Showing posts with label Cyfryngau. Show all posts
Showing posts with label Cyfryngau. Show all posts

Monday, September 17, 2012

Swydd waethaf y Bydysawd?

Tybed os mai swydd Nicholas Witchell ydi'r un gwaethaf yn y Byd - 'dach chi'n gwybod y boi dwi'n meddwl amdano - y creadur rhyfedd hwnnw sy'n dilyn y teulu brenhinol o gwmpas y lle i'w llyfu a'u llempian ar ran y Bib.


Gwaith unrhyw newyddiadurwr - neu unrhyw newyddiadurwr gwerth ei halen o leiaf - ydi dod o hyd i ffeithiau, eu troi'n stori a'i chyflwyno i'w gynulleidfa. Nid dyma mae Nick yn ei wneud - mae'n derbyn gwybodaeth sydd eisoes wedi ei droelli gan bobl cyhoeddusrwydd y teulu brenhinol, mae'n troelli ychydig mwy os oes angen cyn mynd ati i gyflwyno ei stori dylwyth teg i'w gynulleidfa. Yn wir mae'n rhoi dyletswydd arferol newyddiadurwr i edrych yn feirniadol ar yr hyn mae'n ei gael gan ei ffynonellau o'r neilltu. I'r graddau hynny mae'n ymddwyn yn hollol groes i newyddiadurwyr arferol - mae'n derbyn yr hyn a ddywedir wrtho yn gwbl ddi feirniadaeth, yn gwbl ddi gwestiwn.

Mae ganddo ei ffordd arbennig ei hun o droelli hefyd - bydd yn egluro i ni mewn termau hynod syml - fel petai'n siarad efo plant - yr hyn y dyliwn ei feddwl am rhyw ddigwyddiad 'brenhinol' neu'i gilydd.

Er enghraifft aeth ati i esbonio i ni bod araith a wnaed gan Kate Windsor yn Singapore yr wythnos diwethaf yn heartfelt.. Wnaeth o ddim egluro sut roedd yn gwybod bod yr araith yn un oedd yn dod yn syth o galon yr areithwraig - mae'n weddol sicr nad hi a'i hysgrifennodd - roedd yr araith wedi ei 'sgwennu gan rhywun arall - yn union fel holl areithiau'r teulu 'brenhinol', ag eithrio rwdlan rhyfedd Charles Windsor.

Felly mi fyddwn yn gweld Nick yn nosweithiol yn sefyll o flaen rhyw adeilad neu'i gilydd sydd a rhywun brenhinol neu'i gilydd y tu mewn iddo yn egluro i ni joban mor dda maen nhw yn ei wneud. Mi fydd y dyn yn siarad nonsens crafllyd am bobl hynod gyfoethog a hunanol efo'i lais wedi ei ostwng fel petai mewn eglwys.

A'r peth gwaethaf o bosibl ydi nad ydi gwrthrychau ei holl lyfu a llempian yn ei hoffi o gwbl. Cafodd y sylwadau canlynol gan Charles Windsor wrth ei feibion ei godi gan y meicroffon yn ddamweiniol yn 1998:

These bloody people. I can't bear that man. I mean, he's so awful, he really is.

A chwarae teg i Nicholas - mi aeth ati i droelli honna hefyd
gan geisio i wneud i Charles edrych cystal a phosibl mewn amgylchiadau anodd.

Sunday, September 09, 2012

Golwg360 yn torri tir newydd

Mae'n hynod ddiddorol a chlodwiw bod Golwg360 wedi dechrau adrodd ar farwolaethau cwn.

Mewn oes pan mae'n anodd iawn i gyfryngau newyddion ddod ar draws syniadau newydd mae'n rhaid edmygu gwreiddioldeb Golwg360. Hwyrach y byddant yn mynd ati maes o law i riportio ar farwolaethau gwartheg, cathod, llygod a phryfaid.

Tuesday, August 14, 2012

Pravda Cymru

Mae'r blog yma wedi nodi yn y gorffennol bod y cyfryngau 'Cymreig' -y BBC yn benodol - yn clodfori digwyddiadau a sefydliadau Prydeinllyd, tra'n gwrthod cydnabod bod yna wahaniaeth barn yn y wlad ynglyn a'r cyfryw sefydliadau a digwyddiadau.

Ymddengys bod y Western Mail druan yn mynd cam yn bellach fodd bynnag - yn ol Ian Titherington mae sylwadau sy'n feirniadol o'u hymdriniaeth o'r Gemau Olympaidd yn cael eu dileu oddi ar wefan Wales Online..

Mae gwrthod gadael i bobl sydd ddim yn cytuno efo safbwynt arbennig leisio eu anghytundeb yn dystiolaeth diymwad o wendid y safbwynt hwnnw. A dyna sydd y tu ol i ddiffyg cydnabyddiaeth y cyfryngau Cymreig o safbwyntiau amgen.

Pan mae'r holl heip wedi ei droelli, pan mae newyddiadurwyr hunan fodlon BBC Cymru wedi gorffen diolch i'w gilydd am eu gwaith 'anhygoel' (fel roeddynt ar Newyddion S4C neithiwr) mae'r ffeithiau yn dal yr un peth.

Mae dewis arweinydd gwladwriaeth ar sail etifeddol a phwmpio miliynau lawer i'w theulu yn flynyddol yn dal yn beth chwerthinllyd o wirion a chyntefig i'w wneud.

Mae £500m+ yn parhau i fod yn bris anhygoel o uchel i wlad dlawd ei anfon i un o ddinasoedd cyfoethocaf y Byd ar gyfer cystadleuaeth lle nad yw'n cael anfon tim a phan nad yw'n derbyn nesaf peth i ddim yn ol ar ffurf busnes na lleoliadau digwyddiadau.

'Dydi'r holl hunan fodlonrwydd! na'r holl shysh shyshio yn y Byd ddim yn newid hynny.

Thursday, June 21, 2012

Gwilym Owen - rhif 194

Bethan Jenkins ydi targed Gwilym Owen yn ei golofn ryfedd yn Golwg yr wythnos yma - nid am y tro cyntaf.

Mae'n cymryd tua 450 o eiriau i honni i'r Bib beidio a mynd ar ol sylwadau gan Bethan ar Twitter oherwydd i'r Western Mail eu curo i stori oedd yn ymwneud a'r ffaith iddi fethu a mynychu dau gyfarfod tra ar ymweliad a'r Iwerddon yn ddiweddar. Gobeithio nad ydi Golwg yn talu fesul gair.

Wel, mae'n bosibl am wn i bod rhyw fath o bwynt gan Gwilym - ond mae yna eglurhad ychydig yn symlach mi dybiwn. Efallai nad ydi stori am ddiffyg ymddangosiad gwleidydd mewn cyfarfodydd yn stori arbennig o ddiddorol i'r rhan fwyaf o bobl, ac efallai nad yw'n newyddion i neb ond Gwilym bod yna fwlis a phobl slei yn ymwneud a gwleidyddiaeth. Ac efallai, jyst efallai nad ydi pawb yn cytuno ag awgrym Gwilym bod gwleidyddion Cymraeg eu hiaith yn arbennig o addas ar gyfer sylw negyddol gan y cyfryngau.

Tuesday, May 29, 2012

Y cyfryngau a'r ffagl - eto fyth

Yn ol fy nghyfri fi Gary Owen sydd wedi ennill y gystadleuaeth chwyrn rhwng gweision cyflog y Bib i drydar neu ail drydar canmoliaeth i'r ffagl fwy na neb arall. 21 neges hyd yn hyn yn ol fy nghyfri. Os ydw i wedi tan gyfri cyfraniadau unrhyw un arall o'r hogiau neu'r genod, plis gadewch i mi wybod er mwyn i mi gael unioni'r cam.

Hefyd llongyfarchiadau i'r Bib am efelychu ymdriniaeth sensitif y Western Mail o'r iaith Gymraeg a chael dau nytar eithafol i fyllio ar eu gilydd am y pwnc ar Radio 2.

Mae'n dda o beth nad ydi Blogmenai yn rhoi lle i conspiracy theories - beth bynnag ydi hynny yn y Gymraeg. Byddai antics y cyfryngau tros yr wythnos neu ddwy diwethaf wedi bod yn wythien ffrwythlon iawn ar gyfer deunydd crai ar gyfer damcaniaethu felly.

Tuesday, May 22, 2012

Stori fach y Western Mail

Mae'r hyn sydd yn ein cythruddo yn aml yn dweud llawer iawn am ein daliadau gwaelodol, ac am wn i bod hynny mor wir am dim golygyddol papur newydd nag ydyw am unrhyw un arall.  Felly mae'n debyg gen i bod tudalen flaen y Western Mail heddiw yn adrodd cyfrolau am ddaliadau gwaelodol tim golygyddol y papur hwnnw.


Cyn dechrau efallai y dyliwn nodi nad oes gen i unrhyw broblem fel y cyfryw efo'r Western Mail, nag unrhyw bapur arall yn codi cwestiynau ynglyn a gwario ar gyfieithu i'r Gymraeg.  Mae sicrhau atebolrwydd gan gyrff cyhoeddus yn un o briod ddylerswyddau gwasg rydd.  Yr hyn sydd yn drawiadol  yma, fodd bynnag ydi ymdriniaeth y papur o'r stori.  Mae'r ffigwr o £400k yn cael ei greu o awyr iach, mae'r pennawd yn ymfflamychol ac yn bersonol, ac mae'n cael ei phloncio ar dudalen flaen y papur.  Hynny yw mae stori sydd yn ei hanfod yn un digon sensitif yn derbyn ymdriniaeth tabloid digon cras ac ansoffistigedig.  Mae'n amlwg bod tim golygyddol y Mail wedi cael y myll oherwydd bod pres yn cael ei Ŷwario ar gyfieithu i'r Gymraeg. Mae'n amlwg hefyd nad ydynt yn deall sensitifrwydd rhaniadau ieithyddol yng Nghymru.

Rwan mae sawl elfen i hyn oll.  Er enghraifft 'dydi'r papur ddim yn cwyno am y 'gwastraff arian' wrth gyfieithu hysbysebion y Cynulliad i'r Gymraeg - ond wedyn maen nhw'n uniongyrchol elwa o hynny.  Yn wir, oni bai am hysbysebion sector cyhoeddus mi fyddai'r Western Mail wedi mynd i ddifancoll ers blynyddoedd lawer.  'Dydyn nhw ddim chwaith yn cwyno am y £500m mae'r Gemau Olympaidd yn ei gostio i Gymru, na'r £60m y bydd y jiwbili yn ei gostio i Gymru, na'r miliynau di derfyn aeth i lawr y draen ar ryfeloedd di bwrpas. Mae yna weithien addawol iawn i'w chloddio ym maes gwastraff mewn llywodraeth leol, neu lywodraeth genedlaethol. Ond na, mae'r Wester Mail yn mynd ati i efelychu'r Daily Express neu'r Daily Mail mewn stori am wariant ar yr iaith Gymraeg. Dyma un o'r ychydig faterion mae tim golygyddol y papur yn teimlo'n gryf amdano.

A dyna ydi'r peth rhyfedd am hyn oll. Beth bynnag ydi ein barn am y Daily Mail, a'r Daily Express, maent yn bapurau efo tan yn eu boliau. Mae ganddynt gyfeiriad golygyddol clir sy'n cael ei fynegi mewn modd cwbl ddi flewyn ar dafod. Ceir ymdeimlad o genhadaeth. Yn yr ystyr yna maent yn hollol wahanol i'r Western Mail - papur digon llipa a di gyfeiriad o ran gwerthoedd golygyddol creiddiol. Ond pan mae'r Western Mail yn penderfynu mynd i lawr llwybr ei gefndryd Seisnig mae'n gwneud hynny mewn modd sy'n rhedeg yn gwbl groes i'w honiad i fod yn bapur 'cenedlaethol' Cymru. Mae yna rhywbeth yn bisar am y syniad o 'bapur cenedlaethol' yn erlid yr iaith genedlaethol. Hynny yw, mae'r stori tudalen flaen yn tanseilio'r ddelwedd mae'r papur yn ceisio ei meithrin, yn ogystal a phechu llawer o'r darllenwyr. Allwch chi ddychmygu'r Daily Express yn ymosod ar y teulu brenhinol, neu'r Daily Mail yn rhedeg stori ymfflamychol ar bobl gwyn, dosbarth canol, canol oed yn osgoi talu eu trethi? Mae'r hyn wnaeth y Western Mail yn ymdebygu i hynny.

A goblygiadau hyn oll? Yn ol pob tebyg fydd y Western Mail ddim efo ni fel papur dyddiol am hir. Mae'n weddol amlwg nad oes gan golygyddion y papur fawr o glem o pwy ydi eu darllenwyr, natur eu marchnad botensial na pa mor bwysig ydi hi i gadw delwedd a hunaniaeth gyson i bapur newydd. Neu mewn geiriau eraill, does ganddyn nhw fawr o syniad ynglyn a'r hyn maent yn ei wneud.

Sunday, September 04, 2011

Diwrnod eithriadol o ran newyddion gwleidyddol

Am ddiwrnod rhyfeddol o ran newyddion gwleidyddol!

Yn gyntaf mae'r Telegraph yn dweud wrthym am gynlluniau Murdo Fraser arweinydd tebygol nesaf y Toriaid yn yr Alban i ddod a'r blaid i ben, a dechrau o'r dechrau.

Wedyn mae yna ddwy stori sy'n dangos yn union pa mor boncyrs oedd y llywodraeth Lafur diwethaf - gyda'r Sunday Times yn cyflwyno manylion am  berthynas wenwynig  Darling a'i brif weinidog a diffyg clem llwyr Brown am faterion economaidd, a'r Mail on Sunday yn amlinellu'r berthynas ryfeddol o gyfeillgar ac agos rhwng y llywodraeth Lafur a Gaddafi a'i deulu.

Ymddengys bod Blair hyd yn oed yn helpu mab yr unben 'sgwennu traethawd estynedig ar gyfer ei PhD. Unrhyw un yn cofio unrhyw beth am ethical foreign policy Robin Cook?

Friday, September 02, 2011

Sgwp fawr Y Cymro

Gyda chymysgedd o fraw ac eiddigedd y darllenais brif stori'r Cymro heddiw - yn wir yr unig stori fwy neu lai i ymddangos ar y ddwy dudalen gyntaf. Y ffaith bod y Cymro wedi achub y blaen arnaf i gyrraedd sgwp y ganrif oedd y rheswm tros yr eiddigedd, a chynnwys y sgwp oedd y rheswm tros y braw a'r dychryn.

Mae'r wythnosolyn cenedlaethol arloesol wedi tyrchu o dan pob carreg a dod ar draws y ffaith syfrdanol bod yna deulu dosbarth canol Cymraeg ei iaith wedi gor yfed.  Yn wir roedd pob un o bedwar aelod y teulu wedi gor yfed - y mab tra'n gwersylla ar lan y mor, y ferch mewn gwyl 'gerddorol' (a finnau'n meddwl mai cymryd cyffuriau oedd pobl mewn llefydd felly), y tad yn ystod ymweliadau a gemau rygbi, a'r fam yn y 'Steddfod. 

Mi fydd y stori erchyll yma megis bollt o'r awyr wag i'r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg mae gen i ofn.  Duw yn unig a wyr pa dystiolaeth o lygredigaeth moesol y genedl fydd y Cymro yn ei ddatgelu yn yr wythnosau sydd i ddod - bod yna deulu yn gadael i'w plant chwarae mewn cae swings ar ddydd Sul efallai, neu bod yna deulu nad ydynt yn anfon eu plant i'r ysgol Sul yn wythnosol, bod tafarn yn agored ar y seithfed diwrnod, neu bod yna bentref yng Nghymru nad oes iddo weinidog.  

Ac efallai y daw o hyd i sgwps economaidd a gwleidyddol a mynd ati i ddarogan y bydd Chwarel Dinorwig yn cau, bod tebygrwydd y bydd y Tywysog Siarl yn treulio cyfnod fel myfyriwr yn Aberystwyth a bod yna bosibilrwydd cryf nad George Thomas fydd yr Ysgrifennydd Gwladol tros Gymru wedi'r etholiad nesaf.

Diolch i Dduw bod y Cymro gyda ni i'n cadw mewn cysylltiad a'r Gymru gyfoes. 

Wednesday, August 31, 2011

Gwariant ar gyffuriau cancr newydd yng Nghymru

Mae'n ddiddorol nodi bod Golwg360 yn cysylltu ymysodiad y Toriaid ar y gwariant uchel ar brescripsiwns yng Nghymru ag adroddiad gan elusen sy'n galw ei hun yn  Sefydliad y Canserau Anghyffredin (RCF - Rare Cancers Foundation). 

Mae'r adroddiad hwnnw yn honni bod bwlch anferth mewn  mynediad i gyffuriau newydd rhwng pobl sy'n byw yng Nghymru a'r Alban o gymharu a Lloegr.  Yn ol yr RCF mae cleifion yng Nghymru yn bump gwaith llai tebygol o gael mynediad i gyffuriau newydd na rhai yn Lloegr, ac mae Albanwyr yn dair gwaith llai tebygol o gael mynediad iddynt.


'Does gen i ddim problem efo sylwadau Darren Millar fel y cyfryw - mae'n gwbl briodol bod dadl wleidyddol yn mynd rhagddi ynglyn a'r ffyrdd gorau o wario'r cyllid sydd ar gael i ni.  Mae Golwg360 hefyd yn dyfynnu, Dr Chris Jones, cyfarwyddwr meddygol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru pan mae hwnnw'n honni - yn gywir - bod gwariant y pen ar drin cancr yn uwch yng Nghymru nag ydyw'n Lloegr.

Yr hyn nad ydi Golwg360 yn ei ddweud fodd bynnag ydi bod y Sefydliad y Canserau Anghyffredin yn gorff sy'n cael ei ariannu i raddau helaeth gan gwmniau cynhyrchu cyffuriau neu gwmniau iechyd preifat - mae 12 o'r 13 noddwr yn syrthio i'r categoriau hynny.  MacMillan ydi'r eithriad. Mae swm bach (£14,521) hefyd yn dod o goffrau Adran Iechyd Lloegr. Gellir gweld rhestr o'r cyfranwyr ar dudalen 14 o'r adroddiad.

Mae cyffuriau newydd o reidrwydd yn hynod ddrud - 'does neb yn siwr pa mor effeithiol ydynt am fod, ac o ganlyniad dydyn nhw ddim yn cael eu cynhyrchu ar raddfa fawr.  Mae yna gwestiwn go iawn ynglyn a pha mor gost effeithiol ydi hi i awdurdodau iechyd wario'n drwm arnynt.  Y sefyllfa yng Nghymru ydi bod gwariant ar brescripsiwns yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, bod gwariant ar gancr hefyd yn uwch, ond bod gwario ar iechyd yn gyffredinol yn is, ac mae gwariant ar gyffuriau anarferol a newydd hefyd yn is.  Hynny yw, mae yna ddwy system iechyd wahanol efo blaenoriaethau gwahanol. Felly ddylai pethau fod mewn cyfundrefn ddatganoledig.

'Dydi barn elusen sydd i bob pwrpas ym mherchnogaeth cwmniau fyddai'n elwa o wireddu ei argymhellion ddim yn un y dylid rhoi gormod o sylw iddynt wrth flaenoriaethu gwariant ar iechyd yng Nghymru.

Tuesday, August 30, 2011

Ymateb y wasg Gymreig i stori'r Independent on Sunday

'Dwi'n gwybod fy mod yn mentro diflasu pawb, ond mwy am yr ymateb i sylwadau gwrth Gymreig Roger Lewis sydd ar yr arlwy heddiw mae gen i ofn.

Ymateb diweddaraf y wasg (honedig) Gymreig sydd o dan sylw heddiw, sef y ddau gampwaith newyddiadurol o stabl Trinity Mirror, y Daily Post a'r Western Mail.  Mae ymateb y papurau yn dinoethi rhai o'u gwendidau nhw eu hunain yn benodol a gwendidau'r cyfryngau Cymreig yn gyffredinol.  Mi wnawn ni ddechrau efo'r Post - 'does gen i ddim linc i'r stori mae gen i ofn.


Adrodd ar stori'r  Independent on Sunday mae'r papur mewn gwirionedd. 'Does gan y Post ddim diddordeb o gwbl yn Ne Cymru wrth gwrs, a 'dydyn nhw ddim yn gwybod llawer am y lle chwaith.  Felly mae'n ddigon naturiol nad ydynt yn dweud gair yn eu hymdriniaeth  am sylwadau Lembit Opik, Chris Bryant na Peter Black.

Y peth mawr - y peth mawr, mawr, mawr - i'r Post ydi sylwadau Denbigh born Carol Vorderman.  Maent hefyd yn ailadrodd rhai o sylwadau Roger Lewis ac yn cyfeirio'n frysiog at Jonathan Edwards.  'Dydyn nhw ddim yn trafferthu egluro pam bod barn seren deledu sy'n hanner Cymraes, hanner Iseldirwraig sydd wedi ei geni yn Lloegr, nad yw'n siarad Cymraeg a sydd wedi byw y tu allan i'r wlad am fwy na deg mlynedd ar hugain yn fwy arwyddocaol na barn unrhyw un arall. Ond hi, a hi'n unig sy'n cael mynegi barn ar y mater gan North Wales' Best Read Paper. 

Mae ymateb y Western Mail yn waeth o lawer.  O leiaf mae'r Daily Post yn dangos rhyw  arwydd o fod efo agenda a meddylfryd annibynnol eu hunain - maent yn cicio cymaint o Hwntws a phosibl allan o'r stori.  Y cwbl mae'r Mail druan yn lwyddo i'w wneud ydi ail bobi stori'r  Independent on Sunday ac ychwanegu ambell i bwynt bychan na ymddangosodd yn y papur Seisnig.

'Rwan, dwi'n gwybod bod y Western Mail yn sobor o ddi hyder, 'dwi'n gwybod bod y papur yn dreuenus o anabl i yrru ei agenda ei hun, 'dwi'n gwybod ei fod yn gadael i'r wasg Lundeinig arwain y ffordd ar bron i bob mater.  Ond byddai dyn yn meddwl y gallai hyd yn oed y cadach gwlyb o bapur hwn (sydd yn disgrifio ei hun fel papur cenedlaethol Cymru) fentro mymryn a chicio yn erbyn y tresi wrth ddelio a stori sy'n ymwneud yn benodol a Chymru, ac ymddwyn fel petai yn gwybod mymryd mwy na'r Indie ynglyn a'r  mater.  Ond na - maen nhw'n dilyn lein y papur Seisnig i'r llythyren.

Yn y cyfamser aeth llwyth o amaturiaid ar y blogosffer (Syniadau, Valleys Mam, HRF, Blog Banw ayb) ati i edrych ar y mater o ongl Gymreig, a rhoi gwedd Gymreig iddi - a thrwy hynny ymdrin a'r mewn modd miniocach o lawer o safbwynt newyddiadurol.


Er enghraifft, mae cyfeiriadau wedi eu gwneud ar y blogosffer at ddiffyg Cymreigrwydd rhai o'r cymeriadau a ddyfynwyd gan y Sunday Independent fel  ymateb Cymreig, cafwyd gwybodaeth am hanes Chris Bryant o ymateb yn hysteraidd yn y gorffennol i ymysodiadau ar grwpiau eraill (peldroedwyr Eidalaidd a phobl hoyw),  Cafwyd awgrymiadau bod y cyfryw wleidydd yn arddel safonau dwbl, neu ei fod yn ymateb i ddigwyddiadau mewn modd oportiwnistaidd ac anghyfrifol er mwyn dangos ei hun ac ennill mantais wleidyddol byr dymor (wel - rwan rydych yn cael yr olaf o'r uchod a dweud y gwir). 


Ond nid dyna a geir gan y wasg 'Gymreig' - fersiwn y Sunday Independent wedi ei ail bobi sydd gan y Western Mail i'w gynnig i ni, a fersiwn y Sunday Independent wedi ei garthu o gyfeiriadau at bobl o'r De sydd gan y Daily Post.

Tybed os oes yna unrhyw wlad fodern arall efo gwasg genedlaethol mor dreuenus o daeog, di hyder a di glem?

Saturday, August 27, 2011

Un arall o honiadau Gwilym Owen yn cwympo

Roedd yn ddiddorol darllen erthygl Llion Iwan yn Golwg yr wythnos yma ynglyn a chyflwr newyddiaduriaeth yng Nghymru.  Gwrth ddweud un o'r nifer o ddatganiadau ysgubol a wnaed gan Gwilym Owen wrth ymddeol oedd Llion mewn gwirionedd - sef bod safonau newyddiadurol yn y Gymru gyfoes yn ddi ddim.  Mae'r darn yn drylwyr, ac mae'n dod i gasgliadau cwbl groes i rai Gwilym - ond mae'r casgliadau hynny wedi eu seilio ar gryn dipyn o dystiolaeth.

Mi es innau ati yn gynharach yn yr haf i godi amheuon ynglyn ag un o ddatganiadau mawr eraill Gwilym - sef bod y Gymraeg 'yn mynd yn iaith dosbarth canol'.  Roedd fy nghasgliadau innau yn gwbl groes i rai Gwilym Owen, a 'dwi'n gobeithio eu bod hwythau wedi eu seilio ar dystiolaeth gweddol gadarn.


Rwan 'dwi'n gwybod nad cynhyrchu blogiad nag erthygl oedd Gwilym gyda'i ddatganiad wrth ymddeol, ac nad oes lle mewn amgylchiadau felly i gyflwyno tystiolaeth.  Ond mae'n dal yn eironi rhyfeddol i'r dyn gyflawni un o bechodau marwol newyddiadyra - cyflwyno rhagdybiaethau (neu ragfarnau efallai) fel petaent yn ffeithiau - a gwneud hynny wrth gau pen y mwdwl ar yrfa newyddiadurol hynod ddisglair. 

Saturday, July 23, 2011

Gair o blaid y wasg

Wrth ystyried digwyddiadau’r dyddiau diwethaf yn Portcullis House mae’n hawdd anghofio bod nifer o’n sefydliadau ‘cenedlaethol’ wedi cael eu hunain o dan y lach tros yr ychydig flynyddoedd diwethaf – y banciau, San Steffan ac rwan y wasg – a’r heddlu a gwleidyddion unwaith eto erbyn meddwl. Cafodd y cyfryw sefydliadau oll eu hunain mewn trybeini ymhellach yn y gorffennol – ond dyma’r tro cyntaf iddynt  gael eu hunain mewn trybeini o fewn ychydig flynyddoedd i'w gilydd..


Mae’r ffaith bod bancwyr, heddweision, newyddiadurwyr papur newydd a gwleidyddion proffesiynol ymysg y mwyaf tebygol i gymryd eu hunain o ddifri yn yn rhoi rhyw ogwydd ysgafn i’r holl sgandalau – mor ddifrifol ag ydynt mewn gwirionedd. Does yna ddim llawer o bethau mwy digri wedi dod o ddigwyddiadau’r dyddiau diwethaf nag ystumio hunan bwysig a hunan gyfiawn Keith Vaz – gweler ei hanes yn ystod y sgandal ddiwethaf yma

Yn ychwanegol at hynny, mae'n anodd iawn gen i gredu bod y ffaith bod papurau newydd yn hacio ffonau o syndod i lawer o'r sawl sy'n ysgwyd eu pennau, twt twtian a ffugio sioc ar y tonfeddi ar hyn o bryd.  Mae technoleg hacio yn hysbys ers blynyddoedd, ac mae straeon am bapurau newydd yn defnyddio'r dechnoleg honno hefyd mewn cylchrediad ers blynyddoedd.



Er mor wahanol y sgandalau ar un olwg, mae yna lawer sy’n gyffredin rhyngddynt – ac felly mae yna wersi cyffredinol i’w dysgu. Mae pob sgandal yn cyfuno sefydliadau uchel eu parch, diffyg rheolaeth a goruwchwyliaeth oddi mewn i'r sefydliadau hynny, canfyddiad nad ydi troseddwr yn debygol o gael ei ganfod na’i gosbi a chymhelliad ariannol cryf i dwyllo. Lle ceir y cyfuniad yna, mae’n ymddangos bod aelodau seneddol, heddweision, newyddiadurwyr, bancwyr a phob grwp arall o bosibl, mor debygol o dwyllo a charcharor sydd yn Walton oherwydd twyll sy'n cymryd rhan mewn gyrfa chwist gyda'i gyd garcharorion. Mae'n dilyn felly lle ceir y cyfuniad yma mae’n debygol bod pob sefydliad bron yn agored i lygredd.

Yr ail wers i’w chymryd ydi hon – mae’r papurau newydd wedi bod yn elfen flaenllaw ym mhob sgandal. Rhai o’r papurau newydd ydi prif wrthrychau’r sgandal gyfredol, ond mae’r wasg wedi bod yn allweddol yn natgeliad rhai o’r sgandalau eraill hefyd.
.
Tour de force mewn newyddiaduriaeth ymchwiliol gan y Telegraph ddaeth a sgandal treuliau aelodau seneddol i’r amlwg, newyddiadurwyr sydd wedi cadw llygad barcyd ar driciau’r bancwyr yn dilyn eu sgandalau nhw, a dycnwch a phenderfyniad newyddiadurwyr y Guardian ddaeth a News International i’w liniau yn ystod yr wythnosau diwethaf. Yn wir mae newyddiadurwyr News International wedi gwneud gwaith gwerthfawr i wneud y pwerus yn atebol  (yn ogystal a llawer o waith llai gwerthfawr wrth gwrs).

Mae'n amlwg bod y diffyg goruwchwyliaeth a geir ar hyn o bryd yn anghynaladwy, ac mae'n rhaid newid.  Ond mae'r un mor amlwg  bod yna  berygl gwirioneddol y gwnaiff camau rhy frwdfrydig i liniaru ar hawliau’r wasg fwy o ddrwg nag o les o ran sicrhau atebolrwydd sefydliadau. Mae’r ffaith bod y cyfryngau print yn aml yn wleidyddol ac unochrog iawn, gyda’u agendau a’u obsesiynau eu hunain yn eu gwneud yn fwy gwerthfawr o lawer na chyfryngau honedig di duedd y tonfeddi radio a theledu yn y cyswlltyma.

Os byth y byddwn yn cael ein hunain yn ddibynol ar y Bib am y ffurf ar newyddiaduraeth dewr ac ymchwiliol sy’n dal sefydliadau ac unigolion pwerus yn atebol, yna bydd y cyfryw sefydliadau ac unigolion yn hynod hapus...

Sunday, July 10, 2011

Coulson a Sheridan

Mi fydd rhai o ddarllenwyr blogmenai yn cofio (ail) achos llys Tommy Sheridan yn 2009, lle carcharwyd y gwleidydd Albanaidd am ddweud celwydd yn y llys (ymddengys mai anudon ydi'r term Cymraeg am y drosedd).  Un o'r prif dystion yn ei erbyn oedd cyn olygydd y News of the World, a chyn gyfarwyddwr cyfathrebu'r Toriaid, Andy Coulson. 


Rwan mae digwyddiadau diweddar yn awgrymu bod Coulson yn euog o union yr un drosedd yn ystod yr achos hwnnw.  Y dyfyniadau canlynol o dystiolaeth Coulson fydd o ddiddordeb i'r awdurdodau cyfreithiol yn yr Alban fel y bydd y stori yma'n datblygu.

I don’t accept there was a culture of phone hacking at the NotW. There was a very unfortunate, to put it mildly, case involving Clive Goodman. No one was more sorry about it than me; that’s why I resigned.
Tommy Sheridan: “Did the News of the World pay corrupt police officers?”
Andy Coulson: “Not to my knowledge.” 
 Tommy Sheridan: “Isn’t it the case, Mr Coulson, that you knew all along about the illegal activities?”
Andy Coulson: “No it’s not, Mr Sheridan.”
 “I had absolutely no knowledge of it and I certainly didn’t instruct anyone to do it.”  (hacio ffon symudol Sheridan).
All I can tell you is that, as far as my reporters are concerned, the instructions were very clear: they were to work within the law and within the PCC code.

Tair blynedd o garchar oedd dedfryd Sheridan am ddweud celwydd mewn llys barn.  

Saturday, July 09, 2011

Gwynt teg ar ei ol.


Delwedd o politicalbetting.com

Sunday, June 19, 2011

Peidiwch ag anghofio am y ceffylau!

Roedd yn ddiddorol deall gan y Sunday Times heddiw bod y frenhines yn poeni'n fawr am y cyswllt rheilffordd cyflym arfaethedig rhwng Birmingham a Llundain. Y broblem ydi y gallai'r cynllun £34bn dorri trwy Stonleigh Park, sy'n rhywbeth neu'i gilydd i wneud efo ceffylau. Mae'r frenhines yn hoffi ceffylau ac mae'n berchen ar lawer ohonynt, a dydi hi ddim eisiau i'r trenau ddychryn y creaduriaid. Ymddengys bod ei hail fab, Andrew wedi codi'r mater mewn cyfarfod efo swyddogion o'r trysorlys yn gynharach eleni. 'Doedd yna neb yn y cyfarfod hwnnw i siarad ar ran y canoedd o filoedd o bobl nad ydynt yn berchnogion ceffylau, ond a fyddai'n elwa'n fawr petai'r cyswllt trenau yn cael ei uwchraddio.

Rwan mae'n greiddiol i unrhyw drefn ddemocrataidd lwyddiannus bod llywodraethu yn digwydd mewn modd sydd o fudd i'r boblogaeth yn gyffredinol yn hytrach nag er budd unigolion, neu grwpiau o unigolion. Yr egwyddor yma sydd y tu cefn i'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth mewn gwirionedd - mae'r ddeddf yn rhoi cyfle i ddinasyddion sicrhau bod y llywodraeth yn llywodraethu mewn modd priodol - ac nad ydyw yn llywodraethu er budd rhyw elit hunan etholedig neu'i gilydd.

Yn anffodus 'dydi'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ddim yn berthnasol i'r teulu brenhinol - felly mae'n amhosibl ei defnyddio er mwyn darganfod i ba raddau y mae'r teulu hwnnw yn defnyddio ei gysylltiadau gwleidyddol er ei fudd ei hun.

Mae lle i gredu bod cryn dipyn o lobio a dylanwadu yn digwydd gan ac ar ran y teulu. Mi fyddwn o bryd i'w gilydd - fel mae stori'r Sunday Times heddiw yn ei brofi - yn cael cip ar y lobio brenhinol. Ond ar hap mae hynny'n digwydd - fel rheol o ganlyniad i ymholiadau newyddiadurol, neu rhywun yn datgelu gwybodaeth i'r wasg neu i Wikileaks. 'Dydi'r darlun yr ydym yn cael cip arno ddim yn un hyfryd.

Er enghraifft mae sawl stori wedi ymddangos am Andrew yn ddiweddar, a'r defnydd mae wedi ei wneud o'i rol lled swyddogol yn hybu busnes Prydeinig – ei gyfeillgarwch efo troseddwr rhyw cyfoethog o’r enw Jeffrey Epstein, defnyddio taith swyddogol i geisio dod o hyd i brynwr i’w dy, mynd ar wyliau efo smyglwr arfau o Libya, gwledda ym Mhalas Buckingham efo aelod o weinyddiaeth unbeniaethol Tunisia, gadael i Timor Kulibayev, mab yng nghyfraith arlywydd Kazakhstan brynu ei dy am £3m mwy na’i werth ar y farchnad, taranu yn erbyn ymchwiliadau gwrth lygredd gan y llywodraeth ac ati.

Mae gan frawd Andrew, Charles amrywiaeth o gredoau rhyfedd, ac rydym yn gwybod ei fod yn gwneud cryn ddefnydd o'i gysylltiadau er mwyn hyrwyddo'r rheiny. Er enghraifft am rhyw reswm neu'i gilydd mae'n grediniol y dylid codi adeiladau modern yn unol ag arddulliau pensaerniol cyfnodau eraill. Mae hefyd o'r farn y dylid trin cancr gydag enemas coffi, a bydd yn sgwrsio efo'i nionod.

Rwan, mae gan pawb yr hawl i gredu pethau rhyfedd, ond nid pawb sydd mewn sefyllfa i hybu'r credoau hynny y tu allan i'r trefniadau arferol - mae Charles mewn sefyllfa felly, ac mae'n gwneud defnydd mynych o'i amgylchiadau a'i statws. Y stori fwyaf diweddar am ei ymyryd ydi'r un lle aeth ati i ddwyn perswad ar deulu brenhinol Qatar i beidio ag anrhydeddu cytundeb £34bn gyda CPC Group i ddatblygu safle yn Chelsea, oherwydd nad oedd yn or hoff o gynlluniau ei hen elyn Richard Rogers ar gyfer y datblygiad. Costiodd yr holl fusnes £81m i deulu brenhinol Qatar mewn iawndal i CPC.

Ac mae'r frenhines hithau yn ei thro yn 'boenus' ynglyn ag annibyniaeth posibl yr Alban, ac wedi mynnu cyfarfod efo David Cameron i drafod y posibilrwydd. Mae gan y ddynas fuddiant personol yn y mater - mae ganddi gryn dipyn o eiddo yn yr Alban - gan gynnwys 49,000 acer o dir ar ystad Balmoral.

Mae'n debyg mai copa'r mynydd ia (a benthyg idiom Saesneg) yn unig sy'n dod i'r amlwg yn y papurau - a bod statws cyfansoddiadol rhyfedd ac afresymegol y teulu yma yn cael ei ddefnyddio'n ddi drugaredd i hyrwyddo buddianau teuluol.

Yn y cyfamser mae'r BBC ac elfennau o'r wasg wedi treulio cryn dipyn o amser ac ynni tros y misoedd diwethaf yn canu clodydd pobl sy'n gweithredu'n rheolaidd, yn systematig ac yn ddirgel y tu allan i'r strwythurau mae'r rhan fwyaf ohonom yn gaeth iddynt, er mwyn hyrwyddo eu budd eu hunain ar draul rhai y gweddill ohonom.

Saturday, June 04, 2011

A'r diweddaraf am y teulu brenhinol _ _ _

Diolch yn fawr i Golwg360 am adael i ni wybod bod William, Dug Caergrawnt wedi reidio ceffyl o'r enw Wellesley.

Ag ystyried cymaint o straeon brenhinol sy'n ymddangos ar Golwg360 yn ddiweddar, mae'n fy nharo y gallant greu adran benodol ar eu gwefan i ymdrin a'r pwnc hynod ddiddorol yma - rhywbeth tebyg i Court Circular y Times efallai, ond gydag ymroddiad gallai fod hyd yn oed yn well na hynny.

Mewn oes pan mae pob cyfrwng newyddion masnachol yn chwilio am bwynt gwerthu unigryw, mae'n anodd meddwl am unrhyw beth mwy unigryw na chael darllen trwy gyfrwng y Gymraeg am pob ffesant sy'n cael ei saethu yn Balmoral, hynt a helynt y corgwn brenhinol a manylion am arlwy pob parti harti ym Mhalas Buckingham.

Tuesday, May 10, 2011

Anghytuno efo Mabon am unwaith

Fydda i ddim yn anghytuno yn aml iawn efo Mabon ap Gwynfor, ond mae gen i ofn fy mod am anghytuno efo rhai o'i sylwadau yn ei flogiad diweddaraf - un sy'n ymwneud yn bennaf a chanlyniad siomedig yr etholiad diweddar i'r Blaid.

'Dwi'n anghytuno efo dau bwynt yn benodol - yr un sy'n ymwneud a datblygu cyfryngau torfol mwy 'Cymreig' eu naws a'r un sy'n awgrymu bod yr ymgyrch yn ei hanfod yn ddigon effeithiol, ac mai digon tebyg fyddai pethau wedi bod beth bynnag am yr ymgyrch. Mi gychwynwn ni efo'r ail.

Mae unrhyw sefyllfa y cawn ein hun ynddi - yn bersonol neu'n gorfforiaethol - wedi ei chreu gan ddau wahanol fath o amgylchiadau - rhai sydd o fewn ein rheolaeth a rhai nad ydynt. Os ydi'r sefyllfa yr ydym ynddi yn un nad ydym yn hapus a hi, mae'n bwysig i ni ddeall yr holl amgylchiadau sydd wedi arwain at y sefyllfa honno, er mwyn osgoi'r un sefyllfa y tro nesaf daw'r cyfle. Mae'n bwysicach fodd bynnag ein bod yn deall yr amgylchiadau sydd oddi mewn i'n rheolaeth na'r rhai nad ydynt - mae'n haws o lawer newid amgylchiadau felly.

Dyna pam bod hunan feirniadaeth yn greiddiol bwysig os ydym am wella perfformiad. 'Dydi casglu bod pob dim sydd o fewn ein rheolaeth yn sylfaenol gadarn heb gymryd y drafferth i ddadansoddi mewn modd adeiladol ond hunan feirniadol, ddim yn strategaeth sy'n debygol o arwain at sefyllfa o ddysgu gwersi a gwella perfformiad.

Mae'r syniad o 'greu' cyfryngau torfol mwy Cymreig ynddo'i hun yn un arbennig o dda wrth gwrs - ac mae hyn wedi digwydd i raddau tros y degawdau diwethaf. Tra bod gen i broblemau efo'r ffordd y bydd BBC Cymru / Wales yn dehongli'r newyddion i ni, 'does yna ddim dwywaith bod eu dehongliad o'r Byd a'i bethau yn Gymreiciach o lawer nag oedd ugain mlynedd yn ol. Mae S4C hefyd wedi cynnig ffesestr mwy Cymreig ar y Byd i ni. Tra bod y cyfryngau print yng Nghymru yn hynod wan, mae'r papurau cyfrwng Saesneg yn fwy Cymreig eu naws bellach nag yr oeddynt, ac mae cylchgronau cyfrwng Cymraeg fel Barn a Golwg yn gwneud joban dda oddi mewn i'r cyfyngiadau maent yn gorfod cadw iddynt.

A'r cyfyngiadau hynny ydi'r broblem wrth gwrs - gan bod y rhan fwyaf o'r cyfryngau Cymreig yn cael eu hariannu efo arian cyhoeddus, mae unrhyw newid pwyslais sydd yn mynd ymhell o'r norm am ymddangos yn 'bleidiol' wleidyddol - a dydi'r pleidiau unoliaethol ddim yn debygol o ganiatau i sefydliadau sy'n cael eu hariannu ag arian cyhoeddus ymddangos yn bleidiol wleidyddol. Nid ei bod byth yn dod i hynny wrth gwrs - mae'r cyfryngau Cymreig yn deall o ble mae eu grantiau neu eu pres trwydded yn dod, a 'dydyn nhw ddim yn debygol o wneud unrhyw beth i beryglu eu cyllid.

Rwan mae Mabon yn gywir i nodi bod y cyfryngau print yn yr Alban yn llai Prydeinig nag ydynt yng Nghymru. Maent hefyd yn fwy pleidiol o lawer - roedd colofnau barn y Scotsman yn wrthwynebus i'r SNP yn ystod yr etholiad diweddar tra bod Sun Rubert Murdoch yn frwd o'u plaid. Mae yna reswm am hyn - mae'r cyfryngau Albanaidd yn ymateb i'w marchnad - pobl yr Alban. Y rheswm bod y cyfryngau'r Alban yn llai Prydeinig na rhai Cymru ydi bod yr Alban fel gwlad yn llai Prydeinig na Chymru. Mae eu cyfryngau nhw yn gweithredu mewn tirwedd cwbl wahanol. Mae'r un peth gyda llaw yn wir am Ogledd Iwerddon - mor unoliaethol ag ydi'r Belfast Telegraph mae'n llawer llai Prydeinig ar aml i wedd nag ydi'r Daily Post.

A dyna'r broblem - adlewyrchu eu marchnad mae'r cyfryngau print fel rheol, ac mae'r farchnad yng Nghymru wedi ei hintegreiddio efo'r farchnad Seisnig mewn ffordd sydd ddim yn wir yn y gwledydd Celtaidd eraill. Dyna pam bod gan y papurau mawr Prydeinig fersiynau Gwyddelig ac Albanaidd, tra ein bod ni yn cael yr un arlwy a thrigolion Brent a Bradford.

Dydi hyn oll ddim yn golygu nad oes gobaith i'r cyfryngau torfol ddod yn fwy Cymreig gydag amser - i'r gwrthwyneb, fel rydym wedi nodi mae'r cyfryngau Cymreig yn llai Prydeinig bellach nag oeddynt yn y gorffennol - ac mae hynny yn ei dro yn adlewyrchu'r ffaith ein bod ni fel pobl yn llai Prydeinig nag oeddem dro yn ol. Mae'r broses yma yn debygol o barhau.

Yn y cyfamser beth allwn ei wneud i ddatblygu cyfryngau mwy Cymreig?

Y peth amlwg ydi cefnogi'r hyn sydd gennym eisoes o ran cyfryngau Cymreig a chreu marchnad. Yr ail ydi gwneud yr hyn mae Mabon yn ei wneud ar hyn o bryd a blogio trwy gyfrwng y Gymraeg am Gymru. Yn yr oes sydd ohoni gall pobl gyffredin gymryd yr awennau a chyhoeddi fel y mynant ar y We. Tra bod y blogosffer Cymraeg ei iaith yn wan, mae'r blogosffer Cymreig yn fyrlymus a phoblogaidd ac yn dehongli gwleidyddiaeth mewn ffordd llawer Cymreiciach na'r cyfryngau prif lif.

Felly dyna fo - os ydym am gyfryngau mwy Cymreig a llai Prydeinig rhaid mynd ati i gefnogi'r hyn sydd ar gael o ran cyfryngau prif lif, a chreu ein ymgom gwleidyddol Cymreig ein hunain yn y cyfryngau hynny y gallwn ddylanwadu arnynt fel unigolion. Mae'r pethau yma'n gweithio o'r gwaelod i fyny ac nid o'r brig i lawr.

Saturday, April 30, 2011

Y cyfryngau cyfrwng Cymraeg a'r briodas frenhinol

Mae'n braf cael cytuno drachefn efo Bethan Jenkins.

Fel mae'n digwydd dydw i heb glywed unrhyw son o gwbl yn y cyfryngau am y briodas frenhinol ers dyddiau - ond wedyn 'dwi'n bell iawn o'r DU. Serch hynny mae'n siom nodi bod y cyfryngau Cymreig wedi dotio cymaint at yr holl hw ha.

Os ydi'r cyfryngau Cymraeg eu hiaith o dan yr argraff mai dynwared yn slafaidd y cyfryngau Seisnig mewn cyfrwng ieithyddol arall ydi eu prif genhadaeth, mae hynny'n gwanio'r holl ddadl tros eu bodolaeth. 'Dydi darlledu a chyhoeddi Cymreig ddim yn gyfystyr a dilyn trywydd y cyfryngau Seisnig trwy gyfrwng y Gymraeg. Mi'r ydym yn genedl wahanol, a dylai hynny gael ei adlewyrchu yn ein bywyd cyhoeddus a chan ein cyfryngau.

Thursday, April 14, 2011

Plant bach yn mynd ar goll oherwydd yr iaith Gymraeg

Stori ryfedd iawn heddiw yn y Telegraph.

Yn ol y papur mae yna lwyth o blant bach wedi mynd ar goll ar Foel Tryfan oherwydd actifydd iaith. Ymddengys i foi o'r enw Mike Blake, 63 benderfynu y byddai'n syniad da i anfon plant bach allan i redeg ar fynydd mewn niwl, ac i'r cyfryw blant i gyd fynd ar goll oherwydd i actifydd iaith ddwyn yr holl arwyddion roedd Mike wedi eu gosod yn hynod ofalus pob pymtheg medr o'r cwrs.

Yn ol Mike, roedd yna ddyn drwg wedi cael ei weld yn dwyn un arwydd ac yn dad wneud un arall. Yn wir daeth y dihiryn o hyd i ddymp yn rhywle, a chludo holl arwyddion Mike - cant ohonyn nhw i gyd - yno i'w taflu. Roedd y Telegraph a Mike yn eithaf siwr mai actifydd iaith oedd yn gyfrifol am yr anfadwaith ofnadwy.

Mae'n anodd credu rhywsut i'r stori idiotaidd, plentynaidd o grediniol a di niwed yma ymddangos yn yr un papur ag oedd yn gyfrifol am ddod a'r sgandal treuliau aelodau seneddol i ni.

Thursday, January 27, 2011

Gwrth Gymreigrwydd Paul Matthews a safonau dwbl y cyfryngau prif lif

'Fydda i ddim yn un am gymryd sylwadau gwrth Gymreig yn y cyfryngau gormod o ddifri, er bod llawer yn neidio i ben y caets i dantro pan mae A A Gill neu Clarkson yn dweud rhywbeth neu'i gilydd i dynnu sylw atyn nhw eu hunain.

Serch hynny, mae'r sylwadau gwrth Gymreig gan Paul Matthews, llefarydd ar ran True Wales,yn codi cwestiynau diddorol am agweddau gwaelodol y cyfryngau prif lif tuag at Gymru. Yn ol y wefan Click on Wales dywedodd Matthews hyn wrth Insider Media Limited - I am a Welsh person. We’re not the most innovative or creative, and very often those that are, move out of Wales. Rwan 'dydi'r geiriau ddim mor ymfflamychol a sylwadau Gill, Robinson, Clarkson ac ati, ond mae eu hawgrym yn weddol amlwg - mae'r Cymry yn israddol i'r Saeson, mewn un agwedd hynod bwysig ar fywyd o leiaf.

Mae sylwadau gan unigolion cyhoeddus (neu led gyhoeddus) y gellir eu dehongli fel rhai gwrth Seisnig yn creu storm yn y cyfryngau yn rheolaidd - awgrym sy'n cael ei phriodoli'n anheg i Simon Brooks y dylid meddiannu tai mewnfudwyr yn heddychlon, honiad Gwilym ab Ioan bod rhannau o Gymru yn dumping ground for oddballs and misfits, sylwadau Seimon Glyn y dylid rheoli mewnfudo i ardaloedd Cymraeg eu iaith, ac y dylid mynnu bod mewnfudwyr yn dysgu'r iaith.

Eto, prin bod yna siw na miw wedi dod o gyfeiriad y cyfryngau prif lif ynglyn a sylwadau Paul Matthews. Meddyliwch sut ymateb fyddai yna o gyfeiriad y cyfryngau petai rhywun o'r ymgyrch Ia - Roger Lewis er enghraifft - yn dweud bod Cymru angen mwy o annibyniaeth oddi wrth Lloegr oherwydd nad ydi'r Saeson yn bobl ddyfeisgar na chreadigol. Byddai'r ymgyrch yn cael ei chladdu o dan domen o hysteria a chasineb cyfryngol am wythnosau.

Ydi hi'n bosibl bod y cyfryngau - hyd yn oed y cyfryngau Cymreig - yn rhyw dderbyn bod gwrth Gymreigrwydd yn rhan naturiol o drefn pethau, tra'n gweld unrhyw awgrym o wrth Seisnigrwydd fel pechod o'r radd eithaf?