Reit - y Toriaid - mae’n debyg ei bod yn deg dweud nad oedd hi’n etholiad arbennig o wych iddyn nhw yng Nghymru na thu hwnt. Roedd 2019 yn flwyddyn pan dorrodd y Toriaid nifer o recordiau etholiadol yng Nghymru, ond torrwyd mwy eleni.
Llwyddodd y Toriaid i beidio ennill sedd o gwbl yng Nghymru ddydd Iau - rhywbeth maent wedi ei wneud ddwy waith o’r blaen - yn 1997 a 2001. Ond mi wnaethon nhw’n waeth na hynny mewn rhai ffyrdd y tro hwn. 18.2% o’r bleidlais gafodd y Toriaid yn 2024 - y canrannau cyfatebol yn 1997 a 2001 oedd 19.6% a 21%. Dydi’r gwahaniaeth ddim yn anferthol ond ystyrier hyn - mewn 11 o’r 32 sedd oedd y Toriaid yn ail - sef 34%. Yn 1997 roeddynt yn ail mewn 25 o’r 40 sedd - sef 63% o’r seddi - er mae’n rhaid cydnabod mai ail pell iawn oeddan nhw mewn aml i achos.
Roedd gan y Toriaid 14 o seddi yn 2019 - mwy nag oeddynt erioed wedi eu hennill o’r blaen - yn mynd i mewn i’r etholiad a chollwyd y cwbl. ‘Does yna ddim un plaid wedi llwyddo i golli cymaint o seddi mewn un etholiad yng Nghymru o’r blaen. Does ‘na ddim un plaid wedi colli tros i 300,000 o bleidleisiau yng Nghymru o’r blaen chwaith, ond llwyddodd y Toriaid i wneud hynny eleni. Does yna ddim un plaid yng Nghymru wedi gweld eu canran o’r bleidlais yn cwympo bron i 18% o’r blaen, ond dyna ddigwyddodd i bleidlais y Toriaid Cymreig eleni. Cymrodd sawl etholiad i’r Rhyddfrydwyr chwythu pob dim yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf.
Mae’n debyg felly y dyliwn longyfarch Andrew RT Davies a’i gyfrif trydar lliwgar am arwain ei blaid i dir newydd etholiadol sbon.
A ‘dydi pethau ddim yn edrych yn rhy wych ar gyfer y dyfodol chwaith. Mae Reform o’u blaenau nhw mewn mwy o seddi na mae nhw o flaen Reform (17 i 14). Felly pan mae’n dod i etholiad 2029 mae’n fwy na phosibl y bydd gwasgfa bellach ar eu pleidlais - gyda phleidleiswyr Asgell Dde a bleidleisiodd trostynt y tro hwn yn cael eu temptio i bleidleisio i Reform.