mi fedra i gyfri ar un llaw yr adegau mae pobl wedi codi statws y Gymraeg. Y tro diwethaf i hyn ddigwydd oedd ar stad dai cyngor 'Sgubor Goch ar gyrion Caernarfon rhyw dair blynedd yn ol. Daeth dyn mewn tracwisg a chap pel fas i'r drws a chymryd fy mhapur o fy llaw ac edrych trosto'n frysiog cyn dweud - Da iawn chdi cont felna mae'r peth i fod yn Gnarfon Cymraeg gynta a Susnag wedyn nath y boi Tori roid papur i fi yn dre ddoe efo'r Susnag gynta rel ffycin Cardiff mi nes i stwffio fo i lawr i gorn gwddw fo dwi'm yn fotio i neb cofia gas gin i politics. 'Dwi ddim yn gwamalu.

'Rwan 'dydi hyn ddim yn golygu nad ydi'r materion sydd yn agos at galon HRF, HOR a'u tebyg yn ogystal ag i'r rhan fwyaf o aelodau a gweithwyr y Blaid ddim yn bwysig i'r cyhoedd yn gyffredinol. 'Dwi'n siwr eu bod yn bwysig i lawer o bobl - ond dydyn nhw ddim yn flaenoriaethau uchel iawn i bobl pan maent yn meddwl am sut i bleidleisio. Mae pobl sy'n ymddiddori mewn materion ieithyddol a chyfansoddiadol yn fwy tebygol o bleidleisio i'r Blaid wrth gwrs - ond 'dydi naratif syml a di gyfaddawd ddim yn ennill digon o bleidleisiau i ennill unrhyw etholiadau o unrhyw fath. Dyma gamgymeriad mawr y Blaid am tua hanner ei hanes - yr hanner cyntaf pan nad oedd yn ennill unrhyw etholiadau a phan nad oedd ganddi nemor ddim dylanwad ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru.

Mae gwleidyddiaeth etholiadol yn estron i dirwedd gwleidyddol y snob ideolegol - tirwedd mewnol ydyw yn y bon - tirwedd sy'n ymwneud mwy ag anghenion personol y snob ideolegol nag anghenion gwlad y snob ideolegol.

Y peth cyntaf i'w ddeall am dirwedd gwleidyddol y snob ideolegol ydi ei fod yn lle braf i fod ynddo. Mae cynnal safbwynt deallusol cyson ac anhyblyg yn hawdd, cyn belled nad ydym yn caniatau i fywyd go iawn amharu llawer arno. Mae'n hawdd ennill dadl abseliwtaidd yn erbyn rhywun sy'n hyblyg ac ymarferol. Mae yna fanteision ychwanegol wrth gwrs - gall y snob ideolegol edrych i lawr ei drwyn ar y sawl sydd wedi cyfaddawdu gyda bywyd pob dydd er mwyn symud yr agenda genedlaethol yn ei blaen. Gall deimlo'n bwysicach, yn fwy gonest, yn fwy cyson ac yn burach na'i gyd genedlaetholwyr. 'Dydi'r ffaith mai'r dywydiedig gyd genedlaetholwyr sydd wedi dod a ni i lle'r ydym heddiw ddim yn amharu mymryn ar y pleser hwnnw wrth gwrs.

Gall y snob ideolegol fod yn ddiog ac eistedd yn ol yn ei gadair a chyfiawnhau peidio a gwleidydda - wedi'r cwbl does yna'r un blaid yn ddigon pur iddo fo. Felly gall edrych o hirbell ar eraill yn ymdrechu, croesawu pob cam ymlaen yn ddistaw bach tra'n beirniadu'r mudiad cenedlaethol am beidio a chyflawni digon yn ddigon cyflym, wrth unrhyw un sy'n fodlon gwrando.

Mae yna stori fach sydd bron yn ddameg o ddiffygion y snob ideolegol. Os 'dwi'n deall safbwynt Hogyn o Rachub yn iawn 'dydi o ddim yn pleidleisio i'r Blaid yng Nghaerdydd oherwydd nad yw'n ystyried y Blaid yno yn ddigon 'cenedlaetholgar'. 'Rwan pe byddai'r Blaid yng Nghaerdydd yn dilyn cyngor HoR ni fyddant yn etholadwy mewn unrhyw ward yn y ddinas. Ni fyddant yn etholadwy hyd yn oed yng Ngwynedd, nag yn wir yn Rachub.

Yn y cyfamser mae'r Blaid trwy gyfaddawdu, bod yn ymarferol a cheisio apelio at amrediad eang o bobl wedi cael peth llwyddiant yng Nghaerdydd - yn rhannol oherwydd pleidleisiau pobl o leiafrifoedd ethnig. Un o ganlyniadau'r llwyddiant rhannol yma ydi bod y Blaid yn rhan o'r glymblaid sy'n rheoli yng Nghaerdydd, ac un o ganlyniadau hynny yn ei dro ydi bod y ddarpariaeth addysgol Gymraeg yn y brif ddinas yn debygol o gael ei thrawsnewid tros y blynyddoedd nesaf. Hwn ydi un o'r datblygiadau pwysicaf yn hanes addysg Gymraeg ers blynyddoedd lawer.

Hynny yw mae cenedlaetholwyr naturiol sydd wedi dod i ddeall tros flynyddoedd sut i lwyddo yn etholiadol wedi defnyddio'r llwyddiant hwnnw i symud agenda genedlaetholgar yn ei blaen. Mae'r snob etholiadol am ymateb trwy ddweud nad yw'r llwyddiant yn ddigonol, a'i fod o ei hun yn llawer purach na neb arall. Ond wrth gwrs pe byddai cyngor y snob ideolegol wedi ei ddilyn ni fyddai unrhyw beth o gwbl wedi ei gyflawni - ond 'dydi hynny ddim ots - mae'r snob wedi amddiffyn ei direwdd mewnol cyfforddus - a dyna'r oll sy'n bwysig yn y pen draw.

'Rwan o ddarllen hyn oll efallai eich bod yn meddwl fy mod o'r farn nad oes gan y snob ideolegol unrhyw rol o gwbl - ond mi fyddech yn anghywir. Mae yna bwrpas iddo - ond 'dydi o ddim yn bwrpas arbennig o bwysig. Mae'r mudiad cenedlaethol angen cydwybod o rhyw fath. 'Rwan yn amlwg mae mymryn o berygl i'r broses etholiadol droi cenedlaetholdeb yn risgl gwag sydd heb agenda cenedlaetholgar o gwbl - ychydig fel Llais Gwynedd sy'n canolbwyntio eu holl ymdrechion ar amddiffyn hen doiledau drewllyd ac ymosod ar yr amgylchedd oherwydd eu bod yn meddwl bod hynny'n etholiadol boblogaidd. 'Dydi'r perygl yma ddim yn fawr iawn wrth gwrs - i'r gwrthwyneb - mae'r Blaid wedi llwyddo i symud yr agenda cenedlaethol yn ei blaen pan mae mewn grym, a phan nad yw mewn grym. Ond rhag ofn, 'mond rhag ofn, efallai nad ydyw'n ddrwg o beth i gael rhywun yn grwgnach yn y cefndir.

Mae'n debyg bod gan bawb rhyw berthynas mewn oed mawr - hen nain efallai - sy'n boenus am pob dim ac yn swnian yn ddi ddiwedd - gwna'n siwr dy fod yn rhoi dy felt pan rwyt yn mynd i'r car, criba dy wallt, paid a dreifio yn lysh gachu, rho dy got cyn mynd allan rhag ofn i ti ddal anwyd, paid a chysgu efo pobl dwyt ti ddim yn eu 'nabod rhag ofn i ti ddal rhywbeth, clyma dy sgidiau rhag ofn i ti faglu, torra dy wallt, cau'r drws mae yna ddrafft yma, tynna dy ddwylo allan o dy boced, ti angen bath, cofia gau dy falog ac ati ac ati.

Mae'r holl nagio yn blydi niwsans ac mae dyn yn cael bath ac yn cau ei falog a dreifio'n sobor beth bynnag - ond efallai - jyst efallai bod yr holl swnian yn gwneud rhyw fymryn bach, bach, bach o wahaniaeth weithiau.

Gwneud dipyn bach, bach, bach o wahaniaeth weithiau ydi rol y snob ideolegol.

Tuesday, December 23, 2008

Beth ydi pwrpas Hen Rech Flin?

Mae Hen Rech Flin yn gofyn beth ydi pwrpas Plaid Cymru?.

Y rheswm am hyn ydi ei fod wedi darllen rhywbeth yn y Western Mail sy'n dweud nad ydi Dafydd Elis Thomas am weld refferendwm ar bwerau deddfu i'r Cynulliad tan ei fod yn siwr y bydd yn cael ei ennill.

Yn rhyfedd iawn mae dau o aelodau blaenllaw y Blaid - Bethan Jenkins ac Adam Price wedi galw am roi cychwyn ar ymgyrch yn syth bin. Ymddengys nad ydi Alwyn wedi sylwi ar hyn. A dweud y gwir nid yw'n hawdd deall agwedd Alwyn o gwbl at y pwnc yma - hanner yr amser mae'n edrych i lawr ei drwyn ar y sawl ohonom sy'n gweld datganoli fel y ffordd o ddod ag annibyniaeth i Gymru. I'r graddau bod y ddadl yn ddealladwy o gwbl y rhesymeg mae'n debyg ydi bod na rhyw gynllwyn i atal annibyniaeth ydi datganoli.

Mae Alwyn hefyd wedi ypsetio ei ben bach oherwydd bod adroddiad ffug yn golwg bod un o gynghorwyr Plaid Cymru, Eddie Dogan o Fangor wedi galw Gwilym Euros yn fucking idiot yn siambr y Cyngor wythnos diwethaf. 'Dydi hyn heb ypsetio Gwilym ei hun a bod yn deg - er y byddai hynny wedi bod yn rhagrithiol braidd ag ystyried ei fod yn dod mor agos ag y gall i ddisgrifio cynghorydd arall - Dyfrig Jones - fel coc oen. yn ei gyfraniad nesaf i'w flog. Rhywbeth arall na sylwodd Alwyn arno. Mi fyddai'n ddiddorol cael gwybod beth ydi barn Llais Gwynedd am fwy o bwerau i'r Cynulliad - os ydynt wedi ystyried y mater o gwbl.

Felly mae Alwyn wedi dod o hyd i un sylw nad yw yn ei hoffi ynglyn a refferendwm, ac un sylw gan Eddie (wedi i hwnnw gael y myll fel y bydd ambell waith) am Gwilym Euros a wele - mae ganddo i esgus i ofyn ei hoff gwestiwn mewn bywyd.

Pwrpas Alwyn wrth gwrs ydi gofyn beth ydi pwrpas Plaid Cymru pob hyn a hyn a mynd trwy'r rigmarol o fflyrtian rhyw ychydig efo plaid David Davies.

Thursday, November 20, 2008

Llafur a PR

Newydd weld hwn ar flog Saesneg Hen Rech Flin.

Mae'n ddiddorol, ond mae'n cam gynrychioli pethau. Gan nad ydw i wedi darllen erthygl Rhodri Morgan, 'dwi ddim yn siwr os mai Rhodri ta Alwyn sydd wedi drysu. Efallai bod y ddau yn y niwl.

Yr hyn mae Alwyn yn ei ddweud ydi y byddai Rhodri yn hoffi'r syniad o ddull PR o bleidleisio yng Ngorllewin Cymru, tra'n cadw'r drefn bresenol yn y Cymoedd oherwydd y byddai hynny o fudd i Lafur. Mae'r ddadl yma wedi ei seilio ar gam ddealltwriaeth o'r ffordd y byddai PR yn debygol o weithio.

Pe byddai PR yn cael ei fabwysiadu yng Nghymru mae'n debyg mai'r dull a ddefnyddir yn yr Alban a Gogledd Iwerddon fyddai - STV etholaethau aml sedd.

'Rwan byddai rhaid gweithredu fersiwn anarferol iawn STV iddo fod o gymorth i Lafur mewn etholiadau lleol yn y Gorllewin - mae eu cefnogaeth yn rhy isel i sicrhau seddi o dan y drefn arferol.

Heb fynd yn or dechnegol, mewn etholaeth gyda phedair sedd byddai'n rhaid i ymgeisydd ddod o hyd i 20% o'r bleidlais erbyn diwedd y broses cyn ennill sedd. Petai'n etholaeth tair sedd byddai'n rhaid wrth 25% o'r cyfanswm. Petai'n un 5 sedd byddai'n rhaid dod o hyd i tua 16.5% o'r bleidlais. Ar lefel leol nid oes gan Llafur y math yma o gefnogaeth yn y Gorllewin gwledig (mae'n stori ychydig yn gwahanol ar lefel seneddol a Chynulliad).

I roi'r sefyllfa yn ei chyd destun ni allai Llafur fod yn hyderus o ennill unrhyw sedd y tu allan i Fangor yng Ngwynedd. Ar Ynys Mon dim ond yng Nghaergybi y gellid bod ag unrhyw sicrwydd. Ni fyddent yn debygol o ennill unrhyw seddi yng Ngheredigion, a dim ond yn ardaloedd Doc Penfro ac Aberdaugleddau y gallent sicrhau unrhyw beth ym Mhenfro. Hwyrach y gellid ennill sedd neu ddwy yn ardal Ystradgynlais yn Ne Powys.

Ar y llaw arall byddai mantais i Lafur mewn rhai lleoedd yng Nghymru. Er enghraifft mae'r dref bresenol (FPTP) yn garedig gyda Llafur mewn etholiadau seneddol a Chynulliad yn ninasoedd y De, ond mae'n angharedig wrthynt mewn etholiadau lleol. Heb fod a'r ffigyrau wrth law, 'dwi'n weddol sicr bod pleidlais Llafur a'r Lib Dems yn debyg yng Nghaerdydd, ond cafodd y Lib Dems fwy o seddi o lawer.

Gallai PR fod o gymorth i Lafur - ond nid yn yr ardaloedd mae Alwyn a / neu Rhodri yn meddwl.

Thursday, October 30, 2008

Gwobr Hen Rech Flin

'Dwi wedi canmol blogiau Alwyn ap Huw yn y gorffennol - Miserable Old Fart a Hen Rech Flin.

Er bod Alwyn yn gwbl gyfeiliornus am fwy neu lai popeth mae'n ysgrifennu amdano, mae'n cynhyrchu stwff diddorol, deallusol a gwreiddiol yn aml. Bydd hefyd o bryd i'w gilydd yn cynhyrchu nonsens o'r radd flaenaf - efallai bod rhoi pwysau arnom ein hunain i flogio yn gwneud hynny'n anhepgor weithiau.

Enghraifft dda ydi'r neges gyfangwbl loerig yma, lle mae Alwyn yn rhesymu nad yw'r dirwasgiad mae'r byd gorllewinol ar fin byw trwyddo yn debygol o effeithio arno fo a'i deulu oherwydd na chafodd yr un ohonynt ffliw adar y llynedd. Mae hefyd yn cynnig y dadansoddiad gwirioneddol syfrdanol mai BBC News 24 sy'n gyfrifol am yr anhawsterau ariannol presennol.

Ag ystyried y 'rhesymeg' canol oesol yma, bwriadaf gyflwyno cydnabyddiad achlysurol o idiotrwydd llwyr a chyfangwbl, a galw'r cydnabyddiad hwnnw yn Wobr Hen Rech Flin. 'Dwi'n gwybod na fydd Alwyn yn meindio o gwbl.

Mae'r awgrymiad y cyfeiriais ato ddoe, sef nad ydi Mark Williams ymysg yr Aelodau Seneddol mwyaf disglair, wedi esgor ar nifer o sylwadau idiotaidd gan bobl sy'n ceisio ei amddiffyn. Yn rhyfedd iawn, hyd y gwn i 'does yna neb wedi ceisio amddiffyn Alan Williams.

Er enghraifft ar faes e mae Mr Urdd yn dadlau bod Mark yn goblyn o aelod seneddol da oherwydd iddo gymryd arno'i hun i wneud gwaith y Citizen's Advice Beareau yn hytrach na'i briod waith ei hun, tra bod Madrwyddygryf rhywsut, rhywfodd wedi argyhoeddi ei hun mai pleidleisiau Cymry Cymraeg Ceredigion oedd yn gyfrifol am anfon Mark i San Steffan.

Serch hynny, gweddol fan a di ddim ydi idiotrwydd Mr Urdd a Madrwyddygryf wrth ymyl ymdrechion un o'r cyfranwyr a ymddangosodd ar flog Ordovicus pan gyfieithodd hwnnw fy sylwadau i am Mark ac Alan Williams. Gweler yma. Mae'n werth dyfynnu sylwadau Still a Liberal yn llawn

I disagree, Mark Williams is a fighter - just look at what he did to keep Post Offices open in Ceredigion - and the price has come down since he started his campaign to get cheaper petrol in rural areas

Mae'n gwneud dau honiad cwbl anhygoel. Yn gyntaf mae'n honni bod Mark wedi cadw swyddfeydd post yn agored yng Ngheredigion - er i'w ymgyrch fethu cadw cymaint ag un yn agored.

Yn ail ymddengys ei fod yn honni i Mark lwyddo i ddod a phrisiau ynni byd eang i lawr. Mae bron i bawb wedi bod yn llafurio o dan y camargraff bod pris petrol wedi syrthio oherwydd bod y galw am y stwff wedi lleihau fel mae'r byd yn symud i mewn i ddirwasgiad economaidd.

Ond na - ymgyrch Mark sy'n gyfrifol - 'dydi'r grymoedd economaidd anferthol sy'n fynych yn chwalu cymunedau a diwylliannau, sy'n anfon pobl yn eu miliynau o un rhan o'r byd i ran arall miloedd o filltiroedd i ffwrdd, sy'n gallu gwneud i ffermwyr yn eu canoedd o filoedd adael eu cynhaeaf yn pydru yn y caeau, sy'n gallu troi pobl barchus yn lladron a phuteiniaid yn ddim ger bron pwerau ymgyrchu Mark. Os ydi o fewn ei allu i atal cwrs grymoedd mawr amhersonol fel hyn pwy a allai amau na allai eistedd ar ei orsedd ar lan y mor a throi'r llanw yn ei ol, ac felly llwyddo lle fethodd y Brenin Caniwt gynt.

Mae Still a Liberal yn llawn deilyngu'r fraint o fod yn ddeilydd cyntaf Gwobr Hen Rech Flin am idiotrwydd llwyr a chyfan gwbl.



Mark yn atal y llanw.

Thursday, October 02, 2008

Hen Rech Flin a Chenhadon Casineb

Newydd sylwi ar sylwadau Hen Rech Flin ar y ffrae bach 'dwi wedi ei chael gyda rhai o aelodau Llais Gwynedd yn ddiweddar.

Cyn dweud dim arall, 'dwi'n hoff iawn o ddau flog Alwyn, ac yn fy marn i Hen Rech Flin ydi'r blog gwleidyddol gorau yn yr iaith Gymraeg - mae'n gyson, yn ddeallusol ac yn dreiddgar. Wedi dweud hynny, dydw i ddim yn cytuno efo Alwyn ar fawr ddim - ag eithrio'r gred greiddiol sydd wrth wraidd fy mlog i a'i un yntau - sef y dylai Cymru fod yn annibynnol fel pob gwlad arall gwerth ei halen.

'Dwi'n derbyn mai siom yn y Blaid sydd wedi gyrru rhai pobl i freichiau Llais Gwynedd - 'does yna neb wedi bod yn fwy beirniadol na fi o'r Blaid ar fater ysgolion.

Yr hyn sydd yn fy mlino ydi bod nifer o bobl sydd yn casau'r Blaid wedi cymryd mantais o gamgymeriadau strategol ar ran arweinyddiaeth y Blaid diweddaryng Ngwynedd i greu plaid sydd yn ei hanfod yn wrth genedlaetholgar.

Hanfod Llais Gwynedd ydi pledio tros fantais i un rhan o Gymru ar draul y gweddill. Gwendid gwleidyddol Cymru yn hanesyddol ydi'r ffaith ein bod yn gymdeithas ranedig. Mae'r rhaniadau hyn wedi bod yn fel ar fysedd ymgyrchwyr gwrth Gymreig yn y ddau refferendwm datganoli yn 79 a 97. Prif dacteg gwleidyddol y gwrth ddatganolwyr oedd chwarae ar hen holltau - y rhai rhwng y De a'r Gogledd, y siaradwyr Cymraeg a'r di Gymraeg, y sawl sydd wedi eu geni yn Lloegr a'r sawl sydd wedi eu geni yng Nghymru ac ati.

Mae Llais Gwynedd yn creu un rhaniad arall - mae'n un diferyn arall o fel ar fysedd y sawl nad ydynt yn credu bod Cymru'n genedl.

Tuesday, July 29, 2008

Datganoli - ydi'r "bwriad" yn bwysig

Gan nad ydi pobl yn ymateb mor aml a hynny i'r blog yma, mae'n debyg bod cael ymateb cyn hired ag un Alwyn ddoe yn fater o ddathliad - felly wele ymateb Alwyn ap Huw i fy mlog ddoe wedi ei bastio a'i gopio yn ei gyfanrwydd.:

Yn anffodus yr wyt yn tadogi thesis imi nad ydwyf yn cytuno a hi. Nid ydwyf yn honni nad yw datganoli AM arwain at annibyniaeth.

Fy nadl i yw nad BWRIAD datganoli yw arwain at annibyniaeth.

Nid ydwyf yn ymwybodol o unrhyw ymerodraeth yn y byd sydd wedi dweud wrth wlad daeog yr ydym am gynnig cyfnod o ddatganoli i chi er mwyn i chi ymbaratoi at annibyniaeth.

Yn ddi-os bwriad datganoli cenedlaethol yw ceisio arafu neu rwystro ymgyrchoedd dros annibyniaeth. Yn ddi-os ymateb i Blaid Cymru a'r SNP sydd yn gyfrifol am ddatganoli i'r ddwy wlad. Oni bai am lwyddiannau'r ddwy blaid yn etholiadau cyffredinol San Steffan ers 1974, bydda' datganoli ddim yn bodoli yng ngwledydd Prydain. Bwriad datganoli, yn ôl un o fawrion y Blaid Lafur oedd lladd cenedlaetholdeb y ddwy blaid yn stone dead.

I raddau mae Llafur wedi llwyddo efo datganoli yng Nghymru. Mae Plaid Cymru wedi rhoi'r gorau i fod yn blaid genedlaethol yma.

Uchelgais Plaid Cymru yw cael refferendwm, os yw'r amgylchiadau'n iawn, rhywbryd. Refferendwm bydd yn rhoi un rhan o bump o bwerau presennol Senedd yr Alban inni am genhedlaeth (25 mlynedd, o leiaf).

Mae datganoli wedi "methu" yn yr Alban, oherwydd bod yr SNP wedi bod yn glir ac yn groyw mae eu huchelgais yw Annibyniaeth, dim mwy dim llai. Hyd yn oed os yw'r SNP yn colli refferendwm annibyniaeth 2010, mae eu hymrwymiad i'r achos eisoes wedi sicrhau bod y tair plaid unoliaethol wedi addo rhagor o bwerau datganoledig i'r wlad.

Pan oeddwn yn undebwr llafur, y wers roedd yr undeb yn rhoi oedd os wyt am godiad cyflog o 3% rhaid bygwth streicio am gynnig llai na 10%.

Wrth werthu tŷ mae'r asiant yn dweud os wyt eisio £150K rhaid rhoi'r tŷ ar y farchnad am £200k.

Os wyt, wir yr, yn credu bod angen cyfnod o ddatganoli i godi Cymru i fod yn wlad ffit ar gyfer annibyniaeth, y ffordd gorau i gael y profiad gorau o ddatganoli yw trwy ymgyrchu yn groch am annibyniaeth lwyr!


Os 'dwi'n deall y ddadl yn llawn, un o broblemau Alwyn gyda datganoli ydi ei ganfyddiad mai'r cymhelliad tros gyflwyno datganoli oedd i atal annibyniaeth. 'Dwi ddim yn anghytuno o reidrwydd efo'r sylw - ond 'fedra i ddim gweld bod hynny'n broblem. Ceisiaf egluro.

Mae'n dra phosibl bod rhai o'r bobl oedd o blaid datganoli i Gymru yn ei weld fel mesur i atal ymreolaeth pellach. Yn bersonol 'dwi'n meddwl mai'r hyn a symudodd llawer yn y Blaid Lafur tuag at ddatganoli oedd diymaathdrefedd y mudiadau Llafur yng Nghymru ar Alban tros ddeunaw mlynedd o lywodraeth Doriaidd. Wedi'r cwbl, prin bod y mudiadau cenedlaethol yn y ddwy wlad yn cyrraedd rhyw fath o ben llanw ym 1997 - gweddol wan oedd perfformiad yr SNP a Phlaid Cymru fel ei gilydd.

Serch hynny, yn ddi amau roedd rhai o'r sawl a gefnogodd datganoli yn ei weld fel digwyddiad, chwedl Ron Davies - tra bod eraill yn ei weld fel proses - eto chwedl Ron Davies. Roedd rhai o'r proseswyr yn gweld y setliad datganoli fel cam tuag at ddatganoli pellach, tra bod eraill - fel fi - yn ei weld fel cam tuag at annibyniaeth.

Ar ochr arall y ddadl, mae'n debyg gen i bod y rhan fwyaf o'r sawl oedd yn erbyn datganoli yn gwneud hynny am eu bod yn ei weld fel cam cyntaf tuag at lwybr llithrig fyddai yn y diwedd yn arwain at dorri'r Deyrnas Unedig.

Yn fy marn i mae'r rhai ohonom oedd yn gweld datganoli fel cam tuag at annibyniaeth wedi cael ein profi'n gywir - yng Nghymru ac yn yr Alban. Mae'r ddau fudiad cenedlaethol yn llawer, llawer cryfach heddiw nag oeddynt yn 1997, mae'r ymdeimlad o genedligrwydd yn gryfach yn y ddwy wlad, ac mae senedd Cymru o leiaf wedi ennill mwy o bwerau. Hynny yw mae'r tirwedd gwleidyddol wedi ei drawsnewid ers 97 i'r graddau bod y Blaid Lafur - y prif lestair i annibyniaeth y ddwy wlad yn wanach heddiw nag y bu ers degawd cyntaf y ganrif ddiwethaf. Datganoli sy'n gyfrifol am hynny i raddau helaeth.

Wedi dweud hynny 'dwi'n derbyn ensyniad Alwyn nad ydi'r Blaid wedi diffinio ei hamcanion na'i strategaeth yn ddigon clir yn y maes cyfansoddiadol. Mae rhesymeg datganoli yn ein harwain at fwy o ymreolaeth - ond mae'r Blaid wedi methu gosod agenda glir hyd yn hyn. I'r graddau yna o leiaf mae Alwyn a minnau yn gytun.