Showing posts with label cyllid. Show all posts
Showing posts with label cyllid. Show all posts

Tuesday, August 04, 2009

Datganiad i'r Wasg Llais Gwynedd

Newydd weld y datganiad hwn i'r wasg ar flog Gwilym Euros Roberts.

I roi mymryn o gefndir cyn cychwyn. Yn sgil cwymp disymwth cynllun ail strwythuro ysgolion diwethaf Cyngor Gwynedd, aethwyd ati i edrych ar bethau o'r newydd, ond mewn ffordd ychydig yn wahanol.

Yn gyntaf penderfynwyd peidio a rhoi cynllun strategol sir gyfan yn ei le, ond edrych ar pob dalgylch yn unigol ac yn ei dro.



Yn ail ceiswyd adeiladu cymaint o gonsensws a phosibl trwy ymgynghori yn ehangach, a thrwy drosglwyddo llawer o'r cyfrifoldeb am y broses i weithgor traws bleidiol.

Cafwyd cefnogaeth unfrydol i'r cynllun, a sefydlwyd panel aml bleidiol i ymgymryd a'r broses. Y Cynghorydd Seimon Glyn oedd cynrychiolydd Llais Gwynedd ar y gweithgor hwnnw.

Bellach - wedi ystyried un dalgylch yn unig - Bro Dysynni yn Ne Meirion, mae Llais Gwynedd wedi dod a'u cefnogaeth i'r broses i ben, a bydd Seimon Glyn yn ildio ei le ar y gweithgor. 'Dydi hyn ddim yn syndod enfawr i neb - roedd ymdeimlad ers tro bod Llais Gwynedd yn amheus iawn o'r broses, tra'n dal yn ffurfiol yn ei chefnogi. Mae'n debyg bod sefyllfa o'r fath yn anghynaladwy. Mae'n anffodus bod Seimon yn gorfod gadael y gweithgor - bu'n gyfaill cyson a chydwybodol i ysgolion bach ers talwm - ymhell, bell cyn bod neb wedi ystyried bod cymryd cwrs felly yn ffordd o adeiladu gyrfa wleidyddol - ond dyna fo - mae'n debyg bod y llwybr yma'n anhepgor.

Cyn mynd ymlaen, mae un peth ynglyn a'r datganiad yn fy mhoeni - ceir honiad i swyddogion ddatgan yn ystod yr ymgynghoriad yn Nysynni bod 25 ysgol ar restr cau (gudd am wn i). Mae Gwilym wedi gwneud honiad digon tebyg ar ei flog eisoes, ond gan roi enw swyddog yn yr achos hwnnw. Mi adawais y mater ar y pryd gan dybio mai camgymeriad arall oedd y tu ol i'r haeriad.

'Rwan, fedra i ddim deall pam y byddai swyddogion yn gwneud datganiad o'r fath - byddai dweud hyn - neu rhywbeth tebyg - yn tanseilio'r broses yn llwyr o'r cychwyn ac yn chwalu ei hygrededd yn gyfangwbl - ac mae pawb sy'n agos at y broses yn deall hynny'n iawn. 'Dwi heb fod yn rhan o'r broses yn Nysynni wrth gwrs - ac felly 'dwi heb fynychu unrhyw gyfarfodydd - ond byddwn yn rhyfeddu - yn rhyfeddu petai hyn yn wir.

Ta waeth am hynny - mae gen i air o gyngor i Lais Gwynedd, a phawb sydd eisiau gweld dyfodol i ysgolion bach yng Ngwynedd a thu hwnt. Mae fy sylwadau yn cael eu cynnig mewn ysbryd adeiladol, gobeithio y cant eu cymryd yn yr ysbryd hwnnw.

'Mae'r cynllun ail strwythuro bellach wedi ei oddiweddyd gan argyfwng ariannol sy'n sicr o effeithio ar pob awdurdod lleol tros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Bydd cynghorau yn derbyn toriadau cyson a difrifol yn y cyllid maent yn ei dderbyn gan y Cynulliad tros y blynyddoedd nesaf.

Mae dau reswm am hyn - toriadau y bydd rhaid i lywodraeth San Steffan eu gwneud yn y grant a roddir i'r Cynulliad yn sgil y llanast ariannol mae'r DU yn cael ei hun ynddo, a phroblemau yn strwythur fformiwla Barnett - y Barnett Squeeze bondigrybwyll - sy'n debygol o leihau'r arian sy'n cael ei ddatganoli i Gymru o tua £8.5 biliwn - tros y ddegawd nesaf. Mae hyn yn gyfystyr a £2,900 am pob person sy'n byw yn y wlad.

Mewn amgylchedd cyllidol fel hyn ni fydd cael y Cynulliad i sefydlu rhagdybiaeh i beidio a chau ysgolion yn gwneud iot o wahaniaeth. Ceir rhagdybiaeth tebyg yng Ngogledd Iwerddon - ond mae'r Gweinidog Addysg yno - Catriona Ruane yn arwyddo'r papurau i gau ysgolion yn syrffedus o aml - Newtownbreda Primary, Maghera High School, St Colmcille’s Primary, Benburb Primary eleni er enghraifft. Mae'r ddemograffeg yng Ngogledd Iwerddon yn llawer cryfach nag yw yng Ngwynedd.

Mae'n dra phosibl y bydd toriadau cyllidol yn arwain at gau ysgolion yng Ngwynedd a thu hwnt - ailstrwythuro ysgolion neu beidio - sefydlu rhagdybiaeth yn erbyn cau neu beidio - oherwydd na fydd llywodraethwyr yn gallu fforddio i'w cadw nhw'n agored. Hyd y gwn i dim ond Plaid Cymru sy'n ymgyrchu i ddiwigio Barnett mewn modd fydd yn sicrhau bod Cymru'n cael ei hariannu'n deg. Efallai fy mod yn gwneud cam a nhw, ond dydw i ddim yn cofio i mi glywed gair o gefnogaeth i'r ymdrech yma gan y Blaid o gyfeiriad Llais Gwynedd.

Felly - ar pob cyfri ymgyrchwch i gael rhagdybiaeth i beidio a chau, ymgyrchwch yn erbyn yr egwyddor o ail strwythuro - ond os nad ydi'r amgylchiadau cyllidol priodol yn bodoli wnaiff hyn ddim cadw ysgolion bach yn agored mae gen i ofn - a dim ond Plaid Cymru sy'n ceisio gwneud rhywbeth am hynny ar hyn o bryd.