Showing posts with label Lib Dems. Show all posts
Showing posts with label Lib Dems. Show all posts

Sunday, September 23, 2012

Pam bod Nic fwy neu lai yn siwr o gael y cic

Yn ol Sunday Times heddiw mae eu pol YouGov yn awgrymu bod 43% yn debygol o bleidleisio i Lafur mewn etholiad cyffredinol, 34% ir Toriaid ac 8% yn unig i'r Lib Dems.  Nid dyma'r pol cyntaf o bell ffordd i awgrymu bod cefnogaeth y Lib Dems mewn ffigyrau un digid.



Petai hyn yn digwydd mewn etholiad cyffredinol byddai'r Lib Dems yn cael 13 o seddi petai'r ffiniau seneddol presenol yn cael eu defnyddio - y nifer isaf ers 1979.  Mae ganddynt 55 o aelodau seneddol ar hyn o bryd.  Byddai llawer o wynebau cyfarwydd iawn yn gadael y llwyfan gwleidyddol - Michael Moore, Simon Hughes, Jenny Willot, Menzies Campbell, Malcom Bruce, Danny Alexander er enghraifft.

Petai'r ffiniau newydd arfaethiedig yn cael eu defnyddio, pum sedd yn unig fyddai ganddynt - y nifer isaf yn eu hanes hir - os ydi fy ngwybodaeth i am hanes etholiadol yn gywir.

Dydi hi ddim yn glir y byddai pethau llawer gwell petai ganddynt arweinydd arall - er bod yna rhywfaint o dystiolaeth polio bod Vince Cable yn apelio at fwy o bobl na Clegg.  Ond os ydi'r ffigyrau polio yn aros fel maent ar hyn o bryd mi fydd tri chwarter a mwy o aelodau seneddol y Lib Dems yn teimlo bod bygythiad gwirioneddol i'w seddi.  Does yna ddim byd yn bwysicach na chadw ei sedd i aelod seneddol - mae ei cholli yn golygu colli ei fywoliaeth, ei dreuliau, ei statws, ei wyliau maith, ei fynediad i fariau San Steffan a'r lysh rhad, ei gyfleoedd i agor pob math o bethau yn ei etholaeth, sylw cyfryngol ac ati, ac ati.

Byddant yn fodlon trio unrhyw beth i gadw eu seddau - a pris bach iawn i'w dalu fyddai rhoi cic i Nick.

Saturday, August 04, 2012

Aelodaeth y pleidiau gwledyddol

Mae'n ddiddorol nodi o flog Michael Crick bod aelodaeth y Toriaid a'r Lib Dems wedi syrthio yn sylweddol tros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae ffigyrau Crick fel a ganlyn:

Lib Dems 48,934
Llafur 193,000
Toriaid 130,000 (er eu bod nhw yn gwrthod datgelu eu ffigyrau yn swyddogol)
SNP 23,376
UKIP 17,184

Dydi Crick ddim yn dweud wrthym beth ydi ffigyrau'r Blaid - ond 7,863 oedd yr aelodaeth ym mis Ionawr.

Mae'n anodd cymharu ffigyrau'r pleidiau unoliaethol a rhai'r pleidiau cenedlaetholgar oherwydd bod y rhan fwyaf o aelodau'r pleidiau unoliaethol yn byw yn Lloegr. Ond os ydym yn cyfrifo cymhareb poblogaeth:aelod gan ddefnyddio poblogaeth y DU ar gyfer cymarebau'r pleidiau unoliaethol a phoblogaethau'r gwledydd Celtaidd ar gyfer y Blaid a'r SNP, dyma'r darlun:

Lib Dems 1:1,280
Llafur 1:324
Toriaid 1:481
SNP 1:224
UKIP 1:3,645
Plaid Cymru 1:389

Felly'r SNP sy'n perfforio orau o ddigon ar y mesur hwn, gydag UKIP efo llai nag un aelod am pob 3,000 o bobl a'r Lib Dems efo llai nag un am pob mil. Dydi'r Blaid ddim yn gwneud yn ddrwg o gwbl.

Monday, July 09, 2012

Llywodraeth y DU i golli yn y bleidlais ar ddiwigio Ty'r Arglwyddi

Neu dyna mae'r marchnadoedd betio yn ei awgrymu fodd bynnag.

Rwan mae'r syniad o barhau i dynnu cyflog AS + treuliau sylweddol + cadw'r pen ol yn soled ar ledr y limo, yn achos gweinidogion,am wneud i lawer feddwl yn ofalus cyn gwneud rhywbeth gwirion yn sgil yr anhrefn y byddai colli'r bleidlais yn ei greu.

Ond o golli byddai ansefydlogrwydd wedi ei adeiladu i mewn i'r glymblaid, ac fel mae 2015 yn dod yn nes, bydd y fantais o aros mewn llywodraeth yn lleihau, tra y bydd y demtasiwn i ddod a'r holl sioe i lawr er mwyn ennill mantais tactegol yn cynyddu.

Os collith y llywodraeth y bleidlais, mi fydd yna etholiad cyffredinol 2015.

Tuesday, April 17, 2012

Sut i beidio a chwffio'r etholiadau lleol - gwers bach gan y Lib Dems Cymreig

Mae'n debyg gen i nad yw'n gwbl anisgwyl i'r Blaid Lafur Gymreig geisio ymladd eu hetholiadau llywodraeth leol trwy eu stwffio i gyd destun Prydeinig, a'u cyflwyno fel refferendwm ar y glymblaid amhoblogaidd sy'n rheoli yn Llundain. 'Dydi record Llafur mewn llywodraeth leol yng Nghymru ddim yn rhywbeth maent am i'r etholwyr feddwl gormod amdano.

Ond yr hyn sy'n fwy anisgwyl ydi bod y Lib Dems 'Cymreig' yn ceisio gwneud yr un peth. Dyna maent yn ei wneud a barnu oddi wrth eu darllediad gwleidyddol heno o leiaf. Doedd yna ddim son am y cynghorau sy'n cael eu harwain gan eu plaid yng Nghymru, a dweud y gwir doedd yna ddim son am Gymru o gwbl. Roedd pob dim wedi ei ganoli ar Nick Clegg a'r gwahanol ryfeddodau mae'n honni iddo eu cyflwyno fel dirprwy brif weinidog.

Rwan, mi fyddai dyn yn disgwyl y byddai'r Lib Dems yng Nghymru eisiau hoelio'r sylw ar eu cynghorau cymharol effeithiol yng Nghymru, a chuddio eu harweinyddiaeth amhoblogaidd yn San Steffan. Mae'n strategaeth y byddai unrhyw ffwl yn dod ati, bron iawn heb feddwl. Mae'r ffaith eu bod yn arddel y strategaeth idiotaidd o ganu clodydd eu plaid seneddol Brydeinig amhoblogaidd yn dangos yn gliriach na dim mai'r Lib Dems ydi'r blaid fwyaf llywaeth Brydeinig o'r pleidiau Cymreig.

Tuesday, January 10, 2012

Mwy o 'degwch' Toriaidd a Lib Demaidd

Mae yna rhywbeth nodweddiadol Doriaidd am y syniad o gyflwyno amodau cyflog 'rhanbarthol' yn y sector cyhoeddus.  

Y syniad yn y bon ydi talu llai i weithwyr sector cyhoeddus mewn 'rhanbarthau' lle mae cyflogau sector preifat yn gymharol isel.  Mae hyn - fe ymddengys - yn fwy teg efo'r sector preifat.  Felly rydym unwaith eto yn gweld 'tegwch' Toriaidd ar waith.  Os ydi cyflog sector preifat yn isel yna'r ateb ydi sicrhau bod cyflogau sector cyhoeddus hefyd yn isel, nid meddwl am ffyrdd o hybu cyflogau sector preifat.  Mae'r sgil effaith y gallai  llusgo cyflogau sector cyhoeddus i lawr yn hawdd hefyd lusgo cyflogau sector preifat i lawr, a thrwy hynny blesio cyflogwyr di egwyddor, yn gyd ddigwyddiad llwyr wrth gwrs.

Rydym eisoes wedi edrych ar union yr un rhesymeg yn cael ei arddel gan y Toriaid a'r Lib Dems yng nghyd destun yr ymosodiadau'r llywodraeth ar bensiynau sector cyhoeddus

Friday, December 23, 2011

Tegwch y Toriaid a'r Lib Dems

Mae Plaid Wrecsam yn gwbl gywir i dynnu sylw at y ffaith nad ydi’r pensiynau ‘gold plated’ mae’r Toriaid mor hoff o siarad amdanynt  mor euraidd a hynny yng Nghlwyd – gyda 72% o’r sawl sydd yn derbyn pensiwn o Gynllun Pensiwn Clwyd yn derbyn llai na £5,000 y flwyddyn.

A’r gwir plaen ydi mai isel ydi pensiynau cyfartalog sector cyhoeddus yn gyffredinol trwy’r DU o gymharu a – dyweder – cyflog Aelod Seneddol.  Mae Aelod Seneddol cyffredin yn ennill £65,738 + yr enwog dreuliau wrth gwrs, tra bod pensiwn cyfartalog sector cyhoeddus tua £7,000.  Pan rydych yn clywed aelod seneddol – Guto Bebb dyweder  gan bod ganddo gymaint i’w ddweud ar y pwnc – yn son am ‘degwch’ pan mae’n dod i bensiynau, efallai ei bod werth cofio na fydd y cyfryw Aelod Seneddol byth yn gorfod ceisio cael dau ben llinyn ynghyd efo £7,000 y flwyddyn.   

Yn wir petai Nick Clegg neu Danny Alexander yn gadael y senedd yn 2015 byddai’n derbyn pensiwn blynyddol o £26,403.  Byddai Francis Maud yn derbyn £43,835 y flwyddyn, Vince Cable  £32,977 ac mi fyddai Andrew Lansley yn cael £39,825.  Dyna beth ydi pensiynau euraidd.  

Rwan mae’n wir bod yna wahaniaeth rhwng pensiynau sector cyhoeddus a sector preifat.  Er bod rhai gweithwyr yn y sector preifat yn derbyn pensiynau uchel iawn, tra bod eraill mewn cynlluniau tebyg i’r rhai sector cyhoeddus, ‘dydi’r rhan fwyaf o ddigon ddim. Yn wir ‘dydi tua 65% o weithwyr sector preifat ddim yn gwneud unrhyw baratoadau pensiwn o gwbl (16.1% ydi’r ffigwr yn y sector cyhoeddus).   Tua £28,000 ydi pot pensiwn mwyafrif gweithwyr y sector preifat  – cyfanswm sy’n creu pensiwn blynyddol o tua £1,650.  ‘Dydi £1,650 na £7,000 ddim yn bensiynau sy’n mynd i roi bywyd arbennig o gyfoethog i neb, a byddai dyn yn meddwl petai’r Toriaid a’r Lib Dems o blaid tegwch yn yr ystyr mae'r rhan fwyaf ohonom yn ei ddeall y byddant yn ceisio meddwl am ffyrdd o gynyddu pensiynau’r sector preifat.  Ond na – tegwch i Dori neu Lib Dem ydi ceisio cael pensiynau sector cyhoeddus yn is – nid cael rhai’r sector preifat yn uwch*

Yr economi sy’n cael y bai am hyn wrth gwrs, a’r angen i argyhoeddi’r marchnadoedd pres bod cynllun gan lywodraeth  y DU i leihau gwariant cyhoeddus.  Prif strategaeth y llywodraeth o fynd ati i wneud hynny ydi trwy wasgu ar un rhan, ac un rhan yn unig o’r gweithlu – gweithwyr sector cyhoeddus.  Gwneir hyn trwy docio’n sylweddol ar wariant cyhoeddus a weithwyr sector cyhoeddus ar y clwt, rhewi cyflogau’r rhan fwyaf ohonynt am dair blynedd mewn cyfnod pan mae chwyddiant i’r gogledd o 5% y flwyddyn, gwneud i’r cwbl gyfranu llawer mwy tuag at eu pensiwn a thalu llai  o bensiwn iddynt ar ben hynny.

Cwestiwn gwleidyddol ydi pa mor fforddiadwy ydi pensiynau sector cyhoeddus mewn gwirionedd.  Mae yna ffyrdd eraill o argyhoeddi’r marchnadoedd arian bod y gwahaniaeth rhwng gwariant cyhoeddus a’r arian mae’r wladwriaeth yn ei godi o dan reolaeth -  codi trethi er enghraifft.  Fel rydym wedi trafod mewn blogiad blaenorol byddai gwneud i gwmniau mawr dalu’r dreth maent i fod i’w dalu yn unol a deddfwriaeth bresenol yn ddechrau go lew.  Gan mai’r sector ariannol (a diffyg goruwchwyliaeth y llywodraeth tros y sector hwnnw) sy’n gyfrifol am y llanast y cawn ein hunain ynddo byddai yna elfen o degwch (a defnyddio hoff derm newydd y Toriaid)  mewn trethu’r banciau, neu drosglwyddiadau ariannol neu beth bynnag  yn hytrach na mynd ar ol gweithwyr yn y sectorau addysg ac iechyd (a dyna beth ydi’r rhan fwyaf o weithwyr sector cyhoeddus) nad oedd ddim oll i’w wneud ag achosi’r argyfwng.  

Mae’r penderfyniad i fynd ar ol y sector cyhoeddus ynghyd a’r dealltwriaeth rhyfeddol  sydd gan y Toriaid a'r Lib Dems o degwch wedi eu seilio ar yr un peth mewn gwirionedd – syniadaeth adain Dde.  Mae’r syniadaeth honno yn diffinio’r berthynas rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus yn nhermau zero sum game – os ydi un ar ei ennill, yna mae’r llall ar ei golled.  Felly trwy ddiffiniad os ydi rhywbeth yn niweidiol i’r sector cyhoeddus, yna mae’n dda i’r sector preifat.  Pan mae ein cyfeillion Toriaidd / Lib Dem yn son am y sector preifat, son maent am gyflogwyr sector preifat yn hytrach na gweithwyr wrth gwrs.  Nid oes rhaid dweud bod yr uchod yn nonsens o'r radd flaenaf.

Ond ag edrych ar bethau o’r safbwynt hwnnw mae’n hawdd gweld pam mai’r sector cyhoeddus sydd o dan y sawdl.  Mae cyflogau  ac amodau sector cyhoeddus uchel hefyd yn llesol i gyflogau ac amodau gweithwyr sector preifat.  Y rheswm am hynny ydi bod cyflogau ac amodau da yn y sector cyhoeddus  yn gorfodi cyflogwyr sector preifat i edrych ar ol eu gweithwyr er mwyn eu cadw rhag chwilio am waith yn y sector cyhoeddus.  O lwyddo i leihau’r nifer o swyddi yn y sector cyhoeddus yn ogystal a lleihau’r cyflogau a difetha’r amodau, mae’n haws i gyflogwyr sector preifat dalu llai i’w gweithwyr  a chynnig amodau salach iddynt.  

A dyna mae gen i ofn y cefndir syniadaethol sydd y tu ol i benderfyniad y cabinet o filiwnyddion Toriaidd a Lib Dem i bloncio’r sector cyhoeddus yng nghanol storm a greuwyd gan eraill.  Edrych ar ol eu cyfran fach  o’r boblogaeth ar draul pawb ydi canlyniad gweithredu yn unol a'r syniadaeth yma yn y bon.  Dim llai, dim mwy.

* Mae'r ffigyrau wedi eu cymryd o flog Polly Curtis ar safle'r Guardian. Gan nad ydi'r ffigyrau mae yn eu defnyddio yn hollol gyson o flogiad i flogiad (oherwydd nad yr un set o bobl sy'n cael eu cymharu pob tro) 'dwi'n defnyddio rhai sydd tua chanol yr amrediad cymharol fach.

Monday, October 17, 2011

Pol diweddaraf Populus

Mae'r pol (Prydeinig) diweddaraf gan Populus yn awgrymu mai sefyllfa'r pleidiau \prydeinig ar hyn o bryd ydi Llafur 41%, Toriaid 33% a'r Lib Dems 8%.

Pe gwireddid y pol hwnnw mewn etholiad go iawn byddai'r Lib Dems yn colli Brycheiniog a Maesyfed a Chanol Caerdydd, gan adael Mark Williams yn ymladd i ddal Ceredigion.  Pe byddai'n cael ei ethol byddai'n eithaf unig - 14 aelod Lib Dem yn unig fyddai'n cael eu dychwelyd - o gymharu a 57 ar hyn o bryd. 

Wednesday, July 13, 2011

Y blaid mwyaf boncyrs yn Ewrop?

Felly mae Lib Dems Cymru wedi penderfynu cymryd camau yn erbyn un o'u haelodau yn dilyn llanast Aled Roberts a John Dixon.

Y person sydd am gael ei gwthio i fyny'r planc ydi Elinor Burnham - eu cyn Aelod Cynulliad  tros y Gogledd, a rhywun sydd ddim oll i'w wneud efo'r holl sefyllfa.  Dim ond ym myd bach rhyfedd Lib Dems Cymru y gallai trefn ddisgyblu gael ei defnyddio yn y ffordd yma.

Thursday, July 07, 2011

Ydi Aled Roberts yn dweud celwydd?

'Dwi'n eithaf siwr nad ydyw - wedi'r cwbl fel mae Vaughan yn nodi byddai goblygiadau hynny yn ddifrifol iawn, ac mi fyddai Aled, fel cyfreithiwr yn ymwybodol  o hynny.  Mae awgrym Vaughan bod gan y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru pob cymhelliad tros gymylu'r dyfroedd ar yr ennyd - ahem - anodd yma yn ei fywyd corfforiaethol hefyd yn taro deuddeg.  Mae hefyd yn ffaith nad yw sustemau tracio defnyddwyr gwefannau yn gwbl ddibynadwy o bell ffordd.


Yn ffodus mater cymharol fach ydi o i Aled roi taw ar yr holl awgrymiadau.  Mae'n eithaf sicr bod ei gyfrifiadur yn tracio pob gwefan mae'n ymweld a hi, ac mae'n debygol iawn bod gan ei ddarparwr gwasanaeth rhyngrwyd gofnod o'r gwefannau hynny hefyd.  Pe byddai'n rhoi ei gyfrifiadur i arbenigwr annibynnol ei archwilio, neu'n rhoi caniatad i'w ddarparwr rhyngrwyd gyhoeddi ei fod wedi ymweld a gwefan y Comisiwn Etholiadol byddai'r stori yn farw gelain mewn awr. 

Mae'n dda o beth bod ambell i beth mewn bywyd yn eithaf syml.

Monday, May 02, 2011

UKIP i gael seddi ar Fai 5?

Y ffaith mwyaf diddorol i godi o'r pol YouGov diweddaraf, ag eithrio'r gwymp ym mhleidlais Llafur ydi'r twf ym mhleidlais UKIP yn y rhanbarthau - maent ar 7% - union ganran y Lib Dems.

Petai'r ffigwr hwnnw'n cael ei wireddu byddai'n sicr y byddai'r blaid wrth Gymreig, asgell dde yn ennill seddi. Yn wir, petai eu pleidlais wedi ei ddosbarthu y fwy cyson nag un y Lib Dems - ac mae yna beth lle i gredu y gallai hynny fod yn wir, yna gallent gael mwy o seddi na phlaid Kirsty Williams.

Tuesday, April 26, 2011

Ond un peth da am y Lib Dems Gogledd Cymru ydi _ _ _

_ _ _ eu synnwyr digrifwch.

Y tim buddugol?

Yn y Gogledd?

Yn 2007 mi gafodd y Lib Dems 7.8% o'r bleidlais yn y Gogledd. Mae'r polau ar hyn o bryd yn awgrymu y bydd eu pleidlais yma yn syrthio i tua 4%.

Ac mae hynny'n fuddugoliaeth! Tybed beth ydi cweir ym myd bach rhyfedd Lib Dems Gogledd Cymru?

Rhys Jones a'r gwasanaeth awyr o'r Gogledd i'r De

Wele un o bamffledi etholiadol Rhys Jones, ymgeisydd y Lib Dems yn Arfon.


Mae'n ddifyr nodi mai un o brif bwyntiau gwleidyddol ymgyrch Rhys Jones, ydi ei gynlluniau i gau'r unig wasanaeth awyr rhwng y De a'r Gogledd. Yn ol y pamffled.

Mae'r cyswllt awyr rhwng y De a'r Gogledd wedi costio £3.2m i drethdalwyr Cymru, ac mae'n dal i gostio £800,000 y flwyddyn.

Prin ydi'r defnydd o'r gwasanaethau ar wahan i un teithiwr cyson sef Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones.


'Dydi'r awgrym mai dim ond un person sy'n defnyddio'r gwasanaeth ddim yn wir. Rhwng dyddiad cychwyn y gwasanaeth ym mis Mai 2007 ac Ebrill 2010 roedd 40,000 wedi teithio ar yr awyren.

Mae'n ddiddorol nad ydi Rhys eisiau i bobl Arfon gael mynediad i wasanaeth teithio cyflym i Gaerdydd. Mae llawer o bobl yn y Gogledd Orllewin bellach efo cysylltiadau a'r De Ddwyrain wrth gwrs. Os ydych chi'n digwydd byw yn Arfon eich dewis (ar wahan i'r awyren) ydi dal tren pob awr i brif ddinas Cymru, ac mae'r daith yn cymryd tua 4 awr ac ugain munud. Neu mi allwch yrru i lawr yr A470 a theithio am tua pedair awr. 'Dydi'r daith bws ddim gwerth meddwl amdani.

Os ydych - fel Rhys - yn byw yn Nowlais ger Merthyr gallwch gael bws pob chwarter awr, ac mi gaiff hwnnw chi i Gaerdydd mewn awr. Mae yna dren ar eich cyfer pob hanner awr ac mi gaiff hwnnw chi yng Nghaerdydd mewn awr hefyd. Neu wrth gwrs, gallwch yrru i lawr yr A470 a gwneud y daith mewn hanner awr.

Mae yna gryn wariant cyhoeddus yn mynd tuag at gynnal y gwasanaethau penigamp yma i bobl Merthyr. Er enghraifft gwariwyd £19m ar uwchraddio'r cledrau rhwng Merthyr Tydfil a Chaerdydd yn 2007. Chlywais i ddim bytheirio gan Rhys am hynny.


Felly yn ol Rhys mae'n gwbl briodol i drigolion ei dref ei hun gael mynediad cyflym a di drafferth i'r brif ddinas ar draul y trethdalwr, ond mae'n gwbl amhriodol i drigolion Arfon gael mynediad o'r fath.

Monday, February 28, 2011

Ydi'r Lib Dems eisiau i ni bleidleisio Ia?

Un o fanteision mawr byw yng Nghaernarfon ydi'r ffaith nad ydym yn cael ein boddi mewn pamffledi 'Ffocws' y Lib Dems fel trigolion anffodus Canol Caerdydd neu Aberystwyth er enghraifft. Beth bynnag, am unwaith mae yna bamffled yn cael ei ddosbarthu yn canu clodydd eu hymgeisydd ar gyfer etholiadau'r Cynulliad, Rhys Jones.

'Rwan mae'n ddigon naturiol i Rhys rannu ei bamffledi - dyna fydd pobl yn ei wneud pan bod etholiad ar y gorwel. Ond, ag ystyried bod refferendwm yn cael ei gynnal mewn tri diwrnod, ac ag ystyried mor bitw ydi ymdrech y Lib Dems ar lawr gwlad wedi bod i gefnogi'r ymgyrch hyd yn hyn(mae yna ambell i eithriad anrhydeddus), mi fyddai wedi bod yn braf cael rhyw air neu ddau yn argymell i bobl bleidleisio 'Ia'. Ond na, dim gair, dim sill.

Tybed os ydi Rhys o blaid rhoi pwerau deddfu i'r Cynulliad? A barnu oddi wrth ei bamffled does ganddo fo ddim barn ar y mater.

Saturday, January 15, 2011

Graffiau'r Lib Dems

Fedrwn i ddim peidio a chwerthin o weld y graff *dychanol) yma ar politicalbetting.com. Cyfeiriad ydi o wrth gwrs at arfer anymunol y Lib Dems o gynhyrchu graffiau di ystyr i 'brofi' mai dim ond nhw sy'n gallu curo Plaid X mewn rhyw etholiad neu'i gilydd.

'Dydi'r ddadl mai ond y Lib Dems all guro Llafur ddim yn edrych yn addawol iawn yn yr is etholiad a gaiff ei galw yn sgil ymddiswyddiad Eric Illsley yn Barnsley Central - chwech yn fwy o bleidleisiau a gafodd i Lib Dems na'r Toriaid. Ond 'dwi'n siwr y bydd creadigrwydd y Lib Dems yn y maes o gam arwain etholwyr yn delio efo'r broblem fach yma yn ddigon di drafferth.

Sunday, January 09, 2011

Is etholiad Oldham East & Saddleworth


Yn ol politicalbetting.com Llafur fydd yn ennill is etholiad Oldham East & Saddleworth yn weddol hawdd. Mi gofiwch i'r cyn aelod, Phil Woolas (y boi nad oedd am i Shirley Evans ac Evelyn Calcabrini gael dod i Gymru o'r Wladfa) golli ei sedd oherwydd iddo ddweud celwydd am ei wrthwynebydd Lib Dem, Elwyn Watkins. Mewn amgylchiadau cyffredin byddai'r Lib Dems yn disgwyl ennill yn eithaf hawdd - yn rhannol oherwydd cydymdeimlad tuag at Watkins, ond yn bennaf oherwydd bod y blaid yn effeithiol iawn am ymladd is etholiadau - yn arbennig lle mae yna lawer o bleidleisiau tactegol ar gael - sydd yn wir am Oldham East & Saddleworth.

Os bydd Watkins yn colli, bydd yn slap gyntaf o nifer posibl i'r glymblaid yn Llundain tros y pum mis nesaf. Byddai perfformiadau sal yn etholiadau'r Alban a Chymru yn ddigon drwg, byddai colli cannoedd o seddi cyngor ar hyd a lled y DU yn waeth, a byddai colli'r refferendwm AV yn gadael llawer o Lib Dems yn gofyn beth yn union maen nhw yn ei gael fel gwobr am adael i'w cefnogaeth ddatgymalu er mwyn i Cameron gael rhedeg y DU.

Os ydi'r glymblaid o dan straen ar hyn o bryd, mi fydd hi'n gwegian erbyn dechrau'r haf. Yr unig beth a allai ei hachub ydi'r posibilrwydd y bydd aelodau seneddol Lib Dem yn ofn am eu bywydau wynebu eu hetholwyr mewn etholiad cyffredinol, ac eisiau cicio'r diwrnod du y bydd rhaid iddynt wneud hynny cyn belled a phosibl i'r dyfodol.

Wednesday, December 29, 2010

Gweinidog Dyledion a Thlodi


Mae'n ddiddorol bod llywodraeth San Steffan wedi rhoi joban newydd i Simon Hughes - rhywbeth i'w wneud efo dwyn perswad ar bobl ifanc o gefndiroedd tlawd i fynd i addysg bellach ac adeiladu dyledion sylweddol y byddant yn gorfod eu ad dalu am lwmp go lew o'u bywydau.

Beth nesaf tybed?

Sunday, December 26, 2010

Problemau cytundeb etholiadol rhwng y Lib Dems a'r Toriaid

Mi fydd yna bethau rhyfeddol ac anisgwyl yn digwydd tros y Nadolig - ac mi ddigwyddodd rhywbeth felly acw heddiw - cawsom y Sunday Telegraph am rhyw reswm - ac am y tro cyntaf ers cyn cof.

Yn naturiol ddigon 'doedd yna neb eisiau cael ei weld yn darllen y peth, ac mi eisteddodd ar fwrdd y gegin heb ei agor am rai oriau. Fi oedd y cyntaf i dorri'r tabw mae gen i ofn - roedd y pennawd ar y dudalen flaen yn ormod o demtasiwn - Top Tory Calls For Vote Pact.

Byrdwn y stori ydi bod rhyw weinidog di enw sydd, yn ol y papur, yn agos at Cameron eisiau cytundeb efo'r Lib Dems iddynt beidio a sefyll yn erbyn ei gilydd mewn rhai etholaethau yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Rwan gall dyn weld pam y byddai hyn yn demtasiwn i aelodau seneddol Toriaid - maen nhw ar ol Llafur yn y polau ar hyn o bryd, a phetai yna etholiad fory byddant yn ol lle maent wedi bod am y rhan fwyaf o'r tair blynedd ar ddeg diwethaf - ar feinciau'r gwrthbleidiau. Byddai'n fwy o demtasiwn fyth i'r Lib Dems, pe byddai yna etholiad 'fory, mi fyddai'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn y ganolfan waith y diwrnod wedyn.

Ond byddai yna broblemau sylweddol ynghlwm a dilyn y trywydd yma. Yn gyntaf 'dydi pleidiau gwleidyddol ddim yn 'berchen' eu cefnogwyr. Mae rhoi dwy blaid at ei gilydd yn cynhyrchu rhywbeth sy'n llai na chyfanswm y ddau ran fel rheol.

Yn fwy arwyddocaol byddai'n achosi cryn dyndra ar sawl lefel - efallai bod Clegg a Cameron yn meddwl y byd o'i gilydd, ond mae actifyddion ar lawr gwlad hyd yn oed yn llai hoff o'i gilydd na'r gweinidogion eraill. Ymhellach, byddai darparu rhyw fath o yswiriant i'r Lib Dems yn San Steffan, tra'n gadael eu cynghorwyr a'u Haelodau Cynulliad a Senedd yr Alban i gael eu llabuddio gan yr etholwyr oherwydd polisiau'r aelodau San Steffan hynny yn achosi drwg deimlad mewnol sylweddol.

Mi fydd gweld sut y bydd y stori yma'n datblygu yn ddiddorol.

Wednesday, December 22, 2010

Mwy am y Lib Dems

Ymddengys bod ffigyrau polio Cymreig ITV / YouGov yn ddigon tebyg i'r joban cefn amlen sydd gen i isod - ond eu bod mymryn yn waeth i'r Lib Dems hyd yn oed.

Mae yna bosibilrwydd real mai Peter Black fydd y Blaid Lib Dem yn y Cynulliad ac mai pumed neu chweched plaid fydd hi yno gydag UKIP ac o bosibl y BNP hyd yn oed yn dod o'u blaenau.

Yr unig gysur iddynt am wn i ydi'r ffaith y caiff ego Peter ei gynnal trwy fod yn arweinydd ei blaid yng Nghymru yn ogystal a bod yn llefarydd iddynt ar pob agwedd o fusnes y Cynulliad.

Gobeithio y bydd ganddo ddigon o amser ar ol i flogio, wir Dduw!

Tuesday, December 21, 2010

Vince Cable, y polau piniwn a'r rhagolygon i'r Lib Dems yng Nghymru

Wna i ddim gwneud rhyw lawer o'r stori Vince Cable - mae'r cyfryngau prif lif wrthi yn gwneud hynny bymtheg y dwsin. Mi fyddwn yn nodi, fodd bynnag, ei bod yn ddiddorol bod y dyn yn teimlo ei fod yn gorfod cyfiawnhau ei hun i'r fath raddau i 'etholwyr' - a rhai nad oedd wedi dod ar eu traws o'r blaen ar hynny.

Cyd destun ehangach hyn oll ydi ffigyrau polio (Prydeinig) gwirioneddol isel isel i'r Lib Dems - 12% gan IMS ac 11% gan ComRes er enghraifft. Mae'n gryn gyfnod ers i'r blaid bolio cyn ised a hyn (70au'r ganrif ddiwethaf 'dwi'n meddwl), ac mae'n awgrymu iddynt golli tua hanner eu cefnogaeth ers yr etholiad cyffredinol ym Mis Mai.

Ychydig fisoedd yn ol mi es i ati i greu dull cefn amlen i gyfieithu'r ffigyrau (Lib Dem) Prydeinig i rhywbeth sy'n gwneud synnwyr mewn cyd destun etholiadau Cynulliad. Roedd cefnogaeth y Lib Dems yn y DU yn 15% bryd hynny.

Ystyrier y ffigyrau hyn. Yn etholiad cyffredinol 2005 cafodd y Lib Dems 22% o'r bleidlais tros Brydain ac 18.4% yng Nghymru. Cyfieithodd hyn i 14.8% yn etholiadau'r Cynulliad yn yr etholaethau ac 11.7% ar y rhestrau yn 2007. Hynny yw roedd y Lib Dems yng Nghymru yn cael 83% o'r hyn y cafodd y blaid tros Brydain yn ei gael yn 2007, ac roeddynt yn cael 80% o hynny yn etholiadau'r Cynulliad yn yr etholaethau a 63.5% ar y rhestrau. 'Dwi'n gwybod bod hyn yn beth peryglus i'w wneud - ond os cymerwn bod cefnogaeth y Lib Dems tros Brydain bellach yn tua 15% (fel mae'r polau yn awgrymu), yna byddai'r gefnogaeth yng Nghymru yn 12.45% (mewn termau San Steffan). A chymryd mai tua 80% ar lefel etholaethol a 63% ar y rhestrau o hynny all y Lib Dems ei ddisgwyl ar lefel Cynulliad, yna byddai eu canran o gwmpas 10% yn yr etholaethau ac 8% ar y rhestrau. 'Dydi hyn ddim yn uchel.*


Rwan, os ydym yn ailadrodd yr ymarferiad cefn amlen yma gyda’r ffigyrau polau piniwn diweddaraf, mae’r rhagolygon ar gyfer mis Mai i’r Lib Dems yn edrych yn wirioneddol erchyll yng Nghymru. A chymryd 12% fel y ffigwr Prydeinig ar gyfer etholiadau San Steffan, byddai hyn yn cyfieithu i ychydig yn is na 10% ar lefel San Steffan iddynt yng Nghymru. Byddai hyn yn ei dro yn cyfieithu i 8% yn yr etholaethau mewn etholiadau Cynulliad a 6.3% yn y rhanbarthau.

I werthfawrogi gwir erchylldra’r ffigyrau yma mae’n rhaid eu cyfieithu i seddi. Ar hyn o bryd mae gan y blaid dair sedd uniongyrchol, Brycheiniog a Maesyfed, Maldwyn a Chanol Caerdydd. A chymryd y byddant yn colli 46% o’u pleidlais (fel mae’r ffigyrau uchod yn awgrymu) byddant yn debygol o golli’r dair. Fyddai yna ddim llawer o gysur i’w gael yn y rhanbarthau chwaith. Mi fyddai yna yn agos at hanner y bleidlais yn mynd yno hefyd, gan sicrhau y byddai’r sedd yn y Gogledd yn cael eu cholli, ei gwneud yn debygol iawn y byddai’r un yn Nwyrain de Cymru yn mynd – ac yn rhoi’r dair arall mewn perygl. Ar y ffigyrau yma byddai'n bosibl na fyddai gan y blaid gynrychiolaeth o gwbl yn y Cynulliad ar ol Mis Mai - yn union fel sefyllfa UKIP a'r BNP rwan. 'Dwi ddim yn dweud bod hyn am ddigwydd o anghenrhaid - ond ar y ffigyrau diweddaraf mae'n bosibl.

'Does dim rhaid i mi ddweud y byddai goblygiadau pell gyrhaeddol i hyn oll o ran y glymblaid yn Llundain. Fyddai cael hyd at chwech cyn Aelod Cynulliad o Gymru yn eistedd ar eu bodiau yn grwgnach ddim yn broblem fawr ynddo'i hun, ond mae'n debygol y byddai rhywbeth tebyg wedi digwydd yn yr Alban, ac yn bwysicach eto, mae hefyd yn debygol y bydd canoedd o gyn gynghorwyr o ardaloedd trefol Lloegr (mae lle i gredu bod y Lib Dems yn gwneud yn eithaf mewn rhannau cyfoethog o Loegr) yn cael eu hunain efo cryn dipyn o amser ar eu dwylo - hen ddigon o amser i wthio'r cwch i'r dwr.

Mewn geiriau eraill bydd y pwysau sy'n peri i Vince Cable ymddwyn mor anoeth ar hyn o bryd yn llawer, llawer mwy erbyn dechrau'r haf. Mi fydd hi'n gryn sialens i Clegg ddal y sioe at ei gilydd.

*Un nodyn bach technegol efo'r ffigyrau uchod - roedd ffigyrau'r Lib Dems (ICM) rhwng 1% a 2% yn is yn y polau Prydeinig amser etholiadau'r Cynulliad nag oeddynt yn 2005 - 'dydi'r gwahaniaeth ddim yn fawr, ond gallai wneud i fy sgriblo cefn amlen or wneud yr erchylldra rhyw fymryn.

Sunday, November 14, 2010

Ychydig funudau yn Hysteria Central


Dwi ddim yn meddwl y bydd neb yn debygol o anghytuno efo fi pan 'dwi'n honni fod blogio'r Lib Dem o Abertawe, Peter Black yn mynd ar nerfau Plaid Wrecsam. Gweler yma, yma ac yma er enghraifft. Anaml iawn y bydda i yn ymweld a blog Peter Black a dweud y gwir, ond ar yr achlysuron pan 'dwi'n mentro yno mae'n rhaid i mi gyfaddef bod y cyfuniad rhyfedd o ddifrifoldeb hunan bwysig a'r fflyrtain parhaus efo hysteria yn mynd ar fy nerfau innau hefyd.

Dau bwynt bach sydd gen i i'w wneud am y blog serch hynny. Yn gyntaf mae'r cyflwyniad nodweddiadol eiriog a fi fawraidd i'r dudalen sylwadau yn cychwyn efo'r baragraff yma:

I am happy to address most contributions, even the drunken ones if they are coherent, but I am not going to engage with negative sniping from those who do not have the guts to add their names or a consistent on-line identity to their comments. Such postings will not be published.

Wel, yn groes i fy arfer, mi adewais i sylw ddoe - yn enw fy mlog gyda linc iddo - i'r blogiad yma. Dewisodd Peter beidio a'i gyhoeddi - yn groes i reolau ei flog ei hun. Wna i ddim cymryd arnaf bod y sylwadau na chafodd weld golau dydd ymysg y pethau mwyaf treiddgar na defnyddiol 'dwi erioed wedi eu 'sgwennu. Serch hynny, gan nad ydi Peter yn fodlon eu cyhoeddi mi wna i hynny:

Hyperbole & obfuscion. I know that 9% in the polls isn't a good place to be, but covering yourself in a thick paste of partisan drivel isn't the best way to restore your party's political credibility Peter.
Ymateb oeddwn i flogiad oedd yn fwriadol gamarweiniol - un oedd yn fwriadol yn cwbl gam ddehongli sylwadau gan Adam Price a John Dixon er mwyn creu argraff bod y Blaid yn ffraeo'n fewnol ac yn ymddwyn fel llygod mawr mewn sach. 'Rwan mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod i fy hun yn gwneud hyn o bryd i'w gilydd - mae'r honiad ddau neu dri blogiad i lawr bod ffioedd prifysgol yn cael eu codi er mwyn i aelodau seneddol Toriaidd gael osgoi'r risg o gael eu plant yn ymwneud gormod efo'r dosbarth gweithiol yn esiampl. Ond 'dwi'n gobeithio ei bod yn weddol amlwg bod fy nhafod yn fy moch ar achlysuron fel hyn. 'Dydi tafod Peter ddim yn agos at ei foch - 'does yna ddim rhithyn o hiwmor yn agos at ei flog. Mae'r creadur yn 'sgwennu stwff gyda'r bwriad o gam arwain, yn hytrach nag efo'r bwriad o chwerthin ar ben gwrthwynebwyr. Ac mae'n gwrthod cyhoeddi sylwadau sy'n feirniadol o'i gam arwain bwriadol. Dyna beth ydi rhyddfrydiaeth.

Gyda llaw, rhag ofn ei fod o ddiddordeb mae'r blog yma yn derbyn bron i pob sylw sydd ddim yn groes i gyfraith enllib. Mae yna rhai sylwadau personol eraill 'dwi wedi gwrthod eu cyhoeddi - y rhan fwyaf ohonyn nhw, yn eironig ddigon, yn sylwadau personol ar aelodau o Lais Gwynedd.

Yn ail, ac yn bwysicach efallai, mae obsesiwn Peter efo Plaid Cymru yn rhyfedd. Tros y ddwy flynedd nesaf bydd y Lib Dems yn gweld eu cynrychiolaeth etholedig yng Nghymru yn cael ei chwalu. Byddant yn colli o leiaf ddwy sedd yn etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf, a bydd y rhan fwyaf o'u cynghorwyr yn ninasoedd Cymru yn colli eu seddi y flwyddyn ganlynol. 'Rwan 'dwi siwr y bydd y Blaid yn elwa rhywfaint o'r chwalfa fawr, ond Llafur fydd yn yn gwneud y niwed mwyaf iddynt.

Ac mi fydd Peter druan yn ffidlian yn hamddenol (na sori, ddim yn hamddenol - dydi Peter ddim yn 'gwneud' hamddenol - yn hysteraidd dwi'n feddwl) tra bod Rhufain yn llosgi o'i gwmpas.