Showing posts with label Mohammad Asghar. Show all posts
Showing posts with label Mohammad Asghar. Show all posts

Friday, January 13, 2012

Gwerthoedd teuluol

Mae Blogmenai eisoes wedi cael y pleser o ganmol Mohammed Asghar am ei werthoedd teuluol cadarn.  Chwi gofiwch i'r cyfaill wneud safiad cadarn tros werthoedd teuluol trwy adael Plaid Cymru pan wrthododd y blaid honno gyflogi ei ferch Natasha.  Byddwch hefyd yn cofio iddo ddechrau gweithio i gael ei wraig, Firdaus wedi ei henwebu ar gyfer ymgeisyddiaeth Toriaidd ar Gyngor Casnewydd yn fuan wedi marwolaeth y Cynghorydd Les Knight - a gwneud hynny ymhell cyn i rigor mortis ddechrau cerdded corff Les druan.



Beth bynnag, daeth 'chwaneg o dystiolaeth i law heddiw o gadernid gwerthoedd teuluol Oscar pan ddaeth yn amlwg ei fod bellach yn cyflogi'r ferch a'r wraig yn y Cynulliad gydag arian y trethdalwr. 

Fel y byddech yn disgwyl gan blaid sy'n arddel gwerthoedd teuluol (ers ymadawiad Rod Richards fel arweinydd o leiaf) megis y Blaid Geidwadol Gymreig, ni wastraffwyd amser cyn dod i'r adwy i amddiffyn Oscar rhag ymosodiadau gan bobl sydd ddim yn parchu'r uned deuluol yn ddigonol.   Yn ol llefarydd ar eu rhan - Mae e wedi dilyn canllawiau llym y Cynulliad – sydd yn sicrhau bod yn agored ac yn dryloyw – ar bob achlysur. 

Felly dyna hynna yn hollol glir - os oes yna ffordd o gwmpas hen reolau llym, gwrth deulu y Cynulliad mae Oscar am ddod o hyd iddi, ac mae'r Toriaid Cymreig am gydsynio a hynny a sefyll y tu ol i'w dyn a'i deulu bach pan mae'r cachu a'r ffan diarhebol yn yn dod i gysylltiad mynwesol.

Friday, December 16, 2011

Dyn sy'n edrych ar ol ei deulu

Yn yr oes sinicaidd a di deimlad sydd ohoni mae'n braf iawn dod ar draws dyn sy'n edrych ar ol ei deulu. Son ydw i wrth gwrs am Mohammad Asghar, sy’n Aelod Cynulliad Ceidwadol (ar hyn o bryd o leiaf) dros Ddwyrain De Cymru.

 Byddwch yn cofio i Mohammad Asghar, neu Oscar fel y bydd hefyd yn cael ei alw weithiau ,adael Plaid Cymru yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad wedi iddo gael ar ddeall nad oedd Ieuan Wyn Jones am gyflogi ei ferch Natasha fel ei swyddog i'r wasg.  Cyd ddigwyddiad hapus oedd hi i Nick Bourne addo iddo na fyddai'n rhaid iddo ymladd am enwebiad y Toriaid yn Nwyrain De Cymru - dydi'r Toriaid Gymreig ddim yn rhai mawr am ddemocratiaeth mewnol.



Ta waeth -ymdrech ddiweddaraf Oscar i edrych ar ol ei deulu oedd ei ymgais i ddyladwadu ar Doriaid Casnewydd i gefnogi ei wraig Firdaus Asghar am enwebiaeth i sefyll i fynd ar gyngor Casnewydd yn ward Allt yr Yn, wedi marwolaeth y cynghorydd o Dori, Les Knight oedd wedi cynrychioli'r ward ers 1964.  Yn wir cymaint ei frwdfrydedd i helpu ei wraig fel na thrafferthodd i ddisgwyl i gorff Les oeri'n iawn nag i ddiferyn o formaldehyde gael ei chwistrellu i'w wytheinau cyn cychwyn ar ei ymgyrch i gael ei wraig ar y cyngor.

Talodd Cyngor Casnewydd £873,597.70 mewn lwfansau cynghorwyr y llynedd.

Tuesday, June 08, 2010

Jobs i'r hogs

Diddorol ydi darllen ar flog Vaughan am fanylion trefniadau'r Toriaid ar gyfer dewis ymgeiswyr i etholiadau'r Cynulliad.

Yn ol Vaughan yn yr etholaethau targed fe fydd 'na nifer gyfartal o ddynion a menywod ar y rhestr fer. Digon teg ar un olwg, mi fydd hyn yn ei gwneud yn fwy tebygol y caiff mwy o ferched eu dewis. Mi fyddwn fodd bynnag yn nodi nad yw cymryd y cam yma ynddo'i hun yn mynd i newid fawr ddim ar record echrydus y Toriaid o ddewis merched mewn seddi enilladwy yng Nghymru (dyn ydi pob AC Toriaidd ag eithrio un a phob un o'u ACau). Os oes yna ddiwylliant mysogenistaidd ymysg aelodau'r blaid yng Nghymru, 'dydi caniatau i ferched fynd cyn belled a rhestr fer ddim yn debygol o newid pethau rhyw lawer - byddant yn cael eu haberthu wrth allor rhagfarnau Toriaidd yn ystod y cam hwnnw yn hytrach nag yn ystod yr un blaenorol.

Mae Vaughan hefyd yn dweud hyn - yn y rhanbarthau fe fydd aelodau cynulliad presennol sy'n dymuno sefyll eto yn cael y seddi brig gyda'r lle gwag uchaf wedi ei glustnodi ar gyfer menyw. Fel mae Vaughan yn awgrymu bydd hyn yn delio efo problem fach ddelicet sydd gan y Toriaid yng Ngorllewin De Cymru, a bydd yn arwain at ethol un ferch. Mae hefyd yn newyddion gwych i Messrs Bourne, Williams, Isherwood, Graham ac ati. Trefniant bach neis iawn sy'n rhoi sedd cwbl saff i AC sydd eisoes wedi ei ethol - ta waeth pa mor ddiog a di ddim ydi'r dyn.

Mae hefyd yn newyddion penigamp i'n hen gyfaill Oscar. Chwi gofiwch y ddadl chwerw braidd rhyngof i a'r dyn sydd bellach yn Aelod Ceidwadol Aberconwy y llynedd. Roeddwn i'n cwyno bod Mohammad Ashghar wedi cael cynnig yr ail le ar restr De Ddwyrain Cymru gan y Toriaid, yn groes i'r rheolau bryd hynny (rhywbeth roedd Bourne ac Oscar ei hun yn ei gadarnhau) tra bod Guto'n dweud na wnaethpwyd y fath addewid.

Mae'r rheolau newydd yma'n agor y ffordd yn eithaf twt i Oscar gael yr ail safle i'r Toriaid yn y De Ddwyrain.

Dyna i ni gyd ddigwyddiad lwcus ynte?

Thursday, December 17, 2009

Parrotgate, datblygiadau pellach



Rydym wedi edrych sawl gwaith ar Parrotgate - y fargen sy'n ymddangos i fod wedi ei tharro rhwng Nick Bourne a Mohammad Asghar i'r naill adael i'r llall gyflogi aelodau o'i deulu a sicrhau ail safle iddo ar restr y De Ddwyrain ar yr amod ei fod yn troi at y Blaid Doriaidd. Rydym hefyd wedi edrych ar beth mae hyn yn dweud wrthym am ddiffyg egwyddorion a'r diffyg parch at weithdrefnau sydd gan y Blaid Doriaidd Gymreig. Edrych ar fater cysylltiedig y byddwn isod.

Yn hwyr nos Sadwrn diwethaf gadawyd y neges ganlynol dudalen sylwadau un o'r blogiadau yr oeddwn wedi ei 'sgwennu ynglyn a Parrotgate:

Cytuno yn llwyr - os di dy ddamcaniaeth yn gywir. Fe fyddwn yn rhyfeddu serch hynny pe byyddai Mr Ashgar yn cael ei drin yn wahanol i bob ymgeisydd arall.Heb fod yn hyll ond pa syndod oedd dewis Plaid Cymru i ddilyn Adam? Yn lleol mae 'na honiadau o gam ddefnyddio pleidlais bost ayb? Dim son am hyn gan Flog Menai ond mae aelodau Plaid yn y rhanbarth yn codi'r mater efo fi!

Mae'r awdur yn honni mai fo ydi Guto Bebb, darpar ymgeisydd y Toriaid yn Aberconwy.

Ceir dau ran i'r sylwadau. I ddechrau ceir awgrym mai damcaniaeth gennyf i ydi'r cytundeb rhwng Bourne a Mohammad Asghar - rhywbeth sy'n amlwg ddim yn wir. Mae Golwg360, y Bib a'r Western Mail wedi dyfynnu'r naill ddyn neu'r llall yn cadarnhau bod bargen. Does yna ddim awgrym hyd yn hyn bod yr honiadau wedi eu gwadu gan Bourne na Mohammad Asghar.

Gadawodd Guto nifer o sylwadau pellach tros y diwrnod neu ddau diwethaf (gellir eu gweld yma) - ei fod o wedi gwirio gyda gwahanol swyddogion yn ei blaid na fydd Mohammad Asghar yn cael ei drin yn wahanol i neb arall yn y broses dewis ymgeisyddion a bod hynny wedi ei gyfathrebu i'r cyfryngau. Nid yw'n gwneud sylw ynglyn a'r honiad yn y Western Mail bod cytundeb rhwng Bourne a Mohammad Asghar ynglyn a chaniatau iddo gyflogi aelodau o'i deulu.

'Rwan, 'dwi'n un gweddol dda am ddilyn y newyddion ar y cyfryngau Cymreig, ond does gen i ddim cof i'r wybodaeth na fydd Mohammad Asghar yn derbyn triniaeth ffafriol ymddangos ar unrhyw gyfrwng arall. Does gen i ddim lle i gredu chwaith i Golwg, na'r Western Mail na'r Bib dderbyn gwybodaeth bod y Toriaid yn ystyried eu hadroddiadau yn gamarweiniol. Hyd y gwelaf i dim ond ar flogmenai mae'r 'camargraff' mae'r cyfryngau prif lif wedi ei roi wedi ei 'gywiro'. 'Dwi'n ddiolchgar i Guto am yr egsgliwsif wrth gwrs, a 'dwi'n eithaf balch o'r darlleniad cymharol uchel sydd gan y blog hwn, ond byddwn yn awgrymu bod y Toriaid Cymreig yn mynnu bod y cyfryngau prif lif o dan sylw yn cywiro'r hyn maent wedi ei honni am weithdrefnau dewis ymgeisyddion y Toriaid.

Yn y cyfamser os nad oes neb wedi egluro i Mohammad Asghar nad yw ei ail le ar restr y Toriaid yn Ne Ddwyrain Cymru yn ddiogel, 'dwi'n fwy na pharod i'w e bostio efo'r newyddion drwg.

Honiad o dwyll a thor cyfraith yn y broses o ddewis olynydd i Adam Price yn Nwyrain Caerfyrddin / Dinefwr a cherydd i flogmenai am beidio son am y cyfryw dwyll a thor cyfraith ydi ail ran y sylw gwreiddiol. Doedd yna ddim tystiolaeth i gefnogi'r sylwadau, dim ond honiad bod aelodau o'r Blaid wedi rhoi'r genadwri i Guto. Pe byddai 'Pleidwyr' am gwyno, byddai dyn yn meddwl y byddent yn gwneud hynny i Dy Gwynfor neu Stryd y Gwynt, yn hytrach nag i swyddfa'r Toriaid yn Llandudno - ond dyna fo.

Ers hynny mae Guto wedi manylu rhyw gymaint ar yr honiadau. A bod yn onest 'dwi ddim yn siwr os ydi'r manylu hwnnw yn taflu unrhyw oleini ar bethau. Honni roedd ar y cychwyn bod cam ddefnyddio pleidlais bost ayb wedi digwydd. Yn ei sylwadau diweddarch mae'n dweud bod Jonathan Edwards wedi ennill trwy bleidleisiau post er iddo berfformio'n wan iawn ar y ddwy noson o hystings. Dydi o ddim yn glir os mai son am anerchiad Jonathan mae Guto pan mae'n son am berfformiad gwan, 'ta son am y pleidleisiau a gafodd eu bwrw ar y nosweithiau. Yn sicr byddai hynny'n gryn syndod i mi gan nad yw'n bosibl cymharu sut bleidlais gafodd y gwahanol ymgeisyddion ar y noswaith a thrwy bleidlais bost, oherwydd i'r pleidleisiau i gyd gael eu cymysgu cyn eu cyfri.

Rwan os mai'r oll sydd gan Guto ydi bod rhywun neu'i gilydd wedi dweud wrtho i Jonathan berfformio'n wan iawn ar y ddwy noson o hystings, yna mae hynny'n sail treuenus o dila i gyhuddo pobl o rhywbeth a allai eu cael o flaen eu gwell.

Oherwydd fy mod yn digwydd cadw blog mi fyddaf yn aml yn cael stori gan rywun neu'i gilydd sy'n dechrau efo rhywbeth fel - mae hwn a hwn wedi dweud hyn a hyn am hwn a hwn _ _ . Heb swnio'n dduwiol, fydda i byth yn ystyried cyhoeddi stwff felly oherwydd nad ydi ail ddweud rhywbeth mae rhywun di enw wedi ei ddweud yn dystiolaeth o unrhyw fath yn y byd - a wna i ddim cyhoeddi rhywbeth cymharol ddi niwed sydd heb dystiolaeth y gallaf gyfeirio ato - heb son am honiadau o dorri cyfraith etholiadol. Blogiwr amaturaidd ydw i - mi fyddwn i wedi disgwyl gwell na hel clecs ar y We am fater mor ddifrifol gan ymgeisydd seneddol ar ran un o'r prif bleidiau Prydeinig.

Beth bynnag mi hoffwn wahodd Ceidwadwyr Aberconwy i gyflwyno unrhyw dystiolaeth go iawn o dwyll sydd ganddynt naill ai i'r Blaid yn ganolog, neu - yn well - i'r heddlu. Os nad oes tystiolaeth* yn cael ei gynnig gan Guto byddaf yn cymryd mai rhan o ymgyrch bardduo - smear campaign - cwbl ddi sail gan Geidwadwyr Aberconwy ydi'r sylwadau sydd wedi eu gadael ar fy mlog.

* Dydi gwneud honiad sy'n cychwyn efo'r geiriau yn lleol mae na honiadau _ _ _ ddim yn dystiolaeth - neu mi fyddai'r honiad cwbl gelwyddog canlynol wedi ei gefnogi gyda thystiolaeth - yn lleol mae na honiadau bod pawb a bleidleisiodd mewn ffordd arbennig yn yr etholiad i ddewis ymgeisydd Toriaidd yn Aberconwy wedi cael peint o Mackesons am ddim yn y St Georges 'ar ol yr hystings, pa syndod oedd dewis y Toriaid?